Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2023-24 i 2026-27

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad gyda’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2023-24 i 2026-27 drafft, sy'n gosod blaenoriaethau gwario'r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a'r meysydd cyllideb sydd wedi'u targedu ar gyfer arbedion angenrheidiol. Mae'r strategaeth yn cynnwys rhagolygon ariannol ar gyfer 2023-2027 a drafft manwl o gyllideb refeniw 2023-24.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid eu bod yn gweld pwysau cost gweddilliol a cholled incwm ar ôl y pandemig, pwysau chwyddiant sylweddol yn ogystal ag effaith yr argyfwng costau byw ar gyflogau a phrisiau. Roedd hyn yn golygu bod y gwaith o gynllunio’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod yn fwy ansicr ac yn fwy heriol nag arfer. Amlinellwyd y sefyllfa ariannol bresennol ynghyd â’r pwysau parhaus. Ychwanegodd y byddai'r Cyngor yn ceisio diogelu’r bobl fwyaf bregus yn y Gymuned. Roedd y Cyngor wedi gwneud gwerth £73 miliwn o arbedion refeniw ers 2010, swm sylweddol i’w ganfod.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y gyllideb net arfaethedig ar gyfer y flwyddyn nesaf a sut oedd yn cael ei hariannu. Roedd Adran 4 yr adroddiad yn egluro’r materion penodol ar gyfer pob maes gwasanaeth. Eglurodd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r Setliad Llywodraeth Leol dros dro ar 14 Rhagfyr 2022. Ni fydd y Setliad Llywodraeth Leol terfynol yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd mis Chwefror, felly dangoswyd y gyllideb refeniw ddrafft ar gyfer 2023/24 yn Nhabl 6 yr adroddiad.

Yn ystod 2022-23, roedd nifer o bwysau cyllidebol gwasanaeth nad oedd modd eu hosgoi wedi codi, fel y manylir yn Atodiad A yr adroddiad. Cyfanswm y pwysau cyllidebol a nodwyd ar gyfer 2023-24 oedd £10.711 miliwn. Roedd rhaid canfod gostyngiadau cyllidebol hefyd er mwyn cydbwyso’r gyllideb hon, a nodwyd cynigion ar gyfer £3.2 miliwn, ac amlinellwyd y rhain yn Atodiad B yr adroddiad. Roedd yr adroddiad hefyd yn ymdrin â chynlluniau mewn perthynas â’r rhaglen gyfalaf fel rhan o’r setliad hwnnw. Dyfarnwyd dros £8 miliwn i Ben-y-bont ar Ogwr er mwyn cefnogi cyllid cyfalaf y flwyddyn i ddod. Roedd y rhaglen gyfalaf diweddaraf i’w hystyried gan y Cyngor, a byddai unrhyw newidiadau pellach i’r rhaglen honno’n cael eu cynnwys yn y strategaeth tymor canolig terfynol, a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ac yna i’r Cyngor ym mis Chwefror a mis Mawrth eleni. Nid oedd unrhyw gynigion cyfalaf wedi’u gwneud ar gyfer y flwyddyn i ddod, er ei fod wedi’i dderbyn bod nifer o bwysau cyfalaf a fyddai angen eu hariannu cyn symud ymlaen, a bydda’r rhain yn cael eu diweddaru pan fo’r cynigion cyllidebol terfynol yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid bod hon yn gyllideb ddrafft, ac roedd y cynigion hyn bellach yn destun ymgynghoriad gyda’r pedwar pwyllgor craffu dros yr wythnos i ddod. Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus i fod i ddod i ben cyn bo hir a byddai’r canfyddiadau o’r ddau ymarfer yn cael eu hystyried wrth ddrafftio’r gyllideb derfynol ar gyfer 2023-2024.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid am yr adroddiad yn ystod cyfnod hynod anodd a heriol. Byddai’r gyllideb hon yn cynnig cannoedd o wasanaethau i ddegau o filoedd o drigolion y Fwrdeistref Sirol. Byddant yn gwrando ar y broses graffu ac anogodd aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Byddai’n rhaid iddynt gyfyngu ar dwf gwasanaeth a lle bo’n bosibl, cymryd arian o’r swyddfa gefn yn hytrach na’r rheng flaen, gan gydnabod goblygiadau hynny. Roedd gofyn iddynt gyflwyno cyllideb wedi’i chydbwyso, ond roeddynt yn ymwybodol o’r argyfwng costau byw, a phe bai modd lleihau effaith y dreth gyngor, byddent yn gwneud hynny. Anogodd drigolion eto i gymryd rhan yn y broses ymgynghori.

 

Ategodd yr Aelod Cabinet dros Addysg yr hyn a oedd wedi’i ddweud, ac ychwanegodd nid dyma’r gyllideb derfynol, ond ei bod yn ddogfen weithiol byw. Byddent yn gwrando ar yr argymhellion ar ôl y craff a’r ymgynghoriad.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau gynnwys

dyraniad blynyddol ychwanegol gwerth £400,000 y flwyddyn er mwyn cefnogi’r agenda datgarboneiddio. Ni chroesewir y toriadau yn yr adroddiad, roedd pob un yn anodd, ac roedd rhai yn cyflwyno effeithiau hirdymor, fodd bynnag, croesewir y broses graffu.

 

Eglurodd yr Arweinydd y byddant eisiau cadw’r cynnydd yn y dreth Gyngor mor isel â phosibl. Golygai hyn na fyddant yn gallu ariannu’r cynigion twf cyllidebol a oedd wedi'u gwneud, a bydd gofyn iddynt wneud arbedion a thoriadau.

 

Cytunodd yr Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol gyda’r sylwadau a wnaed. Roedd pedwar diwrnod arall i’r cyhoeddus ymgysylltu â’r ymgynghoriad, a dylai Aelodau annog eu trigolion i gymryd rhan er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau a oedd wedi'u llywio ac a oedd yn adlewyrchu gwerthoedd y Gymuned. 

 

PENDERFYNWYD:             Cytunodd y Cabinet i gyflwyno ymgynghoriad â Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu, cyllideb flynyddol 2023-24 a datblygiad y MTFS 2023-24 i 2026- 27, fel y nodir yn yr adroddiad, cyn cyflwyno fersiwn derfynol i'w chymeradwyo gan y Cyngor ym mis

Mawrth 2023.

Dogfennau ategol: