Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2023-24 i 2026-27

 

 

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David - Arweinydd

Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet Cymunedau

Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet Adfywio

 

Carys Lord - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid

Mark Shephard - Prif Weithredwr

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau

 

Deborah Exton Dirprwy Bennaeth Cyllid dros dro

Victoria Adams, Rheolwr Cyllid – Rheoli Cyllidebau: Cymunedau, Addysg a Chymorth i Deuluoedd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid grynodeb o'r adroddiad, a'i bwrpas oedd cyflwyno i’r Pwyllgor y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ddrafft (SATC) 2023-24 i 2026-27, oedd yn egluro blaenoriaethau gwariant y Cyngor, yr amcanion buddsoddi allweddol a’r meysydd o’r gyllideb oedd wedi cael eu targedu ar gyfer arbedion angenrheidiol. Roedd y strategaeth yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2023-2027 a chyllideb refeniw ddrafft fanwl ar gyfer 2023-24.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Brif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid a gwahoddodd gwestiynau.

 

Roedd yr aelodau'n cwestiynu a fyddai modelau cyflawni yn parhau i'r flwyddyn ariannol nesaf ac, yn ychwanegol at Drosglwyddo Asedau Cymunedol (CATS) a Bargen y Ddinas, roeddent yn gofyn sut roedd y Gyfarwyddiaeth yn bwriadu datblygu modelau cyflawni gwahanol a gyda phwy. Dywedodd y Swyddogion nad oedd unrhyw beth ar y gweill ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond nad oedd hynny’n golygu na fyddent yn edrych ar rai eraill yn y dyfodol. Bu’r aelodau’n trafod modelau cyflawni gwahanol, yn neilltuol partneru â Chynghorau Tref a Chymuned (CTCh) a datganoli mwy o wasanaethau iddynt. Cytunai’r Swyddogion y byddent yn hapus i gael deialog agored a dywedasant fod disgrifiad swydd Swyddog CAT, sy'n cysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned, wedi cael ei ehangu i gynnwys y math yma o drafodaethau, a châi barn gorfforaethol ar bolisi ei chyfleu i’r Cyngor llawn/Aelodau’r Cabinet.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y gostyngiad sylweddol yn swm y gwastraff gweddilliol y disgwylid iddo fod o fudd ariannol i'r Cyngor dros amser ac a fyddai'n dychwelyd elw dros gyfnod y SATC hwn. Dywedodd y Swyddogion wrth siarad am leihau tunelledd, mai gostyngiad ar y cynnydd ydoedd a'i fod yn dal yn uwch nag yr arferai fod yn cyn Covid ond ei fod yn arwydd ei fod yn symud tuag i lawr. Roedd aelodau'n cwestiynu, os oedd mwy o bobl yn gweithio o gartref, a oedd gostyngiad yn y gwastraff oedd yn cael ei gynhyrchu yn eu swyddfeydd ac felly a oedd yna effeithlonrwydd ac arbedion. Hysbysodd y Swyddogion yr aelodau fod gostyngiad bychan wedi bod yn eu gwastraff yn deillio o’r swyddfeydd Dinesig ond o gymharu â'r rhwydwaith domestig cyfan o gartrefi roeddent yn ddwy raddfa hollol wahanol. Felly, o ran gosod cyllideb, byddai unrhyw arbediad mewn tunelledd yn y biniau gwastraff dinesig yn ddibwys o'i gymharu â'r tunelledd cyffredinol.

 

Cyfeiriodd y pwyllgor at strategaeth y Cyngor i amddiffyn a buddsoddi mewn gwasanaethau a ddarperir i'r rhai mwyaf agored i niwed a gwneud gostyngiadau lle gallent gael yr effaith leiaf ar draws gwasanaethau'r Cyngor, a gofynasant a roddwyd ystyriaeth y gallai torri gwasanaeth fod yn economi ffug, er enghraifft, dileu gorfodi ynghylch gwastraff gan y gallai arwain at fwy o dipio anghyfreithlon. Gofynasant faint o erlyniadau a ddigwyddodd a faint o gosbau a roddwyd fesul blwyddyn gyda golwg ar dipio anghyfreithlon. Dywedodd y Swyddogion eu bod yn anghyffyrddus yngl?n â rhoi’r tîm gorfodi gwastraff ymlaen oherwydd er y gallai fod arbedion ar y cychwyn y gallai peidio â chael y tîm arwain at dipio anghyfreithlon, ond roedd angen iddynt gynhyrchu cyllideb gytbwys, ac roeddent yn gwerthfawrogi ystyriaeth y pwyllgor craffu wrth symud ymlaen. Dywedodd y Swyddogion na fu’r tîm gorfodi yn ei le ond ers deunaw mis yn unig ac roedd wedi bod yn canolbwyntio ar addysgu ac ar ymgyrchoedd cymunedol ac felly ni fu llawer o achosion gorfodi cyfreithiol, ond o ganlyniad i ymweld â'r cymunedau a siarad â phobl roedd cyfraddau ailgylchu wedi gwella. Dywedodd yr aelodau yr hoffent gynnig peidio ag ystyried y toriad cyllidebol hwn wrth chwilio am gynigion.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y Cyngor yn penderfynu y flwyddyn flaenorol i ymchwilio i gyfleoedd i ailstrwythuro neu ohirio cyfraniadau i Fargen Prifddinas Ranbarth Caerdydd a gofynnodd am ddiweddariad ar gynnydd. Dywedodd y Swyddogion eu bod wedi gofyn am gyngor cyfreithiol; byddai cost tynnu'n ôl yn ormodol a bod yr awdurdod yn derbyn mwy nag yr oedd yn ei gyfrannu.

 

Cyfeiriodd y pwyllgor at egwyddorion Ariannol Tymor Canolig ac ystyried senarios incwm a gwariant yn y dyfodol a gofyn a oedd gwasanaethau o fewn y Gyfarwyddiaeth a allai gynhyrchu incwm a thaliadau ychwanegol. Gofynasant hefyd a oedd y Gyfarwyddiaeth yn fodlon eu bod yn defnyddio eu partneriaid a'u sefydliadau i'w llawn botensial. Dywedodd y Swyddogion yngl?n â chynhyrchu incwm ei bod yn egwyddor bwysig a’u bod yn edrych ar bob ffordd i fod yn gadarn. Roeddent wedi bod yn dda am ddenu grantiau ac wedi tynnu £41 miliwn i mewn i’r Gyfarwyddiaeth a’u bod yn bendant yn ceisio defnyddio eu [partneriaid i gyd i’w llawn botensial a rhoddwyd enghreifftiau.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at yr egwyddor a nodwyd y byddai'r holl wasanaethau'n ceisio darparu gwerth am arian a gofynasant am esboniad sut maent yn mesur gwerth am arian ac a oeddent yn fodlon eu bod yn cyflawni'r mesur hwnnw. Ymatebodd y Swyddogion drwy ddweud bod nifer o ffyrdd yr oeddent yn darparu gwerth am arian, un oedd meincnodi, lle roeddent yn edrych ar yr hyn yr oedd awdurdodau a phartneriaid lleol eraill yn ei ddarparu, roedd yn rhaid iddynt hefyd wneud pethau o fewn amlen ariannol a sicrhau eu bod yn cael y cynnyrch gorau ar gyfer yr arian yr oeddent yn ei dalu. Yn olaf, peth pwysig oedd hirhoedledd, gan siarad am gynaliadwyedd a chenedlaethau'r dyfodol.

 

Gyda golwg ar amserlenni, gofynnodd yr Aelodau beth oedd yn realistig, pa fesurau oedd yn eu lle i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni a chanlyniadau peidio â chyflawni amserlenni a rhwystrau annisgwyl. Esboniodd y Swyddogion mewn perthynas â'r amserlenni, y byddent ddeng mlynedd ynghynt wedi gosod eu cyllidebau cyn y Nadolig. Ond nid oeddent yn cael y cyfle hwnnw  yn awr gan fod San Steffan yn hwyrach yn rhoi arian i Gymru, felly byddent yn llunio cyllideb mor gyflym ag y gallent o fewn yr amser oedd ar gael iddynt.

 

Cwestiynodd y pwyllgor y cynnig i godi ar ddeiliaid bathodyn glas am barcio a gofyn a oedd y cynnig hwnnw'n cynnal y parcio ceir gyda chymhorthdal oedd yn cael ei gynnig  i staff ac i’r Cynghorwyr. Dywedodd y Swyddogion fod Pen-bont ar Ogwr yn un o'r unig awdurdodau yng Nghymru nad oeddent ar hyn o bryd yn codi ar ddeiliaid bathodyn glas am barcio, ond eu bod yn cynnig codi tâl wrth symud ymlaen. Gyda golwg ar barcio gyda chymhorthdal i staff ac aelodau, cafodd y cynllun ei atal yn ystod y pandemig. Dywedodd yr aelodau os oeddent yn un o'r cynghorau olaf i gynnig parcio am ddim i ddeiliaid bathodyn Glas, y dylent geisio cynnal hyn os yn bosibl.

 

Cyfeiriodd y pwyllgor at y cynnig i gau canolfannau ailgylchu cymunedol am un diwrnod o'r wythnos yr un a chwestiynu sut y byddai diwrnod yr wythnos ar gyfer pob un yn cael ei benderfynu. Fe wnaethant hefyd holi ynghylch y cyfleuster newydd oedd yn cael ei ddarparu ar Ystâd Ddiwydiannol y Pîl. Dywedodd y Swyddogion fod cynllun y Pîl wedi ei gwblhau ac wedi bod am bedwar mis ar ddeg ond bod Kier fel y gweithredwyr yn dal i ddisgwyl am drwydded i weithredu gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Dywedodd y Swyddogion, o ran y diwrnod cau, y byddent yn edrych ar y diwrnod pan oedd y lleiaf o draffig a galw ym mhob un o'r safleoedd yn ogystal â chynnal ymgynghoriad ar wahân yngl?n â’r cynnig cyn ei weithredu.

 

Cododd yr aelodau bwysau'r gost bosibl a grybwyllwyd mewn cyfarfod blaenorol yn ymwneud â carbon sero net y flwyddyn nesaf o oddeutu £800 mil na allent ei gweld yn Atodiad A, a gofyn a oedd hynny yn ychwanegol at yr hyn oedd wedi ei restru yno. Esboniodd y Swyddogion ei bod wedi bod yn anodd gan fod pwysau o £20 mil wedi eu cyflwyno ym mhob Cyfarwyddiaeth a dim ond £10 mil oedd wedi mynd ymlaen, oedd yn golygu nad oedd £10 mil wedi mynd ymlaen, ac un ar bymtheg ohonynt yn perthyn i Gymunedau.

 

Cynhaliwyd trafodaethau gan aelodau ynghylch gostyngiadau arfaethedig yn Atodiad B a dwyn i gof gontract Kier a sgyrsiau ynghylch talu £150 mil, a gâi ei rannu 50/50, i redeg eu fflyd ar fiodiesel. Roedd yr aelodau'n bryderus, fel pwysau cyllidebol am fiodiesel, nad oedd yn mynd i'w helpu i gyflawni targed 2030. Sicrhaodd y Swyddogion yr Aelodau mai’r hyn a awgrymwyd oedd £70 mil ar gyfer y biodiesel llysiau ar gyfer y fflyd, felly byddai ei rannu â Keir yn £35,000. Byddai hyn yn rhoi gostyngiad carbon o 95% iddynt ar y fflyd honno ac felly byddai'n cyfrannu, er nad oedd yn golygu ei fod yn rhywbeth yr oedd arnynt eisiau ei ddilyn ar gyfer y dyfodol yn llwyr gan yr hoffent edrych ar fflyd cerbydau allyriadau isel iawn.

 

Bu’r Aelodau yn trafod nifer y gwirfoddolwyr sy'n codi sbwriel o gwmpas y fwrdeistref sirol ac a oedd eu sefydliad yn gweithio gyda'r gwirfoddolwyr hynny. Dywedodd y Swyddogion fod eu mentrau casglu sbwriel ym Mhen-bont ar Ogwr yn mynd drwy Cadw Cymru’n daclus, sy'n hyfforddi, darparu yswiriant, asesiadau risg ac offer i bobl sydd eisiau gwirfoddoli i gasglu sbwriel.

 

Bu trafodaeth ynghylch gosod dwy adain o Ravens Court i sefydliadau partner, a gofynnwyd pa mor debygol oedd hi y byddai hyn yn digwydd o ystyried bod yr Awdurdod fel sefydliad yn gweithio o gartref. Cadarnhaodd y Swyddogion fod Adran y Landlord Corfforaethol wedi gosod y ddwy adain allan drwy gwmni gosod eiddo masnachol, eu bod yn eu marchnata ac yn ateb ymholiadau ac yn bendant ei bod yn ymddangos bod llawer o ddiddordeb ynddynt.

 

Bu’r aelodau yn trafod ac yn mynegi eu pryder ynghylch y cynnig i ddiweddu’r gefnogaeth i achubwyr bywyd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) ar draethau Porthcawl. Gofynnent sut y gallai'r Awdurdod dalu i noddi digwyddiad golff proffil uchel yn yr ardal ond tynnu’n ôl y gefnogaeth hanfodol i fywyd. Esboniodd y Swyddogion pan ddeuai digwyddiad o'r maint hwnnw i'r Fwrdeistref fod yna wasanaethau gan gynnwys casglu sbwriel, cau ffyrdd, i sicrhau y gallai'r fwrdeistref ddelio â thraffig ychwanegol a nifer yr ymwelwyr yr oedd yn rhaid iddynt ddelio â hwy. Cytunwyd ar fargen noddi gyda'r gystadleuaeth Agored H?n y câi £50,000 ei dalu dros 2 flynedd ac y câi’r arian hwnnw wedyn ei ddefnyddio ar gyfer y pethau y byddent wedi eu gwneud beth bynnag. Fe wnaethant fynegi pa mor anodd oedd y penderfyniad yngl?n â'r RNLI, ond roeddent wedi derbyn ystadegau’r gwaith a wnaed a'r cynnydd y gofynnwyd amdano yn y cyfraniad, ac ni wyddent sut y gallent ariannu’r arian ychwanegol. Nid oedd yn cael ei gymryd yn ysgafn ond roedd yn gyfrifoldeb anstatudol, ac felly roeddent wedi cynnig eu bod yn lleihau faint o gefnogaeth y byddent yn ei roi  tuag at Rest Bay. Roedd yr aelodau yn bryderus fod Rest Bay yn draeth peryglus, yn bennaf oherwydd y llanw terfol a’i bod yn ardal greigiog ac roedd arnynt eisiau mynegi na fyddent yn dymuno gweld colli’r gwasanaeth achub bywyd.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y cronfeydd wrth gefn yn unol ag egwyddor Ariannol Tymor Canolig ac y câi Cronfa'r Cyngor fel arfer ei chynnal ar 5% o gyllideb net y Cyngor ac eithrio ysgolion. Gofynasant a oedd y 5% yn mynd i mewn yno bob blwyddyn neu a oedd yn ddewisol a sut roedd defnydd yr arian oedd yn cael ei neilltuo ar gyfer y cronfeydd wrth gefn yn cael ei fonitro, a pha bwysau oedd ar yr awdurdod lleol drwy Ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gronfeydd wrth gefn. Dywedodd y Swyddogion fod Cronfa'r Cyngor yn falans waith i'r Cyngor ac nad oedd wedi ei dyrannu ar gyfer dim yn benodol. Pe bai unrhyw beth yn newid yn ystod y flwyddyn, roedd ganddynt ychydig o arian yno y gellid ei ddyrannu, nid oedd cyfraniad yn cael ei wneud flwyddyn ar ôl blwyddyn i’r cronfeydd wrth gefn hynny, fel yr holl gronfeydd wrth gefn eraill oedd wedi cronni dros y blynyddoedd a'r 5% oedd yr Arweiniad o ran faint y dylent ei gadw yn y gronfa honno. Esboniodd y Swyddogion fod cronfeydd wrth gefn oedd wedi cael eu clustnodi yn arian oedd wedi cael ei roi heibio dros flynyddoedd lawer ac wedi cronni a'u clustnodi gan fod penderfyniadau wedi cael eu gwneud ynghylch y blaenoriaethau yr oedd ar y Cyngor eisiau eu dilyn ac felly rhoddwyd arian o'r neilltu fel y gallent gwrdd â'r blaenoriaethau hynny pan ddeuent yn realiti. Dywedasant fod unrhyw bwysau i leihau'r cronfeydd wrth gefn hynny yn benderfyniad i'r Cyngor o ran lefel yr arian y maent yn ei gadw mewn cronfeydd wrth gefn.

 

Bu’r aelodau’n trafod defnyddio cronfeydd wrth gefn a chronfeydd wrth gefn cyfalaf yn hytrach na chronfeydd wrth gefn refeniw yn fwy medrus a thynnu gwaith i mewn lle bo modd yn hytrach na rhoi gwaith allan ar gontract. Fe wnaethant holi a oeddent yn edrych ar gyfleoedd lle y gallent wneud buddsoddiadau cyfalaf i weld refeniw. Atebodd y Swyddogion drwy ddweud eu bod wedi gwneud cryn dipyn i adeiladu i'r rhaglen gyfalaf mewn refeniw a rhoi'r enghreifftiau canlynol:

 

·         Gosod mesurau effeithlon o ran ynni mewn ysgolion

  • Newid yr holl fylbiau golau a lampau stryd ar draws Pen-bont ar Ogwr

·         Newid fflyd

Bu’r aelodau hefyd yn trafod bod llawer o bwysau cyllidebol yn y ddogfen, yn enwedig effaith y rhyfel yn yr Wcráin a'r argyfwng costau byw. Gofynnodd yr aelodau, o’r holl benderfyniadau anodd, faint o'r arbedion cost arfaethedig y gellid bod wedi eu hosgoi pe na bai gweinyddiaeth y flwyddyn flaenorol wedi rhewi’r Dreth Gyngor ym mlwyddyn yr etholiad

 

Atebodd y Swyddogion nad oeddent yn gwybod beth fyddai’r sefyllfa ariannol y byddent ynddi ac nad oeddent yn gwybod am yr argyfwng costau byw ar y pryd y cytunwyd ar y gyllideb ar gyfer y flwyddyn bresennol. Y gobaith oedd bod pethau'n dychwelyd i normal ar ôl y pandemig, yna fe drawodd argyfwng costau byw yr economi ac arhosodd pethau’n ansicr iawn. Dim ond yr wythnos honno roedd San Steffan yn cefnogi gwasanaethau mewn perthynas â chostau ynni, ysgolion a darpariaeth gofal.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod aelodau’r pwyllgor oedd yn dymuno gofyn cwestiynau i gyd wedi siarad, ac felly gan nad oedd cwestiynau pellach i’r gwahoddedigion, diolchodd iddynt am eu presenoldeb a gadawsant y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn dilyn ystyried yr adroddiad a'r atodiadau, gwnaeth y Pwyllgor yr argymhellion canlynol ar gyfer eu cydgrynhoi a’u cynnwys yn yr adroddiad i'r Cabinet ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ddrafft, gan gynnwys y pwysau arfaethedig ar y gyllideb a’r cynigion i leihau’r gyllideb o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Craffu hwn, fel rhan o'r broses ymgynghori yngl?n â’r gyllideb:

 

 

Argymhellion

 

Cydweithredu â Chynghorau Tref a Chymuned

 

  1. Tynnodd y Pwyllgor sylw at fuddion posibl gweithio ar y cyd â Chynghorau Tref a Chymuned i liniaru pwysau cyllidebol yn y dyfodol a chynnal gwasanaethau. Felly, argymhellwyd bod yr Awdurdod yn defnyddio Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned yn fwy effeithiol ac effeithlon i ddatblygu hyn, gan ddechrau drwy greu Cynllun Gweithredu i ddangos yr amrywiol waith cydweithredol sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan yr Awdurdod â Chynghorau Tref a Chymuned.

Gofynnodd yr aelodau am i hyn gael ei gyflwyno ochr yn ochr â chanllawiau ac esboniad ar yr hyn y gall yr Awdurdod ei gynnig a sut y gellir ehangu gwaith cydweithredol gyda Chynghorau Tref a Chymuned ymhellach. At hynny, pwysleisiodd y Pwyllgor ei bod yn hanfodol i’r trafodaethau hyn ddigwydd cyn gynted â phosibl yn y flwyddyn ariannol newydd er mwyn dylanwadu ar braesept y Cynghorau Tref a Chymuned.

           Cytunodd y Pwyllgor y câi'r gwaith hwn ei fonitro gan y Pwyllgor Craffu wrth iddo ddatblygu.

 

Cynnig i Leihau’r Gyllideb - COM5

 

2a.  Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch y gostyngiad arfaethedig yn y gefnogaeth i'r RNLI ar gyfer Achubwyr Bywyd ar draethau Porthcawl, yn enwedig o ystyried bod y Swyddogion wedi adrodd bod hyn yn canolbwyntio'n bennaf ar gefnogaeth i Rest Bay. O ystyried y llanw terfol peryglus yn Rest Bay, poblogrwydd cynyddol chwaraeon d?r ar y traeth hwn a nifer yr ymwelwyr bob haf, roedd yr aelodau'n dychryn wrth feddwl am y perygl y byddai gostyngiad yn y gefnogaeth i'r RNLI yn ei achosi. Mae’r Pwyllgor felly’n argymell na fydd y gostyngiad yn cael ei symud ymlaen.

 

2b. Argymhellodd y Pwyllgor gynnal trafodaeth gyda Chynghorau Tref a Chymuned yn y Fwrdeistref Sirol ynghylch cyllid posibl ar gyfer yr RNLI.

 

2c.  Roedd yna hefyd farn leiafrifol gan rai Aelodau o'r Pwyllgor yn argymell bod y cyllid o £35,000 yr adroddwyd amdano i Kier am fiodiesel yn cael ei ystyried yn ddewis arall yn lle gostyngiad yng nghyllideb yr RNLI gan y teimlid na fyddai defnyddio biodiesel yn dod â budd yn fuan nac yn cyfrannu at darged carbon sero net 2030 y Cyngor.

 

Cynnig i Leihau’r Gyllideb – COM8 

 

3.    Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch cael gwared ar y Tîm Gorfodi Gwastraff a'r effaith y gallai hyn ei chael ar fynd i'r afael â phroblemau rheoli gwastraff megis tipio anghyfreithlon, ac yn enwedig o ystyried natur wrthgynhyrchiol bosibl y gostyngiad lle gallai arwain at gynnydd mewn costau. Mae'r Pwyllgor felly yn argymell na fydd y gostyngiad cyllidebol hwn yn cael ei symud ymlaen.

 

4.   Addysg mae’r Pwyllgor yn ei gefnogi o ran mynd i'r afael â rheoli gwastraff; fodd bynnag, mae’n argymell bod yr Awdurdod Lleol yn edrych tuag at ei sefydliadau partner i gynorthwyo gyda hyn yn hytrach na dibynnu ar staff y Cyngor, a allai wedyn ganolbwyntio mwy ar eu swyddogaeth orfodi, ac felly ddefnyddio'r holl adnoddau i'w llawn botensial.

 

Cronfeydd wrth gefn y Cyngor

           

5.    Er ein bod yn deall y dylid cynnal Cronfa'r Cyngor ar lefel o 5% o gyllideb net y cyngor, roedd yr Aelodau’n cwestiynu maint a defnydd cyllidebau wrth gefn yr Awdurdod, o ystyried y sefyllfa ariannol anodd

      eleni a rhagolwg y gyllideb yn y dyfodol. Mae’r Pwyllgor yn argymell cynnal adolygiad o gronfeydd wrth gefn y Cyngor, yn enwedig cronfeydd wrth gefn hanesyddol, gan ystyried ac esbonio’r ffordd y   maent yn cael eu rheoli a'u rhedeg.

 

Ymgynghoriad

 

6.    Mynegodd y Pwyllgor siom na allodd dderbyn unrhyw ganlyniad i ymgynghoriad cyhoeddus SATC 2023-27 ac argymhellodd y dylid gofyn am hyn ar gyfer cyfarfodydd cyllidebol blynyddol craffu y flwyddyn nesaf i roi gwybod i’r Pwyllgor am farn y cyhoedd er mwyn ei alluogi i wneud argymhellion mwy gwybodus ac effeithiol.

.

Sylwadau a Cheisiadau Pellach

 

Gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:

 

7.    Wrth symud ymlaen eu bod yn derbyn mesurau perfformiad er mwyn

       cCraffu’n effeithiol a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus.

 

8.   Gwybodaeth mewn perthynas â'r llog a delir ar fenthyciadau'r Cyngor yn ogystal â'r llog a enillir ar fuddsoddiadau.

 

9.    Cymeradwyodd y Pwyllgor yr Argymhelliad canlynol gan COSC:

       Mewn perthynas â COM5, y cynnig i leihau’r gyllideb o £38,000 drwy

       symud cefnogaeth i’r RNLI ar gyfer Achubwyr Bywyd ar draethau Porthcawl. Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer twrnamaint golff i annog y cyhoedd i ymweld â Phorthcawl ac y byddai'r Cynnig Lleihau Cyllideb hwn yn achosi perygl i'r cyhoedd.

 

Dogfennau ategol: