Agenda item

Hunanasesiad Corfforaethol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad oedd yn cyflwyno diweddariad ar Adroddiad Hunanasesiad Corfforaethol y Cyngor, fel sy'n ofynnol dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Y bwriad yw ceisio cymeradwyaeth i'r adroddiad fel sydd ynghlwm yn Atodiad 1 o’r adroddiad eglurhaol, a gymeradwywyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ddoe.

 

Fel cynnig rhywfaint o gefndir, cadarnhaodd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a gafodd gydsyniad brenhinol ym mis Ionawr 2021, yn nodi’r drefn newydd o ran gwella llywodraeth leol. Mae’r ddeddf yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar y Cyngor i ddangos gwelliant yn hytrach nag ar ysgwyddau Archwilio Cymru a rheoleiddwyr eraill. Un o'r gofynion yn y Ddeddf yw bod y Cyngor yn llunio a chyhoeddi adroddiad hunanasesu unwaith bob blwyddyn ariannol, gan ddechrau o flwyddyn ariannol 2021-22. Ychwanegodd fod hyn hefyd yn ofyniad cyfreithiol a bod yr Hunanasesiad hwn ar gyfer llynedd yn hytrach na'r un presennol.

 

Eglurodd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi cytuno ar y broses a amlinellwyd ar gyfer datblygu'r hunanasesiad ym mis Mehefin. Roedd y broses yn defnyddio prosesau rheoli perfformiad a llywodraethu presennol o fewn y Cyngor gymaint â phosibl, gan gynnwys y defnydd o asesu perfformiad corfforaethol (CPA).

 

Dilynwyd y broses wedyn fel y cytunwyd a chyflwynwyd canfyddiadau drafft i aelodau'r CPA ym mis Mehefin a mis Gorffennaf. Roedd y canfyddiadau a'r dyfarniadau bellach wedi'u coladu mewn un adroddiad syml a hygyrch. Ychwanegodd y Prif Weithredwr yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a WLGA bod yr adroddiad hunanasesu a’r asesiad llesiant blynyddol bellach wedi’u cyfuno’n un ddogfen.

 

 

Aeth y Prif Weithredwr ymlaen drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi diweddariad ar yr adroddiadau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi a’u meddylfryd esblygol am yr adroddiadau hunanasesu mewn cyfarfod â’r Cyngor ar 12 Awst 2022. Gofynnodd WG a oedd adroddiadau yn cynnig eglurder ar y materion lefel uwch a phwysig sy’n ymwneud â pherfformiad yn yr Awdurdod. Er enghraifft, ym Mhen-y-bont ar Ogwr fe fydden nhw’n disgwyl cyfeirio at y gwaith arolygu sydd ar y gweill mewn perthynas â’r gwasanaethau cymdeithasol.

 

Ychwanegodd mai ychydig iawn o werth sydd mewn cynnal ymgynghoriad neu gysylltu ffurfiol ar yr adroddiad hunanasesu. Y ffafriaeth fyddai crynodeb o waith cysylltu ac ymgynghori allweddol dros y flwyddyn gyfan sy’n ymwneud â’r amcanion llesiant. Mae'r adborth hwn wedi'i integreiddio i'r adroddiad drafft.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad hunanasesu drafft i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 13 Hydref 2022 i’w ystyried, yn ogystal â’r Cabinet ar 18 Hydref 2022 yn ôl yr hyn a ailadroddwyd gan y Prif Weithredwr

 

Byddai'r Hunanasesiad Corfforaethol yn y dyfodol hefyd yn elwa o ran rhywfaint o ymgynghori a chysylltu â'n cymunedau, rhanddeiliaid allweddol a'r broses Trosolwg a Chraffu. Byddai hyn oll yn ei dro yn cynorthwyo'r Cyngor i wella eu dulliau o weithio yn y dyfodol.

 

Daeth y Prif Weithredwr â’i gyflwyniad i ben, drwy roi gwybod am rai o’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar yr Hunanasesiad Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 13 Hydref 2022.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cadeiryddion Trosolwg a Chraffu am eu rhan weithredol yn y ddogfen hon fel rhan o’r Fframwaith Asesu Corfforaethol, a fyddai’n sicr yn cryfhau’r broses Trosolwg a Chraffu’r Cyngor yn y dyfodol. Ychwanegodd y byddai Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth Cymru yn asesu'r Hunanasesiad Corfforaethol yn y dyfodol.

 

Roedd un Aelod wedi gweld o ddarllen canllawiau drafft Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WGLA) y dylai'r Cyngor wrth ddod i rai casgliadau o'i Hunanasesiad Corfforaethol roi ystyriaeth i rhai safbwyntiau ei thrigolion, busnesau lleol a staff. Gofynnodd a oedd unrhyw ymgynghori o'r fath wedi digwydd ar y fersiwn gyfredol ac a oedd teimlad y dylai'r Hunanasesiad o bosibl fod yn fwy seiliedig ar dystiolaeth.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai dyma oedd camau cynharaf yr Hunanasesiad Corfforaethol ac felly roedd y broses addasu yn dal i ddatblygu i ryw raddau. Ychwanegodd fod yna gysylltu wedi bod mewn perthynas â'r ddogfen o ran ymgynghori, er enghraifft trwy Arolwg Staff Blynyddol yr Awdurdod a'i ymarfer ymgynghori ar y gyllideb a oedd yn cynnwys ymgynghori â'r cyhoedd yn gyffredinol. Yn ogystal â hyn roedd rhai ymgynghoriadau sy'n canolbwyntio ar wasanaethau, ymgynghoriadau a oedd yn llywio'r hyn yr hyn yr oedd y Cyngor yn ei wneud mewn perthynas â gwasanaethau allweddol y Cyngor, gyda’r bwriad ar i'r Awdurdod ystyried rhai o'r rhain er mwyn cyflawni gwelliannau o ran darparu gwasanaethau.

 

Teimlai un Aelod hefyd fod angen i'r Hunan-Asesiad Corfforaethol ymchwilio’n ddyfnach i ganfod lefelau’r gwasanaethau. Efallai hefyd y dylai’r  Hunanasesiad gynnwys llai o naratif gan gynnwys yn hytrach dangosyddion mwy credadwy a chadarn.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn cymeradwyo adroddiad hunanasesu corfforaethol 2021-22, sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad, yn amodol ar y newidiadau i wybodaeth benodol am ddangosyddion perfformiad fel y cyfeiriwyd ato uchod gan y Prif Weithredwr.

 

Dogfennau ategol: