Agenda item

Hen Ystâd Ddiwydiannol Ewenny Road: Ailddatblygiad Arfaethedig

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn cysylltiad ag adfywio hen Ystâd Ddiwydiannol Ewenny Road, Maesteg.

 

Ychwanegodd y gofynnir hefyd am gymeradwyaeth gan y Cabinet i ymrwymo i Gytundeb Cydweithio Menter ar y Cyd (JV) gyda'r tirfeddiannwr cyfagos, Pontardawe Coal and Metal Company Limited (PCML), ar sail y prif delerau drafft a amlinellir o fewn Atodiad 2 i'r adroddiad, a fyddai'n caniatáu i'r partïon ddefnyddio'r cyllid grant a sicrhawyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a bwrw ati i adfer, marchnata a gwerthu'r tir.

 

I roi ychydig o gefndir, cynghorodd fodsafle hen Ystâd Ddiwydiannol Ewenny Road yn ddarn o dir gwag 19.71 erw sy'n eiddo’n rhannol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO) ac yn rhannol i PCML. Roedd PCML yn is-gwmni i Clowes Development (UK) Ltd, cwmni buddsoddi a datblygu eiddo sylweddol sy’n eiddo i deulu. Darparwyd cynllun perchnogaeth yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Roedd y cydweithio rhwng y partïon wedi’i hen sefydlu ac yn dyddio'n ôl i 2013. Yn 2013 cyflwynwyd cais cynllunio amlinellol ar gyfer y safle 19.71 erw cyfan gan PCML ac yn dilyn asesiad o'r cais, penderfynodd Pwyllgor Rheoli Datblygu'r Cyngor gymeradwyo'r cais yn amodol ar gwblhau'r rhwymedigaethau cynllunio. Diwygiwyd y cynnig cychwynnol hwn wedyn mewn ymgais i wella hyfywedd y cynllun a phenderfynodd y Pwyllgor Rheoli Datblygu roi caniatâd cynllunio i’r cynllun diwygiedig hwn ym mis Mehefin 2016. Cytunwyd yn flaenorol hefyd ar delerau â PCML ar gyfer gwaredu tir a oedd yn eiddo i CBSPO ac fe’u hawdurdodwyd gan y Cabinet ar 10 Mai 2016.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, er bod diwygiadau 2016 wedi gwella hyfywedd y cynllun o'i gymharu ag iteriad 2013, daeth yn amlwg wedyn fod costau adfer a seilwaith sylweddol sy'n parhau i wneud y cynllun yn anhyfyw o safbwynt masnachol, ac felly mae'r cynllun wedi arafu.

 

Er gwaethaf y materion hyfywedd yngl?n â'r cynllun, roedd ailddatblygu'r safle yn parhau i fod yn flaenoriaeth strategol ac mae Swyddogion wedi parhau i weithio'n agos gyda'r tirfeddianwyr cyfagos i'r perwyl hwn.

 

Yn dilyn cyfnod o werthuso gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) a'i gynghorwyr a benodwyd (CBRE), nododd adroddiad i Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar 15 Mawrth 2021 atodlen ddangosol o safleoedd a oedd ar y rhestr fer o ran cyllid gyda Hen Ystâd Ddiwydiannol Ewenny Road ar y rhestr fer am £3.5 miliwn o gyllid. Ar ôl cyfnod o werthuso pellach a diwydrwydd dyladwy, cymeradwyodd Cabinet CCR £3.5 miliwn o gyllid grant yn ffurfiol ar 29 Tachwedd 2021.  Yn unol â chymeradwyaeth Cabinet CBSPO ar 18 Mai 2021, bu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yn cyd-drafod telerau'r contract ariannu ac yna aeth CBSPO i gontract gyda CCR ar 22 Tachwedd 2022.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau ymhellach, ochr yn ochr â thrafodaethau â CCR yngl?n â'r cyllid, fod gwaith contract wedi symud ymlaen ar uwchgynllun diwygiedig ar gyfer y safle (a ddarperir yn Atodiad 3 i'r adroddiad, yn ogystal â Chytundeb Cydweithio Menter ar y Cyd â PCML).  

 

Yn dilyn penderfyniad Cabinet CCR ar 29 Tachwedd 2021 i gymeradwyo'r £3.5 miliwn o gyllid grant, darparodd CCR gontract cyllid drafft i CBSPO ei ystyried a rhoi sylwadau arno. Yn dilyn cyfnod o ddeialog ar hyn, lluniwyd cytundeb ariannu drafft diwygiedig rhwng y partion ac ers hynny mae wedi'i gwblhau a'i gyflawni. Mae'r contract ariannu hwn yn nodi telerau ac amodau'r cyllid ac yn darparu'r mecanwaith cyfreithiol ffurfiol i CBSPO dynnu arian i lawr, fel y crynhoir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Cynghorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, fel y manylir yn y Prif Delerau drafft, ei fod yn berthnasol i'r Cabinet nodi y byddai'r Cytundeb Cydweithio Menter ar y Cyd yn gontract amodol gyda chyflawni'r gwaith cymorth grant gan PCML (a rhyddhau cyllid at y diben hwnnw gan CBSPO) yn amodol ar fodloni’r darpariaethau a restrir ym mharagraff 4.3 o'r adroddiad.

 

Roedd gweddill yr adroddiad yn amlinellu manylion ynghylch y JVCA gyda PCML; cynigion i ddiwygio'r Uwchgynllun perthnasol a'r camau nesaf, fel y dangosir ym mharagraff 4.11 o'r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:                                    Bod y Cabinet:

 

      Yn nodi’r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn cysylltiad â chynigion adfywio ar gyfer hen Ystâd Ddiwydiannol Ewenny Road;

 

           Yn nodi ymhellach y Prif Delerau drafft a'r awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151 a Phrif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol, i gwblhau'r telerau cytundebol ac i CBSPO wedyn fynd yn ffurfiol i'r Cytundeb Cydweithio Menter ar y Cyd â PCML.