Agenda item

Diweddariad Rhaglen Gyfalaf - Adroddiad Chwarter 3 2022-23

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid ddiweddariad mewn perthynas â’r sefyllfa cyfalaf ar ddiwedd chwarter tri. Wrth gynnig gwybodaeth gefndirol, eglurodd bod y Cyngor wedi cymeradwy strategaeth gyfalaf y Cyngor ar 23 Chwefror 2022, ac ar yr adeg honno, cyfanswm y gyllideb gyfalaf gymeradwyo oedd £69.9 miliwn.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid sefyllfa bresennol y rhaglen. Ar hyn o bryd, cyfanswm y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2022-23 yw £61.732 miliwn, yr oedd £28.242 miliwn wedi’i fodloni gan adnoddau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC), gan gynnwys derbyniadau cyfalaf a chyfraniadau refeniw o gronfeydd wedi’u clustnodi, gyda'r £33.490 miliwn sy’n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys Grant Cyfalaf Cyffredinol Llywodraeth Cymru. Dangoswyd crynodeb o’r rhaglen ar draws wasanaethau yn nhabl un a rhagor o fanylion mewn perthynas â sut oeddynt yn ariannu’n rhaglen honno wedi’u cynnwys yn Nhabl 2.

 

Tynnodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid sylw at lithriadau rhai cynlluniau, a oedd yn debygol o lithro i’r flwyddyn ariannol newydd. Yn chwarter 3, cyfanswm y llithriadau y gofynnwyd amdanynt oedd £28.542 miliwn, a manylir ar y rhesymau dros hyn yn yr adroddiad.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid, ers yr adroddiad cyfalaf diwethaf a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Hydref 2022, roedd

nifer o gynlluniau newydd wedi’u hariannu’n ariannol wedi’u cymeradwyo a

chynlluniau wedi'u hariannu’n fewnol arfaethedig, a oedd wedi’u cynnwys yn y Rhaglen

Gyfalaf, a manylir ar y rhain yn yr adroddiad. Cafodd Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig ei chynnwys yn Atodiad B yr adroddiad. Mewn perthynas â’r Strategaeth Gyfalaf, dangosodd Atodiad C yr adroddiad bod y Cyngor yn gweithredu yn unol â’r cyfyngiadau cymeradwy.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y Prif Swyddog am yr adroddiad, ac ychwanegodd nad oedd llithriadau’n ddelfrydol, ond roedd y rhesymau a roddwyd yn dderbyniol. Gofynnodd i’r swyddogion ystyried ail-broffilio'r cynlluniau cyn cyflwyno’r sefyllfa ddiweddaraf i’r Cyngor llawn ym mis Mawrth. Mewn perthynas â’r cynlluniau ariannu allanol newydd a oedd wedi’u cyflwyno, yn benodol y Cynllun Gwella Eiddo Canol Trefi, gofynnodd bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn egluro pam bod y cynllun hwn wedi bod yn llwyddiannus ar gyfer yr awdurdod.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wybodaeth bellach mewn perthynas â Chronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys manylion dau gynllun mwy. Byddai adroddiad manwl yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet erbyn y Gwanwyn. Byddai’r gronfa’n ailagor bryd hynny, ac eglurodd bod swyddogion ar gael i gynghori busnesau ynghylch sut i wneud cais.    

 

Cytunodd yr Arweinydd gyda sylwadau’r Aelod Cabinet dros Adnoddau mewn perthynas â’r potensial i ail-broffilio rhai o’r cynlluniau, yn enwedig Canolfan Tred?r. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wybodaeth bellach ar y rheswm pam nad oedd y safle bellach yn ymarferol, a bod ymdrechion wedi’u gwneud i sicrhau lleoliad newydd.   

 

Yng ngoleuni’r ail-ystyried diweddar, cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at y £0.608 miliwn ychwanegol a ddyfarnwyd gan Gronfa Tai â Gofal Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Hwb Preswyl i Blant. Byddai hyn yn galluogi cwblhau gwaith tirlunio a charbon sero, nad oeddynt wedi’u cynnwys yn y cynllun gwreiddiol. Roedd problemau gyda chaffael mewn perthynas â chostau, a chynigodd esiampl Hybiau Menter, lle dychwelwyd costau tendro tua 250% dros y gyllideb.  

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau y byddai galw cyfalaf am Ganolfan Tred?r ac y byddai adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno maes o law. Ychwanegodd bod potiau o arian ar gyfer amryw o gynlluniau sero net a bod y Cyngor wedi cael cyllid gwerth £0.300 miliwn gan Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV) Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno seilwaith gwefru cerbydau trydan ym meysydd parcio cyhoeddus y Cyngor.

 

Gofynnodd yr Arweinydd a oedd rhestr ar gael yn rhestru lle fydd y mannau gwefru ychwanegol yn cael eu gosod. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod strategaeth ar waith i drosglwyddo'r fflyd Gorfforaethol i gerbydau trydan ac i osod mannau gwefru ar gyfer hyn a'r cyhoedd, ac esboniodd sut y byddai'r seilwaith gwefru yn cael ei gyflwyno.

 

PENDERFYNWYD:              Cabinet:

·      nodwyd diweddariad Chwarter 3 Rhaglen Gyfalaf y Cyngor 2022-23 i 31 Rhagfyr 2022

                                       (Atodiad A)

·      cytunwyd bydd y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig (Atodiad B) yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor er mwyn ei gymeradwyo

nodwyd y Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill rhagamcanol ar gyfer 2022-23 (Atodiad C)

Dogfennau ategol: