Agenda item

Moderneiddio Ysgolion – Ysgol Egin Cyfrwng Cymraeg Porthcawl

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y cyngor i gyllideb gyfalaf ar gyfer costau dylunio ac arolygu cynllun ysgol egin cyfrwng Cymraeg arfaethedig Porthcawl hyd at y cam tendro i gael ei chynnwys yn rhaglen gyfalaf y cyngor. Byddai hon yn cael ei hariannu o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddechrau, ar y dybiaeth y bydd costau’n cael eu hadennill unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r achos cyfiawnhad busnes a ailgyflwynwyd.

 

Eglurodd, yn dilyn arfarniad bwrdd gwaith o’r opsiynau ar gyfer datblygu ysgol egin cyfrwng Cymraeg yn ardal Porthcawl, fod adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ym mis Medi 2021, a gymeradwyodd gyflwyno datganiad o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r ail gyfran o grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg. Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru hyn mewn egwyddor ar ôl i achos cyfiawnhad busnes gael ei gyflwyno iddynt ym mis Mai 2022. Fodd bynnag, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael gwybod yn ddiweddar bod angen ailgyflwyno hwn, unwaith y bydd tendrau sy'n ymwneud â'r cynllun wedi'u dychwelyd.

 

Mae’r grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i 100% o gyllid y cynllun, ond dim ond ar ôl cymeradwyo’r achos cyfiawnhad busnes.

 

Mae angen cymeradwyaeth y cyngor yn awr, felly, i gynnwys cyllideb gyfalaf ar gyfer costau dylunio ac arolygu'r cynllun hwn (hyd at y cam tendro) yn rhaglen gyfalaf y cyngor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd yr amcangyfrifwyd ar hyn o bryd mai tua £370,000 fyddai'r costau dylunio/arolygu ymlaen llaw (sy'n ofynnol er mwyn datblygu'r cynllun hyd at y cam tendro a thrwy hynny fodloni gofynion ailgyflwyno cyfiawnhad busnes Llywodraeth Cymru).

 

Byddai angen ariannu'r costau hyn o gyfalaf heb ei hymrwymo yn y cyfamser.

 

Mae'r grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i 100% o'r cyllid ar ôl cymeradwyo'r achos busnes a gofynnir yn awr am ganiatâd i gynnwys cyllideb ar gyfer costau dylunio ac arolygu'r cynllun hwn (hyd at y cam tendro) yn rhaglen gyfalaf y cyngor gan y cyngor, ar y dybiaeth y bydd costau’n cael eu hadennill yn llawn unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r achos cyfiawnhad busnes a ailgyflwynwyd. Gofynnir am gymeradwyaeth y cyngor i dderbyn y risg yn y cyfamser, sef pe bai Llywodraeth Cymru yn y pen draw yn methu â chymeradwyo’r achos busnes, byddai angen i’r cyngor ariannu’r costau dylunio ac arolygu (hyd at y cam tendro) fel costau refeniw ofer.

 

Wrth groesawu'r adroddiad, gofynnodd aelod pam mae’r cynnig am ysgol egin Gymraeg yn yr ardal hon yn hytrach nag ysgol gynradd Gymraeg.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Addysg y byddai’r ysgol newydd yn darparu ar gyfer plant o oedran meithrin a dosbarth derbyn ac y byddai cynnig wrth symud ymlaen ar gyfer darparu addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion o oedran ysgol gynradd mewn pryd ac ar y cyd â dilyniant pellach y gwaith adfywio parhaus yn lleoliad Porthcawl.

 

Gofynnodd aelod pam nad oedd ystyriaeth wedi'i rhoi i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd eraill o'r fwrdeistref sirol, er enghraifft ym Mhencoed.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Addysg ei bod yn anodd adeiladu datblygiad yn ardal y dref oherwydd yr ardaloedd helaeth o orlifdir, ond byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd i addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhencoed.

 

Nododd aelod fod angen ymestyn rhai ysgolion a adeiladwyd yn flaenorol mewn ardaloedd o'r fwrdeistref sirol oherwydd y ffaith nad oedd maint yr ysgolion wedi bodloni’n ddigonol y dyraniad tai newydd yn yr ardal yn y dyfodol ac unrhyw gynnydd yn y boblogaeth a ddaeth yn sgil hyn. Gofynnodd felly am sicrwydd bod hyn wedi'i ystyried yn yr achos hwn.

 

Cydnabu'r Aelod Cabinet – Addysg hyn, ond dywedodd fod newid yn y fformiwla ar gyfer dyraniadau cytundeb adran 106 bellach ar waith ac y byddai hyn yn sicrhau bod y broblem hon yn y dyfodol yn lleihau'n sylweddol.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod ei swyddogion a’i aelodau allweddol wedi gweithio’n agos gyda swyddogion cynllunio’r cyngor ar y Cynllun Datblygu Lleol newydd ac ar ddyraniadau tir ar gyfer tai ac, yn sgil ad-drefnu’r canllawiau cynllunio statudol, roedd yn rhagweld y byddai hyn yn helpu i atal achosion o’r uchod rhag digwydd yn y dyfodol. Ychwanegodd fod gan awdurdodau lleol Cymru bellach ddyletswydd statudol i ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg yn eu hysgolion.

 

Gofynnodd aelod am rywfaint o sicrwydd y byddai’r ysgol newydd yn cyrraedd ei chapasiti o ran disgyblion ac a oedd unrhyw sicrwydd y byddai hynny’n digwydd, yn hytrach na chael ei gorboblogi â disgyblion. Pe na bai hyn yn digwydd, a oedd modd defnyddio'r ysgol ar gyfer dulliau eraill o addysgu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y tîm Moderneiddio Ysgolion wedi gwneud gwaith ymchwil sylweddol a oedd yn dangos yn gadarn, gyda'r galw yn ardal Porthcawl a thwf dysgu Cymraeg o oedran cynnar mewn ardaloedd cyfagos fel Corneli a'r Pîl, na fyddai unrhyw leoedd gormodol yn yr ysgol unwaith iddi gael ei hadeiladu a'i mynychu gan ddisgyblion. Ychwanegodd fod y farn hon wedi cael ei hategu gan waith arolygu. Hyd yma, roedd tua £2.6 miliwn o gyllid wedi ei sicrhau gan y cyngor ar gyfer darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch dadansoddiad o'r cyllid i gefnogi darpariaeth yr ysgol newydd, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod cyllideb o £676,000 wedi'i neilltuo ar gyfer y prosiect, gyda chais i Lywodraeth Cymru am £370,000 o gyllid yn y cyfamser i gwblhau gwaith dichonoldeb a dylunio ac ati. Byddai ymarfer ymgynghori hefyd yn cael ei roi ar waith ar y cynnig, yn cynnwys ystod o randdeiliaid statudol. Byddai adroddiad cynnydd pellach yn cael ei gyflwyno i'r aelodau pe byddai angen.

 

Terfynodd yr arweinydd y ddadl gan ychwanegu nad oedd darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhorthcawl ar hyn o bryd.        

 

PENDERFYNWYD:                        Bod y cyngor yn cymeradwyo cyllideb cyfalaf o £370,000 ar gyfer costau dylunio ac arolygu cynllun ysgol egin cyfrwng Cymraeg arfaethedig Porthcawl hyd at y cam tendro i gael ei chynnwys yn rhaglen gyfalaf y cyngor, wedi'i hariannu i ddechrau o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y rhagdybiaeth y bydd y costau'n cael eu hadennill unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r achos cyfiawnhad busnes a ailgyflwynwyd.

Dogfennau ategol: