Agenda item

Pen-y-bont ar Ogwr 2030 - Strategaeth Carbon Sero Net

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad i ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu Strategaeth Carbon Sero Net Pen-y-bont ar Ogwr 2030 yn ffurfiol.  Mae'r adroddiad yn argymell y dylid mabwysiadu'r strategaeth a gweithredu’r cynlluniau gweithredu y manylir arnynt ynddi, fel y gall Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ennill statws sero net erbyn 2030.

 

O ran cefndir, dywedodd yr adroddiad fod Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (IPCC) wedi llunio adroddiad ar gyflwr cynhesu byd-eang ym mis Hydref 2018. Nododd yr adroddiad y bydd cynhesu tymheredd byd-eang parhaus yn cynyddu tebygolrwydd llifogydd, sychder a gwres eithafol yn sylweddol, ac felly eu heffaith ganlyniadol.

 

Yna, datganodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd ym mis Ebrill 2019 ac yn dilyn hyn, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ymrwymo i sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.

 

Bu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yn atgoffa’r Cabinet fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO) ym mis Mehefin 2020 wedi cymeradwyo adroddiad a oedd yn gosod y rhannau hollbwysig y mae’n rhaid i CBSPO eu chwarae drwy reoli ei adnoddau a'i asedau ei hun, ynghyd â'r ffordd y mae’n gweithio gyda thrigolion, sefydliadau a busnesau lleol ac yn eu cefnogi i ymateb i'r heriau a nodwyd yn adroddiad IPCC.

 

Uchelgais a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yw targed i Awdurdodau Lleol Cymru fod yn garbon sero-net erbyn 2030. Mewn ymateb, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) gydag Arweinwyr llywodraeth leol wedi sefydlu Panel Strategaeth Datgarboneiddio, gyda chefnogaeth y 22 awdurdod lleol i gyd, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Phrifysgol Caerdydd.

 

Ar ôl penodi'r Ymddiriedolaeth Garbon i weithio gyda CBSPO ar ddatblygu Strategaeth Carbon Sero Net Pen-y-bont ar Ogwr 2030, roedd Swyddogion wedi cynnal nifer o weithgareddau rhagweithiol a rhestrwyd y rhain ym mharagraff 3.8 o'r adroddiad.

 

Atodwyd fersiwn derfynol Strategaeth Carbon Sero Net Pen-y-bont ar Ogwr 2030 yn Atodiad 1 i'r adroddiad. Datblygwyd hyn yn dilyn adolygiad manwl o ddata yn unol â Chanllaw Adrodd Carbon Sero Net Sector Cyhoeddus Cymru a thrwy ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Yn bwysig, nid y Strategaeth fydd yr unig sbardun ar gyfer sero-net, gan y byddai'n rhan o Gynllun Corfforaethol y Cyngor, tra bydd angen i bolisïau, strategaethau a chynlluniau parhaus i gyd adlewyrchu'r ymrwymiad i sero net. Bydd hyn yn sicrhau y caiff ei gofleidio'n llawn ar draws y sefydliad.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Carbon Sero Net 2030 yn cael ei gynnal dros gyfnod o ddeuddeg wythnos rhwng 8 Mehefin a 30 Awst 2022. Cafodd yr ymgynghoriad 360 o ymatebion i’r arolwg ar-lein, a chwblhawyd 35 achos arall o ymgysylltu wyneb yn wyneb. Cafodd yr adroddiad ymgynghori ei gynnwys yn Atodiad 2 i'r adroddiad.

 

Roedd dadansoddiad o’r ymatebion a gafwyd yn dangos bod mwyafrif yr ymatebwyr yn cefnogi Strategaeth Carbon Sero Net ddrafft Pen-y-bont ar Ogwr 2030 a'r blaenoriaethau ynddi.

 

Yr Arweinwyr Carbon ar gyfer bwrw ati i gyflwyno Strategaeth Carbon Sero Net Pen-y-bont ar Ogwr 2030 oedd:

 

o          Rheoli Carbon – Rheolwr Gr?p - Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd

o          Gwastraff – Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol

o          Trafnidiaeth – Rheolwr Gr?p - Priffyrdd a Mannau Gwyrdd

o          Adeiladau – Rheolwr Gr?p - Landlord Corfforaethol

o          Defnydd Tir – Rheolwr Ymateb Newid Hinsawdd

o          Caffael – Rheolwr Caffael Corfforaethol

 

Cwblhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yr adroddiad drwy amlygu rhai o oblygiadau ariannol y Strategaeth yr ymhelaethwyd arnynt ym mharagraff 8 yr adroddiad, a oedd yn arwyddocaol.

 

Dywedodd yr Arweinydd mai hon oedd un o'r Strategaethau pwysicaf yr oedd gofyn i'r Cyngor ei gweithredu, er mwyn cyflawni o ran yr Argyfwng Hinsawdd.

 

Nododd yr Aelod Cabinet - Cymunedau fod paragraff 4.5 o'r adroddiad yn rhestru'r Swyddogion yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau yr oedd gofyn iddynt arwain ar wahanol agweddau'r Strategaeth; fodd bynnag, ychwanegodd y dylai hefyd fod Swyddog Arweiniol ar gyfer yr Agenda Newid Hinsawdd ym mhob un o'r Cyfarwyddiaethau eraill, gan fod angen cael dull Cyngor cyfan o gyflawni hyn fel Blaenoriaeth Gorfforaethol 'Un Cyngor'. Ychwanegodd fod ganddo rai pryderon am gost y prosiect a'i fod yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu cynorthwyo awdurdodau lleol yn ariannol, er mwyn cyflawni'r Strategaeth yn llwyddiannus yn ei chyfanrwydd.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet - Addysg a ellid ystyried cael paragraff safonol yn nhempled yr adroddiad ar gyfer holl adroddiadau'r Pwyllgor, gan amlinellu sut yr oedd adroddiadau o'r fath yn effeithio (os o gwbl) ar yr Agenda Lleihau Carbon.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y gellid edrych ar hyn ar y cyd ag adolygiad templed adroddiad y Pwyllgor a oedd ar y gweill ar hyn o bryd. Y gobaith oedd cyflwyno adroddiad i'r Cyngor ym mis Chwefror, yn amlinellu rhai addasiadau i'r templed adroddiad.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd a allai'r adolygiad hefyd gynnwys cael Crynodeb Gweithredol fel paragraff mewn adroddiadau hirach a mwy cymhleth a manwl, ac atebodd y Swyddog Monitro y gellid edrych ar hyn hefyd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Adnoddau yn olaf ei fod yn falch o gadarnhau y cadarnhawyd, yn setliad Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw, fod bwriad i gyfran sylweddol o wariant cyfalaf gael ei hymrwymo i Leihau Carbon ar draws awdurdodau lleol Cymru.

 

PENDERFYNWYD:                    Bod y Cabinet yn mabwysiadu’n ffurfiol Strategaeth Carbon Sero Net Pen-y-bont ar Ogwr 2030

Dogfennau ategol: