Agenda item

Plant sy’n Ceisio Lloches heb Rieni

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad yn cyflwyno diweddariad i'r Cabinet ar y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol gofynnol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc sy’n Ceisio Lloches Heb Rieni (UASC) a gofyn i'r awdurdod dirprwyedig hwnnw gael ei roi i Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i addasu contract cyfredol, yn unol â rheol 3.3.3 Rheolau Gweithdrefn Contract y Cyngor ac i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid ac Adran 151, a Phrif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi

Corfforaethol i gytuno ar delerau’r cytundeb rhanbarthol (SLA) ac unrhyw gytundebau

ategol, yn ôl y gofyn.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gefndir yr adroddiad a’r ffaith bod BCBC, hyd yma, wedi llwyddo i drefnu lleoliad ar gyfer 6 o blant, gan ddefnyddio llety â chymorth ac asiantaethau maeth annibynnol. Ar hyn o bryd, nid oedd gan BCBC ddigon o gapasiti o fewn contractau Llety â Chymorth presennol i fodloni anghenion pobl ifanc sy'n dod drwy'r NTS. Roedd digonolrwydd lleoliadau mewn perthynas â maethu a gofal preswyl hefyd yn gyfyngedig. Eglurodd mai'r cynnig ar hyn o bryd oedd datblygu mwy o lety â chymorth, sy'n addas ar gyfer pobl ifanc oedd dros 16 oed, wedi’i ddarparu gan landlord cymdeithasol cofrestredig. Byddai'r cymorth yn cael ei gynnig gan ddarparwr cymorth wedi’i gomisiynu, Dewis Cyf. Roedd y contract Llety â Chymorth presennol ar waith gyda Dewis ond yn caniatáu addasu 10%, fodd bynnag, roedd angen addasu 36% ar y contract er mwyn helpu BCBC i fodloni'r gofynion UASC a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, y byddai hyn yn ffordd gost-effeithiol o fodloni anghenion y plant hynny, a byddai'r lleoliad yn eithaf addas wrth gael mynediad at wasanaethau lleol, gan gynnwys darpariaeth addysg o fewn y fwrdeistref sirol. Esboniodd bod newid wedi bod gan y Swyddfa Gartref o ran y cyllid ynghlwm â phlant oedd yn ceisio lloches ac roedd hi'n hyderus y byddai'r arian gan y Swyddfa Gartref yn bodloni’r angen am y llety â chefnogaeth.

 

Atebodd y Dirprwy Arweinydd ei bod hi'n falch iawn o nodi y bydd San Steffan yn talu'r holl gostau. Roedd peth ansicrwydd ynghylch cost y cynlluniau gofal a chymorth, oherwydd nid oeddynt yn gwybod pwy oedd y bobl ifanc tan iddynt gyrraedd, mewn gwirionedd. Gofynnodd am sicrwydd y byddai modd lleoli’r bobl ifanc gyda darparwyr erbyn 28 Chwefror, ac a oedd trefniadau ar waith ar gyfer addysg.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Corfforaethol bod sicrwydd yn eu lle, a phwrpas yr adroddiad hwn oedd cael y caniatâd gofynnol i gyflawni'r cyfrifoldeb cyn diwedd mis Chwefror.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Addysg pa ddarpariaethau oedd yn cael eu rhoi ar waith i'r plant ac a oedd unrhyw gategoreiddio arbennig ar gyfer y plant hyn? Gofynnodd hefyd a fyddai'r costau'n cael eu cynnwys dan ofal Llywodraeth y DU.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddent yn cael eu hadnabod fel plant sy'n derbyn gofal ac yn amlwg, y byddant yn cael eu blaenoriaethu dan y Polisi Derbyn i Ysgolion. Byddant hefyd yn cael eu hystyried i fod yn gymwys am drafnidiaeth ysgol, yn unol â’r mesur Teithio gan Ddysgwyr, yn ogystal â bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Yn ogystal â hynny, mewn perthynas â chymorth addysg, byddant yn cael cymorth ychwanegol drwy’r gwasanaeth cynhwysiant, mewn perthynas â Saesneg fel iaith ychwanegol. Eglurodd, mewn perthynas â’r costau’n cael eu cynnwys dan ofal Llywodraeth y DU, y byddai angen iddo geisio eglurhad gan gydweithwyr cyllid.

 

Eglurodd yr Arweinydd mai’r disgwyl oedd i’r cyllid a fydd yn cwmpasu’r holl gostau er mwyn cefnogi’r plant hyn, ddod gan Lywodraeth y DU. Dyma oedd y plant mwyaf bregus yn ein cymdeithas, yn ffoi arswyd a thrychinebau, a’n dyletswydd ni oedd eu croesawu hyd eithaf ein gallu. Ychwanegodd ei fod wedi cwrdd ag Aelodau’r Ward, a'u bod yn hynod gefnogol, a byddant yn gweithio’n agos gyda’r Gymuned wrth i’r cynnig ddatblygu.

 

Gofynnodd yr Arweinydd bod eglurhad mai Llywodraeth y DU fyddai'n talu am bob cost, gan gynnwys addysg, yn cael ei geisio.  

 

PENDERFYNWYD:                  Cabinet:

·      Awdurdod dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i addasu’r contract Llety â Chymorth presennol gyda Dewis, er mwyn cynnig gwasanaethau ychwanegol hyd at werth £213k yn unol â rheol 3.3.3 Rheolau Gweithdrefnol Contract y Cyngor.

Awdurdod dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid acr Swyddog Adran 151, a'r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheolaethol er mwyn cytuno ar delerau cytundeb gwasanaeth llety â chymorth rhanbarthol (SLA), a gweithredu’r cytundeb hwnnw, ac unrhyw gytundebau ategol, yn ôl yr angen.

Dogfennau ategol: