Agenda item

Gwasanaethau ar Ffiniau Gofal

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p Cymorth i Deuluoedd adroddiad, oedd yn rhoi’r newyddion diweddaraf i Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet am waith Gwasanaeth Ffiniau Gofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Esboniodd fod y Gwasanaeth Ffiniau Gofal yn dîm ymyrraeth ddwys, aml-asiantaeth sy’n cynnwys 24 o staff o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol gan gynnwys:

 

  • gweithwyr cymdeithasol;
  • nyrs iechyd meddwl;
  • ymwelydd iechyd;
  • gweithiwr camddefnyddio sylweddau arbenigol; a
  • gweithwyr cymorth i deuluoedd.

 

Rhoddodd wybodaeth bellach am y timau arbenigol o fewn y gwasanaeth Ffiniau Gofal oedd yn cynnwys Cysylltu Teuluoedd, Baban mewn Golwg, Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd, Ymateb Cyflym, Tîm Cymorth Tadau a thîm Rise. Roedd rhagor o wybodaeth yn adran 3 yr adroddiad.

 

Tynnodd Rheolwr y Gr?p Cymorth i Deuluoedd sylw at ganlyniadau cadarnhaol y gwasanaeth ar ffiniau gofal yn yr ystyr ei fod, dros y pum mlynedd ddiwethaf, wedi llwyddo i atal dros 92% o’r plant y maent yn eu cefnogi rhag mynd i mewn i’r system ofal yn gyson flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ers mis Ebrill 2020, mae’r gwasanaethau ar ffiniau gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gydag adnoddau cymharol fychan, wedi cefnogi 827 o blant a’u teuluoedd, ac mae dros 94% wedi cael eu hatal rhag cael profiad o ofal (nid yw’r data hwn yn cynnwys data ar Rise). Roedd Tabl 1 yr adroddiad yn rhoi dadansoddiad o'r ffigurau hyn fesul blwyddyn.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a holodd ynghylch gwasanaeth Rise, a oedd unrhyw adborth wedi cael ei ddarparu ar effaith y gwasanaeth hwn, er ei fod yn wasanaeth newydd. Eglurodd Rheolwr Tîm y Gwasanaethau Ffiniau Gofal nad oedd unrhyw adborth hyd yma gan y chwe theulu yr oeddent yn gweithio gyda hwy ar y pryd, ond bod yr adborth a gafwyd gan weithwyr proffesiynol wedi bod yn gadarnhaol a’i fod wedi ei gwneud yn bosibl i ofal gael ei ddarparu’n gyflymach nag y byddai heb y gwasanaeth.

 

Tynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant sylw at bwysigrwydd yr asesiad o anghenion a sut mae hynny'n rhoi'r manylion y mae arnom fel awdurdod eu hangen er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol. Ychwanegodd fod y gofrestr amddiffyn plant ar ei huchaf erioed ym Mhen-y-bont ar Ogwr a bod yr adolygiad o'u modelau gweithredu, oedd yn cynnwys gwasanaethau ar ffiniau gofal fel rhan o'r adolygiad hwnnw, yn ddarn pwysig o waith wrth symud ymlaen. Ychwanegodd hefyd y gellid defnyddio system WCCIS ymhellach i yrru perfformiad a bod hyn yn rhywbeth yr oedd angen edrych i mewn iddo hefyd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y setliad ariannol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn edrych yn heriol a bod hyn yn pwysleisio ymhellach bwysigrwydd sicrhau bod y gwasanaethau, yr oeddem yn eu darparu ac yn buddsoddi ynddynt, mor effeithiol ag y gallent fod. Gofynnodd am ragor o wybodaeth am yr adolygiad annibynnol a oedd yn cael ei gynnal a pha fanylion allai ddeillio o hynny gan ei bod yn bwysig deall yr heriau sy’n ein hwynebu a’r ffordd orau inni ymdrin â hwy.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod yr IPC wedi cael ei benodi fel partner gwella. Y darn cyntaf o waith y cafodd ei gomisiynu ar ei gyfer oedd adolygu ein trefniadau drws ffrynt a bod yr adroddiad ar hyn yn cael ei ystyried heddiw gan y Bwrdd Rheoli Corfforaethol. Y cam nesaf oedd gweld sut yr oeddem yn gweithredu mewn ardaloedd lleol, fyddai’n edrych ar y cysylltiadau digynsail â'r cyngor, y lefelau digynsail o angen, oedd yn cael eu rheoli ar hyn o bryd drwy'r gofrestr Amddiffyn Plant. Byddai’r adolygiadau hyn yn gymorth inni ddeall yn well pa welliannau oedd eu hangen o safbwynt gweithrediadau.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor:

 

  • Yn ystyried cynnwys yr adroddiad; ac

Yn ystyried y buddsoddiad parhaus a nodwyd i ddatblygu ymhellach y modelau gwasanaeth sydd wedi eu profi.

Dogfennau ategol: