Agenda item

Derbyn y cwestiynau canlynol gan:

Cwestiwn gan y Cynghorydd A Wathan i Aelod Cabinet Adnoddau

 

‘A fyddai modd i’r Aelod Cabinet Adnoddau roi asesiad risg i mi o fenthyciadau Tymor Byr i Awdurdodau Lleol o dan weithdrefnau mabwysiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.’

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd D Hughes i Aelod Cabinet Adnoddau

 

Sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ochr yn ochr â phartneriaid eraill, yn creu dulliau cefnogi ariannol i helpu i ddiogelu buddiannau'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas?"

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd T Thomas i Aelod Cabinet - Adfywio

 

Pa gynlluniau sydd gan yr Aelod Cabinet i gynyddu nifer y rhai sy’n ymweld â chanol trefi yng nghanol ein trefi o fewn y fwrdeistref sirol?

Cofnodion:

Y Cynghorydd A Wathan i Aelod y Cabinet – Adnoddau

All Aelod y Cabinet – Adnoddau roi’r asesiad risg i mi o Fenthyciadau Tymor Byr i Awdurdodau Lleol dan y weithdrefn a fabwysiadwyd gan CBSP?

 

Ymateb:

Rheoli’r trysorlys yw rheoli llif arian, benthyciadau a buddsoddiadau’r Cyngor, a’r risgiau cysylltiedig. Enwebwyd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i fod yn gyfrifol am sicrhau craffu effeithiol ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (TMS) a pholisïau.

 

Mae risg y trysorlys yn y Cyngor yn cael ei rheoli o fewn fframwaith Rhifyn 2017 y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ‘Rheoli’r Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer’ Argraffiad 2017 (Cod CIPFA), sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Reoli’r Trysorlys (TMS) cyn dechrau pob blwyddyn ariannol. Mae Cod CIPFA hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor osod nifer o Ddangosyddion Rheoli’r Trysorlys, sy’n baramedrau sy’n edrych i’r dyfodol ac sy’n galluogi’r Cyngor i fesur a rheoli ei amlygiad i risgiau rheolaeth trysorlys, ac adroddir am berfformiad yn erbyn y dangosyddion hyn wrth yr Aelodau yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn ariannol.

Cyflwynwyd adroddiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor i’r Cyngor llawn a’i gymeradwyo ganddo ar 23 Chwefror 2022, ac mae’n nodi’n glir y terfynau buddsoddi ar gyfer pob gwrthbarti. Yn benodol, mewn perthynas ag awdurdodau lleol, mae’n gosod y terfynau benthyca a ganlyn:

Awdurdodau lleol ac endidau eraill:

Terfyn amser: 25 mlynedd,

Terfyn gwrthbarti: £12 miliwn,

Terfyn y sector: £ anghyfyngedig.

I grynhoi, yr uchafswm y gellir ei fenthyca i unrhyw awdurdod lleol unigol ar unrhyw adeg yw £12 miliwn, am gyfnod heb fod yn hwy na 25 mlynedd. Mae'r cyfanswm y gall y Cyngor hwn ei fenthyca i bob awdurdod lleol gyda'i gilydd yn anghyfyngedig.

Mae'r Cyngor yn benthyca'n rheolaidd i awdurdodau lleol eraill gan ei fod yn arfer sydd wedi'i hen sefydlu ar draws y sector ac yn darparu lefel uchel o sicrwydd a lefel isel o risg, gyda lefel gymesur o elw. Mae awdurdodau lleol yn cael eu hystyried yn wrthbartïon buddsoddi gyda risg credyd isel iawn. Fel sefydliadau yn y sector cyhoeddus maent yn llawer llai agored i’r math o rymoedd marchnad a all wneud banciau a busnesau eraill yn fethdalwyr ac, er y gallant uno, rhannu neu newid fel arall, maent hwy a’r swyddogaethau a ddarperir ganddynt yn annhebygol o beidio â bodoli.

Nid yw'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn cael eu graddio gan asiantaethau statws credyd, ond mae’r rhai sy’n cael eu graddio yn derbyn sgôr uchel.

Gwneir yr holl fuddsoddiadau yn unol â chyngor Ymgynghorwyr Rheoli Trysorlys y Cyngor, a benodwyd drwy broses dendro gystadleuol. Mae mwyafrif y buddsoddiadau y mae’r Cyngor hwn yn eu gwneud i awdurdodau lleol eraill yn llai na blwyddyn, er bod un buddsoddiad diweddar wedi’i wneud am gyfnod o 2 flynedd, gwerth £5 miliwn hyd at fis Gorffennaf 2024. Mae’r holl fuddsoddiadau eraill gydag awdurdodau lleol eraill am lai na blwyddyn.

Er mwyn bod o gymorth i leihau risg, nid yw'r Cyngor hwn ychwaith yn buddsoddi hyd at yr uchafswm a ganiateir ac a gymeradwywyd gan y Cyngor. Y terfyn cymeradwy fesul awdurdod fel y nodwyd uchod yw £12 miliwn, fodd bynnag nid yw'r uchafswm a roddwyd ar fenthyg fel arfer yn fwy na chyfanswm o £8 miliwn, a byddai hyn ar draws 2 swm a llinellau amser a/neu gyfnod o hyd gwahanol.

Ar hyn o bryd mae gennym fuddsoddiadau gydag Awdurdodau Lleol eraill o £41 miliwn, sydd wedi’i wasgaru dros 9 awdurdod lleol gwahanol, gyda buddsoddiad cyfartalog o £5 miliwn, a gyda’r dyddiadau aeddfedu yn disgyn ar draws blynyddoedd ariannol fel a ganlyn:

 

 

2022/23

£11,000,000

2023/24

£25,000,000

2024/25

£5,000,000

Cyfanswm

£41,000,000

 

Nid yw’r Cyngor hwn wedi bod yn destun unrhyw fethiant gan unrhyw awdurdod lleol arall i ad-dalu ei ddyled ar amser a gyda’r llog cysylltiedig sy’n ddyledus. Mae Ymgynghorwyr Rheoli Trysorlys y Cyngor wedi cadarnhau:

  ‘…….bod yr ymyriad a’r gefnogaeth a ddarperir gan y llywodraeth ganolog yn tanlinellu teilyngdod credyd sector yr awdurdodau lleol’.

 

Mae ein hymgynghorwyr hefyd yn credu bod y tebygolrwydd o ddiffygdalu gan awdurdod lleol yn y DU ar rwymedigaeth dyled yn parhau’n isel, gyda’r golled ddisgwyliedig o ystyried y diffyg talu yn is fyth. Mae fframwaith Cyllid Llywodraeth Leol, amddiffyniadau credydwyr a thebygolrwydd cefnogaeth llywodraeth ganolog yn golygu bod awdurdodau lleol, gan gynnwys y rhai sy'n wynebu heriau cyllidebol penodol, yn cadw lefelau uchel o deilyngdod credyd.

 

Cyflwynir adroddiadau Rheoli'r Trysorlys yn rheolaidd i'r Cabinet, y Cyngor a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, sy'n rhoi'r cyfle i adolygu Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ac i wneud unrhyw newidiadau ffurfiol i Strategaeth Reoli'r Trysorlys.

Caiff gwasanaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor ei adolygu’n rheolaidd gan yr archwilwyr allanol fel rhan o’u proses archwilio flynyddol, ac archwilio mewnol. Daeth yr adolygiad diweddaraf gan archwilio mewnol i’r casgliad ym mis Chwefror 2020 bod ‘effeithiolrwydd amgylchedd y rheolaeth fewnol yn cael ei ystyried yn gadarn ac felly y gellir rhoi sicrwydd sylweddol ar reoli risgiau.’

 

Cwestiwn atodol gan Y Cynghorydd Alan Wathan

Diolch am ateb technegol manwl iawn. Nodaf gyda diddordeb bod yr Awdurdod hwn ar y 30ain o Awst 2022 wedi cadarnhau'r polisi moesegol.

ar gyfer Buddsoddiadau pensiwn. Hoffwn hefyd ofyn i’r aelod cabinet a yw’r Awdurdod hwn wedi mabwysiadu polisi moesegol tebyg ar fuddsoddiadau i awdurdodau lleol risg isel, y byddai ganddynt arferion gweithredu amheus yn null Casino yr adroddir amdanynt cyn cytuno ar delerau benthyca.”

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid Perfformiad a Newid fod gennym ganllawiau llym ar bwy y gallwn ac na allwn fenthyca ganddynt. O safbwynt moesegol, ystyrid bod Awdurdodau Lleol yn risg isel. Gwneir llawer o'r benthyca drwy swyddfa Rheoli Dyled y Llywodraeth sy'n cael ei rhedeg gan y Llywodraeth Ganolog. Ychwanegodd nad oedd ganddi'r wybodaeth ynghylch ail ran y cwestiwn ond y byddai'n ei rhoi i'r Aelod yn ddiweddarach.

 

Cwestiwn atodol gan Y Cynghorydd Steven Bletsoe

“Yn dilyn cwestiwn Y Cynghorydd Wathan, ydy polisi moesegol nad oedd yn gysylltiedig â phensiynau yn rhywbeth y byddai’r Cabinet yn ei ystyried wrth fynd ymlaen?”

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid ein bod yn adolygu dogfen Rheoli’r Trysorlys yn flynyddol ac eisoes wedi gwneud ymrwymiad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i wneud hynny, yn enwedig mewn perthynas â’n buddsoddiadau gydag Awdurdodau Lleol ac felly gellid edrych ar hyn yn yr adolygiad nesaf.

 

Y Cynghorydd D Hughes i Aelod y Cabinet – Adnoddau

Sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghyd â phartneriaid eraill, yn creu mecanweithiau cymorth ariannol i gynorthwyo i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas?

 

Ymateb:

Mae'r Cyngor wedi darparu cefnogaeth i drigolion yn y Fwrdeistref Sirol trwy nifer o wahanol ddulliau yn ddiweddar ac mae'n parhau i wneud hynny nawr.

 

Taliadau Tai Dewisol

Telir Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (TTD) o gyllideb arian parod gyfyngedig, a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a’u bwriad yw helpu pobl i dalu costau tai, fel arfer pan fo diffyg rhwng eu Budd-dal Tai (BT), neu elfen dai y Credyd Cynhwysol (CC), a’u rhent. Dim ond os yw’r hawlydd yn hawlio Budd-dal Tai, neu Gredyd Cynhwysol gyda chostau tai y gellir dyfarnu TTD tuag at atebolrwydd rhent.

 

Gellir dyfarnu TTD am flaendal rhent neu rent ymlaen llaw am eiddo nad yw’r hawlydd wedi symud i mewn iddo eto os oes ganddo hawl eisoes i gael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol yn ei gartref presennol, a hefyd taliadau am gostau tai yn y gorffennol (gan gynnwys ôl-ddyledion rhent).

 

Taliadau brys yw’r taliadau hyn ac mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau bod unrhyw daliad yn cyrraedd y rhai sydd â’r angen mwyaf.

 

Dyraniad cyllid yr Adran Gwaith a Phensiynau i Ben-y-bont ar Ogwr yn y flwyddyn gyfredol yw £258,312, ac mae hyn yn cael ei ategu gan £150,000 pellach a ddyrannwyd o grant Atal Digartrefedd yn ôl Disgresiwn Llywodraeth Cymru (cyfanswm o £408,312).

 

Rydym yn hyrwyddo'r gwasanaethau hyn drwy ein hadnoddau ein hunain a hefyd yn gweithio gyda sefydliadau cynghori rhad ac am ddim fel CAB, sy'n cynnig cyngor am ddim i drigolion ac yn hyrwyddo'r cymorth hwn.

 

Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor

Mae Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor yn helpu pobl ar incwm isel i dalu eu Treth Cyngor. Darperir y cymorth hwn drwy broses ymgeisio a gall unigolion dderbyn y cymorth hwn i dalu eu Treth Cyngor p’un a ydynt yn derbyn budd-daliadau eraill ai peidio, yn gweithio, yn ddi-waith, yn gofalu am oedolyn neu blentyn neu wedi ymddeol.

 

Amcangyfrifir mai cyfanswm y cymorth ariannol a ddarperir i unigolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr drwy'r llwybr hwn yw £14.87 miliwn yn y flwyddyn gyfredol. Ar hyn o bryd mae 12,565 o unigolion neu deuluoedd yn derbyn cymorth ariannol drwy'r cynllun hwn. Eto, mae gwybodaeth am sut i hawlio’r cymorth hwn ar gael ar ein gwefan.

 

Taliadau Tanwydd

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae'r Cyngor yn gweithredu fel asiant i Lywodraeth Cymru ac yn talu'r Cynllun Cymorth Tanwydd ar hyn o bryd. Mae'r cynllun hwn yn cefnogi aelwydydd cymwys gyda'r gost o wresogi eu cartrefi drwy gydol misoedd y gaeaf ac yn rhoi taliad untro o £200 i ymgeiswyr. Eleni mae’r cynllun yn agored i aelwydydd lle mae rhywun yn hawlio budd-daliad fel Gostyngiad Treth Cyngor (yn seiliedig ar incwm y cartref), budd-daliad anabledd, credyd cynhwysol, cymhorthdal incwm, credyd treth plant a gwaith, lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm a lwfans gwaith a chymorth cysylltiedig ag incwm. Gallai deiliaid tai, nad ydynt eu hunain yn derbyn budd-dal cymwys, hefyd dderbyn taliad os ydynt yn byw gydag oedolyn neu blentyn arall sy'n derbyn budd-dal anabledd. Mae'r meini prawf llawn a rhestr o’r budd-daliadau cymwys ar gael ar ein gwefan.

 

Hyd yma, mae 14,201 o daliadau wedi cael eu gwneud, sef cyfanswm o £2,840,200; mae’r cynllun yn parhau tan 28 Chwefror 2023.

 

Taliad i ofalwyr di-dâl

Yn gynharach yn y flwyddyn ariannol hon, bu’r Cyngor hefyd yn gweithredu fel asiant i Lywodraeth Cymru wneud taliadau untro o £500 i ofalwyr di-dâl. Gwnaed y taliad i gydnabod y pwysau ariannol cynyddol a brofodd gofalwyr di-dâl yn ystod y pandemig, ac er mwyn helpu gyda rhai o’r costau ychwanegol yr aethant iddynt. Roedd y taliad ar gael i bob gofalwr di-dâl cymwys oedd yn derbyn Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022.

 

Gyda’i gilydd, gwnaed 2,587 o daliadau, sef cyfanswm o £1,293,500

 

Cynllun Costau Byw

Mae'r cynllun costau byw yn fenter arall gan Lywodraeth Cymru sy'n cael ei rheoli'n lleol gan y Cyngor hwn. Bwriad y cynllun yw darparu cymorth wrth i Gymru ymadfer ar ôl y pandemig a chynorthwyo cartrefi i ddelio ag effaith costau ynni cynyddol a chostau eraill. Cafodd y meini prawf ar gyfer cael mynediad i'r cynllun eu gosod gan Lywodraeth Cymru. Derbyniodd pob cartref cymwys yn y fwrdeistref sirol daliad o £150 o dan y prif gynllun a ddaeth i ben ar y 30ain o Fedi 2022.

 

Cyfanswm y cyllid a ddyrannwyd i Ben-y-bont ar Ogwr ar gyfer prif ran y cynllun hwn oedd £7.514 miliwn. O ganlyniad dyrannodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr 49,120 o daliadau gwerth cyfanswm o £7,368,000 sef 98.05% o'r cyllid a ddyrannwyd, yn erbyn cyfartaledd o 96.25% ledled Cymru.

 

Darparodd Llywodraeth Cymru hefyd £1.236 miliwn arall tuag at gynllun dewisol lle gallai’r Cyngor benderfynu sut y gellid dosbarthu’r cymorth ychwanegol i’r rhai â’r angen mwyaf. Cychwynnodd y Cynllun Dewisol ar 1 Hydref 2022 a hyd yn hyn mae 10,439 o aelwydydd wedi derbyn taliad o £60 gyda 6197 o daliadau o £50 yn cael eu gwneud mewn perthynas â phlentyn sy’n cael prydau ysgol am ddim. Bydd y cynllun hwn yn rhedeg tan 31 Mawrth 2023.

 

Canolfannau Cynnes

Gan ragweld y bydd costau ynni yn codi a’r pryder na fydd pobl yn gallu cadw’n gynnes gartref, rydym yn gweithio gyda phartneriaid strategol a grwpiau cymunedol lleol i nodi lleoedd a digwyddiadau ledled Pen-y-bont ar Ogwr lle gall pobl gael mynediad i gadw’n gynnes yn ystod gaeaf 2022/ 23. Bydd y rhan fwyaf o'r gweithgareddau hyn yn adeiladu ar yr hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd ond yn cael eu haddasu i gymryd i ystyriaeth yr angen i gadw'n gynnes ond hefyd ymgymryd â gweithgaredd pleserus mewn gofod croesawgar. Mae staff y Cyngor yn ymgysylltu â’r grwpiau a’r sefydliadau lleol ym mhob ardal o’r sir i fapio’r hyn sy’n bodoli ac mae’r wybodaeth hon yn cael ei chynnal ar dudalen we Costau Byw newydd ar wefan y Cyngor yn ogystal â chael ei rhannu â sefydliadau allweddol eraill fel y gallant ei phostio. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i Awdurdodau Lleol yng Nghymru er mwyn cefnogi Canolfannau Cynnes. Rhagwelir y bydd cynllun grant ar gael yn fuan fel y gall sefydliadau wneud cais am arian i ehangu neu wella eu cynnig presennol neu ddatblygu o’r newydd os oes bwlch.

https://www.bridgend.gov.uk/residents/benefits-and-support/cost-of-living-support/

 

Rhyddhad Ardrethi Busnes i fusnesau yn yr ardal

Rhoddwyd cymorth i fusnesau lleol drwy'r Cynlluniau Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bychain a'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch er mwyn sicrhau y gallant barhau i fasnachu i gefnogi'r economi leol a chynnal lefelau cyflogaeth yn y Fwrdeistref Sirol. Drwy’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bychain mae 3,206 o fusnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 yn cael rhyddhad ar raddfa symudol rhwng 0% a 100% yn dibynnu ar eu gwerth ardrethol. Ar hyn o bryd mae 362 o fusnesau yn elwa ar Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch o 50%. Mae llythyrau wedi cael eu dosbarthu'n ddiweddar i fusnesau cymwys i'w hannog i wneud cais am y gostyngiad a lleihau eu hatebolrwydd.

 

Treth Cyngor 2022/2023

Wrth osod y gyllideb refeniw ar gyfer y flwyddyn gyfredol, cytunodd y Cyngor i gynnydd o 0% yn Nhreth y Cyngor. Yn yr adroddiad ar y gyllideb mae’n nodi’n glir mai’r rhesymeg dros hyn oedd cynorthwyo dinasyddion Pen-y-bont ar Ogwr i ymdrin â chostau byw cynyddol, megis cynnydd mewn biliau ynni a bwyd, codiadau chwyddiannol eraill, codiadau yn llog morgeisi a chynnydd mewn yswiriant gwladol.

 

Parcio am Ddim

Yn ystod y pandemig mae’r Cyngor wedi gwneud cynnig parcio hael o barcio am ddim am 3 awr yn ei brif feysydd parcio.

 

Grantiau

Rydym wedi bod yn darparu grantiau cyfalaf ar draws y Fwrdeistref Sirol ar gyfer busnesau a pherchnogion tai newydd, i bontio'r bwlch o ran gallu mynd ar yr ysgol eiddo neu i alluogi busnesau i weithredu'n wahanol.

 

Ers mis Mawrth 2021, mae grantiau gwerth £371 mil wedi cael eu dyfarnu i 23 o berchnogion tai newydd yn ein cymunedau yn y Cymoedd i’w galluogi i fynd ar yr ysgol eiddo a dod ag eiddo preswyl oedd yn wag o’r blaen yn eu cymunedau lleol yn ôl i feddiannaeth.

 

Hefyd rhoddwyd bron i £600 mil o grantiau cyfalaf i 83 o fusnesau ar draws y Sir o ganlyniad i Covid i fuddsoddi yn eu heiddo ac mewn mannau awyr agored. Galluogodd y newidiadau i fusnesau aros yn hyfyw ac yn weithredol, a byddant yn cefnogi eu busnes wrth symud ymlaen.

 

Tlodi Bwyd

Sefydlwyd y pantrïoedd cymunedol fel rhan o'n prosiect, a ariannwyd gan y Cynllun Datblygu Gwledig (LEADER), ar Ganolfannau Cymunedol Cynaliadwy. Newidiwyd ffocws y prosiect ar ddechrau’r pandemig i roi rhyddhad i drigolion o ran mynediad at fwyd fforddiadwy.

 

Nod y pantrïoedd oedd darparu bag fforddiadwy o fwyd yr wythnos (£5/bag) ac roedd yr incwm yn mynd yn uniongyrchol i dalu costau dosbarthu’r bwyd gan FareShare Cymru a’r tâl aelodaeth yr oedd yn rhaid i bob canolfan ei dalu i FairShare i fod yn rhan o'r cynllun. Roedd gweddill yr arian yn mynd yn syth i'r canolfannau cymunedol i gynorthwyo gyda’u costau oedd yn cefnogi nodau cyffredinol y prosiect i gynorthwyo canolfannau cymunedol i ffynnu a pharhau i ddarparu gwasanaethau i'w cymunedau.

 

Ariannodd y Cyngor y pantrïoedd tan fis Hydref 2021 ac maent bellach yn cael eu darparu drwy Gwmni Buddiant Cymunedol (CBC) sydd wedi sicrhau cyllid o nifer o ffynonellau eraill. Mae hon yn stori am lwyddiant gwirioneddol i CBS Pen-y-bont ar Ogwr oherwydd nid yn unig bod y prosiect yn llwyddiannus iawn yn cefnogi cymunedau mewn wardiau gwledig ond wedi mynd ymlaen i barhau ar ôl y cyfnod peilot ac wedi creu CBC a swyddi cysylltiedig. Hyd at Hydref 2021 fe wnaethom gyflenwi 6,037 o fagiau bwyd sy'n cyfateb i tua 53,750 cilogram o fwyd.

 

Yn ogystal â'r pantrïoedd cymunedol, mae'r Cyngor yn helpu i gefnogi gweithredu cynllun Bocs Bwyd Mawr Llywodraeth Cymru ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae’r cynllun yn cefnogi rhwydwaith o siopau ‘talu fel rydych yn teimlo’ sydd wedi eu lleoli mewn cynwysyddion cludo wedi’u trosi ar dir ysgol. Dan yr enw Prosiect y Bocs Bwyd Mawr, bydd 60 o’r prosiectau hyn yn eu lle ledled Cymru erbyn diwedd 2022 ac ardal Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi derbyn y nifer fwyaf o’r prosiectau hyn mewn un sir – 16 i gyd. Mae'r Bocsys Bwyd Mawr hyn yn darparu bwyd fforddiadwy, i deuluoedd yr ysgol a'r cymunedau ehangach hefyd.

 

Mae'r Cyngor yn rhan o ddarparwyr y Rhwydwaith Tlodi Bwyd, a gydlynir gan Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO), ac mae wedi gweithio gyda BAVO i ddarparu cronfa grant cyfalaf/refeniw i gefnogi sefydliadau cymunedol sy'n delio â phryderon yn eu hardaloedd.

 

Mae’r Cyngor hefyd wedi medru cefnogi sefydliadau cymorth tlodi bwyd â chyllid a dynnwyd i lawr o Gronfa Cymorth Cartrefi Llywodraeth Cymru. Mae'r Bocs Bwyd Mawr, Baobab Bach, CBC y Pantrïoedd a Rhwydwaith Banciau Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr i gyd wedi derbyn arian eleni.

 

Bydd cyllid pellach ar gael drwy’r Cyngor yn y flwyddyn galendr nesaf, yn dilyn dyfarniad o £68,619 gan Gynllun Cymorth Bwyd Uniongyrchol Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r Cyngor hefyd yn edrych i mewn i ddewisiadau ariannu o raglen Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen yn ceisio darparu cymorth wedi ei dargedu i'r aelwydydd mwyaf agored i niwed i helpu i dalu costau teuluol cynyddol drwy gryfhau ystod o weithgareddau a ddarperir i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw. Byddai'r cyllid hwn yn cefnogi cydweithio rhwng y Cyngor a'n partneriaid, i ddatblygu partneriaethau bwyd traws-sector a chryfhau partneriaethau bwyd presennol. Bydd y rhain yn helpu i feithrin gwytnwch mewn rhwydweithiau bwyd lleol drwy gydgysylltu gweithgarwch ar lawr gwlad sy’n ymwneud â bwyd sy’n mynd i’r afael â gwraidd achosion tlodi bwyd.

 

Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr

Drwy raglen Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, mae’r Cyngor yn parhau i ddarparu cyfleoedd hyfforddi, a chynorthwyo ein trigolion yn ôl i waith drwy fentrau fel “Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr” sy’n cefnogi cyfranogwyr difreintiedig ar draws y Cyngor cyfan, waeth beth fo’u lleoliad, drwy gynnig cyfres o ymyriadau sy’n anelu at dorri patrymau diweithdra a thlodi aml-genhedlaeth.

 

Mae’r cynlluniau’n gweithio’n agos gyda lleoliadau cymunedol ar draws Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau’n lleol sy’n diwallu angen lleol ac yn lleihau costau teithio i drigolion drwy ddod â’r gwasanaeth i’w hardal leol. Yn y 7 mis Rhwng Ebrill 2022 a diwedd Hydref 2022, cynorthwyodd y Tîm Cyflogadwyedd 774 o bobl o Ben-y-bont ar Ogwr i gymryd rhan yn y rhaglen, gan gynnwys 33 o bobl a oedd eisoes mewn gwaith yn cael eu cynorthwyo i wella’u sefyllfa yn y farchnad lafur; Mae 193 o bobl wedi ennill cymwysterau a 239 wedi mynd i mewn i waith.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Della Hughes

Diolch am yr ymateb, a braf oedd gweld y gefnogaeth sydd ar gael i drigolion Pen-y-bont ar Ogwr. Gyda’r prisiau ynni yn saethu i fyny ar hyn o bryd croesewir y gefnogaeth gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ond mae llawer yn dal i gael trafferth i wresogi eu cartrefi. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i dynnu sylw at yr effaith ariannol sylweddol ar ein preswylwyr mwyaf oedrannus a bregus ac yn enwedig y taliadau sy’n ymwneud â mannau cymunedol mewn llety gwarchod fel Llys Gwalia yng Nghwm Ogwr. Bydd y preswylwyr yn awr yn gweld eu taliadau wythnosol ar gyfer y rhan gymunedol yn cynyddu'n sylweddol ac mae hyn ar ben y cynnydd yng nghost ynni yn eu fflatiau eu hunain. Rwyf yn bryderus y gallem weld yr amgylcheddau byw gwych hyn yn mynd yn anfforddiadwy i rai o’n pobl mwyaf agored i niwed. Mae tâl gwasanaeth un preswylydd yn mynd i gael ei godi dros £200 y mis a bydd rhai yn talu ychydig yn fwy a rhai ychydig yn llai. Mae hyn cyn unrhyw gynnydd yng nghost ei fflat ei hun ac unrhyw gynnydd mewn rhent, ac mae’r rhent misol bellach yn fwy nag y mae’n ei gael o bensiwn y wlad. Mae’r staff yn gweithio’n agos gyda’r preswylwyr a’u teuluoedd i sicrhau eu bod yn derbyn unrhyw gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, fodd bynnag, ni fyddant yn fforddiadwy i rai; felly rydym yn ymwybodol o’r broblem hon yn ein llety gwarchod a’n cartrefi nyrsio a beth allwn ni, ynghyd ag asiantaethau eraill, ei wneud i gefnogi’r trigolion bregus hyn.”

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Cynghorydd Hughes am y cwestiwn a rhannai’r pryderon yn enwedig ynghylch gofal ychwanegol a byw â chymorth a byddai'n edrych i mewn i hyn.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Melanie Evans

“Ar ôl ymweld ag Ysgol Gynradd Pencoed yn ddiweddar, sylwais fod Siop Gyfnewid gwisg ysgol yno ac roeddwn yn meddwl tybed a allech chi roi gwybod pa gymorth pellach sydd ar gael i Ddysgwyr a rhieni yn y Fwrdeistref Sirol.”

 

Eglurodd Aelod y Cabinet dros Adnoddau fod y Grant Datblygu Disgyblion yn cynorthwyo ysgolion a rhieni i ddarparu gwisg ysgol i ddisgyblion. Gall rhieni hawlio hyd at £225 ac mewn rhai achosion hyd yn oed mwy. Ychwanegodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod arian ar gael i gynorthwyo i brynu citiau ac offer Addysg Gorfforol ysgolion a'i fod wedi'i dargedu at deuluoedd incwm is. Mae'r arian hefyd wedi bod o fudd i blant dros y gwyliau, gyda phrydau ysgol am ddim yn cael eu darparu, oedd wedi helpu dros 6,000 o ddisgyblion ym Mhen-y-bont ar Ogwr dros y 2 flynedd ddiwethaf.

 

Y Cynghorydd T Thomas i Aelod y Cabinet – Adfywio

Pa gynlluniau sydd gan Aelod y Cabinet i gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol trefi yn ein Bwrdeistref Sirol?

 

Ymateb:

“Mae gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr gyfres o ymyriadau ar waith sydd wedi eu bwriadu i gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol ein trefi. Mae nifer yr ymwelwyr ar draws y tair prif dref yn CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynyddu ers i gyfyngiadau Covid-19 ddod i ben, ac er nad ydynt yn cyrraedd y lefelau cyn y pandemig, mae'r niferoedd yn cynyddu'n gyson.

 

Dim ond trwy gyfuniad o fuddsoddiad mewn busnesau a menter y gellir cyflawni ein dull o gynyddu nifer yr ymwelwyr; cymorth i fasnachwyr a pherchnogion y stryd fawr; gwelliannau i adeiladau ac amgylchedd canol y dref a chyflwyno ymgyrch farchnata. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'n partneriaid, sefydliadau lleol a masnachwyr, chwarae rhan mewn hyrwyddo a buddsoddi yn ein trefi a’n mentrau lleol.

Mae’r gwaith o hyrwyddo a marchnata canol trefi yn sail i’r holl weithgarwch a buddsoddiad yn ein strydoedd mawr. O dan y brand, Canol Trefi – Pobl | Cymuned | Perthyn, mae nifer o ymgyrchoedd cydlynol wedi cael eu cynnal ar gyfer agendâu penodol; mae'r rhain yn cynnwys fideo hysbysebu ac ymgyrch yn y wasg yn hyrwyddo Diwrnod yr Annibynwyr, oedd yn tynnu sylw at amrywiaeth ac ansawdd yr arlwy o siopa annibynnol sydd gennym yng nghanol ein trefi, gan roi sylw uniongyrchol i fasnachwyr a chynhyrchion lleol.

 

Cynhaliwyd ymgyrch arall ym mis Mai 2022 yn benodol i gefnogi Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hon yn dathlu canmlwyddiant y farchnad ac yn hyrwyddo’r masnachwyr, tra hefyd yn amlygu’r cyfle i fusnesau newydd gymryd stondin farchnad o dan brosiect Codi a Ffynnu y Cyngor.

 

Eleni fe wnaethom hyrwyddo ymgyrch ‘Treuliwch yr Haf yng nghanol eich tref’, oedd yn annog pobl i ymweld â chanol trefi dros fisoedd yr haf a chymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol, oedd yn cael eu cynnal.

Yn yr un modd ar hyn o bryd, rydym yn cynnal ymgyrch ‘Gwariwch y Nadolig yng nghanol eich tref’, sy’n hysbysebu canol ein trefi fel lleoedd i siopa, cymdeithasu a dathlu dros yr ?yl. Mae ffilm Nadolig newydd ar sianel You Tube y Cyngor yn dathlu natur wahanol canol pob un o'n tair tref. Rydym hefyd yn defnyddio’r cyfle i arddangos yn y ffilm rai o’r naw t? bwyta sydd wedi newid economi’r nos yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr drwy gynnig amrywiaeth eang o brofiadau coginio.

 

Mae’r holl waith hyrwyddo hwn i gefnogi busnesau dros gyfnod masnachu hollbwysig y Nadolig, ac ymestyn yr amser y mae pobl yn aros o gwmpas, wedi cael ei ategu gan ymgyrch lwyddiannus iawn ar y cyfryngau cymdeithasol. At hynny, mae gwefan Nadolig Digidol unwaith eto yn rhoi cyfle am ddim i fusnesau gofrestru cynnig, taleb neu gerdyn teyrngarwch ac ymddangos ar Galendr Adfent y wefan.

 

Mae'r awdurdod wedi gweithio gyda Digwyddiadau Green Top i ddod â rhaglen o farchnadoedd stryd i Ben-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl yn 2022 a bydd yn ychwanegu Maesteg at y rhaglen o farchnadoedd a gynlluniwyd ar gyfer 2023. Mae nifer y bobl ychwanegol sy'n ymweld â chanol tref ar ddiwrnodau marchnad yn amrywio'n sylweddol, ond ar gyfartaledd gwelwn gynnydd o rhwng 2000 a 2500 rhwng y ddwy dref, gyda’r nifer ychwanegol uchaf o ymwelwyr ar ddiwrnodau marchnad wedi ei gofnodi fel 8,035 ym Mhorthcawl.

 

Mae dod â digwyddiadau i ganol trefi yn cael ei gefnogi gan yr awdurdod drwy ymgysylltu â gweithredwyr digwyddiadau drwy broses ESAG y Cyngor, lle rhoddir cymorth a chefnogaeth i'w helpu i ddatblygu eu digwyddiad. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf mae digwyddiadau'r Nadolig wedi cael eu cynnal ac mae'r awdurdod wedi gweithio ochr yn ochr â Chynghorau Tref a Chymuned a weithiodd yn hynod o galed i gynnal gweithgareddau Nadolig i ddenu ymwelwyr i'n strydoedd mawr.

 

Mae swm sylweddol o Gymorth Busnes yn digwydd ar draws ein trefi a’n strydoedd mawr, mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cynrychioli busnes, gan gynnwys Fforwm Masnachwyr Pen-y-bont ar Ogwr, Cymdeithas Masnachwyr Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr, Siambr Fasnach Porthcawl a Chymdeithas Fusnes Maesteg i ddatblygu a chefnogi syniadau i hybu masnach a busnes.

 

Daw cynnydd yn nifer yr ymwelwyr o ganlyniad i gynnig gwell ar ein strydoedd mawr a gellir gweld tystiolaeth o hyn yn nifer y busnesau newydd sydd wedi agor yng nghanol ein tair tref ers mis Ebrill 2022 – ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae 17 o fusnesau newydd wedi agor, 6 ym Mhorthcawl a 5 ym Maesteg. Yn bwysig, cydnabyddir bod pob un o’r busnesau newydd hyn yn buddsoddi yng nghanol un o’n trefi.

 

Un o’r ffyrdd arloesol y mae’r Cyngor yn eu defnyddio i ddenu busnesau newydd yw trwy ei Fynegai Eiddo Canol Tref ar-lein sy'n rhestru'r eiddo sydd ar werth neu i'w gosod yng nghanol tair tref Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg. Mae'r Mynegai yn dangos manylion cyswllt yr asiantiaid ac yn rhestru peth gwybodaeth am yr eiddo a ddarparwyd gan yr asiantiaid. Mae yna hefyd lun ar gyfer pob eiddo a map yn dangos ei leoliad.

 

Mae'r awdurdod yn parhau i weithio gyda busnesau newydd ac entrepreneuriaid i ddod â syniadau busnes a mentrau newydd i ganol trefi, gan gyflwyno prosiect Codi a Ffynnu (EAP) ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar. Mae’r prosiect yn gweithio drwy ddatblygu cyfres o fentrau dros dro i greu cyfleoedd ar gyfer busnesau newydd a microfusnesau, gyda 18 o fusnesau newydd yn cael eu cefnogi â gwahanol fathau o gymorth.

 

Mae'r awdurdod hefyd yn parhau i gefnogi cynigion parcio ym Mhorthcawl, ac mae Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig parcio am ddim i gael mynediad i'n canolfannau masnachol saith diwrnod yr wythnos. Mae goleuadau LED gwell wedi cael eu gosod ym maes parcio aml-lawr Maesteg i gynyddu diogelwch defnyddwyr fel rhan o brosiectau ewyllys da Neuadd y Dref Maesteg.

 

Mae cynnydd yn nifer yr ymwelwyr hefyd yn ganlyniad hollbwysig yr holl fuddsoddiadau cyfalaf ariannol mawr a grantiau ar gyfer gwelliannau i eiddo a’r amgylchedd, gan gynnwys gwaith ar Neuadd y Dref Maesteg, lle bydd y llyfrgell yn dod i ganol y stryd fawr ac yn creu canolbwynt cymunedol. Bydd gwaith yn Cosy Corner ym Mhorthcawl yn creu gofod manwerthu a hamdden ychwanegol, y mae angen dybryd amdano, ac mae cais mawr am gyllid hefyd wedi’i gyflwyno i adnewyddu Pafiliwn Porthcawl. Hefyd, mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda chydweithwyr yng Ngholeg Pen-y-bont, i ddod â champws dysgu newydd i ganol y dref. Bydd y prosiect hwn, sy'n werth miliynau o bunnau, ynddo'i hun yn dod â mwy na mil o fyfyrwyr a staff i ganol y dref yn ddyddiol, fydd yn newid proffil demograffig ymwelwyr â chanol y dref. Bydd hyn yn ei dro yn cynyddu nifer yr ymwelwyr dyddiol a'r gobaith yw y bydd yn gatalydd i gynhyrchu gwariant a denu datblygiadau a buddsoddiad newydd.

 

Fel rhan o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a Buddsoddiad Adfywio a Dargedwyd yn flaenorol (TRI) rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 22, sicrhawyd a gwariwyd £1,572,620 ar eiddo stryd fawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Maesteg drwy’r rhaglen Gwella Eiddo Canolfannau Trefol. Roedd y prosiectau hyn yn canolbwyntio gwariant ar gyflawni gwelliannau ffisegol a chymdeithasol drwy ailddatblygu safleoedd ac adeiladau gwag, o ansawdd gwael, nad ydynt yn cael eu defnyddio ddigon neu sy’n adfeilion, gyda'r bwriad o greu cyfleoedd cyflogaeth; darparu lleoliadau amlwg ac addas ar gyfer defnydd masnachol a manwerthu; diogelu a chynnal ardaloedd siopa lleol, cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref. Gan mai ychydig iawn o eiddo sydd gan yr Awdurdod ar draws ein trefi, mae'r mwyafrif helaeth o'r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio fel cymhelliant, sydd ar gael i gefnogi perchnogion adeiladau a thenantiaid sy’n dymuno bod yn rhan o adfywio eu hamgylcheddau.

 

Mae swyddogion yn parhau i weithio gyda’n datblygwyr tai a’n Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig lleol, a Llywodraeth Cymru i ddatblygu a buddsoddi mewn tai yng nghanol trefi er mwyn sicrhau bod tai addas ar gael yng nghanol trefi, gan gynnwys darparu grantiau ar gyfer byw uwchben siopau. Bydd sicrhau bod mwy o bobl yn byw o fewn pellter cerdded i’n stryd fawr, yn ogystal â darparu gwasanaethau a hamdden yn ein canolfannau, yn chwistrellu buddsoddiad dyddiol i economi’r stryd fawr.

 

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru drwy gynigion ar gyfer Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi 2022-2025 er mwyn sicrhau y bydd buddsoddiad sydd wedi cael ei anelu at ein prif strydoedd mawr yn cefnogi amrywiaeth o ymyriadau gyda’r bwriad yn bennaf o gynyddu nifer yr ymwelwyr.

 

Mae mwy o gyfleoedd ar gyfer buddsoddiad wedi’i dargedu, cymorth a chyngor ar gyfer y stryd fawr yn cael eu creu o fewn y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) 2022 – 2025 newydd, y gellir eu darparu ar draws pob stryd fawr ac ardal fasnachol yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd y pecyn buddsoddi sy’n cael ei greu yn cynnwys mwy o grantiau cyfalaf a buddsoddiad ar gyfer eiddo masnachol gwag presennol; cyfres fwy o grantiau busnes a menter; siopau dros dro ac yn y cyfamser defnyddio cyngor a chyllid ar gyfer marchnata a digwyddiadau, i gyd gyda’r bwriad o ddenu ymwelwyr a gweithgarwch i’n strydoedd mawr.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Tim Thomas

Diolch i aelod y cabinet am yr ymateb cynhwysfawr iawn i’m cwestiwn cychwynnol. Un maes y cefais fy synnu braidd na chafodd ei grybwyll o gwbl oedd pwysigrwydd cynyddu nifer yr ymwelwyr i economi’r nos yng nghanol ein trefi, a daw hyn ar adeg pan ddywedodd rhai o’m hetholwyr wrthyf, pan ymwelsant â chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr am bryd o fwyd gyda'r nos, eu bod wedi eu siomi i glywed bod maes parcio'r Rhiw yn cau am 7 p.m. pan fydd Meysydd Parcio Awdurdodau Lleol eraill mewn gwirionedd yn cynnig ychydig mwy o hyblygrwydd i gefnogi economi'r nos.

 

Felly o ystyried yr un enghraifft hon hoffwn ofyn i aelod y cabinet beth yw ei gweledigaeth wleidyddol bersonol ar gyfer economi nos ddiogel a chynaliadwy yng nghanol ein trefi yn y fwrdeistref sirol.”

 

Ymateb

“Diolch i chi, Mr Maer, ac rydw innau’n cytuno’n llwyr â’r Cynghorydd Thomas. Ac mae'n rhywbeth yr ydym wedi ei godi gyda'r Swyddogion ac rydym yn edrych ar ffordd y gallwn ddatrys y mater parcio ceir. Rwyf yn deall y cewch barcio ar y strydoedd ar ôl amseroedd penodol ac felly, er bod maes parcio’r Rhiw yn cau am 7:00 pm, mae mannau parcio ar gael ar y strydoedd ond mae’n fater a godwyd gan aelodau’r ward leol yn ogystal. Felly rydyn ni'n mynd i fod yn edrych arno.”

 

Ychwanegodd yr Arweinydd iddo barcio’n ddiweddar ym maes parcio Stryd Bracla a adwaenir yn gyffredin fel Maes Parcio Wilkinson’s, sy’n agos iawn i’r dref. Ychwanegodd ei bod yn galonogol gweld y bwyty Groegaidd newydd yn ogystal â’r Steakhouse newydd yn agor yn ddiweddar ym Mhen-y-bont ar Ogwr a dymunodd bob llwyddiant iddynt.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Eugene Caparros

“Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn wir yn dod yn lle i ddod ar gyfer ein tai bwyta gwych ac roeddwn yn falch iawn o weld y steakhouse marmor newydd yn trawsnewid uned o’i gwraidd ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol. Felly, os gwelwch yn dda, a gaf i ofyn pa ran oedd gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr mewn cefnogi’r fenter hon a beth arall oeddech chi’n ei wneud i ddangos bod Pen-y-bont ar Ogwr ar agor i fusnes?”

 

Ymateb

Dywedodd Aelod y Cabinet fod Marble Steakhouse wedi derbyn £100,000 mewn grantiau gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru ar y cyd â'r rhaglen trawsnewid trefi.