Agenda item

Premiymau’r Dreth Gyngor - Ail Gartrefi a Chartrefi Gwag Hirdymor – Canlyniad yr Ymgynghoriad

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn diweddaru’r Cabinet ar ganlyniad yr ymarfer ymgynghori mewn perthynas â

chodi premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor, yn ogystal â cheisio argymhelliad gan y Cabinet ynghylch sut i symud ymlaen, yng ngoleuni adborth yr ymgynghoriad.

 

Cynigodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid gefndir yr adroddiad, ac eglurodd bod canlyniadau’r ymarfer ymgynghori wedi’u cyflwyno gerbron y Cabinet am argymhelliad i'r Cyngor llawn. Eglurodd bod modd i Gynghorau Cymru godi symiau uwch ar ben graddfa gyffredin y dreth Gyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor. Bwriad rhoi'r disgresiwn hwn i awdurdodau lleol oedd cynnig offeryn iddynt roi ail-fywyd i gartref gwag hirdymor yn ogystal â helpu awdurdodau lleol i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy o fwn eu hardaloedd. Ychwanegodd bod eithriadau lle nad oedd modd codi premiymau a manylir ar y rhain yn yr adroddiad, ynghyd â gwybodaeth am yr awdurdodau lleol a oedd wedi cymhwyso premiwm yng Nghymru ym mis Tachwedd 2022.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid bod 701 o gartrefi gwag hirdymor ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar ddiwedd mis Hydref. Bwriad Strategaeth Cartrefi Gwag y Cyngor oedd lleihau nifer yr eiddo gwag, er mwyn cyfrannu tuag at gynyddu argaeledd tai i'w gwerthu neu i'w rhentu, ac roedd codi premiwm treth ar eiddo gwag yn cyd-fynd â nodau'r strategaeth honno. Roedd yr adroddiad hefyd yn ystyried y cynnig i godi premiwm ar ail gartrefi. Roedd gan Ben-y-bont ar Ogwr 72 eiddo a oedd wedi’u dosbarthu fel ail gartrefi, ac roeddent ar hyn o bryd yn talu 100% o'r dreth cyngor. Ychwanegodd, pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i gymhwyso premiwm ar ail gartrefi, ni fyddai modd ei gymhwyso i'r categori hwn o gartrefi tan fis Ebrill 2024.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid sut y cafodd yr ymgynghoriad ei hysbysebu, yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad fel y manylir yn atodiad A yr adroddiad a'r opsiynau sydd ar gael i'r Cabinet eu hystyried.

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol, yn sgil yr argyfwng tai yr oeddent yn ei wynebu ledled y Fwrdeistref, Cymru a’r DU, y dylid croesawu unrhyw gynnig a fydd yn eu helpu i adfywio mwy o dai. Cefnogodd premiwm ar y Dreth Gyngor ar eiddo gwag hirdymor, er mwyn adfywio’r eiddo hynny, neu i dalu mwy er mwyn helpu i ariannu gwasanaethau tai a digartrefedd o fewn y fwrdeistref. Mewn perthynas ag ail gartrefi, roedd nifer fechan iawn o ail gartrefi ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd, ac roedd yn meddwl y dylid cymryd amser i adolygu’r effaith posibl cyn gwneud penderfyniad.

 

Cytunodd y Dirprwy Arweinydd gyda’r sylwadau hyn ac ychwanegodd y dylid defnyddio unrhyw gyllid a godir drwy’r ffioedd hyn i leihau digartrefedd a chynorthwyo â digartrefedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau y byddai rheoliadau newydd, mewn perthynas â gosodiadau gwyliau ac ail gartrefi, yn dod i rym yng Nghymru tua diwedd y gwanwyn. Roedd Llywodraeth Cymru'n gweithio gydag awdurdodau cynllunio lleol i weld sut y gallent ddiwygio'r rheoliadau cynllunio gan eu galluogi i reoli'r nifer o ail gartrefi a'r nifer o dai haf. Roedd hyn yn arbennig o bwysig wrth ystyried y cynllun adfywio ym Mhorthcawl.

 

Cytunodd yr Arweinydd y byddai'n synhwyrol i ystyried ail gartrefi'n fanylach, gan ystyried y newidiadau yn y system gynllunio.

 

Cytunodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau gyda'r cynnig am eiddo gwag hirdymor a gofynnodd am eglurhad ynghylch penderfyniad ar ail gartrefi a pha ddyddiad y byddai unrhyw gynnydd yn dod i rym pe na fyddent yn gallu gwneud penderfyniad heddiw. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai'n rhaid iddynt wneud penderfyniad 12 mis llawn cyn gweithredu’r ddarpariaeth ail gartrefi, yn unol â'r rheoliadau. Gallent benderfynu rhoi’r premiymau hynny ar waith o Ebrill 2024, ond byddai angen gwneud rhai addasiadau yn ystod y flwyddyn.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at ychydig o ddryswch yn rhai o'r ymatebion i'r ymgynghoriad mewn perthynas ag eithrio eiddo sy’n cael eu hadnewyddu ac felly nid oes modd byw ynddynt, ac eiddo lle maent yn aros am Grant Profiant. Cadarnhaodd bod nifer o eithriadau penodol eisoes ar waith mewn perthynas â’r dreth gyngor, a all fod yn berthnasol dan yr amgylchiadau hyn.   

 

PENDERFYNWYD:                Cabinet:

 

• nodwyd canlyniadau'r ymgynghoriad ac

argymhellir gweithredu premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor, i’r Cyngor, gyda'r amod y byddai gwaith ychwanegol yn cael ei gynnal mewn perthynas ag ail gartrefi a ffactorau ehangach.

• yn amodol ar yr uchod, ac unrhyw benderfyniad a wnaed gan y Cyngor, awdurdodi’r Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid i weithredu unrhyw newidiadau.

Dogfennau ategol: