Agenda item

Rheoli’r Trysorlys – Adroddiad Hanner Blwyddyn 2022-23

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, â’r diben oedd diweddaru’r cyngor ar yr adolygiad canol blwyddyn a sefyllfa hanner blwyddyn ar gyfer gweithgareddau Rheoli’r Trysorlys a dangosyddion Rheoli’r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn gyfredol, ac i amlygu cydymffurfedd â polisïau ac arferion y cyngor.

  

O ran y sefyllfa bresennol, atgoffodd yr aelodau mai gwaith Rheoli'r Trysorlys yw rheoli llif arian, benthyca a buddsoddi'r cyngor, a'r risgiau cysylltiedig sy'n cydredeg â hyn.

 

Eglurodd fod y cyngor yn agored i risgiau ariannol, gan gynnwys colli arian a fuddsoddwyd ac effaith refeniw newid mewn cyfraddau llog.

 

Felly mae nodi, monitro a rheoli risg ariannol yn llwyddiannus yn ganolog i reolaeth ariannol ddarbodus y cyngor.

 

Cymeradwywyd Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022/2023 gan y cyngor ar 23 Chwefror, ychwanegodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid.

 

Roedd yn gallu cadarnhau bod y cyngor wedi cydymffurfio â'i ofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn hon, gyda manylion ei weithgarwch yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Y pwyntiau allweddol i’w nodi oedd:-

 

·         Y cyd-destun yn y cyfnod hwn:

 

o   Gwrthdaro parhaus yn Wcráin

o   Cyfnod o chwyddiant cynyddol a’r effaith ar gostau byw

o   Cyfraddau llog uwch, gyda chynnydd o 0.75% i 2.25% ar ddiwedd mis Medi ac, ers peth amser, yn fwy nag o'r blaen

 

·         Roedd benthyca tymor hir ar ddiwedd mis Medi yn £99.94 miliwn. Ychydig o newid dros gyfnod yr adroddiad.

·         Roedd yn annhebygol y byddai angen i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fenthyca eleni ond bydd hyn yn cael ei adolygu'n barhaus.

·         Mae'r cyngor yn buddsoddi ei arian ac, wrth wneud hynny, yn sicrhau diogelwch y cyllid, yr hylifedd ac yna'r arenillion o'r buddsoddiad hwnnw.  Mae buddsoddiadau yn cynnwys arian a dderbyniwyd cyn gwariant a defnyddio balansau a chronfeydd wrth gefn.

·         Ar ddiwedd mis Medi 2022, y swm a fuddsoddwyd oedd £98 miliwn – gydag awdurdodau lleol eraill, y llywodraeth a chronfeydd marchnad arian.

·         Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cymryd cyngor gan ei gynghorwyr yn rheolaidd ynghylch ble y caiff ein harian ei roi.

 

Yn olaf, cyfeiriodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid y cyngor at Atodiad A, a oedd yn rhoi mwy o fanylion am weithgarwch Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y cyfnod hwn.

 

Gofynnodd aelod am ba mor hir yr oedd cynghorwyr Rheoli'r Trysorlys presennol y cyngor wedi bod yno a, phe baent yn camgynghori'r awdurdod, a ydynt yn atebol am hyn mewn unrhyw ffordd.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y cyngor yn comisiynu'r gwasanaeth hwn, er bod y gwaith yn cael ei ail-dendro’n rheolaidd. Ychwanegodd, fodd bynnag, mai ychydig iawn o gynghorwyr arbenigol o'r fath oedd ar gyfer y maes hwn o waith yn y farchnad agored yn cefnogi awdurdodau lleol, gan ei fod yn faes mor arbenigol. Ychwanegodd ymhellach y byddai'r cwmni'n cael ei yswirio pe bai'n rhoi cyngor amryfus neu wael i awdurdod lleol fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Gofynnodd yr aelod gwestiwn dilynol, sef a oedd y cyngor wedi meincnodi perfformiad y cynghorwyr mewn unrhyw ffordd.

 

Atebodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai’r cyngor, pan oedd yn rhoi ei fanyleb allan i dendro, yn gofyn am wybodaeth arbenigol benodol gan y cwmnïau, er mwyn iddo allu mesur a chymharu eu harbenigedd fel cynghorwyr ariannol wrth ystyried dyfarnu'r contract. Roedd yn rhaid i gwmnïau fel hyn brofi i awdurdodau lleol fod lefel a safon y cyngor yn bodloni'r lefel uchel sy'n ofynnol. Pe na bai hyn yn digwydd, yna gallai'r cyngor herio'r cynghorydd. Ychwanegodd fod y cynghorwyr presennol bob amser wedi rhoi cyngor cadarn hyd yma.

 

Gofynnodd aelod p’un a ellid rhoi hyfforddiant ar reoli'r trysorlys a benthyca / rhoi benthyciadau ac ati, er budd aelodau newydd yr awdurdod.

 

Dywedodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod hwn wedi'i roi i aelodau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel rhan o raglen ddatblygu aelodau cychwynnol y cyngor, er ei fod wedi'i amserlennu i'w gyflwyno i bob cynghorydd yn y flwyddyn newydd hefyd.

 

Gofynnodd aelod i'r Aelod Cabinet – Adnoddau faint o log y mae'r cyngor yn ei dalu bob mis neu'n flynyddol ac, i'r gwrthwyneb, faint mae'n ei dderbyn.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet – Adnoddau y byddai'n darparu'r wybodaeth hon y tu allan i'r cyfarfod.

 

Cyfeiriodd yr arweinydd yr aelodau at Dabl 8 ar dudalen 24 o'r adroddiad, a oedd yn rhoi manylion ynghylch gwariant llog a derbynebau, ond pwysleisiodd mai ar gyfer adeg ysgrifennu'r adroddiad oedd y rhain ac y byddai'r ffigurau hyn yn debygol o newid bron yn ddyddiol o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol. 

 

PENDERFYNWYD:                        Bod y cyngor yn nodi ei weithgareddau Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2022-23 am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 30 Medi 2022 a’r dangosyddion Rheoli’r Trysorlys a ragwelir ar gyfer 2022-23.

Dogfennau ategol: