Agenda item

Cyflwyniad i’r Cyngor gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i hysbysu’r aelodau am gyflwyniad y cynigiwyd ei roi gan gynrychiolwyr un o bartneriaid gwaith allweddol y Cyngor, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM).

 

Rhoddwyd cyflwyniad PowerPoint gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

 

Cwestiynau i’r Bwrdd Iechyd:

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod arnom eisiau integreiddio ein hiechyd a’n gofal cymdeithasol ymhellach. Fodd bynnag, mae gennym fodel gweithredu gwahanol i ôl troed gweddill y bwrdd iechyd ac felly a ydy hyn wedi cael ei gydnabod gan y bwrdd iechyd? Esboniodd cynrychiolydd y bwrdd iechyd fod yr anawsterau gyda Phen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu cydnabod a’u bod yn gwybod am y diffyg cyfleusterau ar draws bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ychwanegodd fod gan RhCT 2 ysbyty cymunedol lle roeddent yn delio â Merthyr Tudful yn ogystal. Y nod oedd defnyddio’r cyfleusterau hyn i ddelio â Phen-y-bont hefyd ar gyfer gofal mwy arbenigol fel cleifion strôc sydd wedi cael eu rhyddhau o Ysbyty Tywysoges Cymru.

 

Esboniodd aelod bod ei modryb wedi cael ei chymryd i’r ysbyty yn gynharach yr wythnos hon gydag amheuaeth o drawiad ar y galon ond wedi aros mewn ambiwlans am oddeutu 30 awr mewn tymheredd o -3c. Rhoddodd esiampl arall lle roedd cymydog iddi wedi dioddef strôc ac wedi cael gwybod dros y ffôn fod amser aros o 4 awr yn bosibl. Yn ffodus, gyda chymorth eraill, llwyddasant i’w gael i mewn i gar a gyrrodd hi ef i’r ysbyty lle cafodd ei weld ar unwaith.

 

Ychwanegodd ei bod hi ac Aelod arall mewn cyfarfod Gofal a Thrwsio ym Mhen-y-bont lle buont yn disgwyl i gynrychiolydd y bwrdd iechyd gael ei anfon at y gr?p gan eu bod yn credu y gallent gynorthwyo rhai o’r cleifion yn ogystal â disgwyl am dros 70 Grant Cyfleusterau i’r Anabl (DFG) oddi wrth Gyngor BSP i alluogi cleifion i fyw yn eu cartrefi eu hunain gydag offer/addasiadau ac yn y blaen. Gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud i weithio gyda chyrff fel Gofal a Thrwsio Pen-y-bont fel y gellid rhyddhau cleifion o’r ysbyty a gofalu amdanynt yn eu cartrefi. Gofynnodd hefyd a oedd ffordd o ddefnyddio’r cyfleusterau oedd yn cael eu defnyddio yn ystod y cyfnod clo i ofalu am y cleifion hyn dros dro cyn iddynt fedru mynd adref.

 

Ar nodyn cadarnhaol, ymwelodd yn ddirybudd ag ysbyty Tywysoges Cymru rai wythnosau’n ôl ac wrth siarad â chleifion yno, roedd ganddynt bethau cadarnhaol iawn i’w dweud am y staff a’u hunig bryderon oedd gyda’r amseroedd aros.

 

Eglurodd cynrychiolydd y Bwrdd Iechyd gyda golwg ar Ofal a Thrwsio Pen-y-bont eu bod yn cydweithio’n agos gyda hwy ac y byddent yn edrych i mewn i’r rhesymau pam nad oedd cynrychiolydd mewn cyfarfodydd.

 

Esboniodd gyda golwg ar y cyfleusterau oedd yn eu lle yn ystod y pandemig eu bod yn gallu gwneud hyn gan fod llawer o wasanaethau wedi cael eu hatal cynt oherwydd y pandemig ac felly roedd staff ac adnoddau ar gael i wneud hyn. Fodd bynnag, cytunai fod angen gwneud rhywbeth a bod cynllunio brys ei angen ac felly bod hwn yn rhywbeth y byddent yn edrych arno.

 

Diolchodd Aelod i gynrychiolydd y Bwrdd Iechyd am y cyfarfod diweddar a gafodd ag ef a'i gyd-aelodau yn y ward. Eglurodd mai un o'r pethau a drafodwyd oedd y pwysau ar ambiwlansys ac ysbytai o ganlyniad i bwysau'r gaeaf ond dywedodd mewn perthynas â mynediad at ofal iechyd sylfaenol ei fod wedi sylwi ar gynnydd sydyn yn nifer y trigolion oedd yn cael trafferth gyda hyn. Eglurodd ei fod wedi gorfod ysgrifennu’n ddiweddar at reolwr practis meddygfa leol ar ran dau glaf oedrannus ac er iddynt lwyddo i gael apwyntiadau ar eu cyfer, nid oedd yn ffordd gynaliadwy i’r henoed orfod cael apwyntiad. Gofynnodd am sicrwydd ynghylch sut roedd y bwrdd iechyd yn mynd i ddelio â'r pwysau ychwanegol a nifer y bobl sy'n ceisio ffonio meddygfa a'r gwasanaeth E-ymgynghori i gael apwyntiad.

 

Cytunai cynrychiolydd y Bwrdd Iechyd fod pwysau sylweddol yn y maes hwn hefyd a’u bod wedi cael gwybod bod niferoedd mawr o alwadau yn cael eu gwneud i bractisau a bod llawer o rwystredigaeth ymhlith aelodau'r gymuned yngl?n â hyn. Esboniodd eu bod yn gweithio'n agos gyda phractisau meddygon teulu i ganfod ffyrdd gwell o gasglu gwybodaeth am fynediad at feddygon teulu, gweld faint o alwadau oedd yn cael eu rheoli a'u trin ac roedd yn amlwg bod gwahanol bractisau'n rheoli eu systemau trefnu apwyntiadau mewn ffyrdd gwahanol ac efallai mai dyna pam roedd amrywiadau rhwng practisau. Gofynnodd i’r Aelodau sicrhau, os oedd ganddynt faterion penodol i’w codi, eu bod yn cysylltu â’r bwrdd iechyd ac y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei bwydo’n ôl i’r practisau meddygon teulu er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio i wella’r hyn a allant.

 

Dywedodd Aelod fod gan Gymru hanes hir a balch gyda’r GIG ond bod ganddi ddyfodol tymor byr pryderus iawn yng Nghymru. Gofynnodd pa fesurau diogelu a chefnogaeth a roddwyd yn eu lle ar gyfer y staff, yr oedd llawer ohonynt ar y rheng flaen yn delio â'r argyfwng hwn, a llawer ohonynt yn drigolion y fwrdeistref sirol.

 

Cytunai cynrychiolydd y Bwrdd Iechyd fod staff o dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd gyda'r gofynion oedd yn cael eu gosod arnynt. Esboniodd fod yna wasanaeth lles datblygedig iawn ar gyfer staff ar draws y rhanbarth sy'n cynnwys mynediad at raglen cymorth i weithwyr, sy'n cynnig cwnsela a chymorth lles dros y ffôn ac ar-lein ac sy’n helpu gydag unrhyw straen sy'n digwydd yn y gwaith neu yn y cartref. Ychwanegodd fod y bwrdd iechyd yn cyfarfod yn rheolaidd â staff ac yn gwrando ar eu pryderon ac yn ystyried unrhyw feysydd gwella lle y gellir cefnogi eu llesiant.

 

Holodd Aelod mewn perthynas â’r brechlynnau Covid, pam yr oedd llawer o drigolion yn cael eu hanfon i dref wahanol i’w derbyn pan oedd ganddynt ganolfan frechu yn agos at eu cartref. Eglurodd cynrychiolydd y Bwrdd Iechyd, pan newidiwyd y model ar ddechrau 2022 pan nad oedd Ravens Court bellach i gael ei ddefnyddio fel canolfan, fod y bwrdd iechyd wedi cael anhawster i ddod o hyd i gyfleuster lle roedd modd storio’n briodol, lle roedd mynediad i gleifion, maes parcio a chyfleuster o faint addas. Fodd bynnag, gallai cleifion ddewis newid lleoliad eu hapwyntiad pe baent yn teimlo bod y lleoliad a neilltuwyd iddynt yn rhy anghyfleus.

 

Soniodd Aelod, ym Mhorthcawl, fod y feddygfa leol mor anodd i ddod i gysylltiad â hi neu gael apwyntiad ynddi fel bod trigolion yn teithio i adrannau damweiniau ac achosion brys i gael eu gweld. Cymerodd cynrychiolydd y Bwrdd Iechyd yr adborth hwn i ffwrdd gydag ef a dywedodd y byddai'n edrych i mewn i hyn.

 

Gofynnwyd cwestiynau pellach i gynrychiolwyr y bwrdd iechyd sydd i’w gweld yn y ddolen gofnodi yma.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn nodi'r cyflwyniad oedd i gael ei roi fel y cyfeirid ato ym mharagraff 4.1 yr adroddiad hwn.

Dogfennau ategol: