Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad i’r Cabinet ystyried yr achos busnes a baratowyd yn unol â dogfen
Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) y Cyngor er mwyn cefnogi prydlesu'r
pafiliwn a dau gae pêl-droed, mannau gwyrdd eraill a maes parcio yng
Nghaeau Chwarae Llangynwyd i Glwb Bechgyn a Merched Llangynwyd Rangers.
(CBM Llangynwyd Rangers). Roedd gofyn hefyd i’r Cabinet asesu, a phan fo’n briodol, cymeradwyo'r pecyn cyllid a ofynnir amdano gan CBM Llangynwyd Rangers CBM dan Gronfa CAT y Cyngor i gefnogi cynigion i ymgymryd â gwaith atgyweirio hanfodol yn y pafiliwn ar ôl cwblhau prydles hirdymor arfaethedig dros 35 mlynedd ar gyfer y safle cyfan.
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau gefndir ar gyfleusterau a defnydd y clwb. Aeth ymlaen wedyn i amlinellu’r cynnig presennol a bod y Clwb yn dymuno ehangu cyfranogiad, yn enwedig o ran merched, ac roedd ganddo
nifer o fentrau i ymestyn apêl pêl-droed. Mae cynllun ‘Huddle’ Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod ar waith ers mis Ebrill 2021 ac wedi denu dros 180 o ferched i chwarae pêl-droed. Atodwyd cynlluniau busnes ac ariannol manwl yn amlinellu eu cynigion yn atodiad G a H yr adroddiad. Cafodd y ddau gynllun eu hadolygu gan yr Adran Gyllid ac ystyriwyd eu bod yn arddangos
hyfywedd ariannol y prosiect sy’n cael ei gynnig yn y tymor byr a chanolig, yn unol â’r ddogfen Polisi CAT. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod tri chais am gyllid wedi’u cyflwyno a bod y Clwb yn dymuno cwblhau’r brydles 35 mlynedd arfaethedig ar gyfer y safle cyfan, a fyddai'n eu galluogi i ymgymryd â gwaith atgyweirio
hanfodol yn y pafiliwn, yn amodol ar y Cabinet yn cymeradwyo eu cais am gyllid, gwerth
£157,240.85.
Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau’r adroddiad, a fyddai’n cyflwyno symiau mwy fyth o arian i greu lleoliad man gwyrdd yn ogystal â lleoliad pêl-droed.
Cytunodd yr Arweinydd bod hwn yn gynnig hynod gyffrous ar gyfer y Clwb, y cwm a’r Fwrdeistref. Roedd y cyllid yn galluogi’r Clwb i sicrhau arian cyfatebol, ac felly buddsoddiad o dros £450,000, ac roedd yn arbennig o hapus gyda’r cynlluniau i ymgysylltu mwy gyda merched.
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod gan y Clwb weledigaeth ac adran merched arbennig o gryf, ond nid y cyfleusterau. Roeddent yn bwriadu ychwanegu cyfleusterau penodol, ond yn dechrau atgyweirio'r hyn sydd yno eisoes.
Diolchodd yr Arweinydd y gwirfoddolwyr ac Aelodau Pwyllgor y Clwb am eu gwaith caled wrth gyflawni’r llwyddiant hwn.
PENDERFYNWYD: Cabinet:
1. Nodwyd y cyllid eisoes wedi'i ddyrannu o’r Gronfa CAT i CBM Llangynwyd Rangers i gefnogi hunanreolaeth y ddau gae pêl-droed a mannau gwyrdd eraill yng Nghaeau Chwarae Llangynwyd, y cytunwyd arno mewn egwyddor gan y Gr?p Llywio CAT.
Diben y Cyllid |
Cyllid dan Gronfa CAT |
Gwelliannau i’r System Ddraenio a’r Caeau (2 x Gau Pêl-droed) |
£50,000.00 |
Cynnal a Chadw Offer y Caeau |
£10,000.00 |
2. Cymeradwywyd yr achos busnes (cynlluniau busnes ac ariannol) a gyflwynwyd gan CBM Llangynwyd Rangers i gefnogi prydlesu’r Pafiliwn, y ddau gae pêl-droed, mannau gwyrdd eraill a maes parcio yng Nghaeau Chwarae Llangynwyd, dan raglen CAT y Cyngor, drwy arddangos hyfywedd ariannol a chynaliadwyedd y prosiect.
3 Cymeradwywyd y cais am gyllid dan y Gronfa CAT a gyflwynwyd gan CBM Llangynwyd Rangers er mwyn ymgymryd â gwaith atgyweirio hanfodol yn y pafiliwn, gwerth £157,240.85, a fyddai’n codi’r pecyn cyllid llawn ar gyfer y trosglwyddo dan y Gronfa CAT i £217,240.85.
Dogfennau ategol: