Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2023-24 i 2026-27

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David - Arweinydd y Cyngor

Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cynghorydd Hywel Williams – Aelod Cabinet - Adnoddau

Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet Llesiant a Chendlaethau’r Dyfodol

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Carys Lord - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid

Mark Shephard - Prif Weithredwr

 

Deborah Exton - Dirprwy Bennaeth Cyllid dros dro

Christopher Morris - Rheolwr Cyllid - Rheoli Cyllidebau: Gwasanaethau cymdeithasol a Lles / Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid grynodeb o’r adroddiad, a diben hwn oedd cyflwyno Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2023-24 i 2026-27 drafft, oedd yn egluro blaenoriaethau gwario’r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd cyllido a dargedwyd ar gyfer arbedion angenrheidiol. Roedd y strategaeth yn cynnwys rhagolwg ariannol am 2023-2027 a chyllideb refeniw fanwl ddrafft ar gyfer 2023-24.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid am ei chrynodeb cynhwysfawr a chyfeiriodd at y Pwysau ar y Gyllideb ddrafft yr oedd y Pwyllgor yn eu hystyried, gan atgoffa’r Aelodau i ystyried a oedd y rhain yn ddigon ac yn gadarn.

 

Bu’r Aelodau yn trafod y canlynol:

 

Mewn ymateb i gwestiwn a oedd y gostyngiad yn nifer y darparwyr gofal preswyl i blant o ganlyniad i’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynigion i ddileu elw preifat, dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar (Dirprwy Arweinydd) fod rhai darparwyr er elw yn ceisio gadael y farchnad yng Nghymru gan arwain at yr angen i leoli plant dros y ffin ond dal i wneud elw. Dywedodd hefyd fod unrhyw anghenion gofal cymhleth am gost ychwanegol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cyfarwyddwr Corfforaethol), oherwydd bod rhai darparwyr yn dewis gadael y farchnad, bod y rhai oedd ar ôl yn cael mwy o blant a phobl ifanc. Roedd anhawster cynyddol i ddod o hyd i leoliadau ac angen am leoliadau mwy pwrpasol yn ogystal â nifer y plant oedd angen cymorth y tu allan i leoliadau rheoledig, oedd yn dod â phremiwm cost. Er bod y Gyfarwyddiaeth yn datblygu darpariaeth fewnol, roedd yn parhau i ddibynnu ar ddarparwyr allanol annibynnol ar hyn o bryd. Eglurodd fod y ffaith fod anghenion plant a phobl ifanc yn gynyddol gymhleth ar ôl y pandemig a bod yr economi hefyd yn profi problemau sylweddol o ran gweithlu yn effeithio ar gostau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch unrhyw gynlluniau ar gyfer ailfodelu yn y gwasanaethau cymdeithasol, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yna raglen drawsnewid sylweddol, yn cynnwys trawsnewid ymarfer seiliedig ar gryfder, mewn gofal cymdeithasol oedolion a phlant yn seiliedig ar alluogi a hyrwyddo annibyniaeth. Tynnodd sylw at bwysigrwydd y gwasanaethau ataliol a gynigir gan Awen a Halo, sy’n rhoi gwerth da ac yn canolbwyntio ar y rhai mwyaf agored i niwed, yn ogystal ag ailfodelu gwasanaethau gofal a chymorth cartref, gwasanaethau gofal yn y cartref mewnol a rhai a gomisiynir, anableddau dysgu ac iechyd meddwl.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod gweddnewid ar agenda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, sy'n gyfrifol am gyflenwi cymunedol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr ymgynghoriad cyhoeddus yngl?n â’r cynnydd arfaethedig o 6% yn y Dreth Gyngor, dywedodd y Dirprwy Arweinydd y byddai safbwyntiau trigolion yn cael eu trafod a’u hystyried.

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor fod angen gwerthfawrogi gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gydnabod bod y boblogaeth sy'n heneiddio yn achosi mwy o alw ar wasanaethau, a bod angen i dâl ynghyd â thelerau ac amodau’r gweithwyr hyn adlewyrchu hynny. Tynnodd sylw hefyd at Gyfarwyddeb Llywodraeth Cymru ynghylch System Ofal Genedlaethol, fyddai’n golygu y câi pob aelod o staff yr un telerau ac amodau, gan arwain at lai o gystadleuaeth rhwng awdurdodau.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch beth oedd y pwysau cost yn deillio o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac a oeddent yn cael eu hariannu'n llawn, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod hyn yn cael ei ariannu ar fformiwla a oedd yn adlewyrchu'r niferoedd a'r gwendidau. yn y boblogaeth, ond tynnodd sylw at y cynnydd yn y galw yn ogystal ag anghenion cynyddol y boblogaeth. Tynnodd sylw hefyd at bwysau sylweddol yn deillio o gyfrifoldeb statudol ar yr Awdurdod, oedd yn lletya sefydliadau diogel megis CEM Parc, ac er bod cyllid cychwynnol ar gyfer hynny wedi dod oddi wrth Lywodraeth Cymru, nid oedd y dyraniad cychwynnol a glustnodwyd bellach yn ddigonol ar gyfer y pwysau oedd yn deillio o anghenion newidiol y boblogaeth.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd mewn ymateb i gwestiwn am y goblygiadau a’r costau hirdymor yn dilyn y pandemig, fod y galw am wasanaethau wedi cynyddu’n aruthrol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg a Sefydliadau yn y Trydydd Sector a’r sector Gwirfoddol.

 

Tynnodd Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol sylw at y diffyg yn nifer y bobl oedd yn manteisio ar y cynigion gan Halo ac Awen a bod yna gostau’n gysylltiedig â pheidio â chael cymaint o aelodaeth neu gyfranogiad ag a geid o’r blaen gyda’r gwasanaethau hynny.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch ffigurau’r pwysau ar y gyllideb ar gyfer y blynyddoedd i ddod, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y ffigurau ar gyfer 2023-24 yn cynrychioli pwysau cylchol, ond mai’r rheswm pam na chafodd y rhan fwyaf o ffigurau’r flwyddyn i ddod eu cynnwys oedd nad oedd y cynnydd mewn chwyddiant a phwysau yn hysbys.

                                                                                                    

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid pe bai’r pwysau ar y gyllideb yn cael eu cymeradwyo, y byddent yn mynd i mewn i gyllideb sylfaenol y gwasanaeth. Felly, byddai unrhyw godiadau oherwydd tâl neu chwyddiant yn cael eu codi'n awtomatig.

 

Mewn perthynas â'r pwysau o £758,000 ar Gyllideb Anableddau Dysgu, dywedodd Rheolwr y Gr?p - Anabledd Dysgu, Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau ei fod yn ymwneud â'r contractau oedd ganddynt gyda 4 sefydliad i ddarparu cymorth i bobl fyw yn eu cartrefi eu hunain. Dywedodd mai un o fwriadau Cynllun Cyflenwi’r Gwasanaeth Anableddau Dysgu oedd rhoi dewis ac ystod o weithgareddau ehangach i bobl gymryd rhan ynddynt. Ddatblygodd y gwasanaeth yn gyflymach pan gafodd gwasanaethau dydd eu lleihau yn ystod y pandemig a phan benderfynodd pobl, ar ôl y pandemig, y byddai’n well ganddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau gartref. Tynnodd sylw hefyd at y boblogaeth oedd yn heneiddio a’r cynnydd yng nghymhlethdod anghenion pobl ag anableddau dysgu yn ogystal â’r cynnydd mewn cyflogau a chyfraddau uwch darparwyr oedd yn effeithio ar gostau.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn dweud bod mwy o bobl h?n yn defnyddio gwasanaethau dydd ôl-bandemig fel na ellid symud y gyllideb oddi wrth hynny i gefnogi cyllideb Anableddau Dysgu. Fodd bynnag, roedd sefydliad arbenigol allanol wrthi’n cynhyrchu darn o waith i edrych ar fodel gweithredu cynaliadwy ar gyfer Gwasanaethau Dydd ac Anableddau Dysgu a'r cyllid sy'n ofynnol i'w redeg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am beth oedd yn cael ei wneud i geisio lleihau nifer y plant mewn lleoliadau preswyl y tu allan i'r sir a chost hynny ac a oedd hi'n bosibl cael digon o staff, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod hyd at 20 o leoliadau preswyl annibynnol, ond dywedodd fod rhai plant mewn lleoliadau asiantaeth faethu annibynnol neu gyda theulu estynedig y tu allan i'r ardal. Er mwyn lleihau'r nifer, tynnodd sylw at yr angen i ofalwyr maeth â chymorth fod ar gael mewn ffordd amserol, ac i’r uned asesu a'r tîm maethu gael eu cydleoli, gan ddefnyddio'r model therapiwtig i weithio'n ddwys gyda phlant i'w cynorthwyo i adael lleoliadau preswyl a mynd at ofalwyr maeth.

 

Sicrhaodd y Dirprwy Arweinydd y Pwyllgor fod plentyn yn cael ei roi yn y lleoliad mwyaf priodol iddo, lle byddai’n ffynnu, waeth beth fyddai’r gost. Dywedodd fod y cynnydd yn y plant mewn lleoliadau preswyl yn ganlyniad i'r cynnydd yn nifer y plant oedd wedi profi gofal a’u dibyniaeth ar wasanaethau i ddarparu ar eu cyfer.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod cyfran y plant oedd wedi bod mewn gofal oedd mewn lleoliadau preswyl yn gymharol isel, o’i feincnodi yn erbyn poblogaethau’r plant oedd wedi bod mewn gofal mewn awdurdodau eraill.

 

Mewn ymateb i bryder a fynegwyd ynghylch effaith arbedion arfaethedig yng nghyllideb yr ysgolion ac unrhyw alw cynyddol a allai hynny ei achosi ar wasanaethau cymdeithasol, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y Fforwm Diogelu Ysgolion wedi cael ei ailsefydlu gan ddarparu cyfarfodydd rhyngwyneb rheolaidd rhwng cydweithwyr. Dywedodd fod nifer sylweddol o atgyfeiriadau wedi cael eu gwneud gan ysgolion a bod y gwasanaeth yn gweithio gydag ysgolion i gynorthwyo i ddad-ddwysáu problemau lle roedd hynny'n bosibl. Roedd darn o waith hefyd yn cael ei wneud gan Diogelu ac Addysg a Chymorth i Deuluoedd ynghylch targedu gwasanaethau ataliol er mwyn rheoli'r risgiau y tu allan i wasanaethau statudol, lle roedd hynny'n bosibl.

 

Soniodd y Dirprwy Arweinydd fod hyn yn amlygu gwerth cael Swyddogion Cymorth Gwaith Cymdeithasol oedd yn galluogi Gweithwyr Cymdeithasol i gadw llwythi achosion i lawr a gwneud gwaith yn gyflymach. Dywedodd na fyddai’r arbedion effeithlonrwydd o 2% yng nghyllidebau ysgolion yn cael effaith uniongyrchol ar y gwaith yn y gwasanaethau cymdeithasol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch mwy o bwysau yng nghyllideb taliadau uniongyrchol, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod hynny oherwydd cynnydd yn yr angen a dangosodd, yn dilyn y pandemig, fod taliadau uniongyrchol yn ffordd gost-effeithiol iawn o liniaru’r pwysau mewn teuluoedd a'u galluogi i ddod o hyd i’w cymorth eu hunain, gan ddod â gofal cymdeithasol i mewn i'r gweithlu.

 

Cydnabu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, mewn ymateb i ymholiad ynghylch digonolrwydd y pwysau o £2 miliwn mewn gofal cymdeithasol oedolion, fod beth bynnag a fuddsoddir yn y pwysau mewn Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael effaith ar rannau eraill o’r Awdurdod, ond bod dyletswydd statudol arni hi i gynghori ynghylch yr adnoddau oedd yn ofynnol ar gyfer gofal cymdeithasol. Er y byddai'r pwysau'n lliniaru'r pwysau ar y gyllideb, nid oedd yn cwrdd â'r lefel gyfredol o orwario ac amlygodd nifer o feysydd a fyddai'n cael eu cynorthwyo drwy'r pwysau gan gynnwys costau’r gweithlu a chartrefi gofal a deiliadaeth.

 

Mynegodd Aelod bryder ynghylch pa mor hir y byddai Cyfarwyddiaethau eraill yn gallu parhau i ddod o hyd i gynigion i leihau’r gyllideb er mwyn cefnogi'r pwysau yn y gwasanaethau cymdeithasol ac a fyddai’r gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu toriadau.

 

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y byddai o leiaf 2-3 blynedd cyn i unrhyw fudd gael ei weld, gan dynnu sylw at y toriadau yn y cyllid grant a'r toriadau anghynaladwy yn y gwasanaethau cymdeithasol dros flynyddoedd lawer.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol ei bod yn debygol y byddai canlyniadau’r pandemig yn cael eu teimlo ar draws y sector cyhoeddus am ddegawdau i ddod a bod angen hyblygrwydd a dealltwriaeth i ganiatáu i awdurdodau lleol unigol ddelio â'r effaith yn y ffordd oedd orau iddyn nhw. Fodd bynnag, fe wnaeth hefyd gydnabod y cymorth gan Lywodraeth Cymru, gan dynnu sylw at y codiad diweddar yn y cyllid ar gyfer tai a digartrefedd.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y byddai'n parhau i wneud sylwadau i Lywodraeth Cymru a'r DU nes bod yr holl wasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu'n deg.

 

Fe wnaeth Uwch Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd - Craffu atgoffa’r Aelodau, cyn cynnig i’r Gwahoddedigion adael y cyfarfod, mai hwn oedd cyfle'r Pwyllgor i sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth oedd arnynt ei hangen o ran pwysau'r gyllideb ac i sicrhau eu bod yn fodlon eu bod yn angenrheidiol, wedi eu cyfrifo’n gadarn ac yn ddigonol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a gyflwynwyd gan Aelod ynghylch a oedd y Gyfarwyddiaeth wedi ystyried unrhyw ddewisiadau ar gyfer gostyngiadau yn y gyllideb oddi wrth y gwasanaethau dewisol a beth oedd y rhesymau pam y cawsant eu gwrthod, dywedodd Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol fod diwylliant a hamdden o fewn ei bortffolio ef a’u bod wedi cael trafodaethau yngl?n â chau llyfrgelloedd a'r posibilrwydd o edrych ar gau rhai lleoliadau halo. Fodd bynnag, ar y cyfan, teimlad y Cabinet oedd mai bychan iawn fyddai’r arbediad a gâi ei gyflawni ac y byddai'n cael effaith rhy fawr ar breswylwyr ynysig a bregus a'u mynediad at gymorth angenrheidiol.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, pan oedd y pwysau ar staff mor eithafol, nad oedd hi'n barod i ystyried unrhyw ostyngiadau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol gan gydnabod y gost a'r adnoddau sylweddol sy'n ofynnol ar gyfer y tîm a reolir ond hebddo, meddai, byddai gwasanaethau cymdeithasol yn destun craffu penodol gan Arolygiaeth Gofal Cymru neu Lywodraeth Cymru. Tynnodd sylw at gyflwyno swydd Dirprwy Bennaeth Gofal Cymdeithasol Plant oherwydd y pwysau sylweddol ar lefel reoli a phe bai llwythi’r achosion yn parhau i godi i lefel na ellid ei reoli y byddai angen cyflwyno rhagor o staff asiantaeth i leihau risg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y Gwasanaethau Oedolion wedi gweithio'n galed i symud i ffwrdd oddi wrth fodel seiliedig ar ddiffygion a hyrwyddo'r hyn y gallai pobl ei ddefnyddio yn eu cymuned leol. Fodd bynnag, ar ôl y pandemig, bu cynnydd mewn heriau iechyd a lles emosiynol a chorfforol oedd wedi arwain at yr angen cynyddol am wasanaethau statudol, a hynny wedi digwydd yr un pryd â’r cynnydd yng nghost y ddarpariaeth a’r heriau yn y gweithlu. Pwysleisiodd hefyd yr effaith ar wasanaethau statudol pe bai gwasanaethau dewisol yn cael eu lleihau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a gyflwynwyd gan Aelod ynghylch yr hyn yr oedd y Gyfarwyddiaeth yn ei wneud i leihau dibyniaeth ar staff asiantaethau costus ac i ysgogi pobl i ymuno â'r gweithlu fel aelodau parhaol o staff, roedd y Dirprwy Arweinydd yn cydnabod y byddai'n well medru peidio â chael staff asiantaeth o gwbl yn y gweithlu. Fodd bynnag, dywedodd mai dim ond hanner llawn oedd y cwrs hyfforddi gwaith cymdeithasol diweddaraf yng Nghaerdydd a dywedodd fod angen i Lywodraeth Cymru gefnogi a chreu gwasanaeth gofal cenedlaethol i edrych ar delerau ac amodau'r holl staff er mwyn datrys materion recriwtio. Tynnodd sylw at y ffaith nad oedd staff iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu gwerthfawrogi'n briodol a bod eisiau'r un gefnogaeth iddynt hwy ag yr oedd LlC wedi'i roi i nyrsys yn ddiweddar. Aeth ymlaen i ddweud bod ymgyrch barhaus i recriwtio, gan gynnwys ymgyrchoedd recriwtio rhyngwladol, fideos ar y cyfryngau cymdeithasol, hysbysebion mewn papurau newydd a 12 diwrnod y Nadolig oedd yn hyrwyddo anrhegion i ofalwyr.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ei bod yn bwysig hyrwyddo'r agwedd ariannol ac anariannol ar weithio i Ben-y-bont ar Ogwr. Ailadroddodd yr angen i edrych ar y telerau ac amodau ond o fewn Pen-y-bont ar Ogwr ar yr ochr ariannol, roeddent wedi defnyddio atchwanegiadau marchnad mewn rhai timau ac wedi ail-werthuso rolau swyddi. Ar yr ochr anariannol, roedd yn cydnabod yr angen am lwythi achosion y gellir eu rheoli, gweithwyr cymorth i staff, goruchwyliaeth dda gan reolwyr, arolygu, hyfforddi a marchnata. Anogodd yr Aelodau i barhau i rannu'r fideos ar y cyfryngau cymdeithasol oedd yn dangos y profiad cadarnhaol o weithio i Ben-y-bont ar Ogwr.

 

Er bod y gwasanaeth yn y tymor byr yn edrych ar recriwtio rhyngwladol, yn y tymor canolig, roedd angen iddynt dyfu eu gweithwyr cymdeithasol eu hunain. Fodd bynnag, roedd hyn yn gofyn am anfon pobl ar y cwrs gwaith cymdeithasol, fyddai’n golygu y byddai dibyniaeth Gwasanaethau Cymdeithasol y Plant ar staff asiantaeth yn parhau am flwyddyn o leiaf. Mewn Gofal Cymdeithasol Oedolion, tynnodd sylw at y gefnogaeth a'r cymorth oedd ar gael i roi'r profiad a'r offer gorau iddynt ar gyfer eu gwaith a dywedodd fod y gweithlu yn brif flaenoriaeth i'r Gyfarwyddiaeth.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau’r Pwyllgor, oedd eisiau gofyn cwestiynau, i gyd wedi siarad ac felly, gan nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i’r gwahoddedigion, diolchodd iddynt am eu presenoldeb a gadawsant y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn dilyn ystyried yr adroddiad a'r atodiadau, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion canlynol i’w cadarnhau a’u cynnwys yn yr adroddiad i'r Cabinet ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Ddrafft, gan gynnwys y pwysau cyllideb arfaethedig a chynigion i leihau’r gyllideb o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Craffu hwn, fel rhan o'r broses o ymgynghori ar y gyllideb:

 

  1. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod y galw corfforol ac emosiynol ar y gweithwyr gofal cymdeithasol ac yn argymell bod y Cabinet yn adolygu'r cyflogau ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, yng ngoleuni pwysau allanol ac ystyried sut i sicrhau bod y staff hyn yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi'n briodol.

 

  1. Nododd y Pwyllgor fod mwyafrif pwysau'r gyllideb o fewn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ac, yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gyda Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, roedd y Pwyllgor yn fodlon eu bod yn ddigonol ac yn angenrheidiol.

 

Dogfennau ategol: