Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer:

 

“Mae’n sicr yn gyfnod prysur wrth i ni fynd i mewn i dymor yr ?yl. Mae swyddfa'r maer yn parhau i dderbyn llawer o ymholiadau a cheisiadau am ymweliadau gan y Maer. Rwyf yn ddiolchgar i’r Dirprwy Faer a’i gydymaith am ddod i’r adwy ar yr achlysuron hynny pan fydd gennym geisiadau lluosog. Ar nodyn personol, rwyf wedi mynychu llawer o ddigwyddiadau ar eich rhan, sy'n amrywio o Ddigwyddiadau Cymunedol y Nadolig, cystadleuaeth feirniadu ffenestr siop, Gwasanaethau Carolau, ymweliad Ysbyty, Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol amrywiol sefydliadau.

 

Digwyddiadau dinesig y tu allan i'r Fwrdeistref Sirol. Pleser oedd cael mynd gyda Meiri'r Trefi ym Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr i weld goleuadau'r Nadolig yn cael eu goleuo. Roedd presenoldeb anhygoel gan y cyhoedd yn y ddau ddigwyddiad sy'n dangos y pwysigrwydd a’r brwdfrydedd sydd gan y cyhoedd dros dymor y Nadolig.

 

Hoffwn ddiolch i’r ddau Gyngor Tref am drefnu’r ddigwyddiadau hyn.

 

Hoffwn hefyd ddiolch i Mr Lee Jukes a'i dîm o FM Bridgend. Roedd ei frwdfrydedd, ei egni a’i sgil wrth ddiddanu’r torfeydd mawr yn y ddau ddigwyddiad hyn yn anhygoel. Hyd yn hyn rwyf wedi cael fy ngalw'n llawer o bethau yn fy mywyd ond mae cael fy nghyflwyno gan Lee Jukes i'r dyrfa fawr ym Maesteg fel "Maer C?l Pen-y-bont ar Ogwr" yn rhywbeth na fyddaf yn ei anghofio. Roedd hefyd yn anrhydedd ac yn fraint cael mynychu Gwasanaeth Carolau Nadolig Gwasanaethau Brys De Cymru yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Mynychwyd y Gwasanaeth Carolau gan gynrychiolwyr a theuluoedd Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

 

Roedd Côr Meibion Mynydd Cynffig a'r Cylch yn canu i gyfeiliant Band Heddlu De Cymru. Roedd yn ennyd falch i mi yn y Gadeirlan wrth dderbyn canmoliaeth gan lawer o unigolion pwysig dinesig o bob rhan o Dde Cymru a aeth allan o'u ffordd i ganmol perfformiad anhygoel y côr, oedd yn ddigon i yrru ias i lawr eich cefn.

 

Diolch unwaith eto i bawb yng Nghôr Meibion Mynydd Cynffig a'r Cylch. Rhoesoch achos inni ymfalchïo ynoch.

 

Hoffwn annog pob aelod a Swyddog i gyfrannu at Apêl Elusen y Maer os gwelwch yn dda? A gaf i awgrymu, yn lle anfon Cerdyn Nadolig at eich gilydd, eich bod yn cyfrannu at gronfa’r elusen. Caiff manylion ynghylch sut y gellir rhoi rhodd eu cylchredeg cyn bo hir ar wefan CBSP.

 

Ac yn olaf, peidiwch ag anghofio am y broses ymgeisio am Wobr y Maer. Disgwyliaf weld cawod o geisiadau. Mae cymaint o waith da yn cael ei wneud yn ein cymunedau, gwaith ac ymrwymiad sy'n haeddu cael ei gydnabod, felly a fyddech cystal â chyflwyno eich ceisiadau erbyn y 13eg o  Ionawr 2023.

 

Ceir manylion y broses ymgeisio ar wefan y Cyngor.

 

Yn olaf, ond nid lleiaf, mae un o’n haelodau heddiw yn dathlu ei ben-blwydd. A gaf i ddymuno pen-blwydd hapus i'r Cynghorydd Elaine Winstanley; gobeithio y cewch chi ddiwrnod hyfryd a noson well fyth.

 

Y Cynghorydd Jane Gebbie:

 

Gan mai dyma’r tro cyntaf i ni gyfarfod fel Cyngor llawn ers cyhoeddi’r Adolygiad Ymarfer Plant yn dilyn llofruddiaeth Logan Mwangi, pum mlwydd oed, hoffwn roi diweddariad byr i’r aelodau ar y cynnydd sydd wedi’i wneud wrth weithredu argymhellion yr adroddiad.

 

Byddwch wedi gweld ein bod ni, fel awdurdod, wedi cynnig ymddiheuriad llawn a diamod i dad Logan, Ben Mwangi, a phawb a oedd yn adnabod ac yn caru Logan.

 

Fel y dywedasom ar y pryd, mae'r holl asiantaethau perthnasol, gan gynnwys y Cyngor, wedi derbyn canfyddiadau'r panel Adolygu Ymarfer Plant Annibynnol sydd wedi tynnu sylw at nifer o gyfleoedd i gryfhau ein hymarfer.

 

Gyda Bwrdd Gwella wedi ei sefydlu i oruchwylio cynnydd yn y gwelliannau sydd eu hangen ym maes gofal cymdeithasol plant, rydym yn ymroi i weithio ochr yn ochr â phartneriaid ym Mwrdd Diogelu Rhanbarthol Cwm Taf i wella ein hymarfer ac effeithiolrwydd diogelu amlasiantaethol fel yr amlygwyd gan yr adolygiad.

 

Rhaid i wasanaethau plant wella ansawdd yr ymarfer, y ffordd y sicrheir ansawdd ein hymarfer, a’r oruchwyliaeth gan reolwyr.

 

Gan ein bod yn gwybod na chysylltwyd â Mr Mwangi fel y dylid bod wedi gwneud, rydym wedi gweithredu i roi arweiniad clir i staff ynghylch pwysigrwydd cysylltu â rhieni sydd â chyfrifoldeb rhiant os yw eu plant ar y gofrestr amddiffyn plant.

 

Rydym yn gweithredu newidiadau, megis model newydd o ymarfer gwaith cymdeithasol, i wella’r ffyrdd yr ydym yn gweithio gyda phlant a theuluoedd, a’r ffordd y mae asiantaethau’n cydweithio i rannu a gweithredu ar wybodaeth i ddiogelu ac amddiffyn.

 

Rydym hefyd yn cymryd camau i sicrhau bod pobl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael mwy o wybodaeth, a bod ganddynt hyder ynghylch y ffordd i roi gwybod am unrhyw bryderon diogelu a allai fod ganddynt.

 

Drwy gydol y broses anodd hon, rydym wedi bod yn gwbl dryloyw, ac wedi cydweithredu’n llawn â’r panel adolygu i sicrhau bod yr holl gyfleoedd ar gyfer dysgu wedi cael eu nodi.

 

Ochr yn ochr â’n partneriaid ym maes iechyd, rydym wedi mynegi tristwch dwys nad oedd ein hymdrechion diogelu ac amddiffyn plant yn ddigon i atal llofruddiaeth Logan, ac rydym wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus tuag at ein blaenoriaeth lwyr i’w gwneud mor effeithiol a thrwyadl â phosibl.

 

Fe wnaeth marwolaeth drychinebus Logan, y sylw yn y cyfryngau i achos llys ei lofruddwyr, a’r datgeliadau dilynol am rôl pob asiantaeth gynhyrchu llawer iawn o sylwadau a dadlau.

 

Tra'n cofleidio'n llawn ac yn cymryd cyfrifoldeb llwyr am y meysydd lle mae angen inni wella a gwneud yn well, rhaid i mi gyfaddef hefyd fy mod yn teimlo'n siomedig ynghylch y ffordd y defnyddiwyd y digwyddiad trychinebus hwn serch hynny i geisio sgorio pwyntiau gwleidyddol ar lefel genedlaethol.

 

Roedd yn ymddangos bod rhai o’r sylwadau hynny nid yn unig yn anwybyddu canfyddiadau’r adolygiad ymarfer plant yn fwriadol, ond hefyd yn ceisio cysylltu unigolion yn uniongyrchol â’r drychineb, a chefais hyn yn hynod o atgas.

 

Drwy gydol y broses hon ar ei hyd, mae ein meddyliau wedi aros gyda Logan, a phawb oedd yn ei adnabod, yn ei garu neu'n gofalu amdano. Bydd effaith ei farwolaeth yn aros gyda ni fel awdurdod am byth, ac er cof amdano, rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i wella ein hymarfer er budd plant ac oedolion fel ei gilydd sy’n agored i niwed.

 

Gan fod rhan fawr o’n hymdrech i gyflawni gwelliannau yn ymwneud â mynd i’r afael â’n problemau recriwtio parhaus, rydym ar hyn o bryd yn cynnal ymgyrch sy’n annog pobl i ‘roi’r rhodd o ofal’ y Nadolig hwn.

 

Fel Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi’n fawr waith ein holl weithlu gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol. Mae arnom eisiau dathlu a hyrwyddo’r hyn y maent yn ei wneud, a’r cyfleoedd niferus sydd ar gael i wneud gwahaniaeth ym mywydau aelodau mwyaf agored i niwed y gymuned leol.

 

Wedi’i chynllunio i gyd-fynd â 12 Diwrnod y Nadolig, mae’r ymgyrch yn amlygu’r amrywiaeth o gyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn timau gofal cymdeithasol y Cyngor. Mae'n pwysleisio'r angen i staff gofal cymdeithasol roi cefnogaeth gorfforol, emosiynol a chymdeithasol i bobl leol, ac mae'n cynnwys gweithwyr presennol sy'n siarad yn onest ac yn realistig am eu gwaith, yr effaith mae’n ei chael a'r gefnogaeth y maent yn ei derbyn gan y Cyngor.

 

Mae’r ymgyrch yn ceisio gwneud pobl yn ymwybodol o’r ffaith fod ystod eang o gyfleoedd ar gael – o staff cartrefi gofal, gweithwyr ailalluogi sy’n gofalu am bobl yn eu cartrefi eu hunain ac uwch ymarferwyr iechyd meddwl i weithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol a hyd yn oed brentisiaid gwaith cymdeithasol a chyrsiau gradd a ariennir.

 

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy wneud hynny drwy fynd i'r tudalennau swyddi ar wefan y Cyngor, felly rwyf yn gobeithio y bydd yr aelodau yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth cymaint o bobl ag sydd modd.

Diolch yn fawr.

 

Y Cynghorydd Hywel Williams:

 

Rwyf yn si?r y bydd yr aelodau wedi sylwi ar y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar setliad y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf, a bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fod i gael cynnydd o 7.7 y cant ar gyfer 2023-24.

 

Hoffwn fynegi ein diolch i Lywodraeth Cymru, yn enwedig y Prif Weinidog, y gweinidog cyllid a’r gweinidog dros lywodraeth leol, am wrando unwaith eto ar bryderon Cynghorau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yngl?n â’r pwysau enfawr yr ydym yn parhau i’w hwynebu.

 

Mae unrhyw gynnydd i’n cyllid grant craidd bob amser i’w groesawu, a byddwn, wrth gwrs, yn sicrhau y gellir defnyddio’r arian mor effeithiol ac mor effeithlon â phosibl

 

Ar yr un pryd, rhaid ystyried y cynnydd yn erbyn cyd-destun ehangach o gostau uwch, galwadau ychwanegol a chyfradd sylfaenol chwyddiant cenedlaethol sy'n parhau'n sylweddol uchel.

 

Nid arian sbâr nac arian ychwanegol mo hwn. Yn dilyn effaith mesurau cyni cenedlaethol, Brexit, pandemig byd-eang y coronafeirws a’r argyfwng costau byw presennol, mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod ymhlith y rhai mwyaf heriol y mae awdurdodau lleol erioed wedi gorfod eu hwynebu.

 

Serch hynny, mae hyn yn dal i fod yn newyddion da, ac yn haeddu cael ei ddathlu fel y cyfryw.

 

Caiff gwaith ei wneud yn awr i edrych yn fanylach ar y setliad drafft er mwyn penderfynu i ba raddau y mae’r cynnydd yn debygol o’n cynorthwyo i dalu’r costau ychwanegol yr ydym yn eu hwynebu, ac a ellir ei ddefnyddio i leddfu rhai o’r gostyngiadau yn y gwasanaethau y bydd angen inni efallai eu gwneud.

 

Diolch yn fawr.

 

Y CynghoryddJon-Paul Blundell:

 

Bu nifer o newidiadau ymhlith personél uwch ysgolion yn ddiweddar yr hoffwn eu rhannu ag aelodau.

 

Mae’n bleser gennyf gadarnhau, yn dilyn ymddeoliad Andrew Slade, y bydd Mike Stephens, Dirprwy Bennaeth presennol Ysgol Gyfun Cynffig, yn dechrau yn ei swydd fel Pennaeth Ysgol Gyfun Porthcawl ym mis Ionawr 2023.

 

Yn Ysgol Gynradd Cwmfelin, mae’r pennaeth Julie Morgan wedi derbyn secondiad fel partner gwella ar gyfer Consortiwm Canolbarth y De. Bydd ei dirprwy, Joanne Edwards yn gweithredu fel pennaeth dros dro yn lle Julie.

 

Mae Josh Slade yn ysgol gynradd Llidiard a Claire Merfield yn ysgol gynradd Maes yr Haul wedi cael eu penodi'n ddirprwy benaethiaid dros dro.

 

Yn Ysgol Gynradd Croesty, mae Alan Poole wedi dychwelyd i’w swydd barhaol fel dirprwy bennaeth yn yr ysgol, ac mae Claire Nicholas wedi cymryd swydd y pennaeth.

 

Yn y cyfamser, mae Chris Jones wedi dod yn bennaeth gweithredol dros dro ar gyfer Ysgol Gynradd Llangynwyd ac Ysgol Gynradd Tynyrheol hefyd.

 

Mae cyn-ddirprwy bennaeth Ysgol Gynradd Llangynwyd, Kelly Kehoe, wedi dod yn bennaeth dros dro ar yr ysgol.

 

Yn olaf, mae Richard Edwards, cyn bennaeth Ysgol Gynradd Tynyrheol, wedi cymryd swydd gyda'r Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol.

 

Mae Rachel Warner, a oedd yn ddirprwy bennaeth, wedi dod yn bennaeth newydd ar yr ysgol.

 

Rwyf yn si?r y bydd yr aelodau’n ymuno â mi i ddymuno pob llwyddiant iddynt i gyd.

 

Diolch yn fawr.

 

Y Cynghorydd Neelo Farr:

 

Hoffwn ofyn i aelodau gynorthwyo i ledaenu’r gair am lansiad diweddar mynediad Wi-Fi am ddim ar draws pob canol tref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Wedi’i gyflwyno er mwyn cynyddu cysylltedd rhwng trigolion, busnesau ac ymwelwyr, nid oes rhaid talu am gael defnyddio’r gwasanaeth ac mae ar gael ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Maesteg a Phencoed.

 

Y cyfan sydd angen i bobl ei wneud er mwyn manteisio ar y gwasanaeth newydd yw chwilio yn eu gosodiadau rhwydwaith Wi-Fi am ‘BCBC Free Wi-Fi” ac yna rhoi eu cyfeiriad e-bost.

 

Mae'r Wi-Fi rhad ac am ddim yn golygu y gall pobl bellach bori'r rhyngrwyd, gweithio o bell o adeiladau canol y dref, darllen eu he-byst wrth aros am fws neu drên, a mwy.

 

Hwn yw’r buddsoddiad cadarnhaol diweddaraf yn y fwrdeistref sirol, ac mae’n ddiamau y bydd o fudd mawr i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

 

Hoffwn hefyd dynnu sylw at y ffordd y mae marsialiaid tacsis yn helpu’r rhai sy’n dathlu i fwynhau taith ddiogel adref o ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod tymor yr ?yl.

 

Gan weithio mewn parau ar nos Wener a nos Sadwrn rhwng 10p.m. a 4a.m, mae'r marsialiaid tacsis yn cynorthwyo pobl i ddefnyddio'r safleoedd tacsis ar Stryd y Farchnad a Heol Derwen.

 

Gan gydweithio’n agos â Heddlu De Cymru, maent hefyd yn helpu i atal amhariad posibl, ac yn sicrhau bod pawb yn medru gadael canol y dref yn ddiogel a heb unrhyw helynt.

 

Maent yn boblogaidd iawn gyda’r bobl sydd allan yn mwynhau, ac maent hefyd yn cynorthwyo gyrwyr tacsis drwy dawelu ac atal digwyddiadau posibl cyn y gallant ddigwydd a gwaethygu.

 

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu fel rhan o’r fenter Strydoedd Mwy Diogel, ac mae’n si?r y bydd yr aelodau yn dymuno llongyfarch y marsialiaid tacsis am eu gwaith da.

 

Diolch yn fawr.

 

Y Cynghorydd John Spanswick:

 

Mae arnaf eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am yr arddangosfeydd sydd wedi bod yn cael eu cynnal fel rhan o’r ymgynghoriad cyn ymgeisio ynghylch gwaith ynni gwyrdd newydd Hybont sydd wedi cael ei gynllunio ar gyfer ardal Brynmenyn.

 

Mae llawer iawn o drafod wedi bod yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar ynghylch y cynnig hwn, a chan fod llawer iawn o wybodaeth anghywir eisoes wedi cael ei dosbarthu, rydym wedi bod yn annog pobl i ddod i ddarganfod mwy am y cynlluniau, ac i gael eu ffeithiau’n uniongyrchol oddi wrth yr arbenigwyr.

 

Mae cannoedd o drigolion wedi mynychu'r arddangosfeydd, a gynhaliwyd ym Mhwll Nofio Ynysawdre. Cawsant gyfle i siarad yn uniongyrchol â’r arbenigwyr Japaneaidd Marubeni yn ogystal â thîm ynni’r Cyngor, a chawsant gyfle i ddarganfod sut mae’r dechnoleg eisoes yn cael ei defnyddio ar draws y DU ac Ewrop.

 

Rwyf yn meddwl ei bod yn deg dweud i’r digwyddiad ysgogi dadl gadarn a bywiog, a bod y mynychwyr wedi gallu mynegi eu pryderon ynghylch diogelwch, maint a lleoliad y gwaith arfaethedig.

 

Yn anffodus, mae'n ymddangos bod llawer o'r pryderon hyn hefyd yn seiliedig ar wybodaeth anghywir a sïon.

 

Gwnaeth tîm yr arddangosfa ymdrechion i fynd i’r afael â hyn, ac eglurodd fod gwaith Hybont yn rhan o symudiad newydd tuag at fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd drwy gynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy glân a datgarboneiddio cerbydau.

 

Mae hyn eisoes wedi gweld cyflwyno 22 o fysiau hydrogen newydd yn ddiogel ac yn effeithiol yn Llundain – sy’n cyfateb i gael gwared ar 836 o geir petrol ac arbed 1,848 tunnell o CO2 – tra yn Aberdeen, mae 15 o fysiau hydrogen eisoes wedi teithio mwy na miliwn o filltiroedd gyda’i gilydd gan arbed 1,700 tunnell o allyriadau.

 

Gyda thryciau gwastraff ac ailgylchu hydrogen yn cael eu defnyddio'n llwyddiannus mewn ardaloedd fel Cilgwri, mae prosiect Pen-y-bont ar Ogwr yn fuddsoddiad o £31 miliwn a allai sicrhau ein bod ar flaen y gad o ran y defnydd cynyddol o ynni cynaliadwy mewn bywyd bob dydd.

 

Byddai'r gwaith newydd arfaethedig wedi'i leoli ochr yn ochr â diwydiannau presennol yn Ystâd Ddiwydiannol Brynmenyn lle byddai'n meddiannu safle bychan, wedi'i dirlunio'n helaeth, a'r unig sgil-gynnyrch y byddai'n ei gynhyrchu yw ocsigen. Pan gaiff ei ddefnyddio, mae'r tanwydd ei hun yn cynhyrchu d?r.

 

Rhoddodd tîm yr arddangosfa sicrwydd i bobl hefyd mai dim ond yn y cam cyn-ymgeisio y mae’r gwaith arfaethedig, ac anogwyd pawb i gyflwyno eu pryderon fel y gallent dderbyn ymateb swyddogol yn seiliedig ar wybodaeth wirioneddol a ffeithiau caled.

 

Mae’n amlwg bod llawer iawn o’r wybodaeth anghywir hon yn parhau, ac y bydd angen gwneud rhagor o ymdrech i sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth briodol am y gwaith a beth fydd ei effaith mewn gwirionedd.

 

Gobeithiaf y bydd yr Aelodau’n cefnogi’r ymdrechion hyn. Rydym yn trefnu sesiynau briffio ychwanegol ar gyfer y Cynghorwyr, ASau ac ASau lleol i sicrhau eu bod yn cael yr holl wybodaeth, a byddaf yn rhoi diweddariadau pellach i chi wrth i’r sefyllfa hon ddatblygu.

 

Diolch yn fawr

 

Y Cynghorydd Rhys Goode:

 

Rwyf yn si?r bod aelodau, fel finnau, yn clywed yn rheolaidd gan breswylwyr pryderus neu ofidus sy’n poeni sut y maent yn mynd i ymdopi yn ystod yr argyfwng costau byw.

 

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi dod yn ymwybodol o nifer o achosion lle mae pobl wedi dweud eu bod wedi gorfod canslo mynediad wi-fi at y band eang oherwydd costau neu oherwydd eu bod wedi cyrraedd y terfyn ar gyfer capasiti data eu ffôn symudol.

 

Mae hyn yn cael effaith anffafriol ar eu hymdrechion i aros ar-lein, cwblhau ceisiadau am swyddi, cael mynediad at ddysgu ysgol neu hyfforddiant ar-lein, a llawer mwy. Y newyddion da yw bod cymorth wrth law.

 

Efallai yr hoffai aelodau roi gwybod i’w hetholwyr, yn ogystal â mynediad at wasanaethau rhyngrwyd a chyfrifiadurol am ddim drwy’r lyfrgelloedd lleol, fod y Banc Data Cenedlaethol ar gael i gynnig cymorth.

 

Gan weithio ochr yn ochr â rhwydwaith o bartneriaid cymunedol a chwmnïau telathrebu fel Virgin Media, Three a Vodafone, mae’r Banc Data Cenedlaethol ar hyn o bryd yn darparu data cysylltedd y rhyngrwyd am ddim i fwy na 500,000 o bobl ledled y DU.

 

Mae hyn yn sicrhau y gall pobl gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, gwneud cais am gyfweliadau am swyddi a’u mynychu, defnyddio’r rhyngrwyd i chwilio am wybodaeth hanfodol am iechyd neu faterion pwysig eraill, a gwneud defnydd llawn o’r symudiad cynyddol tuag at wasanaethau cyhoeddus digidol.

 

At hynny, mae pecynnau band eang rhatach hefyd ar gael i bobl sy’n derbyn budd-daliadau penodol gan gynnwys Credyd Cynhwysol a Chredyd Pensiwn. Gyda’r tariff yn dechrau o ddim ond £15 y mis, mae hyn yn cynnig ffordd arall i bobl gynnal mynediad at wasanaethau rhyngrwyd cyflym ac effeithlon.

 

Dylai unrhyw un, sy’n dymuno cael rhagor o wybodaeth am sut y gall y Banc Data Cenedlaethol helpu, fynd i wefan sefydliad pethau da dot org, tra mae gwefan Ofcom yn cynnwys manylion llawn am dariffau cymdeithasol rhatach.

 

Diolch yn fawr.

 

Y Prif Weithredwr:

 

“O ran y gwaith adfer i gywiro materion a etifeddwyd o ganlyniad i fethiant gosod waliau yng Nghaerau yn 2012 i 13, dywedais o’r blaen wrth yr aelodau fel yr oeddem wedi cael cadarnhad anffurfiol gan y Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, fod yr achos busnes yr oeddem wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru am arian i fynd i'r afael â'r holl waith gosod wedi bod yn llwyddiannus.

“Rydym, wrth gwrs, yn ddiolchgar dros ben i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth ac am weithio’n agos gyda ni i ddatrys y mater hwn. Cyflwynwyd yr achos busnes oherwydd, yn anffodus a heb unrhyw fai arnynt eu hunain, bod nifer sylweddol o ddeiliaid tai wedi bod yn byw dan amodau annerbyniol dros y degawd diwethaf, a heb dderbyn manteision yr inswleiddio gwell a mwy o effeithlonrwydd ynni y bwriadwyd i’r cynlluniau ôl-osod eu sicrhau.

“Er ein bod bellach wedi cael llythyr ffurfiol gan y Gweinidog yn cadarnhau ei chymeradwyaeth, er eglurder, rydym yn dal i aros am y llythyr cadarnhau telerau ac amodau grantiau - ac i fod yn gwbl glir, yn sicr nid ydym eto wedi cael y cyllid sydd wedi'i ddyrannu i ni.

“Rwyf yn deall y bu cryn ddiddordeb ac efallai syndod gan rai Aelodau o ganlyniad i rywbeth a ddywedodd y Gweinidog ar y teledu ddydd Sul. A bod yn onest, fyddwn i ddim yn darllen gormod i mewn i hyn. Er fy mod yn deall pryder yr Aelodau, rwyf yn credu’n wirioneddol mai camddealltwriaeth ydyw dros y defnydd gwahanol o iaith, ac y gellir gwneud gormod o hyn.

I roi sicrwydd i chi felly, mae Llywodraeth Cymru a ninnau yn glir iawn ar y sefyllfa ac ar yr un dudalen, ac rwyf wedi siarad â swyddfa’r Gweinidog heddiw am beth amser. Felly o safbwynt y gweinidog, rwyf yn meddwl ei bod yn deg dweud ei bod wedi rhoi cymeradwyaeth weinidogol - cyn belled ag y mae hi yn y cwestiwn, mae’r arian wedi cael ei ddyrannu i Ben-y-bont ar Ogwr, ac mae hi’n disgwyl inni symud ymlaen â’r gwaith.

“Rwyf yn meddwl o’n safbwynt ni, ydy, mae’r cyllid wedi cael ei ddyfarnu a bydd yn dod. Rydym yn glir ar hynny. Ond y ffordd y mae'r grantiau hyn yn gweithio, yn anffodus, nid ydych yn cerdded allan o Fae Caerdydd gyda £2.65 miliwn. Yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yw ein bod yn disgwyl am y llythyr grant telerau ac amodau. Fel arfer, caiff y cyllid ei hawlio ar sail gwariant gwirioneddol yn ôl-weithredol, a gwyddom ei fod wedi’i broffilio dros dair blynedd ariannol.

“I fod yn glir, felly, mae’r cyllid bellach wedi cael ei gadarnhau, ac mae arnaf eisiau rhoi sicrwydd ichi na fydd unrhyw oedi pellach felly oherwydd ein bod i gyd yn glir iawn ei fod ar ddod, ac rydym yn bwrw ymlaen â’r camau cychwynnol a’r gwaith cychwynnol yn unol â hynny gyda'r achos busnes a gymeradwywyd. Nid oes unrhyw oedi o ganlyniad i unrhyw beth sydd wedi digwydd, nac a ddywedwyd.

“Fel pwynt ychwanegol, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn garedig wedi cadarnhau y gellir gwario cyn i’r llythyr grant gyrraedd os oes angen, ac mae’n ddigon posibl y bydd hynny’n wir.

Cadarnhaf rai o fanylion y camau cyntaf yn ddiweddarach yn fy natganiad. Fodd bynnag, rydym yn gwybod, oherwydd bod cymeradwyaeth wedi cymryd mwy o amser nag a ragwelwyd, y bydd yn rhaid inni fynd yn ôl at Lywodraeth Cymru i siarad â hwy eto am rywfaint o’r proffilio presennol o’r gwariant, gan gydnabod ei bod yn debygol bod y gymeradwyaeth wedi dod chwe mis yn ddiweddarach nag yr oeddem yn disgwyl yn wreiddiol, ac felly bod y cyfnodau amser gwreiddiol hynny wedi newid.

“Rhoddaf enghraifft o hynny ichi. Mae angen inni fod yn glir iawn mai dyma lle mae angen inni gael cyngor arbenigol y gallwn o hyd gyflawni’r gwaith yn y ffordd a fwriadwyd yn yr achos busnes gwreiddiol. Bwriadwyd i’r gwaith o dynnu inswleiddiad y waliau allanol ac inswleiddiad y waliau mewnol ddechrau ym mis Tachwedd 2022. Yn amlwg nid yw hynny’n mynd i ddigwydd bellach. Felly, gallwn gymryd yn ganiataol y bydd hynny’n symud yn ôl chwe mis ac y bydd efallai tua Mai 23. Nid wyf yn meddwl y bydd hynny’n broblem. Fodd bynnag, yr hyn y mae angen inni fod yn glir yn ei gylch yw ble yr ystyriwyd yn wreiddiol y byddai ailosod inswleiddiad y waliau allanol ac inswleiddiad y waliau mewnol wedi bod ym mis Mehefin 23, “Os ewch â hynny chwe mis ymlaen, byddai hynny nawr yn fis Tachwedd neu fis Rhagfyr 23. Yn awr, yn syml, nid wyf yn gwybod yr ateb i hynny. Byddai arnaf angen cyngor arbenigol a yw hynny’n ymarferol neu a yw’n synhwyrol i wneud hynny yng nghyfnod y gaeaf. A dyna'r math o beth y mae angen inni ei wirio gyda Llywodraeth Cymru, i wneud yn si?r ein bod yn cael proffilio'r gwariant hwnnw'n gywir.

“Yn gyfan gwbl, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddwn yn cael grant o £2.65 miliwn ganddynt, ac mae’r Cyngor wrth gwrs wedi gosod y swm o £855,000 yn erbyn hyn yn ei raglen gyfalaf.

“Bydd yr Aelodau’n cofio bod gwaith gosod waliau wedi’i wneud yn wreiddiol ar 104 o gartrefi o dan y Rhaglen Arbed Ynni Cymunedol genedlaethol a mentrau ARBED yn 2012/13. Yn anffodus, mae llawer iawn o gam-adrodd a sylwadau anghywir ar y cyfryngau cymdeithasol yn parhau i fod ar y mater hwn, er gwaethaf amryw o esboniadau a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, er mwyn eglurder pendant, roedd ymwneud y Cyngor wedi ei gyfyngu i 25 eiddo lle y gwnaethom weinyddu cyllid ARBED i wneud y gwaith gwreiddiol. Caniataodd Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol wneud cais am gyllid ARBED i ategu cynlluniau CESP oedd eisoes yn cael eu rhedeg yn eu hardaloedd. Nid oedd gan y Cyngor unrhyw ran yng ngwaith y 79 eiddo arall hynny lle gwnaed gwaith dan y Rhaglen Arbed Ynni Cymunedol yng Nghaerau, ac yn bwysig, mae hynny'n ffaith a gadarnhawyd gan Ofgem, y cwmnïau ynni cenedlaethol perthnasol ac adrannau'r llywodraeth eu hunain.

“Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi mai ein bwriad yw mynd i’r afael â’r gosodiad aflwyddiannus ym mhob un o’r 104 o gartrefi, a sicrhau bod yr holl eiddo lle’r ariannwyd y gwaith drwy gynlluniau ar wahân i gyd yn cael eu cynnwys yn y gwaith adfer.

“Yn amlwg, mae gennym lawer iawn o gydymdeimlad â’r holl ddeiliaid tai yr effeithiwyd arnynt gan y mater hwn, ac awydd i wella eu cartrefi cyn gynted ag y bo modd. Wrth wneud hyn, byddwn yn darparu datrysiad parhaol, cadarnhaol, hirdymor i ddeiliaid y tai, fydd yn cael ei gyflawni dros gyfnod o tua dwy flynedd yn ystod 23/24 a 24/25.

“Y bwriad yw y bydd deiliaid cymwys y tai hynny, sy’n dewis cymryd rhan yn y cynllun diwygiedig hwn, yn elwa o gartrefi a fydd wedi eu hinswleiddio’n well ac yn fwy effeithlon o ran ynni, sydd, wrth gwrs, yn hynod o bwysig yn ystod yr argyfwng costau byw presennol ac ar yr adeg hon o gynnydd aruthrol mewn costau ynni.

“Unwaith eto, er mwyn eglurder pendant, yn anffodus, fel y gwyddoch, nid mater o osod sgaffaldiau yn unig a mynd yn syth i’r gwaith o atgyweirio’r eiddo yw hwn. Cam cyntaf y cytundeb gyda LlC yw comisiynu rheolwr rhaglen ac arbenigwr technegol, ac ymgysylltu â’r deiliaid tai perthnasol fel y gellir cynnal arolygon technegol hanfodol cyn inni wedyn gaffael contractwr perthnasol i wneud y gwaith.

“Yn bwysig iawn, i gefnogi hyn, rydym hefyd yn bwriadu penodi Swyddog cyswllt cymunedol a all weithio’n agos ochr yn ochr â thrigolion a gweithredu fel un pwynt cyswllt ar eu cyfer. Mae’r gwaith ffisegol gwirioneddol, felly, ar hyn o bryd wedi cael ei gynllunio a’i rannu’n gyfnodau, fel y dywedais, i ddigwydd yn ystod blynyddoedd ariannol 23/24 a 24/25, yn amodol ar gadarnhad bod dichon gwneud y gwaith yn y tymhorau penodol hynny.

“Bydd angen rheoli hyn, wrth gwrs, yn ofalus iawn, felly mae’n gwbl hanfodol sicrhau bod arbenigwyr cymwys yn eu lle a all gyflawni hyn a monitro safonau ansawdd. Byddwn yn gwneud y pwynt, wrth gwrs, fod angen inni ddysgu’n ofalus iawn, nid yn unig oddi wrth gynlluniau blaenorol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ond yn wir mewn mannau eraill yn y DU, i wneud yn si?r bod hyn yn cael ei wneud yn iawn gyda’r safonau ansawdd priodol. Felly, yr hyn y mae arnom ni i gyd ei eisiau yw cyflawni hyn cyn gynted â phosibl. Rydym hefyd yn meddwl bod angen i ni gael y cyngor arbenigol priodol.

“Felly yn fyr, fel y nododd y Gweinidog, rydym yn symud ymlaen ag ef.

“Er mwyn osgoi oedi pellach, rydym eisoes wedi cychwyn ar yr ymarferion caffael angenrheidiol ar gyfer ymgysylltu â’r arbenigwyr perthnasol cyn derbyn y llythyr dyfarnu terfynol hwnnw gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn awyddus i wneud cynnydd pellach cyn gynted ag y bo modd ar y gwaith pwysig hwn.

“Yn amlwg, rydym am wneud gwelliannau angenrheidiol i’r cartrefi yr effeithiwyd arnynt cyn gynted â phosibl, ond fel y dywedais, mae angen inni ddysgu hefyd oddi wrth y diffygion yn y ffordd y mae rhaglenni blaenorol wedi cael eu rheoli. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gwneud hynny.

“Rwyf yn si?r y bydd yr aelodau’n croesawu’r newyddion cadarnhaol hir-ddisgwyliedig hwn, ac wrth i’r prosiect ddatblygu ymhellach a dod i fwy o siâp, byddaf wrth gwrs yn darparu diweddariadau ychwanegol. Bydd hyn yn cynnwys manylion cyfarfod arfaethedig yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd gyda’r holl aelodau lleol yng Nghaerau, aelodau seneddol ac aelodau’r Senedd, cyn gynted ag y bydd cadarnhad Llywodraeth Cymru yn ei le gyda manylion y rhaglen, amserlenni a phroffilio, ac maent wedi dweud wrthyf eu bod yn bwriadu cael hynny i ni cyn y Nadolig.

“Y bwriad yw, unwaith y byddwn yn cynnal y cyfarfod cychwynnol hwnnw, y byddwn hefyd yn cael sylwadau gan aelodau lleol o fewn eu cymunedau am y ffordd orau i ymgysylltu â thrigolion lleol. Yn amlwg, y cydbwysedd yma eto yw, pan fyddwn yn mynd i wneud hynny, y bydd angen inni feddu ar ddigon o wybodaeth i allu ateb eu cwestiynau tebygol yn ddigonol.

“Rwyf yn gobeithio bod hyn wedi rhoi briff cynhwysfawr ichi. Yr hyn a ddywedaf yw fy mod, fel bob amser, yn hapus i ateb cwestiynau ychwanegol neu gyfarfod ag aelodau fel y bo’n briodol os oes rhagor o wybodaeth y mae arnoch ei hangen, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn ôl yr angen wrth symud ymlaen.

“Diolch, Mr Maer.”