Agenda item

Trefn Profi Tacsis Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu, adroddiad. Diben yr adroddiad oedd rhoi gwybod i Aelodau am gais gan y fasnach dacsis i adolygu’r dull profion tacsis presennol, ac ystyried a hoffen nhw weld Swyddogion yn cyflawni astudiaeth o ddichonoldeb.

 

Nododd mai’r Cyngor oedd yr awdurdod trwyddedu ar gyfer rheoleiddio cerbydau hacni a llogi preifat, a’i brif rôl i’r perwyl hwnnw oedd sicrhau diogelwch aelodau’r cyhoedd sy’n defnyddio tacsis a cherbydau llogi preifat, cyn rhoi trwydded a thrwy gydol cyfnod y drwydded. 

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu bod Adran 47 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 yn llywodraethu’r broses o brofi’r holl gerbydau modur, ac yn ei gwneud hi’n ofynnol i geir a bysus mini fod â Thystysgrif y Weinyddiaeth Drafnidiaeth (MOT). Fodd bynnag, fel cerbydau sy’n cludo teithwyr, mae’r drefn brofi cerbydau presennol yn cynnwys elfennau sy’n berthnasol i dacsis a cherbydau llogi preifat yn benodol. Maent yn seiliedig ar y Safonau Arolygu Cenedlaethol a grëwyd gan y Gymdeithas Trafnidiaeth Gludo. Roedd y safonau hyn ar gael i’w gweld yn Atodiad A ar yr adroddiad, ac roedd copi o’r elfen brofi tacsis ar y drefn brofi i’w weld yn Atodiad B. 

 

Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn defnyddio ei bwerau dan Adran 50 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i’w gwneud hi’n ofynnol i bob cerbyd ddod i orsaf brofi MOT mewnol y Cyngor yng Nghyfleuster Cynnal a Chadw Cerbydau ar y Cyd Ty Thomas, Newlands Avenue, Ystâd Ddiwydiannol Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae trefn gytundebol ar waith i hwyluso’r gofyniad hyn, sy’n dod i ben yn 2024.

 

Eglurodd y gallai’r Cyngor, dan Adran 50, osod hysbysiad i berchennog cerbyd i ddod â’r cerbyd am brawf hyd at dair gwaith yn ystod unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis yn ardal y Cyngor. Mae’r polisi oedran presennol yn nodi bod cerbydau hyd at ddeng mlwydd oed yn cael eu profi ddwywaith y flwyddyn, a cherbydau h?n yn cael eu profi deirgwaith y flwyddyn.

 

Mae’r elfen olaf ar ddiogelwch y cyhoedd wedi’i sicrhau drwy amodau trwydded, sy’n nodi mai perchennog y cerbyd sy’n gyfrifol am gynnal a chadw i safon dderbyniol drwy gydol y drwydded, gydag ymarferion gorfodi’n cael eu cynnal gan swyddogion gorfodaeth trwyddedu.

 

Eglurodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu bod y Cyngor wedi derbyn sylwadau gan y fasnach dacsis, drwy Aelodau lleol, a deiseb yn cynnwys oddeutu 170 o lofnodion, i sicrhau bod tacsis yn gallu cael profion MOT mewn modurdai gwahanol. Nodir y manylion hyn ym mharagraff 4.2 yn yr adroddiad. 

 

Nododd bod ymarfer ymchwil ar y we wedi’i gynnal i bennu sut roedd awdurdodau eraill yng Nghymru’n gweithredu’r drefn brofi tacsis. Roedd y canlyniadau i’w gweld yn Atodiad C yn yr adroddiad, ac roedd amrywiaeth o fodelau ar waith mewn Cynghorau eraill yng Nghymru. 

 

Ychwanegodd y Swyddog mai prif ddyletswydd yr awdurdod trwyddedu o ran cerbydau â thrwyddedau oedd sicrhau bod y fflyd yn ddiogel ac mewn cyflwr addas i gludo aelodau’r cyhoedd.

 

O safbwynt trwyddedu, eglurodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu ei bod hi’n hanfodol, ni waeth pa drefn brofi oedd ar waith, bod y drefn honno’n cydymffurfio ag arfer gorau’r safonau Tacsis Cenedlaethol a’r profion MOT safonol. 

 

Pe byddai Aelodau’n awyddus i Swyddogion ymchwilio i ddulliau amgen o gynnal y drefn profi tacsis, byddai angen astudiaeth o ddichonoldeb gyda rhanddeiliaid perthnasol er mwyn gallu adrodd nôl i’r Pwyllgor gydag opsiynau i’w hystyried. Byddai’r astudiaeth o ddichonoldeb hefyd yn ystyried y trefniadau cytundebol presennol sy’n dod i ben yn 2024.

 

Yn olaf, nododd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu, y byddai’r astudiaeth o ddichonoldeb yn manteisio ar ddulliau sydd ar waith gan Awdurdodau Trwyddedu eraill, ac yn ystyried y pedwar model a restrir ym mharagraff 4.7 o’r adroddiad.

 

Ar ol cryn drafod, cafwyd consensws bod cynnal Astudiaeth o Ddichonoldeb fel y’i nodwyd yn yr adroddiad yn gynnig synhwyrol.

 

Er ei fod yn cefnogi hyn, gofynnodd Aelod a fyddai angen codi tâl am brofion ychwanegol o’r fath wrth ymchwilio i ddarparwyr MOT allanol?

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gweithredol, Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, bod Cyngor Dinas Caerdydd yn cael cefnogaeth yn rhan o’r Gwasanaethau hyn ac yn fanno, gallai gyrrwr gael prawf MOT gyda phrawf tacsi ychwanegol mewn modurdy, er bod amrywiaeth o ran ffioedd. Roedd y rhan fwyaf yn codi tâl ychwanegol yn rhan o’r broses hon.

 

Nododd Aelod pe byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo Astudiaeth o Ddichonoldeb, ni fyddai’n cael ei gyflwyno mewn manylder i Aelodau nes 2023, ac nid oedd y Contract gyda Ty Thomas yn dod i ben tan 2024 yn ôl yr adroddiad. Felly gofynnodd a fyddai cynnal Astudiaeth o Ddichonoldeb ar ôl i’r Contract ddod i ben yn syniad gwell. Fel arall, a fyddem yn ystyried dirwyn i ben y Contract presennol yn fuan fel opsiwn arall pe byddai’r awgrym o yrwyr tacsis yn cael profion MOT allanol yn cael ei gymeradwyo?

 

Nododd y Swyddog Cyfreithiol y byddai angen Astudiaeth o Ddichonoldeb pe byddai Aelodau’n dewis mynd ar ôl hyn, er mwyn ystyried nifer o opsiynau posibl. Hefyd, byddai materion cytundebol penodol yn cael eu hadolygu, ochr yn ochr â hyn. Yna, byddai’r Astudiaeth o Ddichonoldeb yn amodol ar ymgynghoriad am 12 wythnos. Ar y cyfan, byddai hyn yn cymryd llawer o amser beth bynnag. 

 

Cytunodd Aelodau i bleidleisio yn hyn o beth, ac yn dilyn y bleidlais

 

PENDERFYNWYD:                  (1)   Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn cytuno’n unfrydol i roi caniatâd i Swyddogion gynnal astudiaeth o ddichonoldeb ar fodelau amgen o gyflawni ein dyletswyddau statudol o ran profi a thrwyddedu cerbydau hacni a llogi preifat.  

 

                                                  (2)   Bod adroddiad pellach yn dod gerbron y Pwyllgor yn 2023, er mwyn ystyried yr opsiynau sydd ar gael iddynt o ganlyniad i’r uchod.

Dogfennau ategol: