Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio Strategol adroddiad, a’i bwrpas oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu am ganfyddiadau AMB 2022 (ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad) ac yn fwyaf nodedig, bod nifer y tai sy’n cael eu cyflenwi yn methu â chadw i fyny â nifer y tai y mae galw amdanynt a bod angen brys am ddyraniadau tai newydd y gellir eu cyflawni i leddfu’r pwysau cynyddol ar y cyflenwad tai.
Esboniodd fod gan y Cyngor, o dan Adran 61 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, rwymedigaeth statudol i adolygu'n barhaus yr holl faterion y disgwylir iddynt effeithio ar ddatblygiad ei ardal. At hynny, roedd adran 76 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol gynhyrchu gwybodaeth am y materion hyn ar ffurf AMB, i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd ymhellach fod yn rhaid cyflwyno AMB 2022 i Lywodraeth Cymru cyn 31 Hydref 2022.
Prif nod yr AMB oedd asesu i ba raddau y mae Strategaeth a Pholisïau’r CDLl yn cael eu cyflawni. Felly, mae’r AMB yn cyflawni dwy brif swyddogaeth; yn gyntaf, ystyried a yw'r polisïau a nodwyd yn y broses fonitro yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus, ac yn ail, ystyried y Cynllun yn ei gyfanrwydd yn erbyn yr holl wybodaeth a gasglwyd, er mwyn penderfynu p’un ai adolygiad llwyr ynteu adolygiad rhannol o’r Cynllun sydd ei angen.
Aeth y swyddog cynllunio strategol ymlaen i ddweud, y bu llawer o newidiadau ers 2013 oedd wedi dylanwadu ar y gallu i weithredu'r CDLl yn llwyddiannus. Felly, roedd yr AMB wedi ystyried a oedd y strategaeth ddatblygu oedd yn sail i'r CDLl yn parhau i fod yn ddilys ac wedi asesu a oedd y Polisïau Strategol oedd wedi eu cynnwys ynddo yn effeithiol neu ddim o ran cyflawni'r Strategaeth Ddatblygu a chwrdd ag amcanion y cynllun.
Roedd canfyddiadau'r AMB hefyd yn cynnig cyfle pwysig i'r Cyngor asesu effeithiolrwydd y CDLl a fabwysiadwyd a phenderfynu a oedd angen ei adolygu ai peidio. Roedd Adroddiad Adolygu y CDLl a gyhoeddwyd o’r blaen (2018) eisoes wedi cydnabod yr angen brys i fynd i'r afael â'r diffyg yn y cyflenwad tir ar gyfer tai drwy nodi safleoedd tai ychwanegol.
Mae’r datblygiad a ddigwyddodd ers mabwysiadu’r CDLl presennol wedi denu buddsoddiad sylweddol i’r Fwrdeistref Sirol ac wedi sicrhau cartrefi a swyddi newydd ar gyfer cymunedau BCBC. Fodd bynnag, mae nifer o dargedau allweddol y polisi darparu tai heb gael eu cyrraedd, sy’n dangos nad yw'r polisïau hyn yn gweithredu yn ôl y bwriad. Po fwyaf y bydd y sefyllfa hon yn parhau heb gael ei datrys, y mwyaf fydd yr angen i gynnwys darparu tai ychwanegol yn y CDLl newydd neu wynebu’r perygl o ddatblygiad ad hoc a ‘chynllunio drwy apêl’.
Roedd hyn yn cadarnhau ymhellach yr angen i adolygu’r cynllun, gan na wnaiff y galw blynyddol am dai ddisgwyl nes bydd y tai a gyflawnir yn dal i fyny.
Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio Strategol fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn parhau i symud y CDLl Newydd yn ei flaen i fynd i'r afael â'r diffyg yn y tai sy’n cael eu cyflenwi ac i hwyluso adnabod/dyrannu tir ychwanegol ar gyfer tai.
Gorffennodd ei adroddiad drwy nodi bod angen buddsoddiad pellach yn yr economi leol ac y bydd y CDLl Newydd yn ysgogi manteisio ar dir cyflogaeth newydd, safleoedd defnydd cymysg a chyfleoedd adfywio (gan gynnwys safleoedd ym mherchnogaeth y Cyngor). Bydd hyn yn dod â chynlluniau newydd ymlaen, prif gynlluniau a briffiau datblygu i wneud datblygu’n bosibl.
PENDERFYNWYD: Bod yr Aelodau’n nodi cynnwys Adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau
Dogfennau ategol: