Agenda item

Asesiad Risg Corfforaethol 2022-23

Cofnodion:

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod yr Asesiad Risg Corfforaethol yn ddogfen a gyflwynir i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn rheolaidd a’i bod yn amlinellu’r risgiau corfforaethol allweddol yr oedd y Cyngor yn eu hwynebu ar y pryd a hefyd y camau lliniaru a gymerwyd i geisio cyfyngu’r risgiau hynny. Fel ym mharagraff pedwar yr adroddiad, bu nifer o ddiweddariadau drwy'r Asesiad Risg Corfforaethol. Y rheswm am hynny oedd yr hinsawdd yr oedd yr awdurdod yn gweithio ynddo gyda gwasanaethau'n newid mor gyflym. Pan ystyriwyd hyn o’r blaen, cafwyd trafodaeth yngl?n â’r ffordd orau o gyflwyno'r materion yn yr asesiad risg. Cytunodd yr Aelodau y byddai plymio'n ddyfnach i un neu ddwy o'r risgiau ym mhob cyfarfod yn galluogi'r Aelodau i'w deall a hefyd i ofyn cwestiynau yn dilyn y drafodaeth honno. Y ddwy risg ar gyfer y cyfarfod hwn oedd bod y Cyngor yn medru gwneud penderfyniadau cadarn yn y tymor canolig i’r tymor hir o ran y gyllideb a gofal cymdeithasol, yn enwedig Gwasanaethau Oedolion.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn edrych am sicrwydd bod y Gyfarwyddiaeth yn ymdrin â'r materion hyn yn y modd mwyaf priodol yn hytrach na phlymio'n ddwfn i'r materion neu'r achosion gweithredol.

 

Cyfeiriodd Aelod at fformat yr adroddiad a’i bod yn anodd deall a oedd y risgiau’n gwaethygu neu’n cael eu rheoli’n llwyddiannus ers yr adroddiad diwethaf. Byddai’n ddefnyddiol gweld yn glir unrhyw newidiadau i’r risg. Gofynnodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid gyfeirio at hyn mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Amlinellodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion weithgarwch rheoleiddio yn y maes, y meysydd lle roedd pwysau yn enwedig yn y Gwasanaethau Gofal Cartref a Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol. Ychwanegodd y byddent yn cyflwyno adroddiad llawn i'r pwyllgor craffu ym mis Chwefror, fyddai'n rhoi mwy o sicrwydd a dyfnder i'r camau yr oeddent yn eu cymryd. Rhoddodd amlinelliad byr o'r risgiau a rhai o'r camau lliniaru mewn perthynas â diogelwch a lles oedolion sy'n wynebu risg.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd i'r Pwyllgor weld Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn ar gyfer sicrwydd. Atebodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod yr adroddiad hwn wedi cael ei gyflwyno i’r Cyngor fel ei fod ar gael ar y wefan i bob Aelod o’r Pwyllgor ei weld. O ran trefniadau gweithio ar y cyd roedd blocio gwelyau yn broblem, roedd cael pecynnau gofal i unigolion i adael yr ysbyty yn fater arall a gofynnodd pa waith cydweithredol oedd yn mynd rhagddo rhwng CBS Pen-y-bont ar Ogwr, y Bwrdd Iechyd lleol ac eraill megis y sector gwirfoddol i geisio mynd i'r afael â'r mater hwn. Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion eu bod yn gweithio law yn llaw â'r Bwrdd Iechyd yn y gwasanaethau oedolion ac amlinellodd sut roedd hyn yn gweithio ar draws y gwasanaeth.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd unrhyw gyfraniad gan y Bwrdd Iechyd mewn perthynas â dadansoddiad cost a budd o gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain yn hytrach na mynd i mewn i sefyllfa ysbyty ac yna, unwaith y byddent i mewn, eu cael yn ôl allan. Atebodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod safle yn CBS Pen-y-bont ar Ogwr a ddefnyddir gan y Tîm Adnoddau Cymunedol oedd yn cael ei ariannu ar y cyd drwy'r Bwrdd Iechyd a'r awdurdod lleol, oedd yn darparu ymyrraeth tymor byr i bobl i'w hatal rhag mynd i'r ysbyty ac ymateb cyflym i bobl sy'n dod allan o'r ysbyty. Nid oedd yn gallu bodloni’r lefelau presennol o alw ond roedd y mentrau yno i gael pobl yn ôl ar eu traed a chynorthwyo pobl i ddod allan o’r ysbyty.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn cyfran resymol o'r cyllid rhanbarthol? Atebodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod Pen-y-bont ar Ogwr yn dda am nodi'n glir yr hyn oedd ei angen i gyflawni gwasanaethau integredig.

 

Gofynnodd Aelod pa ganran neu niferoedd o bobl oedd yn derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain. Atebodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion eu bod yn cefnogi dros 2000 o bobl i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth a'u bod yn darparu dros 9000 o oriau o gymorth gofal cartref i bobl.

 

Diolchodd y Pwyllgor i Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion am ei chyfraniad a'r sicrwydd a roddwyd.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid at yr ail risg oedd yn cael ei hystyried, sef gallu gwneud penderfyniadau cadarn am y tymor canolig i’r tymor hir sy'n gofyn am newid mewn gwasanaeth. Amlinellodd y fframwaith arferol ar gyfer gosod y gyllideb a pham, os oedd fframwaith yn ei le, nad oedd hynny wedi lleihau'r risg. Eglurodd y pwysau yn ystod y flwyddyn nas rhagwelwyd ac nas profwyd o'r blaen a sut y byddent yn cario ymlaen i'r flwyddyn nesaf. Nid oedd hyn yn unigryw i CBS Pen-y-bont ar Ogwr ac roedd pob awdurdod lleol yn wynebu pwysau aruthrol wrth symud ymlaen yn awr i'r flwyddyn nesaf. Atebodd y Cadeirydd fod hyn yn rhoi sicrwydd iddo yngl?n â'r gweithdrefnau a'r polisïau.

 

Cyfeiriodd Aelod at y dyletswyddau anstatudol a gofynnodd a oedd unrhyw arweiniad yn cael ei roi yngl?n â’r cyllidebau y byddai’n rhaid eu torri. Atebodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod materion yn ymwneud â gwasanaethau statudol ac anstatudol yn codi'n flynyddol. Roedd CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi tynnu dros £60 miliwn o'r Gyllideb Refeniw dros y 10/11 mlynedd diwethaf ac roedd yr holl wasanaethau wedi gweld gostyngiad mewn cyllid. Roedd yn anodd tynnu llinell rhyngddynt gan fod llawer o'r gwasanaethau anstatudol yn cefnogi'r gwasanaethau statudol. Roedd pob maes o'r gyllideb yn cael ei archwilio ac yn y pen draw roedd yn dibynnu ar risg ar draws yr holl wasanaethau. Roeddent yn edrych ar ddull un Cyngor yn y gyllideb hon. Atebodd yr Aelod ei fod yn falch bod risg yn cael ei hystyried ac na fyddent yn meddwl am dorri rhywbeth yn awr a allai gostio mwy o arian yn y tymor hir.

 

Gofynnodd Aelod a gâi ystyriaeth drylwyr ei rhoi i gau gwasanaeth unigol ac a oedd y broses bresennol yn gymorth i hyn. Atebodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y gofynnwyd i bob gwasanaeth ystyried yr holl ddewisiadau wrth symud ymlaen. Roedd Cynllun Corfforaethol newydd wrthi’n cael ei ddrafftio fyddai'n edrych ar flaenoriaethau'r Cyngor fyddai'n cysylltu â'r gyllideb. Roedd penderfyniadau anodd i'w gwneud ac roedd setliad ariannol y flwyddyn nesaf yn mynd i fod yn anodd.

 

Cadarnhaodd Aelod fod hyn wedi cael ei drafod ar draws y fforymau a gofynnodd pa arweiniad gwleidyddol a roddwyd gan y Cabinet ar eu blaenoriaethau fel y gallent wneud rhywfaint o fodelu cyllideb yn gywir? Atebodd y Cadeirydd nad oedd hwnnw'n gwestiwn i'r Pwyllgor hwn gan mai'r cyfan yr oedd ei angen ar y Pwyllgor oedd sicrwydd bod gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr y mecanweithiau sicrwydd cywir yn eu lle i gyflawni ei gyllideb. Cytunodd yr Aelod i fynd â’r cwestiwn i gyfarfod gwahanol.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn nodi’r Asesiad Risg Corfforaethol 2022-23 (Atodiad A) a'r sylwadau a wnaed gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion a'r Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid.

Dogfennau ategol: