Agenda item

Parhau'r Gwasanaethau Cymorth Tai ar Coity Road

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid, adroddiad er mwyn ceisio cymeradwyaeth gan y Cabinet i addasu contract presennol yn unol â Rheolau Gweithdrefn Contract y Cyngor, er mwyn caniatáu parhau â gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai ar Coity Road.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth wrth y Cabinet, yn dilyn ymarfer caffael yn 2018, fod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO) gontract ar waith gyda'r Wallich, ar gyfer cyflawni tri phrosiect cymorth cysylltiedig â thai ar Coety Road, Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Dechreuodd y contract rhwng y Cyngor a’r Wallich ar 1 Ebrill 2018 a daeth i ben ar 31 Mawrth 2023. Arferwyd opsiwn i estyn y contract am gyfnod hyd at 24 mis, heb ddewis pellach wedyn i estyn.

 

Ychwanegodd mai gwerth y contract blynyddol presennol oedd £358,170 a bod hwn wedi'i ariannu gan Grant Cymorth Tai CBSPO. Cyfanswm gwerth y contract oedd £1,790,850.

 

Ailadroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth, gyda'r contract presennol ar waith gyda'r Wallich i ddod i ben ar 31 Mawrth 2023, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Contract CBSPO, fod angen ymarfer caffael i sicrhau y darperir gwasanaeth yn barhaus.

 

Ar 1 Rhagfyr 2022 daeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym a bydd adroddiad i'r Cabinet yn y dyfodol yn amlinellu goblygiadau ehangach y Ddeddf, ond mae'n amlwg y bydd goblygiadau i ddarparwyr llety dros dro a llety â chymorth. Eglurwyd rhai o'r rhain yn yr adroddiad.

 

Cynigiwyd gohirio’r broses gaffael a fydd yn ofynnol i sicrhau darpariaeth barhaus ac estyn y contract presennol sydd ar waith gyda'r Wallich, tra bod goblygiadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn cael eu deall yn llawn.

 

Y pryder a achoswyd drwy broses gaffael yn dechrau nawr, er mwyn sicrhau contract newydd erbyn 1 Ebrill 2023, oedd y gallai'r manylion a nodir mewn Manyleb Gwasanaeth ar hyn o bryd ddyddio’n gyflym iawn yn sgil newidiadau posib Llywodraeth. Yn ogystal, esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth y byddai mwy o ddiddordeb yn debygol mewn proses dendro gan ddarpar ddarparwyr pan fyddai goblygiadau'r Ddeddf yn cael eu deall yn llawn. 

 

Cwblhaodd yr adroddiad drwy gynghori, os bydd y Cabinet yn cymeradwyo'r cynnig i addasu’r contract presennol, y bydd proses gaffael yn cael ei chynnal yn unol â Rheolau Gweithdrefn Contract CBSPO, er mwyn sicrhau contract newydd gyda dyddiad cychwyn o 1 Hydref 2023. Er mwyn caniatáu ymarfer caffael llawn gan gynnwys gweithredu contract newydd ac ystyried TUPE, byddai'r broses yn dechrau tua mis Mawrth 2023.

 

O ran goblygiadau ariannol yr adroddiad, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth fod cost addasu'r contract a fanylwyd ym mharagraff 4.9 yr adroddiad, o fewn 10% o werth y contract cyffredinol presennol. Byddai cost yr addasiad yn cael ei ariannu gan Grant Cymorth Tai CBSPO.

 

Pwysleisiodd Aelod Cabinet - Cenedlaethau'r Dyfodol mor bwysig oedd bod CBSPO yn deall sut y bydd y Ddeddf yn newid y systemau presennol sydd ar waith a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar y sector, gan fod pwysau digynsail gydag achosion o bobl ddigartref. Gobeithiai y byddai gennym broses gaffael mewn pryd, sy'n sicrhau y cawn y gwerth gorau am arian o ran cymorth a gwasanaeth cyfartal i'r un sy'n cefnogi trigolion ar hyn o bryd. Canmolodd hefyd waith y Wallich yn cefnogi'r digartref.

 

Gofynnodd yr Arweinydd a allai'r Cyngor ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd sydd hefyd yn gyfrifol am Dai, er mwyn annog Llywodraeth Cymru i wneud unrhyw newidiadau polisi o'r fath cyn gynted â phosibl, er mwyn i ni allu symud ymlaen i gomisiynu'r gwasanaeth yn y dyfodol agos.

 

Awgrymodd hefyd y dylid briffio'r tri Aelod Ward lleol newydd ar y mater hwn, er mwyn iddynt allu deall y gwasanaethau sy'n cael eu darparu'n lleol, yn ogystal â bod yn ymwybodol o'r mecanweithiau cymorth sydd ar waith.

 

PENDERFYNWYD:                         Bod y Cabinet yn cymeradwyo addasiad ar ffurf 6 mis o estyniad o’r Contract sydd gan CBSPO ar waith gyda'r Wallich ar gyfer darparu Gwasanaethau Cymorth Cysylltiedig â Thai ar Coity Road.   

Dogfennau ategol: