Agenda item

Adolygiad Hanner Blwyddyn o'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu oedd yn cyd-fynd â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol (DLlB) oedd wedi ei gynnwys yn Natganiad Cyfrifon Drafft 2021-22 yn erbyn y materion sylweddol a nodwyd a sut yr oeddent yn cael eu trin yn 2022-23. Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y datganiad drafft yn ôl ym mis Gorffennaf ac roedd yn rhoi asesiad cyffredinol o'r trefniadau llywodraethu corfforaethol oedd yn eu lle ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cafodd cynnydd yn erbyn unrhyw gamau gweithredu ei fonitro fel yn y cynllun gweithredu yn atodiad B. Gofynnwyd i'r aelodau ystyried y cynllun gweithredu a'r cynnydd a wnaed erbyn diwedd mis Medi.

 

Roedd Aelod yn pryderu ynghylch pa mor hygyrch a darllenadwy oedd yr adroddiad. Roedd hon yn ddogfen ar gyfer y cyhoedd, a phobl y tu allan oedd ei phrif gynulleidfa, ac roedd ymhell o’r lle y dylai fod. Wrth gynhyrchu dogfennau cyhoeddus, dylid defnyddio gwirwyr darllenadwyedd. Roedd angen llawer o waith ar gyfathrebu ac roedd hwn yn fan cychwyn da. Roedd mewn PDF heb unrhyw ddolenni cyswllt ac roedd yn rhaid dod o hyd i'r dogfennau drwy chwilio ar Google. Roedd angen i'r dogfennau fod yn wirioneddol hygyrch i drigolion, yn hawdd eu cael ac yn cofleidio'r oes ddigidol a'r ffordd ddigidol o gyflwyno dogfennau, gan gynnwys gwybodeg. Atebodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod rhai materion yn dechnegol ac yn gysylltiedig â deddfwriaeth ond y dylent fod yn hygyrch er hynny ac y byddent yn mynd â’r sylwadau hyn i ffwrdd ac yn eu gweithredu yn y datganiad nesaf.

 

Diolchodd Aelod i'r swyddogion am ddogfen gynhwysfawr. Cyfeiriodd at dudalen 57 a gwaith Archwilio Cymru a'r Archwilydd Allanol a'r adroddiadau ond nad oedd gwybodaeth am yr hyn oedd yn cael ei wneud yn eu cylch. Nid oedd unrhyw wybodaeth am y materion hollbwysig, y rhai blaenoriaeth uchel, y rhai hwyr nac unrhyw beth i ddweud beth y dylent fod yn edrych arno. Roedd tudalen 61 yn cynnwys gwaith Archwilio Mewnol ac argymhellion yn cael eu derbyn ar wahanol adegau ond roedd hyn yn niwlog. Byddai'n fwy defnyddiol pe bai mwy o wybodaeth ar gael am y sefyllfa bresennol. Cytunodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai hyperddolenni i draciwr o fewn y ddogfen yn gymorth.

 

Roedd Aelod yn pryderu mai ychydig iawn o sôn a fu am Garbon Niwtral 2030. Roedd wedi disgwyl i hynny gael y lle blaenaf oll ac y byddai’n allweddol i’r ddogfen ei hun a sut y byddent yn cyflawni’r nod o fod yn niwtral o ran carbon. Gobeithiai y gallai'r adroddiad nesaf gynnwys adran sylweddol ynghylch ymrwymiadau gwyrdd. Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod hyn wedi ei godi ym mis Gorffennaf a'u bod wedi cytuno i'w gynnwys yn yr adroddiad nesaf.

 

Nododd Aelod gamgymeriad ar linell waelod y tabl ar dudalen 55 yr adroddiad. Y cyfanswm a hawliwyd oedd £16,510 nid £16,50.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at hyperddolenni mewn dogfennau electronig a gwnaeth y pwynt nad oedd gan yr holl drigolion fynediad at gyfrifiaduron a bod rhaid cael ffordd iddynt hwythau gael mynediad at y dogfennau hyn. O ran diweddariadau cynnydd, roedd llawer o naratif heb amcanion pendant megis atebolrwydd ac amserlenni ac roedd angen mynd i'r afael â hyn. Dylai hyfforddiant aelodau fod ar gael i aelodau annibynnol o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Pwyllgor Safonau. Dylid cynnal dadansoddiad o’r hyfforddiant ar gyfer yr aelodau annibynnol i weld a oedd angen hyfforddiant ychwanegol. Gofynnodd hefyd pryd y byddai cyfarfodydd hybrid yn eu lle ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Atebodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod y sylw ynghylch amcanion doeth yn ymwneud â'r traciwr ac y gallent edrych ar hyn wrth adrodd yn ôl yn y dyfodol. O ran datblygu aelodau, gwahoddwyd Aelodau lleyg y pwyllgor hwn i'r sesiynau datblygu aelodau a gynhaliwyd mewn perthynas â’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ond ni chawsant eu cylchredeg y tu hwnt i hynny. Cytunodd i fynd â’r mater yn ôl a gwneud yn si?r bod holl aelodau'r pwyllgor yn cael mynediad at hyfforddiant priodol. Eglurodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd fod problemau gyda'r system meicroffon yn y Siambr, ond bod hynny wedi'i ddatrys yn ddiweddar a'u bod yn gobeithio cynnal cyfarfodydd hybrid o'r wythnos ganlynol. Ychwanegodd y gallai cyfarfod nesaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gael ei gynnal yn hybrid yn y Siambr.

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn nodi Cynllun Gweithredu’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022-23 a’r cynnydd ar y camau gweithredu hyd at 30 Medi 2022 a’i fod wedi gofyn i swyddogion sicrhau bod fformat y ddogfen yn ddarllenadwy a dealladwy i fwy o bobl.

Dogfennau ategol: