Agenda item

Cynllun Rheoli Cyrchfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2022-2027

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad, er mwyn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i Gynllun Rheoli Cyrchfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, 2022-2027 a chymeradwyo gweithredu'r camau a ddeilliodd o hynny.

 

Eglurodd fod Cynllun Rheoli Cyrchfan (CRhC) yn ddatganiad o'r bwriad i reoli cyrchfan er budd twristiaeth, dros gyfnod penodedig, sy'n nodi'r ffyrdd y gall gwahanol randdeiliaid gydweithio i gael effaith gadarnhaol. Mae'r CRhC newydd yn ddatganiad o fwriad a rennir i reoli Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel cyrchfan lwyddiannus i ymwelwyr rhwng 2022 a 2027.

 

I’r perwyl hwn, bydd CBSPO yn gweithio mewn partneriaeth â Croeso Cymru, endidau rhanbarthol megis Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Pharc Rhanbarthol y Cymoedd, awdurdodau cyfagos, a rhanddeiliaid allweddol megis cynghorau tref a chymuned, darparwyr llety, atyniadau twristaidd, darparwyr gweithgareddau a busnesau lleol eraill sy'n cefnogi'r economi ymwelwyr.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod newid sylweddol wedi digwydd, ers cynhyrchu’r CRhC diwethaf, ar lefelau byd-eang, cenedlaethol a lleol, gyda phandemig Covid-19, ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd a chynnydd mewn costau byw. Cafodd y rhain oll oblygiadau i'r diwydiannau twristiaeth a lletygarwch. Er bod llawer wedi newid, mae llawer o botensial i'r dyfodol hefyd.

 

Mae CBSPO wedi nodi twristiaeth fel rhan o'i economi sylfaenol gydag ymateb adfer sy'n cynnwys ffrydiau ariannu ychwanegol, prosiectau amwynderau cyhoeddus, uwchraddio seilwaith a chymorth i'r sector llety.

 

Roedd Cynllun Rheoli Cyrchfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, 2022-2027, ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad. Os caiff ei fabwysiadu gan y Cabinet, y bwriad oedd gosod y fframwaith ar gyfer cefnogi'r gwaith o gyflawni'r weledigaeth dwristiaeth hyd at 2027.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod camau a geir yn y Cynllun Gweithredu Cyrchfan wedi'u datblygu i gynnig y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau, canolbwyntio ar gyfleoedd strategol allweddol ar gyfer datblygu, gwneud y gorau o gyfleoedd ariannu allanol a, lle bo modd, darparu mewn partneriaeth. Byddai'n canolbwyntio ar y blaenoriaethau a restrir ym mharagraff 4.5 o'r adroddiad.

 

Nodau'r Cynllun Rheoli Cyrchfan oedd:

 

- creu twf economaidd sy'n dwyn buddion i bobl a lleoedd;

- hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol;

- darparu cyfoethogi cymdeithasol a diwylliannol ar gyfer trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd;

- ymgorffori buddion iechyd (er enghraifft trwy hyrwyddo teithio llesol, gweithgaredd corfforol neu les meddyliol sy'n gysylltiedig â chael profiad o’r amgylchedd naturiol.)

 

Bydd cyflawni camau gweithredu mewn perthynas â thwristiaeth yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o ardaloedd a chyfleoedd sy'n cyflwyno'r effaith fwyaf posibl i’r Fwrdeistref Sirol a defnyddio ystod o gyfleoedd ariannu allanol pan fyddant ar gael, a byddai hyn yn golygu gweithio mewn partneriaeth. Byddai hyn, yn ei dro, yn cynorthwyo i gyflawni a gweithredu'r camau a amlinellir yn Atodiad 1 a hyrwyddo BSPO yn llwyddiannus fel cyrchfan gydlynol.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet - Adfywio bwysigrwydd cael Cynllun fel hwn ar waith, er mwyn llywio, hybu ac annog twristiaeth o fewn y Fwrdeistref Sirol.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau fod gan BSPO amgylchedd naturiol gwych, yn enwedig o fewn ardaloedd y tri phrif gwm, Ogwr, Garw a Maesteg. Teimlai y byddai'n fuddiol pe bai dangosyddion perfformiad yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol sy’n dod i’r amlwg, er mwyn sicrhau bod y targedau yr oeddem yn eu gosod ein hunain yn cael eu bodloni o ran twristiaeth.

 

Daeth yr Arweinydd i ben drwy ddweud bod twristiaeth cyn y pandemig yn dod â thros draean biliwn o wariant i economi BSPO ac wedi diogelu dros 4,000 o swyddi, ond yn amlwg cafodd hyn ei daro'n galed wedyn gan y cyfnod clo. Roedd yn falch o ychwanegu bod y diwydiant bellach yn adfywio. Cafodd ei annog yn arbennig gan nifer cynyddol yr ymwelwyr â Pharc Bryngarw lle cafodd y Cyngor arian er mwyn gwella'r cyfleuster hwn. Yn yr un modd, roedd Rest Bay hefyd yn uchel ar restr ymwelwyr, lle cawsom arian Ewropeaidd yn y gorffennol ar gyfer gwelliannau fel y cyfleuster chwaraeon d?r a byddai mwy o arian yn cael ei ymrwymo i Borthcawl fel rhan o'i Raglen Adfywio barhaus, ychwanegodd.

 

PENDERFYNWYD:                                    Bod y Cabinet:

 

(1)      Yn cymeradwyo Cynllun Rheoli Cyrchfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, 2022-2027;

 

(2)        Yn dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau i weithredu'r Cynllun Gweithredu Cyrchfan a gynhwysir o fewn Atodiad 1 yr adroddiad.

Dogfennau ategol: