Agenda item

Darparu Gofal a Chymorth yn y Sefydliad Diogel

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad a roddai'r newyddion diweddaraf i'r Cabinet ynghylch yr angen i newid y trefniadau gofal a chymorth i garcharorion ag anghenion cymwys yn CEM Parc, er mwyn cyflawni dyletswydd y Cyngor i ddiwallu anghenion yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant hefyd yn hysbysu’r Cabinet y byddai’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet:

 

·         i drosglwyddo’r gofal a chymorth a ddarperir ar hyn o bryd gan G4S Health Services (UK) Ltd i’r Cyngor, gan nodi y byddai staff G4S presennol yn cael eu trosglwyddo drwy TUPE (Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth)) ac

·         i adolygu'r trefniadau'r contract presennol â G4S ac ymrwymo i gytundeb diwygiedig neu gytundeb newydd.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gyfrifoldebau'r Awdurdod, fel sy'n ofynnol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. O fis Rhagfyr 2022, esboniodd y byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) yn cynnig darpariaeth uniongyrchol ar gyfer anghenion iechyd y boblogaeth o garcharorion yn CEM Parc. Fodd bynnag, byddai dyletswydd o hyn i ddarparu/gomisiynu'r elfen gofal cymdeithasol o fewn y carchar. Ni allai'r BIP ddarparu gofal cymdeithasol rheoledig heb ymrwymo i gytundeb partneriaeth ffurfiol â'r Cyngor; ac er bod darpariaeth integredig yn parhau i fod yn opsiwn dymunol posibl ar gyfer y dyfodol, roedd y dyddiad cau ar gyfer trosglwyddo'r darparydd gofal yn golygu nad oedd modd mynd ar drywydd yr opsiwn hwnnw ar hyn o bryd. Roedd hi'n annhebygol y gellid bodloni'r terfyn amser, gan nad oedd y BIP ar hyn o bryd yn ddarparydd gofal cofrestredig i ddibenion Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru). Nid oedd y Cyngor yn gallu comisiynu cwmni gofal cartref annibynnol i ddarparu’r gofal hwn oherwydd y cyfyngiadau yn CEM Parc fel y nodwyd mewn adroddiad blaenorol i’r Cabinet ar 26 Gorffennaf 2016. Roedd yr adroddiad hwnnw'n cydnabod yr anawsterau o ran darparu gwasanaethau yn y carchar, a rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth ar gyfer hepgoriad, o dan y Rheolau Gweithdrefn Contractau, o'r gofyniad i ofyn am dendrau cystadleuol ar gyfer darparu gofal a chymorth yn CEM Parc, gan mai ond un sefydliad oedd â'r gallu technegol i ddarparu'r gwasanaeth.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai'r unig opsiwn ymarferol oedd ar gael a fyddai'n galluogi'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd statudol oedd i'r Cyngor gymryd cyfrifoldeb uniongyrchol am y gwasanaeth gofal cymdeithasol a ddarperir ar hyn o bryd gan G4S Health Services (UK) Ltd. Byddai trefniadau'r contract presennol rhwng y Cyngor a G4S yn cael eu hadolygu. Ychwanegodd fod trafodaethau cychwynnol wedi'u cynnal â'r Adran Adnoddau Dynol a chynigiwyd y byddai'r staff gofal presennol a gyflogir gan G4S ar hyn o bryd yn cael eu trosglwyddo drwy TUPE (Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth)) i'r Cyngor gan olygu bod modd cadw gwybodaeth a sgiliau presennol. Byddai ymgynghoriad ar drosglwyddo yn cael ei gynnal â'r gweithwyr, ynghyd â dadansoddiad o'r goblygiadau o ran strwythur presennol y staff, cyn y dyddiad cytunedig ar gyfer trosglwyddo'r gwaith. Byddai'r ymgynghoriad yn gyfle i'r gweithwyr yr effeithir arnynt godi unrhyw faterion, canfod atebion a chael cyfle i gyfrannu at y penderfyniadau.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cefnogi'r cynnig, a gofynnodd i'r swyddogion fyfyrio ar yr amgylchiadau, gan ddweud y dylai'r Cabinet fod wedi cael gwybod am hyn yn llawer cynt, fel na fyddent bellach yn y sefyllfa hon. Roedd y Dirprwy Arweinydd yn bwriadu ysgrifennu llythyr at LlC oherwydd byddai poblogaeth y carchar yn creu cynnydd yn y galw am wasanaethau. Nid oedd yr arian yn cael ei roi drwy gyllid grant mwyach, ac roedd pob Cyngor yn derbyn setliad y Grant Cynnal Refeniw, waeth a oedd ganddo sefydliadau diogel ai peidio.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd am y ddarpariaeth gwasanaeth dros nos. Nid rhwng 7am a 10pm yn unig yr oedd angen gofal a chymorth. Gofynnodd sut yr oeddent yn ymdopi heb unrhyw ddarpariaeth gwasanaeth dros nos.

 

Roedd yr Arweinydd yn cefnogi syniad y Dirprwy Arweinydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, gan fod y cyfrifoldeb hwn wedi'i drosglwyddo i'r awdurdod o ganlyniad uniongyrchol i ddeddfwriaeth a wnaed yng Nghymru. Roedd y cyfrifoldeb hwnnw'n tyfu gan fod y boblogaeth yn heneiddio, ac roedd demograffeg y boblogaeth yn y sefydliad diogel yn wahanol i'r boblogaeth honno yn rhannau eraill yng Nghymru, ac yn fwy tebygol o gynnwys carcharorion h?n ag anghenion gofal.

 

Atebodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol drwy ddweud eu bod fel gwasanaeth yn gweithio drwy'r gwersi i'w dysgu ac yn myfyrio ar yr hyn a oedd wedi digwydd, ond bod hwn yn faes gwasanaeth cymhleth nad oedd llawer o awdurdodau lleol wedi gorfod yn ymwneud ag ef. Roeddent ar hyn o bryd yn gweithio ar yr adnoddau dros nos i sicrhau bod ganddynt adnoddau digonol i ddiwallu'r anghenion hynny a chyflawni eu dyletswyddau tuag at y boblogaeth honno o garcharorion, o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y mathau o gyflyrau yr oedd carcharorion yn eu profi tra'r oeddent yn byw yn y sefydliad diogel hwnnw. Roedd hi'n barod i roi cefnogaeth broffesiynol i'r Dirprwy Arweinydd, drwy gynnig pwyntiau i sylw Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNODD  y Cabinet:

·      Nodi'r wybodaeth yn yr adroddiad a chyfrifoldebau'r Cyngor o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

·      Cymeradwyo trosglwyddo'r ddarpariaeth gofal a chymorth yn CEM Parc i'r Cyngor, gan nodi'r goblygiadau o ran TUPE, fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.10 yr adroddiad.

Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog - Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol a'r Swyddog Adran 151, i barhau â'r trafodaethau â G4S a chwblhau ac ymrwymo i gytundeb diwygiedig neu newydd â G4S.              

Dogfennau ategol: