Agenda item

Adfywio Glannau Porthcawl

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad eithriedig, er mwyn hysbysu'r Cabinet am bosibilrwydd caffael buddiannau eiddo teuluol Evans sy'n rhan o Ardal Adfywio Glannau Porthcawl (AAGP) gan Lywodraeth Cymru (LlC) a gofyn am awdurdodiad y Cabinet i amrywio’r Cytundeb Perchennog (CP) presennol, sy'n bodoli rhwng teulu Evans a'r Cyngor,  er mwyn i LlC gaffael tir sy'n eiddo i'r teulu Evans a chymryd eu rôl o fewn y CP pe bai'r partïon yn cytuno ar delerau addas.

 

Cadarnhaodd fod cynnydd sylweddol wedi'i wneud tuag at gyflwyno datblygiad cynhwysfawr ar draws Ardal Adfywio Glannau Porthcawl (AAGP). Fel y manylir yn yr adroddiad, mae'r cynnydd hwn wedi cynnwys gwneud Gorchymyn Prynu Gorfodol (GPG), paratoi Strategaeth Creu Lleoedd, ymgynghori arni a’i chymeradwyo, a chymeradwyo dyraniad o dir at ddibenion cynllunio ym Mharc Griffin a Sandy Bay.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod Swyddogion yn parhau i weithio tuag at sicrhau adfywiad defnydd cymysg ar draws AAGP a bod y cam nesaf o waith yn cynnwys paratoi cynllun seilwaith a dyluniad cysyniad lle agored, a fydd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus y disgwylir iddo gael ei gynnal o fewn chwarter cyntaf 2023.

 

Esboniodd fod y tir sy’n eiddo i deulu Evans, ynghyd â thir yn Sandy Bay sy'n eiddo i'r Cyngor a thir ychwanegol sy'n destun y GPG, yn ffurfio safle datblygu Traeth Coney a Sandy Bay a nodwyd ar gyfer adfywio defnydd cymysg fel rhan o Gynllun Adfywio Glannau Porthcawl, fel yr adlewyrchir trwy ddyraniad cyfredol y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), dyraniad arfaethedig y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) a Strategaeth Creu Lleoedd Porthcawl a fabwysiadwyd. Dangosodd cynllun sydd ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1 faint y priod berchenogaeth tir a oedd yn destun dyraniad y CDLl a’r CDLlN, gan ei fod yn berthnasol i dir ar Draeth Coney a Sandy Bay.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau ymhellach fod y CP presennol rhwng teulu Evans a'r Cyngor yn gyfrwng addas ar gyfer cyfuno buddiannau eiddo pob parti, er mwyn cwblhau gwarediadau ar y cyd sy'n hwyluso cyflwyno datblygiad cynhwysfawr ar draws y lleiniau sy’n eiddo i deulu Evans a'r Cyngor.

 

O ystyried yr uchod ac ystyried gwybodaeth fanwl bellach a geir yn yr adroddiad cynhwysfawr, roedd teulu Evans a'r Cyngor yn cydnabod y gall penderfyniad teulu Evans i werthu ei fuddiannau ymlaen llaw i barti addas ddwyn buddion i’r ddwy ochr. Yn achos teulu Evans, y fantais allweddol fyddai'r gallu i wireddu gwerth ei fuddiant eiddo yn y tymor byr. I'r Cyngor, byddai gwerthiant gan Deulu Evans i drydydd parti addas yn fodd o hwyluso cyflawni’r datblygiad gan barhau i ddiogelu safle'r Cyngor mewn perthynas â derbyniadau yn y dyfodol a'r gallu i gyflawni datblygiad cynhwysfawr ar draws hyd a lled  safle datblygu Traeth Coney a Sandy Bay.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn cyfeirio at wybodaeth ynghylch posibilrwydd Llywodraeth Cymru yn caffael cynigion tir yn CBSPO, gyda ffocws penodol ar dir llwyd lle gallai fod cyfleoedd i hwyluso'r gwaith o ddarparu tai a chynyddu'r gyfran o dai fforddiadwy, sydd wedi'u cynnwys ym Mhorthcawl.

 

Ystyriwyd felly fod hwyluso posibilrwydd caffael LlC drwy ganiatáu i deulu Evans neilltuo ei hawliau a'i rwymedigaethau cytundebol a sicrhawyd ar hyn o bryd trwy'r CP ac yn ei dro werthu ei fuddiannau eiddo, yn gyfle sylweddol i roi mwy o sicrwydd ynghylch darparu'r ffurf gynhwysfawr o ddatblygiad defnydd cymysg a ragwelwyd drwy ddyraniad CDLl y safle, y dyraniad CDLlN a’r fframwaith ar gyfer datblygu a ddisgrifiwyd o fewn Strategaeth Creu Lleoedd Porthcawl.

 

Yna cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau at oblygiadau ariannol yr adroddiad a chynghorodd na fyddai cymeradwyaeth y Cabinet i ganiatáu'r newidiadau angenrheidiol i'r CP er mwyn galluogi caffael tir sy'n eiddo i deulu Evans yn arwain at unrhyw gostau cyfalaf i'r Cyngor, a'r unig gost uniongyrchol ar ffurf unrhyw gostau cyfreithiol sy'n gysylltiedig ag amrywio a gweithredu'r cytundeb amrywiol.  Ariannir y costau hyn gan y gyllideb adfywio bresennol sydd ar waith i dalu cost y gwasanaethau proffesiynol sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r adfywio arfaethedig.

 

Fel yr amlinellir o fewn adrannau blaenorol yr adroddiad hwn byddai unrhyw amrywiad i'r CP i ganiatáu caffael LlC yn cynnwys neilltuo’r holl hawliau a rhwymedigaethau cytundebol, gan gynnwys gofynion isafswm pris, a sicrheir ar hyn o bryd trwy'r CP. Byddai hyn yn sicrhau bod sefyllfa'r Cyngor yn cael ei diogelu ar ôl cwblhau unrhyw werthiant gan deulu Evans i LlC. Pe byddai LlC yn caffael y safle, yna byddai er budd y Cyngor a LlC cydweithio i ffurfio menter ar y cyd newydd sy'n adlewyrchu statws sector cyhoeddus y ddwy ochr a'r amcanion a rennir mewn perthynas â’r math o ddatblygiad a gyflwynir yn y pen draw ar y safle. Byddai manylion pellach, gan gynnwys goblygiadau ariannol unrhyw fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Cyngor, yn cael eu hadrodd i'r Cabinet i'w hystyried maes o law.

 

Cwblhaodd ei chyflwyniad drwy ddweud bod cynnwys 50% o Dai Fforddiadwy ar draws y safle yn debygol o gael goblygiad ariannol ar ffurf llai o werth y safle yn gyffredinol o'i gymharu â chynnwys 30% o Dai Fforddiadwy yn unol â gofynion polisi cyfredol y CDLl a’r CDLlN, fel yr amlinellir ym mharagraff 4.6 o'r adroddiad. Ar wahân i hyn, rhagwelir y byddai unrhyw fenter ar y cyd rhwng y Cyngor a LlC yn diogelu derbyniad materol debyg i'r Cyngor yn unol â darpariaethau’r CP presennol gyda hyn yn cael ei adlewyrchu o fewn yr amcanion a rennir a nodir o fewn adran 4.6 yr adroddiad.  Bydd prif delerau manwl, gan gynnwys disgwyliadau isafswm prisiau i'r Cyngor ar gyfer unrhyw fenter ar y cyd o'r fath, yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet i'w hystyried a'u cymeradwyo maes o law. Mae cytundebau cyfreithiol yn gallu dogfennu disgwyliadau isafswm pris, ond bydd unrhyw dderbyniadau yn y dyfodol yn cael eu pennu gan amodau'r farchnad adeg unrhyw werthiant. Byddai angen cymeradwyaeth y Cabinet i awdurdodi unrhyw werthiant o'r fath yn y dyfodol a byddai union ffigyrau'n cael eu darparu bryd hynny.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn gyffrous iawn o ran cam datblygu nesaf adfywio Porthcawl. Croesawodd y cynnig am dai fforddiadwy a thai cymdeithasol newydd. Roedd yn gobeithio hefyd y gellid edrych ar lety gofal ychwanegol (yn hytrach na gofal preswyl) o ran darpariaeth, yn ogystal â chymorth tai i gyn-filwyr y lluoedd.

 

Pwysleisiodd Aelod Cabinet - Cenedlaethau'r Dyfodol pa mor bwysig yw Porthcawl fel lleoliad twristiaeth a oedd yn gaffaeliad amlwg i'r Cyngor ac ychwanegodd bod lefel yr angen am dai newydd yn yr ardal hon yn uchel iawn.

 

Daeth yr Aelod Cabinet - Adfywio i ben drwy ychwanegu y byddai'r prosiect yn cynnwys 50% o dai fforddiadwy, a oedd yn newyddion cadarnhaol yn ei barn hi, ac yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru o ran cyllid, yn ogystal â'r broses o amddiffyn pobl mewn cyflogaeth.

 

PENDERFYNWYD:                                     Bod y Cabinet:

 

           Yn nodi posibilrwydd i Lywodraeth Cymru gaffael tir sy’n eiddo i deulu Evans

 

           Yn awdurdodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i:

 

(1)        Cytuno ar y gwelliannau angenrheidiol i'r Cytundeb Perchennog sy'n bodoli rhwng teulu Evans a'r Cyngor i alluogi Llywodraeth Cymru i gaffael tir sy'n eiddo i deulu Evans a chymryd ei rôl o fewn y Cytundeb Perchennog, pe bai'r partïon yn cytuno ar delerau addas.

 

(2)        Cytuno ar unrhyw ddogfennau eraill sy'n angenrheidiol i gyflawni'r amcanion fel yr amlinellir yn yr adroddiad

 

·                     Yn awdurdodi’r Prif Swyddog Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol, i ddiwygio'r Cytundeb Perchennog fel y cytunwyd arno a chwblhau'r holl ffurfioldeb cyfreithiol mewn cysylltiad â'r Cytundeb Perchennog ac unrhyw ddogfennau angenrheidiol eraill