Agenda item

Diwygio’r Rheolau Gweithdrefn Contract

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol adroddiad er mwyn:

 

           ceisio cymeradwyaeth gan y Cabinet i ddiwygio'r trothwy ariannol is ar gyfer cael tri dyfynbris ar gyfer gwaith, nwyddau a gwasanaethau rhwng £5,000 a £10,000 o fewn y Rheolau Gweithdrefn Contract i ddod i rym o 1 Ionawr 2023;

 

           argymell i'r Cyngor welliant i'r Cyfansoddiad i ymgorffori'r diwygiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Contract.

 

Trwy gyfrwng gwybodaeth gefndir, cadarnhaodd fod gofyn i'r Cyngor sicrhau bod y Rheolau Gweithdrefn Contract, sy'n rhan o Gyfansoddiad y Cyngor, yn adlewyrchu pwysau presennol y farchnad ac yn addas at ddiben.

 

Mae’r Rheolau Gweithdrefn Contract hefyd yn cynnwys y rheolau a'r canllawiau ar gyfer caffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Eu bwriad yw sicrhau y cydymffurfir â chyfraith y DU, sicrhau bod arferion gorau'n cael eu dilyn a bod gwerth gorau’n cael ei gyflawni wrth ddefnyddio arian cyhoeddus.

 

Gan droi at y sefyllfa bresennol, dywedodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol fod yn rhaid i wasanaeth gael tri dyfynbris er mwyn caffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith dros £5,000. Bu hyn yn anhydrin oherwydd nifer y dyfynbrisiau ar draws y Cyngor, gan arwain at oedi cyn darparu gwasanaethau. Roedd nifer o resymau dros hyn a gafodd eu hamlinellu yn yr adroddiad, ac ymhelaethodd arnynt.

 

Esboniodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol fod ymarfer meincnodi wedi dangos bod cynnydd i £10,000 ar gyfer cael tri dyfynbris yn unol â chynghorau cyfagos a chynigiwyd bod CBSPO yn dilyn yr un trywydd â hyn.

 

 Cyfeiriodd y Cabinet at gopi o'r diwygiadau arfaethedig i’r Rheolau Gweithdrefn Contract i'r perwyl hwn, a ddangosir drwy newidiadau wedi'u tracio yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet - Adnoddau yr adroddiad a fyddai'n gwneud CBSPO yn unol ag awdurdodau cyfagos eraill o ran y cynnydd yn y trothwy ac sy'n ein galluogi i wynebu pwysau chwyddiant yn well.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am sicrwydd y byddai trywydd archwilio o hyd mewn perthynas â phenderfyniadau caffael a fyddai'n cael eu gwneud, er gwaethaf y newid arfaethedig i’r Rheolau Gweithdrefn Contract.

 

Bu’r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol yn tawelu meddyliau’r Aelodau fod proses i'w dilyn o hyd, h.y. cael tri dyfynbris, a fydd yn cael ei threfnu gan y Tîm Cymorth Busnes a'i chymeradwyo gan Reolwyr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, dywedodd y byddai adroddiad cynnydd ar y Rheolau Gweithdrefn Contract yn cael ei gyflwyno yn ôl i'r Cabinet ymhen 6 mis.

 

Cadarnhaodd hefyd yn olaf fod ambell awdurdod cyfagos a oedd yn cael tri dyfynbris ar gyfer gwaith yr amcangyfrifir ei fod yn £15,000 a hyd yn oed yn fwy na hynny.

 

PENDERFYNWYD:                                   Bod y Cabinet:

 

(i)            Yn cymeradwyo'r newid i'r trothwy ariannol is o £5,000 i £10,000 ar gyfer cael tri dyfynbris o fewn y Rheolau Gweithdrefn Contract fel y dangosir yn Atodiad 1 i'r adroddiad, i ddod i rym o 1 Ionawr 2023;

 

           Yn argymell i'r Cyngor welliant i'r Cyfansoddiad i ymgorffori'r diwygiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Contract.   

Dogfennau ategol: