Agenda item

Diweddariad ar Ddatblygiad Rhianta Corfforaethol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi adroddiad oedd yn rhoi diweddariad i Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet ar ddatblygiad Rhianta Corfforaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Eglurodd fod cyfarfod cyntaf Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet yn y flwyddyn ddinesig wedi derbyn adroddiad a gyflwynwyd gan y Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi yn nodi cynigion ar gyfer datblygu Rhianta Corfforaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol. Roedd y cynigion yn cynnwys:

 

  • Sefydlu Gweledigaeth a rennir ar gyfer Cyfrifoldebau Rhianta Corfforaethol.
  • Sefydlu strwythur llywodraethu sy'n cefnogi'r ymagwedd strategol a gweithredol at Rianta Corfforaethol.
  • Sefydlu Fframwaith Perfformiad Rhianta Corfforaethol.
  • Sefydlu fforymau ar gyfer rhai sydd â phrofiad o ofal er mwyn rhoi llais cyfunol i'n plant a'n pobl ifanc.

 

Dywedodd y Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi fod y Gr?p Rhianta Corfforaethol Gweithredol bellach wedi cael ei ailenwi yn Fwrdd Rhianta Corfforaethol. Tynnwyd sylw at fanylion y cynigion uchod a'r cynnydd a wnaed hyd yma yn adran 4 yr adroddiad. Rhoddodd gyflwyniad a fideo oedd yn canolbwyntio ar y materion o'r digwyddiad ymgynghori a gafodd y bobl ifanc.

 

Eglurodd y Cadeirydd ei bod hi wedi mwynhau'r digwyddiad partneriaeth a bod y cysylltiadau a'r datblygiadau a wnaed yn y digwyddiad hwn yn werthfawr ac yn addawol. Ychwanegodd nad oedd yr adnoddau ar draws rhanddeiliaid yn cael eu defnyddio mor effeithiol ag y gallent fod.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau’r Dyfodol yr adroddiad ac wrth ystyried y digwyddiad credai ei fod yn agoriad llygad ynghylch y plant yr ydym yn gofalu amdanynt a’r heriau y maent yn eu hwynebu a’r hyn y gallem fod yn ei wneud er mwyn gwneud eu bywydau’n fwy normal. Anogodd aelodau'r pwyllgor i fynychu digwyddiadau yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y cyflwyniad yn llawn gwybodaeth ac yn ddefnyddiol, gan roi syniad o'r pethau y dylai’r pwyllgor fod yn edrych arnynt i sicrhau bod y gwasanaethau, a ddarperir i blant sydd â phrofiad o ofal, cystal ag y gallent fod. Gofynnodd sut yr oedd holl bryderon y plant yn cael eu nodi a pha gynllun gweithredu oedd yn ei le i sicrhau ein bod yn cyflawni. Esboniodd y Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi fod y cylch gorchwyl yn cyfeirio at y chwe blaenoriaeth a restrwyd yn yr adroddiad ac y byddai yna is-grwpiau, lle byddai pob pwynt yn cael ei dorri i lawr a chynllun gweithredu'n cael ei ffurfio ar gyfer pob is-gr?p. Erbyn y flwyddyn ariannol newydd byddai rhestr wedi ei sefydlu o amcanion, pob un â chynllun gweithredu y gallai’r pwyllgor edrych arno.

 

Gofynnodd y Prif Weithredwr am eglurder ynghylch y berthynas rhwng y Bwrdd Rhianta Corfforaethol a'r Pwyllgor hwn. Gofynnodd am i wybodaeth a data perthnasol gael eu bwydo'n ôl i'r pwyllgor hwn. Sicrhaodd y Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi fod trefn lywodraethu lem o ran sut yr ydym yn ymdrin â rhianta corfforaethol er mwyn sicrhau ei fod yn gynaliadwy. Eglurodd fod y bwrdd yn cyfarfod yn fuan ar ôl y cyfarfod hwn heddiw, ac yna 4 wythnos cyn y cyfarfod Rhianta Corfforaethol nesaf a drefnwyd. Yn ystod y cyfnod hwn ceid adroddiad data a byddai unrhyw argymhelliad a ddeuai o'r cyfarfod hwn yn cyfrannu at yr adroddiad hwnnw. Byddai hwn wedyn yn cael ei gyflwyno’n ôl i gyfarfod nesaf y pwyllgor.

 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ei bod yn dorcalonnus gweld mor isel oedd dyheadau llawer o blant oedd â phrofiad o ofal. Fel pwyllgor a Chyngor mae angen i ni herio ein hunain i godi dyheadau plant, sy'n gofyn am gydweithio'n agos gyda phartneriaid a sefydliadau. Cytunodd y byddai yn fuddiol i'r pwyllgor hwn dderbyn yr adroddiad data.

 

PENDERFYNWYD: Bod y pwyllgor yn ystyried cynnwys yr adroddiad hwn ac yn cefnogi cynnydd y Bwrdd Rhianta Corfforaethol.

Dogfennau ategol: