Agenda item

Rheoli'r Trysorlys - Adroddiad Hanner Blwyddyn 2022-23

Cofnodion:

 Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar yr adolygiad canol blwyddyn a’r sefyllfa hanner blwyddyn ar gyfer gweithgareddau rheoli’r trysorlys a dangosyddion rheolaeth y trysorlys ar gyfer 2022-23, gan dynnu sylw at gydymffurfio â pholisïau ac arferion y Cyngor. Câi’r adroddiad ei chyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd y cefndir i’r adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi cydymffurfio â’i ofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol yn ystod y cyfnod 1 Ebrill i 30 Medi 2022. Amlinellodd weithgareddau rheoli’r trysorlys ar gyfer Ebrill 2022 – Medi 2022 a’r sefyllfa bresennol fel y disgrifiwyd yn yr adroddiad. Roedd y gweithgareddau a'r dangosyddion allweddol wedi eu cynnwys yn yr atodiadau.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr angen i’r adroddiad fod yn dryloyw, yn ddarllenadwy a hygyrch i'r holl drigolion. Derbyniai fod hwn yn arfer cyfrifyddu safonol yn y ffordd y'i gosodwyd ond credai y byddai trigolion heb gefndir ariannol yn cael trafferth i’w ddeall. Dylid ei ategu â mwy o ddatganiadau mewn Saesneg clir ynghylch y sefyllfa. Roedd hwn yn bwnc llosg ar hyn o bryd ac ni allai trigolion ddeall pam yr oedd gan yr awdurdod gymaint o arian yn y banc. Gofynnodd sut y gellid ei wneud yn fwy dealladwy ac o fewn cyrraedd trigolion. Atebodd y Rheolwr Gr?p - Prif Gyfrifydd y byddai'n mynd â’r mater hwn i ffwrdd ac yn ystyried beth ellid ei wneud cyn yr adroddiad nesaf.

 

Cyfeiriodd Aelod at fenthyciadau LOBO a'r achos proffil uchel a oedd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gydag awdurdod lleol yr oedd CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi benthyg arian iddo. Dymunai ddeall yn well y broses a achosodd i’r sefyllfa honno godi. Ar hyn o bryd, roedd 3 benthyciad yn ddyledus gan yr awdurdod hwnnw. Roedd yna broses yr oeddem wedi'i mabwysiadu ar gyfer asesu risg benthyciadau. Roedd ef ar ddeall bod y cynghorwr wedi rhoi cyngor i bob awdurdod lleol i beidio â rhoi benthyg rhagor o arian i'r awdurdod hwn oherwydd y sefyllfa ariannol yr oedd ynddi. Ym mis Hydref, cytunwyd i roi benthyg rhagor o arian i'r awdurdod ar ôl derbyn y cyngor hwn. O fewn cylch gorchwyl y pwyllgor hwn, yr oedd ef yn gofyn am arweiniad, neu unrhyw newidiadau yr oedd angen eu gwneud i arferion y cytunwyd arnynt, sef pan fyddai cyngor yn cael ei dderbyn gan y cynghorwr swyddogol i beidio â rhoi benthyg arian i awdurdod, na fyddai unrhyw arian pellach yn mynd allan ar ôl derbyn y cyngor hwnnw. Eglurodd y Rheolwr Gr?p - Prif Gyfrifydd fod y benthyciadau LOBO yn hollol wahanol ac nad benthyciadau i awdurdodau lleol eraill oeddent, ond bod yr achos yr oedd yr aelod yn cyfeirio ato yn achos o fenthyca rhwng awdurdodau i awdurdodau lleol eraill. Roedd benthyca i awdurdodau lleol eraill yn arfer sefydledig, oedd yn darparu lefel uchel o ddiogelwch a lefel isel o risg. Roedd Strategaeth Rheoli’r Trysorlys, a gyflwynwyd ar ffurf ddrafft i’r pwyllgor hwn ym mis Ionawr 2022 ac a gymeradwywyd gan y Cyngor llawn ym mis Chwefror 2022, yn nodi dewisiadau a therfynau benthyca. Gallent fenthyca hyd at uchafswm o £12 miliwn fesul awdurdod am hyd at gyfnod o 25 mlynedd i gyd. Yn ymarferol, yr uchafswm y tueddir ei roi ar fenthyg yw tua £8 miliwn i unrhyw awdurdod unigol, er y byddai’r strategaeth yn caniatáu iddynt fenthyca hyd at £12 miliwn, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cydbwyso risg ar draws gwahanol wrthbartïon neu ddewisiadau benthyca. Roedd dau gytundeb yn weddill gyda'r awdurdod neilltuol hwnnw, y cytunwyd arnynt cyn derbyn y cyngor gan Gynghorwyr Rheoli'r Trysorlys. Pan oeddent wedi cytuno ar gontract, roeddent yn rhwymedig i'r contract hwnnw. Roeddent wedi gofyn am arweiniad pellach a’r cyngor oedd, gan eu bod eisoes wedi ymrwymo i wneud y benthyciad hwnnw, y byddai peidio â pharhau ag ef yn risg i’w henw da o fewn y sector, am y byddent wedi mynd yn ôl ar gontract y cytunwyd arno. Nid oedd ef erioed wedi profi diffyg ad-dalu unrhyw fenthyciad i awdurdod lleol ac nid oedd yn gwybod am unrhyw awdurdod lleol oedd erioed wedi methu â gwneud y taliadau. Roedd y benthyciad yn cynrychioli risg hynod o isel a'r disgwyliad oedd y câi ei ad-dalu ar y dyddiad dyledus gyda'r llog oedd yn ddyledus. Ceid archwiliadau rheolaidd o weithgareddau rheoli'r trysorlys ac roedd yr Archwilwyr Allanol yn gwneud hynny fel rhan o'u Datganiad Cyfrifon Blynyddol. Daeth yr adolygiad Archwilio Mewnol diwethaf ym mis Chwefror 2020 i’r casgliad bod effeithiolrwydd yr amgylchedd rheoli mewnol yn cael ei ystyried yn gadarn. Felly, gellir derbyn sicrwydd sylweddol o ran rheoli risgiau. Cyn gynted ag y cawsant y cyngor, fe wnaethant roi'r gorau i unrhyw fenthyca pellach yn unol â chyngor y cynghorwyr.

 

Gofynnodd yr Aelod gan bwy y gofynnwyd am gyngor ychwanegol ac a fyddai yna unrhyw gosbau ariannol pe baent yn gwrthod anrhydeddu’r contract. Atebodd y Rheolwr Gr?p - Prif Gyfrifydd y gallai fod cosb pe baent yn tynnu allan o'r contract. Atebodd yr Aelod fod y sefyllfa o fewn y sefydliad yr oeddent wedi rhoi benthyg iddo mor enbyd fel eu bod yn wynebu risg i’w henw da am roi benthyg yr arian iddo. Roedd ei bryder yn ymwneud â’r egwyddor o risg isel, enillion isel, benthyca rhwng awdurdodau fel egwyddor a sut y gallent ymateb yn gyflymach i amgylchiadau oedd yn newid yn hytrach na manylion penodol. Atebodd y Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd fod yna God Marchnad Arian Banc Lloegr yr oedd yn rhaid iddynt gydymffurfio ag ef a bod hwnnw’n dweud unwaith yr oedd bargen wedi cael ei gwneud, na ddylent dynnu'n ôl o'r fargen honno mewn gwirionedd.

 

Esboniodd y Cadeirydd eu bod angen sicrwydd bod y rhwystrau a’r gwrthbwysau perthnasol yn eu lle. Cafodd ei sicrhau gan bopeth a ddywedwyd a’u bod wedi gofyn am gyngor annibynnol. Roeddent wedi dilyn y Cod Ymarfer a rhoddwyd sicrwydd bod popeth yr oedd angen ei wneud wedi cael ei wneud.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid ei bod yn gobeithio bod Rheolwr y Gr?p – Prif Gyfrifydd wedi rhoi sicrwydd eu bod wedi gweithio o fewn y polisïau ac y byddai'r arian yn dod i mewn. Ychwanegodd fod awdurdodau lleol oedd ar sail sicr iawn yn ariannol hyd yn oed 6 i 12 mis yn ôl, yn mynd i gael trafferth yn y misoedd nesaf. Byddai angen iddynt ystyried hynny wrth adolygu'r rhan honno o Bolisi Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn diogelu'r awdurdod mewn amgylchedd oedd yn newid.

 

Gofynnodd Aelod am i'r Pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf am hyn hyd nes y byddai'r benthyciad wedi cael ei ad-dalu. Gofynnodd hefyd am ragor o wybodaeth ynghylch contract Arlingclose gan gynnwys gwerth y contract. Atebodd y Cadeirydd nad oedd o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor i ofyn am y manylion hynny. Atebodd y Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd ei fod wedi cynnwys yn yr adroddiad wybodaeth am yr holl wasanaethau a ddarparwyd a bod yswiriant hefyd ar gyfer yr awdurdod.

 

Gofynnodd Aelod a oedd yna naratif ar y proffil risg a chost benthyca fel yr addawyd yn y cyfarfod blaenorol. Atebodd y Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd fod cymhariaeth yn y tabl ar dudalen 34 o'r pecyn fel y trafodwyd o’r blaen. Cytunodd i adolygu'r drafodaeth yn y cyfarfod blaenorol ac adrodd yn ôl.

 

Cyfeiriodd Aelod at rai o’r ymatebion a dderbyniwyd ac anogodd swyddogion i feddwl y tu hwnt i’r polisïau presennol ac i gynllunio ar gyfer sefyllfaoedd eithafol ac i amddiffyn yn eu herbyn.

 

Dywedodd Aelod fod yr awdurdod hwn wedi colli arian yn y cwymp yng Ngwlad yr Iâ a bod dyletswydd ar yr awdurdod i ddiogelu lle y gallai. Atebodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd hi o gwmpas ar adeg cwymp Gwlad yr Iâ ond nad oedd yr awdurdod wedi colli arian drwyddo ond eu bod wedi dysgu gwersi. Byddent yn adolygu'r polisi ac yn dysgu o faterion a oedd eisoes wedi digwydd yn ogystal ag edrych i’r dyfodol.

 

Cyfeiriodd Aelod at gynllunio gêm ar gyfer senarios eithafol ac y byddai hon yn dechneg ddefnyddiol i'r awdurdod.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod nodyn briffio ynghylch rheolaeth y trysorlys wedi cael ei anfon at yr aelodau. Roedd rhai wedi ymateb eu bod wedi ei ddeall am y tro cyntaf erioed yn eu hanes. Croesawai unrhyw sylwadau ar y nodyn gan ei fod yn ymwneud â maes yr oedd mwy a mwy o graffu arno, oedd yn ymdrin â gwerth miliynau o bunnau o arian. Gellid defnyddio hwn mewn adroddiadau yn y dyfodol ac wrth gyfathrebu â'r cyhoedd. Gofynnodd y Cadeirydd i'r nodyn gael ei ddosbarthu i'r aelodau annibynnol.

 

Ychwanegodd Aelod ei fod wedi gweld y ddogfen yn hynod ddefnyddiol a diolchodd i'r swyddogion am eu gwaith arni. Ychwanegodd y byddai'n ddefnyddiol pe bai mwy o wybodaeth yn cael ei darparu ynghylch pam na fyddai awdurdod lleol o reidrwydd yn benthyca i awdurdodau eraill i gael llog ar y buddsoddiad.

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn nodi gweithgareddau rheoli trysorlys y Cyngor ar gyfer 2022-23 am y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 30 Medi 2022 a Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys a ragwelid ar gyfer 2022-23.

Dogfennau ategol: