Agenda item

Galw Penderfyniad y Cabinet i Mewn: Strategaeth Garbon Sero Net 2030 Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3 adroddiad i'r Cabinet ar argymhellion y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Phwyllgor Craffu 3 (SOSC 3) o'u cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ionawr 2023, yn dilyn penderfyniad 3 aelod o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a Chadeirydd Craffu i alw i mewn benderfyniad y Weithrediaeth mewn perthynas â Strategaeth Garbon Sero Net 2030.

 

Esboniodd y Cadeirydd Craffu fod aelodau'r Pwyllgor wedi trafod y penderfyniad yn y cyfarfod hwn ac wedi tynnu sylw at y pwyntiau fel y cawsant eu nodi yn Adran 4 yr adroddiad. Yn dilyn hyn, argymhellodd y Pwyllgor y dylid cyfeirio'r penderfyniad yn ôl i'r Cabinet i'w ailystyried am y rhesymau a nodir yn Adran 4.5 yr adroddiad.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ar y 13eg o Ragfyr 2022 ar strategaeth Sero Net 2030 Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn mandad Llywodraeth Cymru i bob awdurdod lleol yng Nghymru sefydlu strategaeth briodol. Roedd strategaeth 2030 Pen-y-bont ar Ogwr ynghlwm yn Atodiad C yr adroddiad.

 

Ychwanegodd, er nad oedd hon yn fenter a ariannwyd yn llawn, fod Llywodraeth Cymru wedi nodi gofynion y strategaeth hon a'r cwmpas yr oedd arnynt eisiau iddi ei gynnwys. Roedd strategaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn benllanw 18 mis o waith a derbyniodd gymorth gan yr Ymddiriedolaeth Garbon, oedd yn arbenigwyr diwydiannol yn y maes hwn. Ychwanegodd fod strategaeth 2030 wedi mynd i Bwyllgor Craffu yn 2021, ei bod wedi bod yn destun dau adroddiad Cabinet, ac wedi mynd allan hefyd i ymgynghoriad cyhoeddus am 12 wythnos.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau mai strategaeth gorfforaethol oedd Strategaeth Garbon Sero Net 2030 Pen-y-bont ar Ogwr, oedd yn mynegi dyheadau i gael gweithrediadau ein Cyngor i safle carbon sero net erbyn 2030. Roedd hyn yn seiliedig ar gyfrifiad o 90,000 tunnell o allyriadau carbon; darparwyd y cyfrifiad hwn gan yr Ymddiriedolaeth Garbon.

 

Esboniodd y byddai'r Strategaeth, yn unol ag adroddiad gwreiddiol y Cabinet, yn cael ei hadolygu bob tair blynedd i gyd-fynd â'r cynllun corfforaethol ac y byddai’n esblygu fel rhan o’r agenda garbon sero net genedlaethol ac felly, wrth i arweiniad pellach gael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, y byddai’r strategaeth yn esblygu ac yn aeddfedu. Ychwanegodd fod cynllun gweithredu yn ategu’r strategaeth ac y câi hwnnw hefyd ei adolygu bob blwyddyn yn unol â'r MTFS a’r Protocol ar gyfer Adrodd am Nwyon T? Gwydr fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Tynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau sylw at yr hysbysiad galw i mewn yn Atodiad B yr adroddiad. Y rhesymau a roddwyd dros alw i mewn oedd gofyn am eglurhad ar nifer o bwyntiau fel y dangosir isod:

 

  1. goblygiadau ariannol y strategaeth
  2. perfformiad a monitro
  3. goruchwylio a llywodraethu
  4. adnoddau

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau y byddai'r goblygiadau ariannol yn sylweddol i'r sector cyhoeddus i gyd, yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol gyfredol. Er bod pob un o'r 21 awdurdod lleol wedi cynhyrchu strategaeth 2030, nid oes yr un ohonynt wedi cynnwys costiadau manwl yn eu strategaethau. Ychwanegodd mai'r rhesymau am hyn oedd y byddai'n amhosibl penderfynu ar gostiadau cywir am weithredu dros y 7 mlynedd nesaf oherwydd datblygiadau’r dechnoleg yn y maes hwn, y newid yn yr agenda genedlaethol gan Lywodraeth Cymru a chwyddiadau cost.

 

Nododd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau y byddai'r cynllun gweithredu fel y soniwyd yn flaenorol yn cynnwys costiadau, goblygiadau refeniw a chyfalaf hefyd ar gyfer y flwyddyn honno. Nid oedd CBSP yn cychwyn o safle segur gan y bu llawer o fentrau amgylcheddol eisoes dros y 3 blynedd ddiwethaf. Byddai'r cynllun gweithredu yn cynnwys prosiectau allanol a ariennir drwy grantiau, sydd gennym ar waith eisoes, a byddai’n cynnwys mentrau corfforaethol mewnol y caiff eu cynlluniau busnes eu cymeradwyo gan fwrdd rhaglen 2030.

 

Tynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau sylw at nifer o ffynonellau cyllid gwarantedig oedd yn cynnwys grantiau Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r Ddinas- Ranbarth, fydd yn cynorthwyo i newid ein fflyd i drydan ac yn gweithredu seilwaith gwefru.

 

Mae gan CBSP hefyd Fenter Rhwydwaith Gwres Ardal Pen-y-bont ar Ogwr sydd ar hyn o bryd yn gweld gwaith yn cael ei wneud gydag adeilad newydd sbon Coleg Penybont. Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd wedi mynegi diddordeb yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn ymuno â'r rhwydwaith gwres yn y cyfnodau dilynol.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau, o ran awdurdodau lleol eraill, fod Cyngor Abertawe wedi amcangyfrif yn ddiweddar mai eu cost am weithredu eu strategaeth 2030 hwy eu hunain fyddai £187 miliwn. Fodd bynnag, maent wedi nodi mai megis arwydd parc peli yn unig oedd hwn. Dim ond fel ffigwr arwyddol y bwriadwyd ef, er mwyn dangos pa mor heriol fyddai cyllido 2030 gan mai dim ond £4 miliwn oedd ganddynt yn y gyllideb ar hyn o bryd.

 

Esboniodd, o ran y cyfarfod galw i mewn a'r pwynt a wnaed ynghylch costiadau ar gyfer cyflawni'r cerrig milltir erbyn 2024, fod yr holl gyllidebau'n gorfforaethol ac yn cael eu dal ar draws yr holl gyfarwyddiaethau a'u monitro drwy'r MTFS a’r Rhaglen Gyfalaf.

 

Tynnodd sylw ymhellach at ystod o ddyraniadau cyllideb oedd eisoes yn eu lle. Manylodd ar fap y llwybr at Ben-y-bont ar Ogwr Sero Net fel y nodwyd yn Atodiad C yr adroddiad, oedd yn cyfeirio at y targedau yr oedd yn rhaid eu cyflawni ar y ffordd tuag at 2030. Bob blwyddyn, bydd y cynllun gweithredu yn edrych ar y cerrig milltir hyn ac yn eu haddasu yn unol â hynny.

 

Esboniodd Aelod y Cabinet dros y Cymunedau fod yna lawer o waith yn digwydd y tu ôl i'r llenni a’i bod yn anffodus nad oedd y gwaith caled bob amser yn cael ei gydnabod. Ychwanegodd ei bod yn siomedig, gan fod hyn wedi bod gerbron y pwyllgor craffu o'r blaen, nad oeddent wedi defnyddio'r cyfle i ofyn y cwestiynau hyn. Ychwanegodd y byddai'n anghyfrifol ac yn amhosibl ffurfio cyllideb ar gyfer 2030 ac felly, fel awdurdod, ei bod yn bwysig bod yn gyfrifol a llunio cynllun 12-18 mis a gwneud hyn wrth i ganllawiau newydd gael eu darparu, wrth i gostau newid a hefyd wrth i sefyllfa ariannol Cymru newid.

 

Cytunai Aelod y Cabinet dros Addysgâ'r sylwadau hyn ac ychwanegodd mai ef oedd yn cadeirio'r Pwyllgor Craffu pan edrychwyd ar hyn i ddechrau, ond roedd yn deall bod yna Aelodau newydd oedd yn dymuno edrych ar hyn. Fodd bynnag, o ran costio, yr oedd yn amhosibl edrych ymlaen ymhellach na 18 mis gydag unrhyw gywirdeb gwirioneddol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau ei bod yn bwysig nodi bod cynlluniau'n dod yn fwy fforddiadwy wrth i amser fynd yn ei flaen ac wrth iddynt ddod yn fwy prif ffrwd. Er enghraifft, roedd Llywodraeth y DU wedi datgan yn ddiweddar ei bod yn disgwyl i gost cerbydau trydan ostwng yn sylweddol dros y ddwy flynedd nesaf ac felly po fwyaf o gyflenwi a galw a fydd, yr hawsaf fydd darparu costiadau tymor hwy.

 

Eglurodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol fod y cynlluniau hyn a’r technolegau oedd ynghlwm wrthynt yn aml yn newydd ac yn gymhleth iawn a bod hyn yn ychwanegu at yr anhawster o benderfynu costiadau. Ychwanegodd fod mewnbwn y Pwyllgor Craffu’n werthfawr a bod ei wir angen i sicrhau ein bod fel Cyngor yn gwneud y penderfyniadau cywir. Gofynnodd beth y gellid ei wneud i baratoi ar gyfer adeg ymhellach ymlaen yn y broses oddeutu 2026-28.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod y diwydiant yn gwybod bod gan y sector cyhoeddus darged carbon sero net ac felly ei bod yn bwysig i ni fel cyngor edrych ar gaffael cynaliadwy er mwyn hwyluso hyn. Y nod oedd edrych ar fwy o gwmnïau lleol oedd yn cefnogi'r amgylchedd a'r economi leol yn ogystal â thorri i lawr ar filltiroedd carbon. Roedd hefyd yn bwysig edrych ar yr ynni yr ydym yn ei brynu a sicrhau ein bod yn prynu’n wyrdd ac yn newid i ffynonellau adnewyddadwy lle bo hynny'n bosibl.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd mewn perthynas â'r targedau a'r cynllun gweithredu, os nad oeddem ar y trywydd i gyrraedd targedau ei bod yn bwysig inni gael yn ôl ar y trywydd iawn.

 

Soniodd y Prif Weithredwr am un o'r pwyntiau a godwyd yn y cyfarfod galw i mewn ynghylch y ffocws corfforaethol a pham nad oedd hwn yn eistedd o fewn Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr. Esboniodd na fyddai pob mater corfforaethol yn eistedd o fewn y Gyfarwyddiaeth hon ond nododd yn glir mai'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol oedd yn gyfrifol am broblemau oedd yn codi.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Cadeirydd Craffu a fyddai ef yn hapus, ynghyd â'r pwyllgor craffu, i gynorthwyo i adolygu’r strategaeth. Dywedodd y Cadeirydd Craffu y byddai'n hapus i wneud hyn ond y byddai'n croesawu barn Cadeiryddion Craffu eraill i drafod ym mha bwyllgor y byddai'n fwyaf addas i’r mater eistedd. Galwodd i gof drafodaeth a gafwyd am hyn yn y cyfarfod galw i mewn lle roedd Swyddog yn credu mai SOSC 3 oedd y pwyllgor addas i hyn eistedd ynddo. Dywedodd yr Arweinydd y gallai llawer o agweddau ar arbedion lleihau carbon fod yn addas ar gyfer pwyllgorau Craffu eraill yn y dyfodol wrth i'r strategaeth newid a'r ffordd y byddai Craffu yn dymuno edrych arni.

 

Pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd ei bod yn bwysig, fel Aelodau’r Pwyllgorau Craffu, eu bod yn arfer y pwerau oedd ar gael i'r pwyllgor hwnnw a dod ag adroddiadau i gyfarfodydd ac adolygu unrhyw strategaethau neu bolisïau cyn gynted ag yr oedd modd.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Cadeirydd Craffu mewn perthynas â'r strategaeth ei hun a oedd y pwyllgor yn hapus â hi neu a oedd ganddynt unrhyw beth y dymunent ei newid. Dywedodd y Cadeirydd Craffu nad oedd dim penodol yngl?n â’r strategaeth ei hun. Y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor oedd na ofynnodd y Cabinet ddigon o gwestiynau ynghylch y costau ariannol ehangach. Roedd yr Arweinydd wedi nodi nad oedd y costau tymor hir yn hysbys ac y byddai'n her o ran cyllid, ond gan nad oedd y costau hyn yn hysbys a bod awdurdodau lleol eraill mewn sefyllfa debyg, y ffordd orau ymlaen oedd sefydlu cynllun gweithredu fyddai’n delio â'r costau ar gyfer pob blwyddyn fyddai’n dilyn.

 

Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd, ar gyfer pob adroddiad Cabinet a Phwyllgor Craffu, fod adrannau ar y diwedd oedd yn edrych ar bolisi, fframwaith a rheolau gweithdrefnol llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a'r AEA hefyd. Pwysleisiodd fod cymaint o fanylion wedi cael eu darparu ag yr oedd modd. Mae Carbon Sero Net erbyn 2030 yn ofyniad mandadol gan Lywodraeth Cymru ac felly mae'n rhaid i'r Cabinet geisio darparu gwasanaeth da am y pris gorau gyda'r gwerthoedd economaidd-gymdeithasol gorau i drigolion CBSP.

 

Gofynnodd y Cadeirydd Craffu am eglurhad ar bwynt a godwyd gan Aelod o'r Pwyllgor Craffu yn y cyfarfod galw i mewn. Cododd bwynt gan fod y costiadau wedi cael eu darparu hyd at 2024, a ellid darparu costiadau ymhellach. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod y cyllidebau mewn perthynas â'r cynllun gweithredu yn cael eu dal ym mhob Cyfarwyddiaeth. Er enghraifft, roedd gwaith yn cael ei wneud o amgylch cerbydau ULEV ar gyfer gofal cymdeithasol, roedd cyllidebau i newid boeleri mewn ysgolion am bympiau gwres ffynhonnell y ddaear ac roedd hyn yn eistedd o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg ac felly ymlaen. Credai y byddai angen llawer iawn o waith gan swyddogion i goladu pob cyllideb unigol a’i chostio ac na fyddai'n cynnig unrhyw fudd pellach i’r Aelodau am resymau a grybwyllwyd eisoes.

 

PENDERFYNWYD: bod y Cabinet yn cytuno i gadarnhau'r penderfyniad a wnaed yn ei gyfarfod ar 13 Rhagfyr 2022 ac yn mabwysiadu Strategaeth Garbon Sero Net 2030 Pen-y-bont ar Ogwr yn ffurfiol, gan nodi y caiff y costiadau hyd at gyfnod 2024 eu hamlinellu yn y Cynllun Gweithredu sy'n ategu'r strategaeth.

 

Dogfennau ategol: