Agenda item

Adroddiadau Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio – Archwilio Cymru

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio – Archwilio Cymru adroddiad a oedd yn manylu ar adroddiadau gan Archwilio Cymru, gan gynnwys diweddariad ar y gwaith archwilio ariannol a pherfformiad a wnaed, ac sydd i'w wneud, gan Archwilio Cymru.

 

Eglurodd fod Archwilio Cymru wedi cynhyrchu nifer o adroddiadau i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio eu hystyried, a rhoddwyd crynodeb ohonynt yn adran 4 yr adroddiad. Y rhain oedd:

 

  • Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru – (Atodiad A)

 

  • Llamu Ymlaen – Rheoli Gweithlu'n Strategol – Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – (Atodiad B)

 

  • Llamu Ymlaen – Rheoli Asedau'n Strategol – Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - (Atodiad C)

 

  • Adolygiad Sicrwydd ac Asesu Risg – Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – (Atodiad D)

 

Mewn perthynas ag Atodiad B, esboniodd cynrychiolydd Archwilio Cymru fod y gwaith maes wedi digwydd ym mis Rhagfyr 2021 / Ionawr 2022. Nod yr adolygiad oedd gweld sut roedd y Cyngor yn cynllunio'n strategol ar gyfer defnyddio ei weithlu, sut yr oedd yn monitro hyn, yn ogystal ag adolygu a gwerthuso effeithiolrwydd y trefniadau hyn. Ychwanegodd mai'r prif bwynt i'w amlygu oedd bod y Cyngor yn gweithredu ac yn ymateb i'r materion gweithlu a oedd yn arbennig o amlwg ar ddechrau'r pandemig a'r angen am adleoli staff a newid dulliau gweithio i ymdopi â’r heriau.

 

Amlygodd cynrychiolydd Archwilio Cymru yr argymhellion yn dilyn yr adolygiad, a amlinellir yn Atodiad B yr adroddiad.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn amlwg bod llawer o gynlluniau ar y gweill ar hyn o bryd, fodd bynnag byddai’n ddefnyddiol i’r Pwyllgor gael catalog o’r cynlluniau mwy strategol i sicrhau bod y Pwyllgor yn gallu gweld y sefyllfa yr ydym ynddi fel awdurdod.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y gallai'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol, yn gweithio ar y cyd gyda'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio bob chwe mis, fod y ffordd fwyaf addas o fonitro'r cynlluniau a sicrhau y cedwir at y terfynau amser. 

 

Amlygodd cynrychiolydd Archwilio Cymru yr argymhellion yn dilyn yr adolygiad, a amlinellir yn Atodiad C yr adroddiad. Tynnodd sylw at gamgymeriad sillafu yn argymhelliad 1 yr atodiad a ddylai ddarllen 'cynllunio rheoli asedau’n strategol' yn lle hynny.

 

Gofynnodd Aelod mewn perthynas â strategaeth datgarboneiddio 2030, sut yr ydym fel Cyngor yn canolbwyntio ar wneud newidiadau a sicrhau ein bod ar y trywydd i gyflawni’n targedau, o ystyried yr argyfwng costau byw a’r ffaith bod llawer o newidiadau’n cymryd nifer o flynyddoedd i’w gweithredu.

 

Cytunodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y byddai'r blynyddoedd i ddod yn heriol, ond roedd yn darged corfforaethol a bod angen denu mwy o sylw i hyn er mwyn codi ymwybyddiaeth. Roedd trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt i weld beth arall y gellir ei wneud ac un o’r pwyntiau a godwyd oedd penderfynu p’un a ddylai amcan llesiant gynnwys strategaeth 2030. Roedd llawer o waith wedi'i wneud hefyd ar y rhwydwaith gwres ac roedd hynny'n dal i fynd rhagddo. Mae Aelod Cabinet Cymunedau bellach yn eistedd ar Fwrdd Rhaglen 2030 i sicrhau bod y sgyrsiau’n cael eu bwydo’n ôl yn uniongyrchol i’r Cabinet ar gyfer dull symlach o’r safbwynt hwnnw. O ran awdurdodau lleol, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn cael ei ystyried ar flaen y gad o ran datgarboneiddio, fodd bynnag roedd mwy o waith i’w wneud o hyd.

 

Awgrymodd Aelod fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn edrych ar y bwrdd hwn fel ffordd o fonitro perfformiad yn rheolaidd.

 

Gwnaeth y Cadeirydd sylw bod ysgolion yn rhan fawr o’r ôl troed carbon a gofynnodd p’un a ymgynghorwyd â nhw ar faterion. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau mai ysgolion yn ogystal â dysgwyr ifanc oedd cenhedlaeth y dyfodol a'u bod yn eiriolwyr delfrydol ar gyfer gwaith hyrwyddo yn ogystal â gwneud newidiadau a all gyfrannu at ddatgarboneiddio. Ychwanegodd fod Refit yn gynllun yr ymgymerwyd ag ef mewn llawer o ysgolion a oedd yn caniatáu ar gyfer arbedion costau ynni a datgarboneiddio dros gyfnod o amser.

 

Mynegodd yr aelodau eu barn ar lefel y pryder y maent yn ei osod ar yr argymhellion. Cynhaliwyd pleidlais i benderfynu p’un a nododd y pwyllgor bryder, neu bryder difrifol am yr adroddiad. Ni phasiwyd y bleidlais ac felly'r hyn wnaeth y Pwyllgor oedd:

 

PENDERFYNU: Gyda pheth pryder, nododd y Pwyllgor yr Adroddiadau Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio – Archwilio Cymru yn Atodiadau A, B, C a D

 

Dogfennau ategol: