Agenda item

Dyletswydd, Asesiad a Chynllun Gweithredu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae i Sicrhau Cyfleoedd Digonol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

 

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet Llesiant a Chendlaethau’r Dyfodol

Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet Cymunedau

Cynghorydd Jon-Paul Blundell - Aelod Cabinet Addysg

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

 

Andrew Thomas - Atal a Lles – Rheolwr Gr?p

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yr Adroddiad ac eglurodd bod yr hawl i chwarae yn hawl canolog i blant Cymru, nid i’r plant lleiaf yn unig ond drwodd hyd at 25 mlwydd oed. Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu effaith pandemig COVID-19 a’r cyfnodau clo estynedig ar blant a phobl ifanc. Eglurodd, yn ogystal â deall yr asesiad, ei bod hefyd yn bwysig nodi'r cynllun gweithredu a oedd ynghlwm a dull y Cyngor cyfan a phartneriaeth, oedd ei angen i gyflawni'r cynllun gweithredu hwnnw. 

 

Rhoddodd Rheolwr y Gr?p ar gyfer Atal a Lles gyflwyniad ar yr asesiad drafft, gan egluro bod y drafft wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru fel yr oedd angen ym mis Mehefin, a bod y broses yn parhau drwy’r pwyllgor craffu ac yn y pen draw i’r Cabinet i’w gymeradwyo. Cylch tair blynedd oedd hwn ond roedd cynllunio gweithredu blynyddol hefyd a chyfle i ymgysylltu ar y materion amrywiol drwy gydol y flwyddyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr y Gr?p Atal a Lles am y cyflwyniad a thrafododd yr Aelodau’r canlynol:

 

Cyfeiriodd Aelod at yr ymadrodd “Un Cyngor” a gofynnodd sut roedd hyn yn gweithio mewn perthynas â'r adroddiad hwn.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p ar gyfer Atal a Lles fod yna Ganllawiau Cenedlaethol ar sut y dylai hyn weithio, gydag arweinyddiaeth strategol drwy Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol, Cyfarwyddwr Corfforaethol arweiniol a chefnogaeth gan Gyfarwyddiaethau y Cymunedau ac Addysg. Roedd y materion yn croesi drosodd a dylai'r holl bartneriaid perthnasol fod yn meddwl y tu hwnt i'w maes gwaith penodol hwy eu hunain a sut yr oedd yn rhyngweithio a'r effaith o ran y Cyngor yn ehangach. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod hyn yn cael ei ddangos gan nifer Aelodau’r Cabinet, Cyfarwyddwyr Corfforaethol a Chynrychiolwyr oedd yn bresennol yn y cyfarfod a bod y partneriaid allweddol, Halo, Awen, BAVO ac ysgolion, i gyd yn allweddol i'r ddarpariaeth, yn unigol ac ar y cyd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am i ddolen gyswllt  i'r Canllawiau Cenedlaethol gael ei chylchredeg i Aelodau’r Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd Aelod at 4.3c yn yr adroddiad: “I roi sylw i blant a phobl ifanc ag anghenion amrywiol, gan gynnwys y rhai sy’n byw gydag anableddau neu anghenion ychwanegol” a gofynnodd a oedd yr Awdurdod wedi bod yn ymgynghori â phobl anabl, plant, rhieni a gofalwyr ac wedi eu cynnwys yn y cynlluniau ar gyfer gwella.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p ar gyfer Atal a Lles fod ganddo ef blant ag anableddau a’i fod tan yn ddiweddar wedi bod yn Aelod o Fwrdd Anableddau Cymru, oedd yn rhedeg rhaglenni pwrpasol a bod adborth o ddiwrnodau darganfod wedi dylanwadu ar y gweithgareddau a’r cyfleoedd. Fe wnaethant gynnal arolwg ymhlith tua 300 o bobl ifanc ag anghenion ychwanegol fel rhan o arolwg mwy oedd wedi darparu data penodol. Roeddent wedi ceisio dal lleisiau pobl ifanc ag anableddau, heb i bobl siarad ar eu rhan.

 

Esboniodd yr Aelod fod ei gwestiwn ef yn ymwneud yn bennaf â meysydd chwarae yn cael cyfarpar hygyrch i blant mewn cadeiriau olwyn ac nad oedd un darn o offer maes chwarae oedd yn hygyrch i gadeiriau olwyn yn Wardiau Canolog Pen-y-bont ar Ogwr, oedd yn golygu bod y rhan hon o Ben-y-bont ar Ogwr heb unrhyw offer hygyrch i gadeiriau olwyn.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p ar gyfer Atal a Lles mai un o'r heriau oedd wrth edrych ar y darlun ehangach, bod ychydig dros 40 o blant yn mynychu Heronsbridge mewn cadeiriau olwyn a bod gan yr ysgol honno siglen a chylchfan hygyrch i gadeiriau olwyn. Roedd ugain o blant ar draws y cynradd a'r uwchradd ond nid oedd yn gwybod pa nifer a allai drosglwyddo o'r gadair olwyn i'r offer. Roedd defnyddwyr cadeiriau olwyn yn cyfrif am un rhan, roedd yna hefyd 600 o bobl ifanc ag awtistiaeth a 700 gyda phroblemau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol a’r rheiny â namau synhwyraidd.

 

Atebodd Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol fod yn rhaid iddynt nid yn unig fod yn Un Cyngor, ond hefyd yn Un Fwrdeistref Sirol. Croesawai gyfranogiad yr holl Aelodau gan fod hon yn ddarpariaeth gynyddol ond roedd hefyd yn cydnabod y swm enfawr o ymgynghori oedd wedi cael ei gynnal eisoes.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Cymunedau mai'r bwriad oedd y byddai gan bob Ward o leiaf un maes gydag offer chwarae hygyrch ar draws y Fwrdeistref.

 

Cyfeiriodd Aelod at y goblygiadau ariannol yn yr adroddiad eglurhaol gan fod hwn yn ddarn o waith pellgyrhaeddol, cynhwysfawr a'i bod yn annerbyniol darllen bod y goblygiadau ariannol yn ansicr a gofynnodd am esboniad pellach.

 

Atebodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y bu buddsoddiad sylweddol mewn meysydd chwarae eisoes fel rhan o'r gyllideb ar gyfer eleni. Câi’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf ei gosod gan y Cyngor yn y flwyddyn newydd unwaith y byddai’r setliad wedi cael ei dderbyn a byddai angen i’r blaenoriaethau yn y cynllun hwn ynghyd â’r holl flaenoriaethau eraill ar draws y Cyngor fod wedi cael eu costio’n briodol a’u hystyried fel rhan o’r broses honno o osod y gyllideb. Byddai angen i waith y Gr?p Arweinyddiaeth Strategol fynd i mewn i fanylion goblygiadau cyllidebol yr holl elfennau, ond roedd yn ddarlun symudol oherwydd bod yr arian yn dod drwodd mewn amrywiol ffyrdd.

 

Cyfeiriodd Aelod at sylw Aelod y Cabinet y dylid edrych arno fel un Fwrdeistref Sirol yn hytrach nag ardaloedd unigol a thynnodd sylw at y datganiad a wnaed gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol y dylai pobl gael mynediad at fannau gwyrdd o fewn 20 munud o gerdded o’u t?. Dywedodd os oeddent am greu amgylchedd carbon isel yna na allent ddisgwyl i'r rheiny ag anghenion ychwanegol deithio'n bell, ac felly bod yn rhaid iddynt weithredu fel Cynghorwyr Wardiau ac ymgyrchu dros faterion lleol.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p ar gyfer Atal a Lles y bu ansicrwydd erioed yn y maes hwn ond y bu buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau chwarae yn ddiweddar. Roeddent yn edrych ar sut i gyfuno adnoddau i gael y gwerth gorau ohonynt ac ar ffyrdd o ddod â phartneriaid i mewn. Roeddent wedi costio'r cynllun yn wreiddiol ond roedd ychydig o ansicrwydd yngl?n â pheth o'r cyllid.

 

Eglurodd Aelod y Cabinet dros y Cymunedau nad â chyfleusterau chwarae yn unig yr oedd hyn yn ymwneud ac, o ran mannau gwyrdd, bod yn rhaid iddynt sicrhau bod y rhain yn gwbl hygyrch. Byddai hyn yn cymryd llai o adnoddau ac roedd yn cael ei anwybyddu’n aml.

 

Cyfeiriodd Aelod at flynyddoedd 2016 a 2019 ar dudalen 30 o’r adroddiad a gofynnodd a oedd y ffigurau hyn 3 blynedd allan o ddyddiad. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y ffigurau ar gyfer y cyfnod presennol a bod angen diweddaru'r dyddiadau.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr asesiad o’r boblogaeth oedd yn seiliedig ar ddata yn 2019 a gofynnodd a oedd y data a ddisgwylid yn gynnar yn haf 2022 wedi dod i law? Atebodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles nad oeddent wedi diweddaru’r holl asesiadau o anghenion â’r data newydd ond ei bod yn ddogfen fyw, bod yr asesiad yn cael ei gynnal ar un pwynt mewn amser ac y byddai ymgysylltu’n parhau gan arwain at newidiadau yn y blaenoriaethau yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth newydd.

 

Gofynnodd Aelod ai’r pandemig oedd yn gyfrifol am y ffaith fod nifer o’r dangosyddion wedi newid o wyrdd i ambr. Eglurodd Rheolwr y Gr?p ar gyfer Atal a Lles fod hwn yn gyfrannwr mawr. Roeddent wedi cynnal arolwg o 4,300 o bobl ac roedd yr effaith negyddol yn bennaf o ganlyniad i newidiadau yn eu ffordd o fyw megis lefelau is o weithgarwch. Ychwanegodd fod yna bethau cyffredin ar draws y setiau data.

 

Ychwanegodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol nad Covid yn unig oedd yn effeithio ar gyflawni neu ymgysylltu, roedd yna hefyd lu o bethau newydd fel yr effaith ar iechyd meddwl a ffordd o fyw, a byddai gweithio gyda chymunedau i ailadeiladu hynny yn allweddol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

 

Gofynnodd y Cadeirydd pa gamau oedd yn cael eu cymryd i gynyddu cyfranogiad. Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod yr Haf o Hwyl yn fenter fawr ledled Cymru. Roedd y tîm yn gweithio gyda phartneriaid o amgylch y rhai mwyaf agored i niwed ar brosiectau fel y Ganolfan i Rai Agored i Niwed a Diwrnodau Darganfod gan ganolbwyntio ar y plant yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig. Cafwyd problemau hefyd o ran sicrhau gweithlu i ddarparu'r rhaglenni haf. Roedd amrywiaeth o becynnau pwrpasol yn datblygu, yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y byddai plentyn, heb les da, yn llai tueddol o gymryd rhan mewn chwarae, chwaraeon, y celfyddydau neu beth bynnag.

 

Dywedodd Aelod mai dim ond 5 Cyngor Tref a Chymuned oedd wedi ymateb ac mai’r dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd Mai 2022 sef mis yr etholiad. Os oedd ymatebion i’w derbyn erbyn dyddiad cau, yna dylai Swyddogion fod yn ymwybodol o amseriad y dyddiadau cau ar gyfer ymatebion.

 

Cyfeiriodd Aelod at gael gwared ar arwyddion ‘dim gemau pêl’ i annog mwy o blant i chwarae yn y gymuned. Eglurodd fod un o Landlordiaid Cymdeithasol yr ardal wedi ysgrifennu llythyrau at drigolion yn dweud wrthynt y byddent yn torri eu cytundebau tenantiaeth pe byddent yn caniatáu i'w plant chwarae yn y stryd. Roedd trigolion wedi codi hyn, roedd cyfarfod cyhoeddus wedi'i gynnal lle derbyniwyd nad oedd ganddynt hawl i wneud hynny. Yn y cyfarfod hwn esboniodd trigolion eu bod wedi bod yn disgwyl bron i 5 mlynedd i barc chwarae gael ei ariannu o dan arian Adran 106, oedd eisoes wedi cael ei drosglwyddo i CBS Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd Aelod Ward wedi bod yn gweithio i ddatrys y mater hwn ac wedi cael gwybod y gallai fod taliad uniongyrchol i'r Cyngor Cymuned i osod y parc, ond wedi derbyn cyngor gwahanol yn ddiweddarach. Gofynnodd sut y gallent ddylanwadu ar ymddygiad anfuddiol gan y Cymdeithasau Tai a hefyd yng ngoleuni’r sgwrs am Un Cyngor, sut y gallent gydweithio i osod y parc.

 

Eglurodd Aelod y Cabinet dros y Cymunedau ei fod wedi cyfarfod â Swyddogion yn ddiweddar a bod y maes chwarae hwnnw allan i dendr ar gyfer dylunio ac adeiladu. Dywedodd Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol fod hyn yn ymwneud â sut yr oedd y Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn cael eu dwyn i gyfrif fel sefydliadau yr oedd yn rhaid iddynt weithio gyda hwy, a chytunodd i godi’r mater gyda’r LCC ar y cyfle nesaf.

 

Cyfeiriodd Aelod at ddarparu mannau agored a gofynnodd a oedd dau faes chwarae yn cynnig darpariaeth ddigonol ar gyfer 5.5 mil o drigolion yn Ward Hengastell. Atebodd Aelod y Cabinet dros y Cymunedau, fel yn y CDLl diwygiedig, fod yr Archwiliad Chwarae a Gofod Awyr Agored yn nodi bod gan lawer o Wardiau ddiffyg darpariaeth chwarae, a bod ymrwymiad i adnewyddu'r mannau presennol cyn creu rhai newydd.

 

Cyfeiriodd Aelod at faw c?n a digwyddiadau diweddar yn ei Ward ac awgrymodd y gallai arwyddion yn nodi mannau chwarae annog perchnogion c?n cyfrifol i gadw eu hanifeiliaid anwes i ffwrdd o'r mannau hynny gan eu gwneud yn fwy diogel i blant chwarae ynddynt. Cytunodd a chadarnhaodd Aelod y Cabinet dros y Cymunedau fod adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn fuan ynghylch Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus fyddai'n ei gwneud yn bosibl mynd i'r afael â'r mater hwn.

 

Gofynnodd Aelod a oedd modd cynnig rhai camau cadarnhaol mewn perthynas ag C14 i’w dynnu allan o goch ac yn syth i wyrdd, yn hytrach na’r posibilrwydd o ailedrych arno. Atebodd Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol fod llawer o faterion yn cael eu codi mewn perthynas â chodi tai i safon ond byddai’n codi hyn gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac yn parhau i’w godi wrth symud ymlaen.

 

Cyfeiriodd Aelod at gost cyfleusterau ysgol ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad. Yn CCYD roedd 3 maes pob tywydd. Yn ddiweddar roedd gemau llawr gwlad wedi cael eu trefnu ond bu'n rhaid eu gohirio oherwydd bod y cae yn ddirlawn, ond nid oeddent yn gallu defnyddio'r caeau pob tywydd oherwydd ei fod yn rhy gostus, neu roedd canfyddiad y byddai'n rhy gostus. Roedd enghraifft debyg yng Nghoety gydag ystafell gymunedol, nad oedd yn cael ei defnyddio’n aml gan y gymuned oherwydd cost ei defnyddio. Gofynnodd pam na allai'r cyfleusterau hyn fod ar gael yn haws. Atebodd Aelod y Cabinet dros Addysg fod y lleiniau hyn ar gyfer defnydd cymunedol. Câi’r ffioedd eu pennu gan Benaethiaid a Chyrff Llywodraethol. Roedd yna ganllawiau ar beth oedd defnydd cymunedol ac roedd yn hapus i gydweithio ag ysgolion ar y mater hwn. Roedd hefyd yn dibynnu ar yr hyn yr oedd y clybiau yn fodlon ac yn gallu fforddio ei dalu. Roedd ysgolion wrth galon y gymuned a dylent fod at ddefnydd y gymuned a dylai'r pris adlewyrchu hynny tra hefyd yn ystyried adennill costau. Cytunodd Aelod y Cabinet dros Addysg i siarad â'r Aelod yn dilyn y cyfarfod i drafod y mater ymhellach.

 

Gofynnodd Aelod a oedd mecanwaith ar gyfer medru defnyddio cyfleusterau ar fyr rybudd. Atebodd Rheolwr y Gr?p ar gyfer Atal a Lles fod cyfuniad o drefniadau yn eu lle. Roedd galw mawr am y cyfleusterau hyn ac roedd cost eu gweithredu yn uchel.

 

Gofynnodd Aelod am bwynt F8 ar dudalen 72 yr adroddiad, “Mae gan yr Awdurdod Lleol ffordd hygyrch ac adnabyddus o drefnu cau ffyrdd dros dro, er mwyn galluogi mwy o blant i chwarae y tu allan i’w cartrefi”. Dywedodd nad oedd y broses yn hysbys iawn a gofynnodd am ragor o wybodaeth. Cytunai Rheolwr y Gr?p ar gyfer Atal a Lles nad oedd yn adnabyddus iawn ac na ddylai fod yn ambr. Bu’r Aelodau yn trafod cost cau ffordd a gwirfoddolwyr i gefnogi'r cynllun a chytunodd Rheolwr y Gr?p ar gyfer Atal a Lles i edrych ar y mater hwn eto.

 

Teimlai Aelod fod diffyg cyfle i gael sgwrs agored uchelgeisiol rhwng y Cyngor Tref a Chymuned a'r Cyngor. Roedd Rheolwr y Gr?p ar gyfer Atal a Lles, y broses CAT a Chytundebau Adran 106 mewn gwahanol feysydd, ac felly nid oedd pethau’n gydgysylltiedig ac nid oedd yn bartneriaeth iawn. Atebodd Aelod y Cabinet dros y Cymunedau fod angen iddynt wneud yn well o ran gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned ac y dylent weithio ar y maes hwnnw.  

 

Gofynnodd Aelod sut y trefnwyd yr arolwg ar gyfer grwpiau oedran 0-3 oed a gynhaliwyd gydag ysgolion partner. Ychwanegodd y byddai mwy o ymgysylltu ar gyfer gweithgareddau i blant 0-3 oed yn ddefnyddiol. Cytunodd Rheolwr y Gr?p ar gyfer Atal a Lles i rannu'r wybodaeth oedd ganddo.

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau pellach ar gyfer y gwahoddedigion a diolchodd iddynt am eu presenoldeb a gadawsant y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gyda Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:

 

1.    Wrth geisio barn Cynghorau Tref a Chymuned, dylai Swyddogion fod yn ymwybodol o amseriad dyddiadau cau ymateb i arolygon, a cheisio osgoi amseroedd traddodiadol brysur i Gynghorau, megis dechrau mis Mai, er mwyn sicrhau cymaint o ymgysylltu â phosibl. (CM/AT)

 

2.    Dylid ystyried a ddylai fod mecanwaith yn ei le i alluogi clybiau/mudiadau i ddefnyddio cyfleusterau cymunedol, megis meysydd chwaraeon, y tu allan i oriau arferol, pe bai'r tywydd yn eu hatal rhag defnyddio eu cyfleusterau arferol. (CM/AT)

 

3. Ystyried sut y gellid cryfhau’r bartneriaeth rhwng y Cynghorau Tref a Chymuned a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn

    sicrhau mwy o gydlyniant a pherthynas lai trafodaethol. (CM/AT)

 

4.    Bod swyddogion yn myfyrio ar ba mor adnabyddus yw'r weithdrefn ar gyfer cau ffyrdd dros dro ac ystyried beth yw’r ffordd orau o hyrwyddo'r weithdrefn. (CM/AT).

 

5.    Dylid ystyried ailedrych ar amcan codi arwyddion megis Arwyddion Blaenoriaeth Chwarae ac archwilio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig y posibilrwydd o gael gwared ar yr arwyddion Dim Gemau Pêl presennol lle bo'n briodol, er mwyn annog mwy o blant i chwarae y tu allan i'w cartrefi. (CM/AT)

 

Gwybodaeth ychwanegol:

 

Gwnaeth y Pwyllgor gais am:

 

6.    Y Canllawiau Cenedlaethol ar ddull ‘Un Cyngor’ ac esboniad o beth yw proses a dyheadau ‘Un Cyngor’ mewn perthynas â’r adroddiad yn ogystal â sut mae’r model o arweinyddiaeth strategol o fewn y Canllawiau yn gweithredu. (CM/AT)

 

7.    Cadarnhad o sut yr ymgysylltodd yr Awdurdod Lleol â safbwyntiau plant 0-3 oed neu eu teuluoedd yn yr arolwg Lles Teuluoedd ar gyfer grwpiau oedran 0-3 oed a gynhaliwyd gydag ysgolion partner. (CM/AT)

 

Dogfennau ategol: