Agenda item

Monitro argymhellion

Cofnodion:

Cyflwynodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol yr adroddiad Monitro Argymhellion oedd yn cynnwys yr holl argymhellion a wnaed gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol ers gweithredu’r feddalwedd newydd ar 1 Ebrill 2021. Awgrymodd na ddylai adroddiadau yn y dyfodol gynnwys ond argymhellion oedd heb eu cyflawni o’r blynyddoedd ariannol blaenorol ynghyd â'r argymhellion a wnaed yn y flwyddyn gyfredol. Esboniodd nad oedd yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiadau sicrwydd cyfyngedig yn cael eu dilyn yn unigol ond eu bod yn cael eu hadolygu yn ystod archwiliad dilynol cynlluniedig o'r maes hwn a oedd i fod i ddechrau. Dangosai Atodiad A fod 109 o argymhellion wedi cael eu gwneud yn ystod 21/22, bod 59 wedi cael eu gweithredu, 10 wedi mynd heibio eu dyddiadau gweithredu ac yn weddill ac yn parhau i gael eu dilyn, tra roedd gan 39 ddyddiadau targed yn y dyfodol. Roedd un argymhelliad heb gael ei gytuno gan faes gwasanaeth perthnasol, ond cynigiodd y rheolwr esboniad pam fod hyn yn wir a derbyniwyd yr atebion a gyflwynwyd.

 

Dywedodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod saith o'r 13 argymhelliad a wnaed hyd yn hyn yn 22/23 wedi cael eu rhoi ar waith a bod gan chwech ddyddiad targed yn y dyfodol. Roedd y wybodaeth hon wedi cael ei thynnu o'r system feddalwedd archwilio a chroesawyd sylwadau ar y cynnwys a'r fformat a gyflwynwyd. Byddai adroddiad safonol yn cael ei gomisiynu i symleiddio'r broses pan fyddai adborth wedi cael ei dderbyn o fewn y Gwasanaeth Rhanbarthol.

 

Gofynnodd Aelod pam y gwahanwyd yr eitemau oedd yn weddill oddi wrth y dyddiad targed yn y dyfodol a beth yn union oedd y gwahaniaeth. Atebodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol mai'r eitemau oedd yn weddill oedd y rheiny lle y cytunwyd ar yr argymhellion gan y rheolwyr a bod dyddiad gweithredu targed wedi cael ei roi. Pan ofynnwyd am ddiweddariad ar ôl y dyddiad penodedig, nid oedd y Rheolwyr perthnasol wedi gorffen gweithredu'r argymhellion ac felly roeddent yn weddill. Roedd y rhai â dyddiadau targed yn y dyfodol yn rhai lle roedd y rheolwr wedi derbyn argymhelliad pan gafodd ei wneud ond nad oedd y dyddiad gweithredu wedi cael ei gyrraedd eto.

 

Gofynnodd Aelod, o ran y broses, pryd y cysylltwyd â’r swyddogion perthnasol am ddiweddariadau ynghylch cynnydd ac a gymerwyd yr ateb ar yr olwg gyntaf eu bod wedi cael eu cyflawni neu a ofynnodd y tîm am dystiolaeth neu fanylion ategol? Atebodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod yr Archwilwyr yn ysgrifennu at y swyddogion perthnasol yn gofyn iddynt am eu hymateb. Cymerir yr ymatebion ar eu golwg gyntaf o ran yr argymhellion isel ac i’r lleill, yn dibynnu ar yr argymhelliad, byddai’r Archwilwyr yn gofyn am dystiolaeth o weithredu, yn gofyn cwestiynau mwy treiddgar neu’n cynnal rhai profion pe bai ganddynt fynediad at y system.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw ddiweddariadau ar y Credydwyr - Archwiliad Data Cyflenwyr a gwblhawyd ym mis Ebrill gyda barn sicrwydd cyfyngedig. Atebodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod yr adran, ar adeg llunio'r adroddiad, mewn cysylltiad â chydweithwyr a chyflenwr y feddalwedd a'u bod yn y broses o weithredu'r argymhelliad. Roedd yr Archwilydd yn gwneud rhywfaint o brofion ar hyn o bryd ond cafwyd sicrwydd ar lafar fod yr argymhelliad hwn wedi cael ei roi ar waith.

 

Gwnaeth y Cadeirydd y sylw bod hwn yn adroddiad da. Yn ei farn ef, pan fyddai argymhellion wedi cael eu gweithredu, yna dylid eu tynnu oddi ar y bwrdd. Holodd ynghylch 2 archwiliad a oedd yn wag yn y tabl. Eglurodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol y cefndir i bob archwiliad ac y byddai'r wybodaeth ddiweddaraf yn y tabl pan gyflwynid yr adroddiad nesaf ym mis Ionawr.

Gofynnodd Aelod a oedd yn iawn iddynt orfod disgwyl nes bod y cam olaf wedi cael ei gwblhau cyn sesiwn ddilynol ffurfiol? Cytunodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod hynny'n rhywbeth y gallent ei newid yn y broses.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio     

     yn ystyried y wybodaeth a ddarparwyd mewn perthynas â statws yr argymhellion a wnaed;

wedi adolygu’r wybodaeth oedd yn yr adroddiad a rhoi adborth ar gynnwys a fformat y wybodaeth a ddarparwyd.

Dogfennau ategol: