Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Yr wyf yn si?r y bydd yr aelodau wedi nodi sylw diweddar yn y newyddion yn tynnu sylw at y datblygiadau diweddaraf yn yr ymdrechion i sefydlu cyrchfan antur gwerth £250 miliwn yng Nghwm Afan uchaf.

 

Gyda chaniatâd cynllunio amlinellol eisoes ar waith gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, gofynnwyd i'r awdurdod gymeradwyo cais materion a gadwyd yn ôl yn ymwneud â materion megis mynediad, cynllun, tirweddu, maint ac edrychiad.

 

Mae hyn i gyd yn digwydd y tu allan i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth gwrs, ond gan ei bod yn agos at ein ffin, bydd hefyd yn cael effaith ganlyniadol o ran cyflogaeth, mynediad, traffig, buddsoddiad yn y dyfodol a mwy.

 

Yn ogystal â'r swyddi adeiladu a fydd yn cael eu creu, mae'r datblygwr Wildfox Resorts wedi amcangyfrif y bydd y gyrchfan yn cyflogi tua 1,000 o bobl ac yn cynnwys gwesty 50 gwely, sba a bwyty, 570 o gabanau, a chyfleusterau ar gyfer beicio a heicio.

 

Byddwn yn ceisio rhannu a manteisio ar y buddion y gall y prosiect uchelgeisiol hwn eu cynnig, a gyda disgwyliadau uchel y gallai gwaith ddechrau ar y safle y flwyddyn nesaf, byddwn yn cadw llygad barcud ar ei ddatblygiad.

 

Mewn newyddion eraill, mae cwpl lleol wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Maethu genedlaethol fawreddog am eu gwaith caled a’u hymroddiad i faethu plant a phobl ifanc ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cyflwynwyd 'Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Jon a Kathy Broad' i Pete a Becky Walsh yn seremoni flynyddol ddiweddar y Rhwydwaith Maethu, a gynhaliwyd yn Theatr Repertory Birmingham.

 

Roedd y cwpl wedi'u henwebu gan Bernadette Guy yn Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr ac fe'u disgrifiwyd fel 'gofalwyr maeth eithriadol sydd bob amser yn parhau i ganolbwyntio ar yr hyn sydd orau i'r plant yn eu gofal’.

 

Mae’r cwpl, sy’n gofalu am blentyn ag anghenion iechyd cymhleth ar hyn o bryd, yn aml yn gorfod mynychu apwyntiadau ysbyty a all fod gan milltir o’u cartref ac maent yn adnabyddus am gefnogi gofalwyr eraill a chynnal agwedd gadarnhaol a gallu ei wneud. Rwy’n si?r y bydd yr aelodau am ymuno â mi i longyfarch Pete a Becky, ac i ddiolch iddynt am eu hymroddiad ysbrydoledig a’u gwaith caled.

 

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth wneud hynny drwy fynd i wefan Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yn olaf, yng nghyfarfod diwethaf y cyngor, efallai y byddwch yn cofio bod aelod wedi cwestiynu’r ffigur a ddefnyddiwyd i ddisgrifio’r ystadegau misol ynghylch y rhai sy’n cysgu ar y stryd sy’n cael eu hadrodd i Lywodraeth Cymru.

 

Oherwydd natur fyrhoedlog y rhai sy’n cysgu ar y stryd, gall y cyfanswm hwn newid yn gyflym, weithiau o ddydd i ddydd, oherwydd gall fod gan bobl batrymau cyfnewidiol o symud rhwng llety a chysgu allan, neu hyd yn oed symud i mewn ac allan o ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol.

 

Ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae ffigurau ar bobl sy'n cysgu ar y stryd yn cael eu casglu drwy gydol y mis a'u dilysu gan gell digartrefedd amlasiantaeth sy'n cynnwys asiantaethau trydydd sector yn ogystal â phartneriaid eraill.

 

Caiff y data a ddarperir ganddynt ei ddadansoddi ar ddiwedd y mis i nodi’r gr?p craidd o bobl sy’n cysgu allan yn rheolaidd ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

 

Yna caiff y ffigur hwn ei adrodd i Lywodraeth Cymru er mwyn rhoi trosolwg iddynt o faint o bobl sy’n dal i gysgu allan ar ddiwedd y cyfnod adrodd.

 

Gyda hyn mewn golwg, cadarnhaodd y data diweddaraf a ddarparwyd gan y gell ddigartref mai’r ffigwr misol ar gyfer diwedd Hydref oedd deg.

 

Mae hefyd yn werth atgoffa aelodau y gall unrhyw un adrodd am rywun y maent yn amau ei fod yn cysgu ar y stryd drwy anfon manylion at wefan Streetlink fel y gall y cyngor lleol ac asiantaethau digartrefedd gynnig cymorth priodol.

 

Rydym yn parhau i ddarparu ystod eang o wasanaethau i gadw pobl ddigartref yn gynnes ac yn ddiogel.

 

Ar y cywair hwnnw, gobeithiaf fod aelodau hefyd yn annog eu hetholwyr i wirio p’un a ydynt yn gymwys ar gyfer Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf Llywodraeth Cymru.

 

Mae hwn yn galluogi aelwydydd cymwys i hawlio taliad arian parod untro o £200 tuag at dalu eu biliau tanwydd gaeaf.

 

Mae'n cael ei gynnig yn ychwanegol at yr ad-daliad ar gyfer biliau ynni a'r taliad tanwydd gaeaf a delir fel arfer i bensiynwyr.

 

Bydd ceisiadau am y grant yn cau ym mis Chwefror 2023, felly mae amser o hyd i unrhyw un sydd eto i wneud cais i wneud hynny.

 

Mae manylion llawn, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd, ar gael ar wefan y cyngor.