Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Rwyf yn si?r y bydd yr aelodau wedi nodi’r sylw helaeth a roddwyd yn y cyfryngau yn ddiweddar i achosion o Strep A a’r dwymyn goch.

 

Mae’r cynnydd mewn heintiau eleni wedi effeithio’n bennaf ar blant o dan 10 oed, ac mae wedi cael ei gysylltu â sawl marwolaeth drist o gwmpas y Deyrnas Unedig.

 

Er bod hyn wedi creu penawdau ac wedi sbarduno pryder yn eang ymhlith rhieni a gofalwyr, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn sicrhau ac yn atgoffa pobl bod yr achosion yn dal i fod yn brin, ac mai risg isel iawn sydd gan blant o ddal y clefyd.

 

Mae’r cynnydd mewn achosion ledled y DU wedi cael ei briodoli’n bennaf i ddychwelyd i batrymau cymdeithasol cyfarwydd yn dilyn dwy flynedd o sefyllfa bandemig, a chydag ysbytai a meddygfeydd teulu eisoes yn adrodd am bwysau aruthrol ar eu gwasanaethau, gofynnir i bobl aros yn ddigynnwrf a dilyn cyngor ac arweiniad.

 

Er mwyn cefnogi hyn, mae cyfres o gwestiynau a ofynnir yn aml wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd y gallwch gael cymorth pellach.

 

Efallai y bydd yr Aelodau yn dymuno rhoi gwybod i’w hetholwyr fod y canllawiau hyn ar gael.

 

Efallai y bydd gan yr Aelodau ddiddordeb hefyd mewn gwybod bod gwaith uwchraddio gwerth £1.2 miliwn yn mynd rhagddo yn Amlosgfa Llangrallo.

 

Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar wella’r Llys Blodau yng nghefn y prif adeilad, a’i ymestyn allan i’r ardal laswelltog ger Capel Crallo.

 

Y bwriad yw cynorthwyo pobl i adael y capel yn fwy rhwydd, darparu mynediad haws i rai o'r cyfleusterau ac osgoi oedi i wasanaethau, sy'n digwydd ambell waith oherwydd bod pobl yn ymdyrru yn y rhan hon.

 

Fel adeilad rhestredig, sydd wedi ennill gwobrau am ei ddyluniad unigryw, mae’r gwaith ymestyn wedi cael ei deilwra’n ofalus fel ei fod yn adlewyrchu cymeriad a hanes unigryw’r amlosgfa.

 

Mae’n cael ei oruchwylio gan y pensaer Cymreig Jonathan Adams, y mae ei brosiectau eraill wedi cynnwys Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd ac adnewyddu Theatr y Sherman yng Nghaerdydd.

 

Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer haf 2023, ac mae trefniadau yn eu lle i sicrhau y gall yr amlosgfa barhau i weithredu drwy gydol y gwaith.

 

Mewn newyddion eraill, roeddwn yn falch i nodi bod pedwar maes chwarae arall i blant wedi elwa o fuddsoddiad o £500,000 yn ddiweddar, ac y gallant bellach gynnig offer chwarae cynhwysol sy’n addas ar gyfer plant ag anableddau ac anghenion addysgol arbennig.

 

Mae’r ardaloedd chwarae sydd wedi cael eu huwchraddio wedi eu lleoli yng Nghwm Ogwr, Porthcawl, Abercynffig a Thon-du, ac yn cynnwys cyfleusterau sy’n amrywio o gylchfannau cynhwysol i unedau aml-chwarae newydd, ac yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ddarparu cyfleusterau sy’n hygyrch i bobl o bob oed a gallu.

 

Yn olaf, mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i’r amgylchiadau a arweiniodd at ddarganfod dau faban marw mewn eiddo yn y Felin Wyllt fis diwethaf.

 

Mae dau ddyn, 37 a 47 oed, a dynes 29 oed a gafodd eu harestio ar amheuaeth o guddio genedigaeth plentyn, i gyd ar fechnïaeth yr heddlu ar hyn o bryd.

 

Ni ddatgelwyd unrhyw fanylion pellach, ond mae'r Cyngor yn cynnig ei gydweithrediad llawn i Swyddogion tra bydd yr ymchwiliad yn parhau.

 

Rydym hefyd yn atgoffa’r gymuned leol o’r angen i osgoi dyfalu, ac i sicrhau eu bod yn cysylltu â’r heddlu gydag unrhyw wybodaeth berthnasol a allai gynorthwyo eu hymholiadau.

 

Diolch yn fawr.