Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth Gweithrediadau’r Gwasanaethau Cymunedol adroddiad ar yr eitem uchod ac, yn dilyn cyflwyniad byr, gwahoddodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio i roi cyflwyniad.
Cadarnhaodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio fod Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi nodi un o’i blaenoriaethau allweddol sef ‘newid y terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya mewn ardaloedd adeiledig i leihau anafiadau a marwolaethau sy’n gysylltiedig â thraffig a gwneud cerdded a beicio yn fwy diogel ac yn fwy deniadol'.
Y cynnig oedd, drwy alluogi llawer mwy o bobl i ddefnyddio terfynau 20mya, y byddai’n sicrhau manteision sylweddol o ran diogelwch ffyrdd, yn enwedig mewn cymdogaethau difreintiedig. Yn y tymor hwy, disgwylir y bydd gweld llai o berygl ar y ffyrdd yn arwain mwy o bobl i gerdded a beicio, fydd yn gwella iechyd y cyhoedd ac yn cymryd lle rhai teithiau car byr, gan gyflawni gostyngiadau pellach mewn gwrthdrawiadau ac anafusion. Mae mwy o gerdded a beicio hefyd yn debygol o arwain at fwy o gydlyniad cymdeithasol fydd yn esgor ar fanteision cymdeithasol ac iechyd pellach. Ar ben hynny, bydd cyflymderau is yn arwain at ostyngiad mewn s?n traffig, tra bydd yr effeithiau ar ansawdd yr aer yn niwtral ar y gwaethaf ac y bydd cynnydd bach mewn amseroedd teithio.
Cadarnhaodd, fel rhan o'r ddeddfwriaeth newydd, fod Tasglu 20mya wedi'i greu i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i nodi'r ffyrdd hynny fyddai'n eithriad i'r ddeddfwriaeth. Darparodd yr Awdurdod wybodaeth leol ac arbenigedd rheoli traffig i helpu i nodi'r ffyrdd hynny a ddylai fod yn eithriad i'r ddeddfwriaeth er mwyn helpu i sicrhau y cedwir at derfynau ledled y fwrdeistref ac o ganlyniad nad yw'r ddeddfwriaeth yn dioddef anfri.
Fel rhan o’i gyflwyniad, dywedodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio, o fis Medi 2023, y bydd terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya yn berthnasol i’r rhan fwyaf o strydoedd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr sydd â goleuadau stryd yng Nghymru.
Gallai’r cynnig i leihau terfynau cyflymder diofyn o 30mya i 20mya yn yr ardaloedd hyn arwain at nifer o fanteision, gan gynnwys:
• gostyngiad mewn gwrthdrawiadau ar y ffordd
• mwy o gyfleoedd i gerdded a beicio yn ein cymunedau
• cynorthwyo i wella ein hiechyd a'n lles
• gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
• diogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Cadarnhaodd y byddai'r cyfyngiadau cyflymder uchod yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru o 17 Medi 2023.
Cadarnhaodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio fod cyflwyno cynlluniau peilot wedi nodi problemau gyda chyflwyniad cyffredinol yr 20mya, yn benodol ar yr holl ffyrdd cyfyngedig.
Roedd deiseb a gyflwynwyd o fewn misoedd i’r cynnig cychwynnol, wedi sicrhau 40,000 o lofnodion yn awgrymu nad oedd terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya yn briodol ar gyfer pob ffordd, a bod angen ceisio barn cymunedau yngl?n â hyn er mwyn cael adborth.
O ganlyniad i’r ymgynghoriad hwn, cyflwynwyd rhai eithriadau cyffredinol ac ni chawsant eu caniatáu ar gyfer ffyrdd 30mya A a B, os oeddent wedi’u lleoli fel a ganlyn:
O fewn 100 metr ar droed i unrhyw leoliad addysgol;
O fewn 100 metr ar droed i unrhyw ganolfan gymunedol;
O fewn 100 metr ar droed i unrhyw ysbyty;
Lle mae nifer yr eiddo preswyl a/neu fanwerthu ar ymyl ffordd yn fwy na dwysedd diffiniedig
Felly ystyriwyd dau brif gwestiwn cyn ystyried a ddylid gosod terfyn cyflymder o 20mya mewn lleoliad penodol, sef a) A oes niferoedd sylweddol (neu niferoedd posibl, pe bai’r cyflymder yn is) o gerddwyr a beicwyr yn teithio ar hyd neu ar draws y ffordd? a b) Os mai 'oes' yw'r ateb i hyn, a yw'r cerddwyr a'r beicwyr yn cymysgu â thraffig moduron?
O ran Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig, dywedodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio, y câi arwyddion terfynell eu caniatáu ar ddechrau a diwedd ffordd gyfyngedig; fodd bynnag, ni chaniateid arwyddion ailadroddus o fewn yr un ardal / parth.
At hynny, os cedwir 30mya ar ffyrdd dosbarthu, caiff parthau 30mya gynnwys arwyddion ailadroddus. Byddai hyn yn caniatáu arwyddion 20mya / 30mya ar gyffyrdd oddi ar y ffyrdd dosbarthu, gan gynyddu ymwybyddiaeth gyrwyr a chynyddu diogelwch y ffyrdd yn yr ardal o bosibl, meddai.
Ychwanegodd ymhellach y byddai cyfyngiadau cyflymder dros dro o 20mya y tu allan i ysgolion (ar barthau 30mya) yn cynnwys nodweddion pyrth wedi eu goleuo.
Dywedodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio y byddai’r newidiadau cyn eu gweithredu yn gofyn am gryn dipyn o gymorth gweinyddol o ran gwneud a/neu ddiwygio Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (GRhT), er enghraifft:-
1. Newid GRhT presennol, yn gyfan gwbl neu’n rhannol i statws ‘ffordd gyfyngedig’;
2. Newid parthau 20mya presennol i statws ‘ffordd gyfyngedig’;
3. GRhT newydd ar gyfer eithriadau y cytunwyd arnynt;
4. GRhT newydd ar gyfer lleoliadau cyflymder amrywiol; a
Gan fod hyn yn cynnwys diwedd cyflwyniad y Swyddog, gofynnodd yr Arweinydd i’r Aelodau a oedd ganddynt unrhyw gwestiynau i Bennaeth Gweithrediadau y Gwasanaethau Cymunedol a/neu Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio.
Ymatebwyd i nifer o gwestiynau gan Swyddogion Priffyrdd, a cheir manylion amdanynt yma.
PENDERFYNWYD: Nodi’r adroddiad a’r cyflwyniad cysylltiedig
Dogfennau ategol: