Agenda item

Cyflwyniad i’r Cyngor gan Gynrychiolwyr Cymoedd i’r Arfordir

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn cyflwyno cynrychiolwyr o Cymoedd i’r Arfordir, h.y. Jo Oak, Prif Weithredwr a Darrin Davies, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Datblygu a Thwf, a roddodd gyflwyniad ar waith diweddaraf y sefydliad.

 

Amlinellodd y cyflwyniad agenda V2C i ddechrau, sef

 

  • Eu sefyllfa bresennol
  • Eu blaenoriaethau cyntaf
  • Eu heffaith a'u huchelgais
  • Eglurhad ynghylch cartrefi gwag
  • Cyfleoedd ar gyfer cwestiynau

 

O ran y sefyllfa bresennol, eglurodd y Swyddogion fod V2C wedi derbyn y lefel uchaf o gydymffurfiaeth o ran eu llywodraethu a'u hyfywedd ariannol yn dilyn adolygiad rheoleiddio diweddar.

 

Roedd lefelau rhent wedi'u gosod ar gynnydd o 6.5% ar gyfartaledd (yn unol â chymdeithasau tai eraill yng Nghymru ac ar gyfartaledd £20 yn is na'r cap rhent), gyda rhent wedi'i rewi a chymorth ychwanegol i'r rhai mwyaf agored i niwed.

 

Roedd gwaith partneriaeth parhaus yn cael ei ddatblygu i gefnogi eu cwsmeriaid yn well, gan gynnwys y rhaglen Tai, Iechyd ac Arloesi ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.

 

Roedd gwaith hefyd wedi'i wneud o ran cefnogi Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr drwy annog cydweithwyr yn ôl i'r swyddfa ac ailgyflwyno derbynfa'r sefydliad.

 

O ran blaenoriaethau mwy uniongyrchol y sefydliad, amlinellwyd y rhain fel a ganlyn:-

 

1.    Mynd i'r afael â lleithder, anwedd a llwydni - gweithio ar y cyd â Chymdeithasau Tai ac Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru ac ymateb i'r Gweinidog Tai

2.    Atal a mynd i'r afael â digartrefedd - mwy o gymorth i gwsmeriaid drwy’r argyfwng costau byw; gweithio mewn partneriaeth â CBSPAO ac eraill; buddsoddi mewn cartrefi newydd i ateb y galw

3.    Mynd i’r afael â thanfuddsoddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr drwy ein hagenda ‘Darn Coll’, fel y gallwn wneud mwy dros ein cwsmeriaid a’n cymunedau.

 

Dywedodd Prif Weithredwr V2C, o ran effeithiau ac uchelgeisiau'r sefydliad ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, mai'r rhain i rannu gyda'r aelodau oedd bod ei Raglen Trawsnewid wedi cael effaith gadarnhaol ar draws y busnes, ac ar gyfer cwsmeriaid, bod ôl-groniad atgyweiriadau yn gostwng yn ogystal â chwynion hefyd yn gostwng a datrysiadau cadarnhaol yn digwydd yn gyflymach i denantiaid eiddo.

 

Roedd y datrblygiadau uchod i gyd yn cael eu gyrru ymlaen gyda chynlluniau i greu is-gwmni sy'n eiddo llwyr i wella a thyfu eu gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw ymhellach.

 

Roedd V2C hefyd wedi lansio ei strategaeth Dyfodol Cynaliadwy Diogel a Hapus i weithio tuag at niwtraliaeth carbon.

 

Ymhellach, roedd £1.2m wedi'i sicrhau i fuddsoddi mewn rhaglen ôl-ffitio optimaidd. Byddai hyn yn dechrau gyda gwell systemau gwresogi i tua 200 o gartrefi; inswleiddio waliau allanol i tua 200 o gartrefi; a goleuadau ynni effeithlon i ardaloedd cymunedol yn ei gynlluniau tai gwarchod.

 

Mewn perthynas ag eglurhad ynghylch Tai Gwag, eglurodd y Swyddogion nad Cymoedd i'r Arfordir yw'r unig LCC ym Mhen-y-bont ar Ogwr a bod hyn ar adegau wedi arwain at rywfaint o gamddealltwriaeth yn lleol ynghylch maint perchnogaeth rhai cartrefi gwag. 

 

Roedd rhywfaint o gamsyniad hefyd ynghylch nifer y cartrefi yr oedd V2C yn berchen arnynt mewn perthynas ag eiddo a gollwyd drwy'r Cynllun Hawl i Brynu. 

 

O ran eiddo gweigion, eglurodd y Swyddogion fod 138 o gartrefi gwag (gweigion) yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd, gyda 63 yn destun gwaith adeiladu ar hyn o bryd i baratoi ar gyfer ailosod. O ran 23 o'r eiddo hyn, roedd y gwaith yno wedi'i gwblhau ac roeddent yn awr yn barod i'w gosod. Roedd y gwaith ar 10 eiddo wedi'i roi i gontractwyr gyda'r gwaith perthnasol yn yr arfaeth. Roedd 6 eiddo yn aros am adroddiadau asbestos a/neu gynlluniau cegin, gyda 3 o'r rhain yn aros i gael eu clirio. Roedd 23 eiddo yn aros i gael eu harchwilio (gan gynnwys y rhai lle'r oedd archwiliadau o'r fath eisoes wedi'u trefnu).

 

Dywedodd y Swyddogion V2C hefyd, y gall cartrefi fod yn wag am nifer o resymau, er enghraifft, gwaith sy'n mynd rhagddo; addasiadau penodol yn yr arfaeth; trefniadau ar gyfer gwaith mawr; yn aros am brofion cydymffurfio neu adroddiadau diogelwch; yn aros am gyfleustodau; yn aros i gael eu clirio neu'r rhai sydd wedi'u lleoli mewn ardal anodd ei gosod.

 

I gloi, cadarnhawyd ers dechrau blwyddyn ariannol 2022-23, fod V2C wedi dod â 289 o gartrefi gwag yn ôl i ddefnydd, gan gynnwys 16 o dai gweigion ‘gwerth uchel’.

 

Wrth i hyn gloi'r cyflwyniad, gofynnodd y Maer i'r Aelodau a oedd ganddynt unrhyw gwestiynau i’r Swyddogion.

 

Nododd Aelod mai’r llwyddiant mwyaf yr oedd wedi’i nodi ers iddo ddod yn Gynghorydd Bwrdeistref Sirol fis Mai diwethaf oedd y gwaith clirio y mae mawr ei angen yn Ystâd Wildmill, drwy gydweithio rhwng CBS Pen-y-bont ar Ogwr a V2C. Fodd bynnag, fel rhan o gynigion cyllideb ddrafft y Cyngor, roedd awgrym i leihau maint tîm Gorfodi CBSPAO. Gofynnodd felly sut y byddai hyn yn effeithio ar waith fel hwn yn y dyfodol yn yr ardal hon ac ardaloedd ehangach Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, V2C fod yna atebolrwydd rhwng partneriaid y sefydliad i sicrhau y byddai canlyniadau cadarnhaol pan fyddai gwaith o'r natur hwn yn cael ei amserlennu ac yn cael ei wneud wedyn. Mae disgwyliadau wedi’u gosod o ran clirio sbwriel fel tipio anghyfreithlon a gwella’r ardaloedd gwyrdd o fewn Wildmill ac roedd hi’n si?r, er gwaethaf unrhyw leihad yn y gweithlu, y byddai gwaith fel hwn yn parhau i gael ei wneud yn y dyfodol er mwyn adeiladu ar y camau cadarnhaol iawn sydd wedi’u cymryd mewn ardaloedd â phroblemau megis Wildmill, yn y dyfodol.

 

Gofynnodd Aelod pa bwerau oedd gan V2C o ran tenantiaid yn dangos ymddygiad gwrthgymdeithasol ac felly'n achosi cynnwrf a phroblemau i drigolion cyfagos, h.y. ymddygiad nad yw'n droseddol.

 

Dywedodd Prif Weithredwr V2C y byddai V2C yn ymchwilio i broblemau fel hyn naill ai ar eu pen eu hunain neu gyda phartneriaid fel tîm MASH neu Heddlu De Cymru. Gallai V2C gynnal achos cyfreithiol yn erbyn cyflawnwyr o'r fath a allai arwain at denantiaid wedyn yn wynebu cael eu troi allan, fodd bynnag, gallai hyn olygu bod y broblem yn cael ei symud o un gymuned i'r llall lle symudodd y tenant iddi. Neu gallai'r tenant ddod yn ddigartref a fyddai'n gwaethygu'r broblem benodol honno a oedd ar gynnydd. Felly, yn y rhan fwyaf o achosion byddai V2C ac asiantaethau allweddol eraill yn y lle cyntaf yn ceisio datrys problemau gyda'r tenant a cheisio mynd i'r afael â'u problemau ymddygiad er mwyn datrys materion, heb fod angen cymryd camau pellach.

 

Dywedodd Aelod a oedd yn gynrychiolydd ar Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr ei bod wedi ymweld ag eiddo V2C yn ddiweddar lle’r oedd tenant agored i niwed, nad oedd wedi cael cawod ers nifer o wythnosau. Gofynnodd pa mor aml yr oedd staff V2C yn archwilio eiddo i sicrhau bod tenantiaid fel hyn yn cael eu hadnabod er mwyn canfod a oedd angen cymorth pellach arnynt ai peidio. Gofynnodd hefyd a oedd angen i denantiaid symud allan o'u heiddo ac i mewn i un arall, os oedd angen gwneud gwaith ar yr annedd.

 

Cadarnhaodd Prif Weithredwr V2C fod staff V2C yn archwilio eiddo yn flynyddol fel rhan o raglen archwilio flynyddol, i gynnal gwiriadau diogelwch eiddo. Cafwyd arolygiadau mwy rheolaidd yn ystod y pandemig, ond wrth gwrs, roedd Covid bellach wedi cilio. Roedd yna hefyd ymgyrch ‘Eyes On’, lle bu cynrychiolwyr V2C yn rhyngweithio â thenantiaid ar faterion diogelu ac atgyweirio eiddo ac yn adrodd yn ôl ar y rhain, er mwyn cymryd camau priodol. Roedd yna hefyd broses atgyfeirio, gan weithio gyda phartneriaid fel CBSPAO, lle cafodd problemau gyda thenantiaid, atgyweiriadau, sbwriel a llu o faterion eraill eu hadrodd a'u rhestru i weithredu arnynt.

 

O ran tenantiaid yn gorfod symud allan o'u heiddo pan oedd atgyweiriadau'n cael eu gwneud iddo, roedd hyn i gyd yn dibynnu ar faint yr oedd angen ei wneud. Ystyriwyd hyn mewn perthynas â maint y gwaith ac unrhyw elfennau diogelwch oedd angen eu hystyried. Trafodwyd y rhain gyda'r cwsmer. Ar adegau, yn hytrach na symud tenant i eiddo arall at y diben hwn, gallent gael eu hail-leoli i westy neu d? llety am gyfnod byr.

 

Nododd Aelod y bu achosion o ôl-groniad atgyweiriadau ar gyfer eiddo tenantiaid V2C, a oedd yn aml yn arwain at ‘dagfa’ yn datblygu, a oedd wedyn yn gohirio datrys atgyweiriadau o’r fath. Roedd wedi cael yr adborth hwn gan rai etholwyr, ond ar adegau pan wnaeth atgyfeiriad uniongyrchol i V2C ar yr un materion, roedd bob amser wedi canfod bod y sefydliad yn gweithredu ar y broblem yn gyflym. Gofynnodd a oedd hyn yn wir ac os felly, beth oedd yn cael ei wneud i unioni oedi o'r fath.

 

Cydnabu'r Prif Weithredwr, V2C fod cwynion gan denantiaid yn y maes hwn wedi bod yn broblem o'r blaen, er bod gwaith pellach wedi'i ymrwymo i'r maes gwaith hwn a bod y sefyllfa wedi gwella. Ychwanegodd y byddai'n well ganddi pe bai tenantiaid yn cysylltu â'r sefydliad yn uniongyrchol, yn hytrach na thrwy unrhyw bartner, gan fod torri'r rhain allan yn aml yn cyflymu'r ymateb lle byddai camau'n cael eu cymryd yn gyflymach wedyn. Yn aml, pe bai cwynion yn cael eu gwneud a heb fod yn cael eu gweithredu'n ddigon cyflym ym marn y tenantiaid, byddent wedyn yn ceisio dwyn achos cyfreithiol yn erbyn V2C a allai fynd yn faith a gallai hynny ymestyn y broblem hyd yn oed yn hirach ac y gellid ei osgoi yn aml trwy ddeialog rhwng y tenant a'r gymdeithas dai. Cynghorodd yr Aelod i gael trafodaeth bellach ar hyn, y tu allan i'r cyfarfod.

 

Am drafodaeth bellach a gafwyd ar y pwnc hwn, dylid cyfeirio yma at ddolen y cyfarfod ££££££.            

 

PENDERFYNWYD:                    Nodi adroddiad y Prif Weithredwr a'r cyflwyniad gan gydweithwyr Cymoedd i'r Arfordir.

Dogfennau ategol: