Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a oedd yn rhoi diweddariad i'r Aelodau mewn perthynas â'r sefyllfa gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 3 yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
Dywedodd fod Strategaeth Gyfalaf y Cyngor wedi'i chymeradwyo gan y Cyngor ar 23 Chwefror 2022. Cyfanswm y gyllideb gyfalaf gymeradwy a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Chwefror oedd £69.979 miliwn. Roedd y rhaglen gyfalaf wedi'i ddiweddaru a'i chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor ym mis Hydref y llynedd.
Mae Adran 4 o’r adroddiad yn amlinellu’r sefyllfa bresennol ar raglen gyfalaf y Cyngor eleni. Cyfanswm y rhaglen ddiwygiedig am y flwyddyn oedd £61.7m gyda £28.2m yn cael ei ariannu gan adnoddau CBSPAO a'r gweddill o £33.5m yn cael ei ariannu o ffynonellau allanol. Dangoswyd dadansoddiad o’r rhaglen ar draws gwasanaethau yn Nhabl 1 yn yr adroddiad, gyda mwy o fanylion am ariannu’r rhaglen i’w gweld yn Nhabl 2.
Roedd manylion am gynlluniau unigol i'w gweld yn Atodiad A yr adroddiad.
Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai Aelodau'n gweld mai cyfanswm y llithriant y gofynnwyd amdano yn Chwarter 3 yw £28.5m. Manylwyd ar y rhesymau dros y llithriant ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad.
Yn ogystal ag addasiadau ar gyfer llithriant, roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar rai cynlluniau newydd a diwygiedig i’w cymeradwyo a oedd yn cynnwys cyllid Llywodraeth Cymru a dderbyniwyd i ariannu nifer o gynlluniau gan gynnwys:
o Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi i fynd i’r afael â’r dirywiad yng nghanol trefi a’r gostyngiad yn y galw am fanwerthu ar y Stryd Fawr;
o Cyllid tai gyda gofal i gefnogi datblygiad y ganolfan breswyl i blant;
o Arian Cronfa Trawsnewid ULEV i gefnogi darparu seilwaith gwefru cerbydau trydan o fewn meysydd parcio cyhoeddus; a
o Grant Cronfa Gwella Mynediad i gefnogi gwaith i wella mynediad i'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus ac arno.
Yn ogystal â grantiau Llywodraeth Cymru, roedd cyllid hefyd wedi'i nodi i ariannu mentrau eraill, gan gynnwys;
• Cyfraniadau ychwanegol A106 i gefnogi darparu cynlluniau tai fforddiadwy;
• Cyllid ychwanegol o gronfa trafnidiaeth leol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gefnogi prosiect gorsaf fysiau Porthcawl;
• Cyllid i gefnogi cynllun ysgol egin cyfrwng Cymraeg Porthcawl;
• Cyllid gan Chwaraeon Cymru i wella cyfleusterau allanol yn Ysgol Bryn Castell i'w defnyddio gan yr ysgolion a'r gymuned;
• Gwaith croesi ffyrdd ym Mynydd Cynffig; a
• Arian ychwanegol ar gyfer prynu offer TGCh i ysgolion.
Roedd newidiadau hefyd i ddau gynllun y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, gyda’r rhaglen ddiwygiedig lawn i’w gweld yn Atodiad B.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid, pan gymeradwyodd y Cyngor y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer eleni, ei bod yn cynnwys dangosyddion darbodus ar gyfer 2022-23 i 2024-25. Roedd Atodiad C i'r adroddiad yn adlewyrchu bod y Cyngor yn gweithredu o fewn y terfynau awdurdod lleol a gymeradwywyd.
Canmolodd yr Aelod Cabinet – Adnoddau yr adroddiad.
Gofynnodd Aelod am rywfaint o eglurhad ynghylch Benthyciad Datblygu Cwm Llynfi, sef bod benthyciad yn awgrymu bod yn rhaid ad-dalu rhywfaint o arian, nad oedd yn credu ei fod yn gwbl wir.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, er ei fod yn cael ei alw'n fenthyciad, nid oedd rhan o hwn yn ad-daladwy.
Croesawodd Aelod y ffrydiau ariannu ychwanegol ar gyfer gorsaf Fysiau Porthcawl (£404k) a’r Hyb Preswyl i Blant (608k).
Holodd Aelod beth oedd y Cynlluniau Priffyrdd yn ei gynrychioli o ran ysgolion Band B a gofynnodd hefyd pryd y byddai'r dyfeisiau gwefru cerbydau trydan yn weithredol ym meysydd parcio Pen-y-bont ar Ogwr.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd, fod cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi’i ymrwymo o ran Cyfraddau Ymyrraeth o 75% ar gyfer ysgolion arbennig a 65% ar gyfer ysgolion ‘eraill’. Fodd bynnag, bu'n rhaid i'r awdurdod lleol ddod o hyd i gyllid ychwanegol ar gyfer gwaith seilwaith o amgylch ysgolion er mwyn sicrhau mynediad digonol a diogel iddynt. Ychwanegodd fod hyn yn swm sylweddol, o gofio nifer yr ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol yn ogystal â'r rhai a fwriedir, h.y. adeiladu o'r newydd.
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y byddai gan bob maes parcio cyhoeddus gyfleuster i wefru cerbydau electronig ar ôl 2025, a bod y Cyngor ar hyn o bryd yn aros i Western Power bweru rhai pwyntiau gwefru erbyn diwedd Chwefror/Mawrth. Pan fyddai'r rhain yn weithredol, byddai hysbysiad yn mynd allan i'r perwyl hwn er budd y cyhoedd.
Cyfeiriodd Aelod at dudalen 41 ac Atodiad A yr adroddiad mewn perthynas ag ymholiadau ariannu yn ymwneud ag Ysgol Gynradd Pencoed.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai'n siarad â'r Aelod lleol ynghylch y rhain, y tu allan i'r cyfarfod.
Dywedodd Aelod fod llithriant prosiectau yn y rhaglen Gyfalaf yn bryder cynyddol a gofynnodd a ddylai'r Awdurdod o bosibl ystyried grwpio holl brosiectau'r Cynllun Cyfalaf o dan un Gweithgor Cyfalaf. Nododd hefyd fod yna gynlluniau o fewn y Rhaglen Gyfalaf yn cyd-fynd â gwahanol Gyfarwyddiaethau ac ati, ond roedd yn meddwl tybed a ddylid ystyried gwariant cyfalaf i gynhyrchu refeniw, i gael ei gynnwys o dan fath o gynnig ‘Cynllun Gwario’.
Dywedodd y Prif Weithredwr ar y pwynt olaf y gellid ymchwilio i hyn i weld a fyddai unrhyw fanteision amlwg o gynnig o'r fath. Ychwanegodd y byddai'n fuddiol, er enghraifft, edrych i wneud arbedion refeniw mewn cynlluniau ynni, er mwyn gwrthweithio costau cyfleustodau cynyddol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod nifer o resymau dilys pam fod rhai cynlluniau yn destun llithriant ac felly'n profi oedi. Roedd y rhain yn cynnwys gofynion i ail-arolygu safleoedd, amodau'r farchnad lle'r oedd prisiau deunyddiau ac ati wedi cynyddu ac opsiynau cynllun codi tâl, ymhlith eraill.
Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw fwriad i adeiladau’r Cyngor megis er enghraifft, y prif Swyddfeydd Dinesig, gael eu meddiannu ymhellach gan staff nawr bod Covid 19 dan reolaeth rhesymol.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai gweithio ystwyth a oedd yn golygu bod staff naill ai'n gweithio o bell gartref neu yn y swyddfa (ond o bell yn bennaf) yn parhau i bob pwrpas, gan fod hyn wedi profi i fod yn ffordd effeithiol o weithio. Ategwyd hyn gan Bolisi Gweithio Hybrid a roddwyd ar waith o fewn CBSPAO. Hefyd, roedd gweithio ystwyth yn dilyn y canllawiau a roddwyd i sefydliadau mawr fel awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru, mewn ymgais i leihau allyriadau carbon o dan yr agenda Carbon Sero Net.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor:
Yn nodi'r Dangosyddion Darbodus ac Eraill a ragwelir ar gyfer 2022-23 (Atodiad C)
Dogfennau ategol: