Agenda item

Diweddariad ar Arolygiadau Arolygiaeth Gofal Cymru o Wasanaethau Rheoleiddiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar gyfer 2022

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Jacqueline Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Carol Owen - Rheolwr Gwasanaeth Darparwyr - Cefnogaeth Cartref/Gwasanaethau Llety

Jane Lewis - Rheolwr GrwpGwasanaethau Darparwr Gofal Uniongwrchol

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi i’r Pwyllgor ganlyniad Arolygiadau Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o Wasanaethau Rheoleiddiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn ystod 2022.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gwahaniaeth rhwng Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth (PANs) a Meysydd i'w Gwella (AFIs), dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod yr Awdurdod Lleol, pan fydd PAN yn cael ei gyhoeddi, yn cael dyddiad cau i gwrdd â'r gofyniad a osodwyd ac os na châi’r gofyniad ei fodloni erbyn y dyddiad hwnnw, y gallai'r Awdurdod gael ei gyfeirio at Banel Gorfodi. Aeth ymlaen i ddweud fod Meysydd i’w Gwella yn cael eu hadolygu gan AGC wrth ail arolygu a phe na bai gwelliannau digonol wedi cael eu gwneud, gallent ddod yn Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth. 

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r staff, gan gydnabod anhawster y swydd a chadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion fod yr adroddiad wedi cael ei rannu â hwy.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch p’un a oedd y gwasanaeth wedi cael ei synnu gan unrhyw un o'r Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth neu'r Meysydd i’w Gwella, dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion eu bod eisoes yn ymwybodol o rai o'r materion a godwyd yn yr Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth. Sicrhaodd y Pwyllgor fod y gwasanaeth yn gweithio gyda'r rheolwyr ynghylch yr holl Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth a Meysydd i’w Gwella mewn modd amserol.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y posibilrwydd o ailgychwyn ymweliadau rota Aelodau â chartrefi gofal oedolion a chartrefi plant, cydnabu Arweinydd y Cyngor werth yr ymweliadau rota i’r Aelodau, y staff a defnyddwyr y gwasanaeth. Roedd hefyd yn cydnabod eu dylanwad buddiol ar drefniadau llywodraethu a sicrwydd yr Awdurdod oherwydd, cyn y pandemig, câi ymweliadau eu cynnal nid yn unig â lleoliadau a reolid  gan yr Awdurdod ond hefyd leoliadau a gomisiynwyd gan y sector annibynnol a’r trydydd sector. Dywedodd fod angen i Aelodau gael eu gosod mewn parau ar gyfer ymweliadau i ddibenion diogelu ac y byddent yn ystyried ailgyflwyno'r ymweliadau y flwyddyn nesaf.

 

Ailadroddodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion sut yr oedd ymweliadau rota yn elfen bwysig o brosesau sicrhau ansawdd a dywedodd y cai cynllun ei ddyfeisio ar gyfer ailgyflwyno'r ymweliadau fyddai'n dechrau gyda hyfforddiant i’r Aelodau. Awgrymodd y dylai ymweliadau rota gychwyn gyda'r gwasanaethau o fewn y Cyngor cyn eu cyflwyno i'r sector annibynnol. 

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynghylch p’un a oedd y gwasanaeth yn gyfredol o ran cyflwyno’r hyfforddiant gorfodol a’r rhesymau pam yr oedd AGC wedi adrodd nad oedd cydymffurfiaeth lawn â’r hyfforddiant, cadarnhaodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod yr hyfforddiant gorfodol ar raglen dreigl; peth yn flynyddol, peth bob tair blynedd a pheth yn ystod y cyfnod sefydlu. Cyn y pandemig, roedd y rhaglen dreigl yn sicrhau y byddai unigolion yn gwybod pryd yr oedd eu hyfforddiant i fod ond yn ystod y pandemig, roedd y ffocws wedi bod ar gadw pobl yn ddiogel, ymgysylltu ag unigolion a darparu gwasanaethau rheng flaen. 

 

Yn ogystal, roedd ôl-groniad o hyfforddiant oherwydd y cyfyngiad ar nifer y bobl a allai fod yn bresennol mewn ystafell gyda'i gilydd a’r effaith a gafodd cadw pellter cymdeithasol ar hyfforddiant codi a chario, er enghraifft. Aeth ymlaen i ddweud bod pobl wedi cael dod at ei gilydd fwy rhyw 9 i 12 mis yn ôl a bod cryn dipyn o waith comisiynu wedi cael ei wneud ar gyfer hyfforddiant. Tynnodd sylw at y ffaith fod y sylwadau cadarnhaol yn yr adroddiad yn dangos nad oedd yr hyfforddiant gorfodol yn effeithio ar staff wrth iddynt wneud eu gwaith. Tynnodd sylw hefyd at anhawster staff yr oedd lle wedi cael ei archebu ar eu cyfer ar gyrsiau ond na allent fynd oherwydd eu bod yn gweithio sifftiau yn lle rhywun arall ar fyr rybudd. Felly, roedd y gwasanaeth wrthi’n datblygu e-ddysgu ac wedi prynu iPads i staff allu cael mynediad at hyfforddiant penodol o bell. Er nad oedd y gwasanaeth yn gyfredol â hyfforddiant gorfodol eto, rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor fod rhaglen waith yn ei lle a’i bod yn teimlo’n hyderus y byddent yn gyfredol yn y 6 mis i ddod. 

 

Gofynnodd Aelod a oedd gan bob cartref siaradwr Cymraeg ac os nad oedd, a oedd staff wedi cael eu hyfforddi yn yr iaith, gan bwysleisio bod siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf sy’n byw gyda dementia yn aml yn dychwelyd i ddefnyddio’r Gymraeg.

 

Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Darparwyr fod o leiaf un aelod o staff sy'n siarad Cymraeg ym mhob un o'r pedwar cartref preswyl.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod yr Awdurdod yn cynnig ac yn annog aelodau o staff i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi a'r cynnig o hyfforddiant am ddim i wella eu sgiliau Cymraeg. Er ei fod yn cydnabod yr heriau o recriwtio i rolau Gofal Cymdeithasol, dywedodd, er nad oedd yn hanfodol, bod defnyddio’r Gymraeg yn sgil i’w chroesawu a thynnodd sylw at waith yr Awdurdod gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr i helpu i ganfod y genhedlaeth nesaf o weithwyr Gofal Cymdeithasol. Adleisiodd sylwadau’r Aelod yngl?n â siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf sy’n byw gyda dementia, a allai fod wedi dod i arfer â defnyddio’r Saesneg yn eu blynyddoedd fel oedolion, ond oedd yn dychwelyd at eu defnydd o Gymraeg eu plentyndod, a thynnodd sylw at fenter yr oedd yr Awdurdod yn ei chefnogi i annog y defnydd o’r Gymraeg yn gyffredinol mewn cartrefi oedd wedi cael eu canmol gan Gomisiynydd y Gymraeg. 

 

Dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion eu bod bob amser yn ceisio cwrdd ag anghenion cyfathrebu pobl gan sôn am enghraifft o ymdrechion staff un cartref oedd wedi dysgu iaith arwyddion i gyfathrebu â phreswylydd â nam ar y clyw.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynghylch pa bolisïau yr oedd AGC wedi eu nodi yn yr Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth a’r gwaith yr oedd yn ei olygu i fynd i’r afael â hwy, dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod amrywiaeth o bolisïau a bod ganddynt tan ddiwedd mis Mawrth 2023 i fynd i’r afael â hwy. Dywedodd fod yr Awdurdod wedi gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod y pandemig ar reoli heintiau ond bod angen diweddaru'r polisi a'u bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd i gynorthwyo i sicrhau bod y Polisi Meddyginiaeth yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Amlygodd hefyd fod angen mynd i'r afael â rhai polisïau corfforaethol megis chwythu'r chwiban a'r broses gwyno ond sicrhaodd fod cynllun yn ei le ar gyfer pob un o'r polisïau.

 

Gofynnodd Aelod, gan gyfeirio at D? Cwm Ogwr (TCO), sut yr oedd y Meysydd ar gyfer Gwella ynghylch cynlluniau personol a goruchwyliaeth wedi codi a pha mor hyderus oedd y gwasanaeth o ran cyflawni’r gwelliant erbyn diwedd mis Mawrth 2023. 

 

Cadarnhaodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod T? Cwm Ogwr wedi dod yn ôl i berchnogaeth y Cyngor ym mis Ionawr 2020 o’r sector annibynnol, oedd â phrosesau gwahanol i’r Awdurdod Lleol. Tynnodd sylw at y ffaith fod y pandemig wedi taro ym mis Mawrth 2020 ac mai’r blaenoriaethau oedd cadw pobl yn ddiogel a chwrdd â’u hanghenion gofal a chymorth. Wrth symud allan o'r pandemig, bu'r gwasanaeth yn gweithio gyda rheolwyr T? Cwm Ogwr i drosglwyddo rhai o weithdrefnau'r Awdurdod Lleol ynghylch gwaith papur a, dros y 6 mis diwethaf, bu darn o waith wedi'i dargedu'n ofalus i sicrhau bod yr holl gynlluniau personol o'r safon ddisgwyliedig. Dywedodd fod yna raglen dreigl o oruchwylio a thynnodd sylw at y ffaith fod hyfforddiant yn gysylltiedig â materion cyffredinol oedd yn effeithio ar y Gyfarwyddiaeth gyfan. Dywedodd fod yna gyfres unigryw o amgylchiadau wedi arwain at y sefyllfa yn Nh? Cwm Ogwr ond roedd yn hyderus y byddai’r sefyllfa’n well erbyn i AGC ddychwelyd.

 

Mewn ymateb i ymholiad am yr effaith a gafodd y pandemig ar bolisïau, y staff a llwythi gwaith, dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y bu yna gromlin ddysgu serth o ran rheoli heintiau, yn enwedig o ran cyflwyno offer amddiffyn personol a chyflymder y newid yn y Rheoliadau a’r Canllawiau a’r angen i’w gweithredu. Fodd bynnag, tynnodd sylw at y ffaith fod y staff wedi bod yn hyblyg ac yn barod iawn i newid a'u bod wedi dangos ymrwymiad i'r unigolion yr oeddent yn eu cefnogi. Dywedodd, er y bu gan yr Awdurdod ar hyd yr amser Bolisi Rheoli Heintiau, fod AGC wedi sylwi nad oedd wedi cael ei ailysgrifennu ar ôl y pandemig gyda'r gwersi a ddysgwyd.

 

Diolchodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion i Reolwr Gwasanaethau Darparwyr a Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Darparu Gofal Uniongyrchol am eu harweinyddiaeth a'r oriau a weithiwyd yn ystod y pandemig i gwrdd â'r rheoliadau er budd defnyddwyr y gwasanaeth.  Diolchodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (y Cyfarwyddwr Corfforaethol) hefyd i'r holl gydweithwyr yn y gwasanaethau gofal preswyl ac i Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion. 

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am fod yn bresennol a dywedodd, os nad oedd eu hangen ar gyfer yr Eitem nesaf, eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:      Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gofynnodd y Pwyllgor:

 

Am i flaenoriaeth gael ei rhoi i gyflwyno Hyfforddiant Datblygu’r Aelodau yn y Flwyddyn Newydd ac i’r gwaith o roi Aelodau mewn parau gael ei wneud yn fuan i’w gwneud yn bosibl i ymweliadau rota ailgychwyn i leoliadau preswyl plant ac oedolion cyn gynted ag y bo modd.

Dogfennau ategol: