Agenda item

Derbyn y Cwestiwn canlynol gan:

 

 

Cynghorydd Tim Thomas i’r Aelod Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet ddatganiad ynghylch a yw’n fodlon bod cartrefi sy’n cael eu rhentu’n gymdeithasol yn y Fwrdeistref Sirol yn ddiogel ac yn rhydd rhag niwed a all achosi canlyniadau iechyd negyddol?

 

Cofnodion:

Cynghorydd Tim Thomas i’r Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet ddatganiad ynghylch a yw’n fodlon bod cartrefi sy’n cael eu rhentu’n gymdeithasol yn y Fwrdeistref Sirol, cyn belled ag y bo modd, yn ddiogel ac yn rhydd rhag niwed a allai achosi canlyniadau iechyd negyddol?

 

Ymateb

 

Ysgrifennodd y Gweinidog Newid Hinsawdd at bob landlord cymdeithasol ar 15 Rhagfyr 2022 yn dilyn marwolaeth drasig Awaab Ishak, dwy flwydd oed, a fu farw o gyflwr anadlol a achoswyd gan ddod i gysylltiad â llwydni.  Roedd y llythyr hwn yn amlinellu’r camau gweithredu sy’n ofynnol gan landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru i sicrhau bod mesurau ar waith i nodi a mynd i’r afael yn benodol â materion yr adroddwyd amdanynt gyda lleithder a llwydni. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad at ymchwiliadau ac archwiliadau, delio ag anwedd a'i achosion, cywiro unrhyw ddiffygion cyn gynted â phosibl a chefnogi tenantiaid gyda chymorth a chyngor.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am wybodaeth a sicrwydd bod landlordiaid yn ymateb i'r materion hyn a darparu hynny iddynt erbyn 20 Ionawr.

 

Fel yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, rwy’n gwbl gefnogol i’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i atgyfnerthu’r cyfrifoldebau sydd ar landlordiaid cymdeithasol. Rwyf innau hefyd wedi ceisio sicrwydd yn ddiweddar gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) lleol eu bod yn cymryd camau i sicrhau bod eu llety’n ddiogel. Byddaf yn parhau i geisio sicrwydd bod hyn yn wir gan ein partneriaid LCC ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a bod unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol a amlygwyd yn yr adolygiad yn cael rhoi ar waith. 

 

Mae fframwaith o bolisïau, prosesau a chyfraith sy’n nodi’r safonau a ddisgwylir gan gartrefi, nid yn unig o fewn y sector rhentu cymdeithasol, ond hefyd mewn perthynas â’r sector rhentu preifat yn gyffredinol. 

 

Daeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar 1 Rhagfyr 2022. Mae hyn yn newid y ffordd y mae landlordiaid yn rhentu eu heiddo ac yn berthnasol i landlordiaid ac asiantaethau gosod/rheoli.  Mae’r Ddeddf yn dod â mwy o hawliau i denantiaid ac elfen allweddol o’r ddeddfwriaeth hon yw bod yn rhaid i bob eiddo fod yn ddiogel. Roedd y Ddeddf hon yn cyflwyno gofyniad i sicrhau bod cartrefi’n Ffit i Fod yn Gartref (FFHH). Mae hyn yn cynnwys gofyniad am brofion diogelwch trydanol a sicrhau bod larymau mwg a synwyryddion carbon monocsid yn cael eu gosod mewn eiddo.  

 

Yn ogystal, mae Rhentu Doeth Cymru, sef system drwyddedu a chofrestru yn cefnogi’r rhai sy’n gosod neu’n rheoli eiddo ac yn rhoi cyngor ar y gofynion a’r rhwymedigaethau i sicrhau bod landlordiaid yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch y sector preifat.  

 

Mae Safonau Ansawdd Tai Cymru (WQHS) ar waith ar gyfer pob datblygiad tai cymdeithasol newydd ac mae’n sicrhau bod eiddo mewn cyflwr da, yn ddiogel, ac wedi’u gwresogi’n ddigonol. Mae WQHS 2023 yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd i godi safonau ar uchelgeisiau datgarboneiddio a chynnwys elfennau arbed ynni i denantiaid.  Mae'n rhaid i ddatblygiadau a ariennir drwy'r Grant Tai Cymdeithasol (SHG) - grant LlC - gydymffurfio â'r safonau hyn.  Mae’r grant hwn yn cefnogi’r rhaglen ddatblygu arfaethedig i gynyddu’r cyflenwad o lety gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC).  Mae’r gwasanaeth tai yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig lleol i ddarparu tai newydd drwy raglen 3 blynedd. Er mai amcangyfrifon yw’r canlyniadau ar hyn o bryd, mae’r rhaglen wedi’i threfnu i ddarparu 536 o gartrefi dros gyfnod o 3 blynedd ac amcangyfrifir y bydd lefel cyllid grant oddeutu £41miliwn. 

 

Rydym hefyd yn gallu cymryd camau ar ffurf gorfodi. Mae gwybodaeth gan y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir yn dangos iddynt dderbyn 46 o gwynion gan denantiaid Landlordiaid Cymdeithasol yn 2022 o dan y categorïau a ganlyn:-

 

           Cyflwr gwael = 15

           Lleithred a Chyflwr gwael = 15

           Lleithder a Llwydni = 12

           Llygod mawr, Lleithder a Chyflwr gwael = 1

           Llygod mawr a Chyflwr gwael = 3

 

Eu cam gweithredu cyntaf i gwynion gan denantiaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig fyddai cysylltu â'r LCC am wybodaeth a gofyn iddynt ymchwilio i'r g?yn a chymryd camau adferol lle bo'n briodol. Nid ydynt yn arolygu fel mater o drefn o ganlyniad i g?yn ond lle mae diffyg cynnydd byddant yn gwneud hynny ac yn cyhoeddi hysbysiadau anffurfiol a ffurfiol os tybir bod angen gwneud hynny.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd R Thomas

 

Rwy’n falch bod yr Aelod Cabinet Cenedlaethau’r Dyfodol wedi nodi llwydni a lleithder. Rwy’n yn pryderu am sawl atgyfeiriad mewn perthynas ag asbestos. A all amlinellu unrhyw sgyrsiau y mae wedi'u cael gyda mapio a chynnal a chadw diogel mewn achosion o asbestos sy'n peri pryder.

 

Ymateb

 

Mae Cymoedd i’r Arfordir yr wythnos hon wedi rhoi sicrwydd i mi eu bod yn mynd i adolygu eu stoc tai mewn eiddo lle gallai fod asbestos, gan fod nifer sylweddol o’u heiddo wedi’u hadeiladu cyn 1999 cyn i’r rheoliadau ynghylch asbestos gael eu cyflwyno. Os oes angen gwneud unrhyw waith mewn eiddo lle mae unrhyw asbestos, yna mae'n amlwg bod yn rhaid gwneud hyn yn ddiogel yn unol â'r rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol er mwyn sicrhau diogelwch a lles preswylwyr. Rhoddodd sicrwydd i’r Aelod y byddai’n ymchwilio i hyn ymhellach. Mae cyllid hefyd wedi’i roi i, er enghraifft Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) ar gyfer TAI GWEIGION, fel y gellir sicrhau bod modd defnyddio’r rhain eto.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Heidi Bennett

 

Sut mae’r Cyngor yn gweithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig er mwyn mynd i’r afael â phrinder tai yn y Fwrdeistref Sirol?

 

Ymateb

 

Rydym yn gweithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a sefydliadau fel Llywodraeth Cymru ac rydym ym mlwyddyn un o gynllun tair blynedd i adeiladu rhagor o dai ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. Mae gennym gynlluniau i adeiladu 536 o gartrefi o fewn oes y cynllun hwn, ond wrth gwrs, mae'n cymryd peth amser i adeiladu tai newydd. Mae cyllid o £41m ar gyfer y cynllun hwn (gan gynnwys cyllid grant). Bydd yr adeiladau newydd yn cael eu cynllunio'n strategol lle bydd anheddau'n cynnwys tai fforddiadwy llai, h.y. eiddo 1 a 2 ystafell wely yn hytrach na dim ond llety tai mwy a byddant yn cymryd i ystyriaeth o ran dyluniad a strwythur, fynediad i drigolion ag anawsterau, gan gynnwys mynediad lefel isel ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Byddai’r gwaith hwn yn symud ymlaen ar y cyd â chymorth gan ein Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a thîm Tai CBSPAO, er mwyn bwrw ymlaen â datblygiadau yn unol â’r hyn sydd wedi’i gynllunio.