Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Hoffwn ddiolch i berchnogion Caffi’r Betws a aeth y tu hwnt i’r disgwyl ar Noswyl Nadolig, gan ddosbarthu ciniawau Nadolig am ddim i elusennau digartref a phobl sy’n byw ar eu pen eu hunain yn ardal Betws.

 

Yn y cyfnod cyn y Flwyddyn Newydd, mynychodd yr Arweinydd a minnau briodas Ian ac Alison (Mr a Mrs Thomas erbyn hyn) yn Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr. Diolch i'r pâr priod am ganiatáu i ni fod yno am ran o'u diwrnod arbennig.

 

A gaf i atgoffa aelodau am Elusen y Maer eleni, er mwyn iddynt allu gwneud cyfraniad os ydynt mewn sefyllfa i wneud hynny.

 

Byddaf yn cyfarfod â Swyddogion yr wythnos hon, i ystyried enwebiadau Gwobr y Maer.

 

Ac yn olaf, er gwybodaeth i'r Aelodau, mae dyddiad cyfarfod Cabinet y Gyllideb wedi'i newid o 21 Chwefror 2023 (2.30pm) i 22 Chwefror ar yr un amser cychwyn.  

 

Dirprwy Arweinydd

 

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, bydd aelodau wedi nodi’r pwysau eithafol sydd wedi bod ar y system iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Yn ddealladwy, mae llawer o ffocws y cyfryngau wedi bod ar y sefyllfa weladwy iawn, ac weithiau dirdynnol, y mae ysbytai wedi’u cael eu hunain ynddi.

 

Gan ein bod hefyd wedi gweld y pwysau eithafol hyn o fewn y gymuned, rwyf am gydnabod a thalu teyrnged i’n gweithlu gofal cymdeithasol oherwydd hyd nes y byddwn yn datrys y mater hwn o gapasiti o fewn ein cymunedau a gwerthfawrogi’r staff sy’n darparu’r gwasanaethau cymunedol hynny, ni fyddwn yn datrys y pwysau o fewn ein hysbytai ac osgoi ambiwlansys yn aros y tu allan i drosglwyddo eu cleifion.

 

Maent wedi bod yn gweithio’n ddiflino nid yn unig i gefnogi pobl sydd wedi’u rhyddhau o ofal ysbyty, ond i roi canllawiau newydd Llywodraeth Cymru ar waith mewn ffordd sy’n cynnal gwerthoedd gofal cymdeithasol ac sy’n rhoi pwyslais ar ddiogelwch a lles parhaus pobl agored i niwed. 

 

Rydym wedi gweithio’n agos iawn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac yn parhau i ganolbwyntio nid yn unig ar yr ymateb uniongyrchol, ond hefyd ar weithredu camau strategol a fydd yn galluogi mwy o bobl i gael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt mewn ffordd briodol ac amserol.

 

Er mwyn rhoi enghraifft i aelodau o sut yr ydym yn gwneud pethau’n wahanol, hoffwn dynnu sylw’n fyr at ein cyfranogiad mewn cynllun treialu i reoli’r ffordd y mae pobl yn cymryd meddyginiaeth, gan atal eu salwch rhag gwaethygu ac angen ymyriadau meddygol, a mynd i’r afael â’r gost £300m o feddyginiaethau sy'n cael eu gwastraffu ledled y DU oherwydd camreoli. 

 

Yn draddodiadol, mae sicrhau bod pobl yn cymryd eu meddyginiaeth yn rheolaidd wedi cynnwys cymysgedd o ymweliadau cartref dyddiol gan ofalwyr, clociau larwm, siartiau wal, systemau monitro dos, anogwyr teleofal a mwy.

 

Gan fod anfanteision dulliau o'r fath yn amrywio o gostau posibl i anallu i gadarnhau bod meddyginiaeth wedi'i chymryd yn ôl yr angen, mae'r cyngor a Chwm Taf wedi partneru â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ddatblygu dull digidol newydd.

 

Enw’r cynllun yw ‘Your Meds’, ac mae hwn yn defnyddio technoleg rheoli meddyginiaeth glyfar ar ffurf blwch pils digidol. 

 

Mae codennau yn y blwch yn cael eu llenwi ymlaen llaw a'u dosbarthu'n uniongyrchol i'r defnyddiwr, ac mae gan y blwch dechnoleg fewnol sy'n hysbysu darparwyr gofal a theuluoedd pan fydd y feddyginiaeth wedi'i chyrchu.

 

Wrth gwrs, mae hefyd yn cysylltu â nhw i roi gwybod iddynt pan nad yw'r feddyginiaeth a drefnwyd wedi'i chyrchu.

 

Yn ogystal â chynyddu annibyniaeth a rhoi mwy o ryddid i ofalwyr ac aelodau o'r teulu, mae gan y dull newydd hwn y potensial i arbed hyd at £3,600 y person, y flwyddyn, ac mae'n galluogi staff i wneud gwaith arall.

 

Trwy leihau nifer yr atgyfeiriadau argyfwng, gall technoleg ddigidol fod yn ataliol tra hefyd yn darparu gwybodaeth hanfodol ar gyfer symleiddio anghenion gofal unigol. 

 

Gyda llai o le i gamgymeriadau, mae'n golygu y gellir buddsoddi arian mewn gwasanaethau allweddol eraill hefyd.

 

Dim ond un enghraifft yw hon o’r ffyrdd newydd o weithio yr ydym yn eu harchwilio ar hyn o bryd, ac os hoffai aelodau wybod mwy, byddaf yn hapus i ddangos iddynt ble y gallant ddod o hyd i ragor o wybodaeth.

 

Aelod Cabinet - Cenedlaethau'r Dyfodol a Llesiant

 

Mae’n bosibl y bydd yr Aelodau’n dymuno hysbysu eu hetholwyr am fuddsoddiad sylweddol sydd wedi’i wneud mewn cyfleusterau hamdden newydd ar gyfer y fwrdeistref sirol.

 

O ganlyniad i waith adnewyddu gwerth £400,000, cyn bo hir bydd Canolfan Chwaraeon Maesteg yn cynnwys campfa fwy gyda pheiriannau cardio newydd sbon, gofod cryfder a chyflyru pwrpasol a pharth lles.

 

Mae gofodau stiwdio, hyfforddi a gweithdai cwbl newydd wedi'u creu, ac mae gwelliannau hefyd wedi'u gwneud i ardal yr ystafell newid. 

 

Mae gwaith adnewyddu gwerth £200,000 hefyd wedi'i gwblhau'n ddiweddar ym Mhwll Nofio'r Pîl. Mae hyn wedi darparu ystod o gyfleusterau gwell, megis 30 ciwbicl newid newydd, bythau hygyrch maint teulu, cawodydd a goleuadau ynni-effeithlon newydd, a chyfleusterau newid wrth ymyl y pwll i gynnig mwy o gefnogaeth i bobl â phroblemau hygyrchedd.

 

Bwriad y gwelliannau yw cefnogi hygyrchedd yn ogystal â bod o fudd i iechyd corfforol a meddyliol yr holl drigolion ac maent wedi bod yn bosibl diolch i fuddsoddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Halo Leisure, a Chwaraeon Cymru.

 

Rwy’n si?r y bydd aelodau eisiau croesawu’r buddsoddiad hwn a helpu i ledaenu ymwybyddiaeth am y cyfleusterau newydd. 

 

Os hoffech chi gael gwybod mwy, mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Halo. 

 

O ran mater gwahanol, hoffwn gymryd eiliad i fyfyrio ar benderfyniad llywodraeth y DU i rwystro deddf a fyddai’n gwella bywydau a hawliau pobl draws yn yr Alban. 

 

Mae cwestiwn cyfansoddiadol yn bwysig, ond rwy’n meddwl y gallwn gytuno, ni ddylid defnyddio hawliau dynol fel pêl-droed gwleidyddol. Mae’r gymuned draws yn parhau i fod yn un o’r rhannau o’n cymuned sy’n dioddef fwyaf, maent yn wynebu heriau sylweddol wrth gael mynediad at ofal iechyd, er enghraifft, yn ogystal â gwahaniaethu mewn llawer o rannau eraill o’u bywydau. Nid yw’r penderfyniad i drawsnewid yn un sy’n cael ei gymryd yn ysgafn ond dychmygwch orfod byw eich bywyd gan deimlo nad ydych chi mewn gwirionedd yn ffitio a bod rhannau o’ch cymdeithas yn gwadu eich bodolaeth.

 

Rwy’n croesawu’r galwadau gan y Prif Weinidog a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn i dderbyn pwerau a fyddai’n caniatáu i Lywodraeth Cymru wella bywydau a hawliau pobl draws yng Nghymru. Fel y dywedodd Vaughan Gethin ddoe “Nid yw fy hawliau i, na hawliau pawb arall, mewn perygl oherwydd bod gan bobl draws eu hawliau.  Ac mae’n amlwg nad oes neb yn gyfartal nes ein bod ni i gyd yn gyfartal.”

 

O’r herwydd, rwyf wedi gofyn i swyddogion wneud gwaith ym Mhwyllgor y Cabinet ar Gydraddoldeb yr wyf yn ei gadeirio i ymchwilio i’r heriau a wynebir gan ein trigolion traws ym Mhen-y-bont ar Ogwr a sut y gallwn helpu i liniaru’r heriau hynny.

 

Aelod Cabinet – Adfywio

 

Hoffwn rannu rhai o’n hymdrechion diweddar i gefnogi swyddi, cyflogaeth a hyfforddiant gydag aelodau, a sut yr ydym yn cefnogi busnes lleol ffres ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yn gyntaf, yn dilyn buddsoddiad mewn lleoliadau fel Canolfan Gymunedol Heol-y-Cyw, Canolfan Gymunedol Westward yng Nghefn Glas a Neuadd Les y Glowyr Pencoed, mae tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn sefydlu cyfres o hybiau cymunedol.

 

Mae'r rhain wedi'u cynllunio i helpu trigolion 16 oed a throsodd sy'n ddi-waith, sy'n edrych i weithio mwy o oriau neu gael ail swydd neu swydd newydd, ac yn ceisio darparu cymwysterau galwedigaethol, cyfleoedd gwirfoddoli, y cyfle i ddatblygu sgiliau newydd a mwy.

 

Mae'r tîm eisoes yn cynnig cymorth mewn 20 o leoliadau gwahanol ac wedi ymrwymo i ymestyn hyn ymhellach i gefnogi cymaint o gymunedau â phosibl yn y misoedd nesaf. 

 

Yn ail, rydym yn gweithio ochr yn ochr â menter Pop Up Wales i ddarparu cyfleoedd yn amrywio o hyfforddiant ymarferol i entrepreneuriaid i ddigwyddiadau ym Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr sy'n cynnwys gweithdai Nadoligaidd, cerddoriaeth fyw a mwy.

 

Mae’r prosiect yn galluogi pobl i ‘roi cynnig’ ar eu syniadau busnes trwy ddarparu stondinau ac eiddo dros dro ac yn eu hannog i ddatblygu eu syniadau a mynd â nhw i’r lefel nesaf tra hefyd yn galluogi cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a mentora. 

 

Hyd yn hyn, mae’r rhaglen wedi paru deg menter dros dro â safleoedd gwag yng nghanol trefi, ac rydym yn bwriadu gwneud rhagor o waith gyda Pop Up Wales drwy gydol 2023. 

 

Yn olaf, mae Rebel Business School, sydd wedi ennill gwobrau, yn dychwelyd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ym mis Mawrth i gynnig cymorth gwerthfawr am ddim i ddarpar entrepreneuriaid.

 

Wedi'i chynllunio i helpu i roi syniadau ar waith ac i gefnogi busnesau presennol i dyfu, mae'r fenter yn ymdrin â phynciau fel sut i ddechrau busnes, cyngor ar werthu a marchnata, sut i adeiladu gwefan, dod o hyd i gwsmeriaid, materion cyfreithiol a llawer mwy.

 

Hyd yn hyn, mae wedi cefnogi mwy na 17,000 o bobl drwy bartneriaethau â chymdeithasau tai lleol ac awdurdodau lleol ac mae'n sicr o fod yn ddigwyddiad poblogaidd a bydd llawer yn ei fynychu pan fydd yn dychwelyd.

 

Byddwn yn annog aelodau i ddarganfod mwy am y mentrau hyn ac i helpu i ledaenu ymwybyddiaeth o'u hargaeledd - mae mwy o fanylion ar gael ar wefan y cyngor.

 

Mae gennyf newyddion ardderchog i’w rannu ag aelodau ynghylch Cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

 

Rydym wedi derbyn hysbysiad swyddogol bod y cyngor, yn dilyn proses ymgeisio lwyddiannus, wedi cael mwy na £21m o’r gronfa o dan ei themâu o bobl a sgiliau, cefnogi busnesau lleol, a chymuned a lle.

 

Mae’r arian eisoes wedi’i ddyrannu’n llawn tuag at fentrau penodol ac mae’n cynnwys £8m ar gyfer sefydlu pecyn fframwaith cyflogadwyedd a sgiliau, £3.5m ar gyfer sefydlu canolfannau menter newydd ar draws y fwrdeistref sirol, ac ychydig dros £1m ar gyfer prosiectau iechyd, hinsawdd ac economaidd a fydd yn datblygu cymunedau lleol cryfach a mwy gwydn.

 

O fewn hyn oll mae prosiectau fel Ffordd Fawreddog Morgannwg, rhwydwaith 270km o ‘goridorau gwyrdd’ a fydd yn cysylltu cymunedau ledled y rhanbarth, cynlluniau i wella llythrennedd oedolion, cyllid i gefnogi digwyddiadau twristiaeth newydd, rhaglen cymorth menter leol, opsiynau ar gyfer arallgyfeirio, datgarboneiddio a thwf, a llawer mwy.

 

Fel y g?yr yr aelodau, mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn disodli’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd blaenorol, ac rydym yn ddiolchgar i gydweithwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am eu bod wedi gweithredu ar ran awdurdodau lleol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd er mwyn bwrw ymlaen â chynlluniau unigol yr ardal.

 

Gyda disgwyl i’r gronfa fod yn ei lle tan fis Mawrth 2025, rydym yn rhagweld y bydd y gwaith cyflawni yn dechrau o fewn y misoedd nesaf, a bydd cyfleoedd i gael mynediad i’r gronfa yn cael eu cyhoeddi maes o law.

 

Aelod Cabinet – Cymunedau

 

Yn ystod y tywydd garw’r wythnos diwethaf, syrthiodd gwerth mwy na mis o law ar Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn llai na 24 awr, a thrwy gydol y cyfan, roedd staff y cyngor allan yn ei chanol hi unwaith eto, yn gweithio bob awr o’r dydd i ymateb i ddigwyddiadau, yn cadw ffyrdd ar agor, cefnogi trigolion lleol a helpu i gadw pobl yn ddiogel ac yn sych. 

 

Diolch i'w hymdrechion a hefyd y gwelliannau seilwaith amrywiol sydd wedi'u cyflwyno dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, cadwyd y problemau i'r lleiafswm a llwyddwyd i osgoi llifogydd eang.

 

Ymhlith y materion y bu'n rhaid i weithwyr ddelio ag ef roedd cwlfert wedi'i flocio a oedd yn taflu mwd, creigiau a malurion eraill ar ffordd fynydd Bwlch yr A4061 gan olygu bod angen cau un lôn. 

 

Tra bu’n rhaid i’r Bont Drochi yn Heol New Inn ym Merthyr Mawr gau oherwydd lefelau uchel yr afon, ysgogwyd larymau cwlfert mewn ardaloedd fel Heol Faen ym Maesteg a Min y Nant ym Mhencoed, ond ni gafwyd gorlifau.

 

Yn anffodus, effeithiwyd ar rannau o Gwm Ogwr ar ôl i systemau draenio gael eu llethu gan y swm aruthrol o law, felly ar ôl i dd?r fynd i mewn i eiddo yn Cemetery Road ac Alma Terrace, bu criwiau’r cyngor yn gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i bwmpio siambrau draenio allan a dargyfeirio d?r i ffwrdd o eiddo gan ddefnyddio bagiau tywod.

 

Cafodd cwlfert y tu ôl i Bethania Row ei lethu gan dd?r glaw ar ôl cael ei rwystro gan falurion a oedd wedi golchi i lawr yr afon, ond rhwystrwyd ymdrechion i gael mynediad iddo oherwydd ceir a oedd wedi’u parcio. 

 

Ar ôl i swyddogion o Heddlu De Cymru helpu i rybuddio deiliaid tai a sicrhau bod y ceir yn cael eu symud, llwyddodd gweithwyr y cyngor i glirio'r rhwystr, ond nid cyn i rywfaint o lifogydd ddigwydd yn anffodus yn y Neuadd Les gerllaw.

 

Cafodd sawl uned ar Stad Ddiwydiannol Penllwyngwent hefyd lifogydd oherwydd bod d?r yn llifo oddi ar dir y tu ôl i'r adeilad, a gafodd ei ddargyfeirio'n ddiweddarach gan ddefnyddio bagiau tywod. 

 

Mewn mannau eraill yn y fwrdeistref sirol, syrthiodd un goeden ar draws y briffordd ger ffatri Rockwool yn Wern Fawr. Ymatebodd gweithwyr y cyngor yn gyflym i gael gwared ar y goeden a sicrhau bod y ffordd yn aros ar agor. 

 

Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i ddangos sut mae'r cyngor yn gweithio i gadw pobl yn ddiogel, eiddo'n sych a ffyrdd yn glir. Mae ein criwiau yn gwneud gwaith gwych, ac rwy’n si?r y bydd yr aelodau am eu llongyfarch am eu hymdrechion.

 

Aelod Cabinet – Adnoddau

 

Gan ein bod nawr yn cyrraedd dyddiau olaf ein hymgynghoriad cyllideb blynyddol, a agorodd fis Rhagfyr diwethaf, hoffwn ofyn i’r aelodau annog eu hetholwyr i gymryd rhan cyn iddo gau ar 22 Ionawr.

 

Mae’r ymgynghoriad yn cynnig cyfle i drigolion ddweud eu dweud ar flaenoriaethau gwariant y cyngor a helpu i lunio cyllideb yr awdurdod ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24.

 

Yn union fel y mae aelwydydd yn wynebu heriau ariannol enbyd yn ystod yr argyfwng costau byw, felly hefyd y cyngor, ac mae'n rhaid inni ymdrin â phwysau ychwanegol sylweddol ar y gyllideb o £20m o leiaf.

 

Er gwaethaf setliad gwell na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, mae angen inni arbed £3.5m o hyd, ac rydym yn edrych i ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu’r math o wasanaethau y mae trigolion eu heisiau gan ddefnyddio adnoddau cynyddol gyfyngedig.

 

Dyna pam rydym am i drigolion lleol roi eu hadborth i ni a dweud wrthym beth yw eu barn am ein blaenoriaethau gwariant arfaethedig ar gyfer y flwyddyn nesaf. 

 

Gyda'r manylion llawn ar gael ar wefan y cyngor, gallwch naill ai lenwi copi o'r ymgynghoriad ar-lein, neu gysylltu â'n tîm Ymgynghori i'w dderbyn mewn fformat arall.

 

Aelod Cabinet – Addysg

 

Mae gennyf ddau fater yr hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau amdanynt. 

 

Yn gyntaf, efallai y cofiwch y cyhoeddwyd ym mis Ionawr y byddai ein Tîm Cymorth Ieuenctid yn ehangu’r ddarpariaeth o fannau diogel i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yn ei ganolfannau presennol.

 

Mae'r rhain wedi'u lleoli yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen, Ysgol Gyfun Cynffig a Chanolfan Ymgysylltu ag Ieuenctid Pencoed.

 

Fe gyhoeddon nhw hefyd y bydden nhw'n sefydlu dwy ganolfan newydd, un yn ardal Bryntirion / Cefn Glas, ac un arall ym Mracla.

 

Yn anffodus, mae hyn wedi arwain at ledaenu gwybodaeth anghywir ar gyfryngau cymdeithasol ynghylch pryderon diogelu wrth feddwl bod plant yn cael cymysgu â phobl yn eu hugeiniau cynnar.

 

Rwyf am ei gwneud yn gwbl glir bod ein holl waith ieuenctid yn digwydd o fewn amgylchedd diogel, a chan roi ystyriaeth lawn i fesurau diogelu.

 

Y rheswm pam fod cymorth ar gael i bawb o fewn yr ystod oedran honno yw oherwydd yn ôl y gyfraith, disgwylir i gynghorau ddarparu cymorth ieuenctid i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. 

 

Er bod hyn hefyd yn unol â Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru Llywodraeth Cymru, yn ymarferol gwelwn fod yn well gan lawer o bobl ifanc h?n gael mynediad at ein darpariaeth sydd wedi’i thargedu, ac nid ein canolfannau ieuenctid.  

 

Mae pob un o’n canolfannau’n cael eu rhedeg gan weithwyr ieuenctid â chymwysterau proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac yn gyfarwydd iawn â materion fel diogelu, llinellau cyffuriau, radicaleiddio, camfanteisio rhywiol a mwy.

 

Ymhellach, bydd y canolfannau yn trefnu eu gweithgareddau fel bod nosweithiau neu amseroedd gwahanol yn cael eu dyrannu i grwpiau oedran penodol. 

 

Y gwir amdani yw bod y canolfannau'n cael eu rhedeg yn briodol ac yn broffesiynol fel eu bod yn parhau i gynnig lle diogel i bobl iau.

 

Yr ail fater yr wyf am roi gwybod i'r aelodau amdano yw pryderon ynghylch gweithredu diwydiannol arfaethedig gan Undeb Cenedlaethol y Prifathrawon a'r Undeb Addysg Cenedlaethol.

 

Mae hyn wedi’i gadarnhau ar ôl i ganlyniad pleidlais NEU Cymru weld 92 y cant o athrawon-aelodau yn pleidleisio o blaid streic, a 75 y cant o aelodau NUHT Cymru.

 

Mae disgwyl i'r gweithredu diwydiannol effeithio ar ysgolion ar y cyntaf a'r pedwerydd ar ddeg o Chwefror, a'r pymthegfed a'r unfed ar bymtheg o Fawrth.

 

I baratoi ar gyfer hyn, mae swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â phenaethiaid i ateb ymholiadau sydd wedi'u cynllunio i hwyluso parhad busnes, ac i helpu i gyfyngu ar effeithiau.

 

Ymhlith yr ymholiadau y gofynnwyd inni eu hegluro hyd yn hyn y mae cwestiynau ar gyfathrebu priodol â staff, rhieni a gofalwyr, trothwyon ar gyfer cau, trefniadau ar gyfer disgyblion agored i niwed a’r rhai sy’n cael prydau ysgol am ddim, goblygiadau ar gyfer ffigurau presenoldeb a mwy.

 

Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, a byddaf yn rhoi diweddariadau pellach ichi wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

 

Prif Weithredwr

 

Mae gennyf ddiweddariad byr iawn i’w gynnig i’r aelodau yngl?n â chynnydd ail gam cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.  

 

Cawsom hysbysiad swyddogol yn gynharach yn yr wythnos bod cyhoeddiad ar ganlyniad ail gam y gronfa Ffyniant Bro ar fin digwydd.

 

Rydym yn rhagweld y bydd llythyrau’n cael eu hanfon yn fuan at arweinwyr cynghorau, ASau sydd wedi darparu cymorth, rheolwyr cynigion a swyddogion Adran 151 ar fore’r cyhoeddiad.

 

Bydd hyn cyn cyhoeddiad cyhoeddus a datganiad i'r cyfryngau yn ddiweddarach yr un diwrnod.

 

Bydd yr Aelodau, wrth gwrs, yn ymwybodol ein bod wedi cyflwyno dau gais manwl i’r Gronfa Ffyniant Bro yn flaenorol - cais o £20 miliwn ar gyfer adnewyddu Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl yn gyfan gwbl, a Chynnig Trafnidiaeth o £25 miliwn ar gyfer Pont Ffordd Penprysg newydd. a chael gwared ar y groesfan reilffordd ym Mhencoed. 

 

Os byddant yn llwyddiannus, mae gan y ddau brosiect uchelgeisiol hyn y potensial clir i sicrhau manteision sylweddol i’r fwrdeistref sirol, ac rydym yn parhau i fod yn hynod frwdfrydig a gobeithiol am ganlyniad cadarnhaol.

 

Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi drwy gydol y broses hon, a gobeithiaf fod mewn sefyllfa i roi manylion mwy cynhwysfawr ichi yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.