Agenda item

Adroddiadau Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Archwilio Cymru

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Ariannol o Archwilio Cymru yr adroddiad er mwyn cyflwyno adroddiadau Archwilio Cymru i'r Pwyllgor, gan gynnwys y newyddion diweddaraf am y gwaith yr oedd Archwilio Cymru eisoes wedi'i wneud, ac yr oedd yn bwriadu ei wneud, mewn perthynas â chyllid a pherfformiad.

 

Dywedodd ei chydweithiwr, uwch archwilydd o Archwilio Cymru, mai diben yr Adolygiad Llywodraethu Sylfaenol o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg oedd cael sicrwydd bod y Bwrdd Iechyd a’r tri Chyngor Lleol yn gweithio’n effeithiol drwy’r Bwrdd Arweinyddiaeth Drawsnewidiol i gefnogi gwaith integredig rhanbarthol ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg. Roedd hyn yn cynnwys adeiladu ar y gwaith a wnaed yn ystod y 18 mis diwethaf, a cheisio meddwl mwy yn y tymor hir o hyn allan, ac ar ffyrdd i ariannu'r rhanbarth yn well. Ystyriwyd bod angen cynllunio strategol mwy effeithiol yn y dyfodol.

 

Ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, rhoddwyd gwybodaeth am yr adroddiadau yr oedd Archwilio Cymru wedi'u llunio i'w hystyried gan y Pwyllgor, sef:

 

  • Rhaglen ac Amserlen Archwilio Cymru (Atodiad A yr adroddiad)
  • Bwrdd y Rhaglen Arweinyddiaeth Drawsnewidiol – Adolygiad Llywodraethu Sylfaenol – Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg (Atodiad B)

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ymateb i elfennau o'r Archwiliad a gynhaliwyd a oedd yn gysylltiedig â B uchod, ac roedd wedi ymateb yn llawn yn yr adroddiad yn Atodiad C. 

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Archwilio Cymru hefyd at y 7 argymhelliad a nodwyd yn adroddiad Archwilio Cymru (yn nhudalen 6 Atodiad B), a rhoi trosolwg cryno o'r rhain er budd yr aelodau.

 

Holodd aelod beth oedd yn achosi'r oedi cyn sefydlu'r bwrdd ar gyfer y rhaglen Llywodraethu Trawsbynciol yr oedd disgwyl iddo gael ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2022. Dywedodd yr Uwch Archwilydd o Archwilio Cymru mai pwrpas yr astudiaeth oedd cael sicrwydd bod y Bwrdd Iechyd a’r tri chyngor yn cydweithio drwy’r Bwrdd Partneriaeth Arweinyddiaeth Drawsnewidiol (BPAD). Dywedodd fod y gwaith maes wedi'i gyflawni o fis Tachwedd 2021 hyd fis Ionawr 2022, ac ar ôl hynny cyflwynwyd eu canfyddiadau ym mis Mawrth 2022. Casglwyd yn yr adroddiad fod y BPAD mewn sefyllfa dda i ddatblygu ymagwedd gref at waith rhanbarthol, gan adeiladu ar y perthnasoedd gwaith cadarnhaol dros y 18 mis diwethaf, a oedd hefyd wedi cynnwys heriau COVID. Yn ogystal â hynny, roedd angen meddwl mwy yn y tymor hir i gryfhau agweddau ar drefniadau llywodraethu a gwella defnydd rhanbarthol ac arloesol o adnoddau. Gwnaed saith argymhelliad bryd hynny a'u cyflwyno'n ôl wedi hynny i'r bwrdd Arweinyddiaeth Integredig newydd ar 1 Rhagfyr 2022. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ers cyflawni'r gwaith maes a chyhoeddi'r adroddiad, fod adolygiad llywodraethu wedi'i gynnal. Mae bwrdd arweinyddiaeth integredig newydd wedi cael ei sefydlu wedi'i gadeirio gan Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, a chan gynnwys swyddogion ar lefel uchel iawn ar draws y sefydliadau i sicrhau gwaith trawsbynciol yn gysylltiedig â chyllid, y gweithlu, cyfalaf ac adeiladau. Dywedodd fod gwaith pellach i'w wneud o hyd yn gysylltiedig â'r gweithlu. Roedd y trefniadau ar waith yn nhermau rheoli perfformiad. Cafodd y blaenoriaethau ynddo eu trosi'n gynllun ardal newydd a'r dangosfyrddau perfformiad ar draws yr holl seilwaith cefnogol. Dywedodd fod aeddfedrwydd y canlyniadau'n amrywio. Fodd bynnag, er mai'r terfyn amser ar gyfer cwblhau oedd mis Medi, roedd peth o'r gwaith wedi'i gwblhau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod gwaith pellach i'w wneud yn y maes hwnnw ac yn nhermau rheoli risg, gan ganolbwyntio ar y risg yn gysylltiedig â chyllid, yn enwedig gan fod y BPRh yn gyfrifol am gyllid grant byrdymor gyda gofynion taprog. Mae uchelgais y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn glir iawn, yn yr ystyr bod ei gwmpas yn ehangach na'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn unig, a'i fod hefyd yn cynnwys y defnydd o gyllidebau craidd a'r cyfle i archwilio'r posibilrwydd o gyfuno rhagor o gronfeydd ar draws y rhanbarth. Yn rhan o'r weledigaeth honno ynghylch integreiddio, bwriedir cyflawni mwy o waith erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Ers iddo ddod yn Gynghorydd yn 2022, dywedodd aelod ei fod wedi gweld cynnydd da wrth gydweithio'n gysylltiedig â holl faes trefniadau llywodraethu a gwella adnoddau rhanbarthol.Croesawodd y ffocws ar gysylltu'r pum mlynedd a mwy o gynllunio â Chynllun Datblygu Lleol y Cyngor a Chynlluniau'r Bwrdd Iechyd.

 

Dywedodd ei fod wedi gweld bod Iechyd yn ddarpariaeth gynhwysfawr a bod y problemau a wynebir gan adrannau achosion brys o bosib wedi'u hachosi oherwydd prinder gweithwyr ym maes gofal cymdeithasol, yn enwedig ers y pandemig.

Fodd bynnag, roedd cynlluniau'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar gyfer cynnydd, fel y cyfeiriwyd atynt yn ei hadroddiad, yn galonogol.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n ddefnyddiol gwybod pa drefniadau oedd wedi cael eu rhoi ar waith yn nhermau llywodraethu, a holodd a oedd unrhyw wybodaeth am y sawl a fyddai'n ymdrin â rheoli perfformiad ac unrhyw oedi cysylltiedig i'r system hysbysiadau goleuadau traffig. Awgrymodd fod gwaith craidd yn seiliedig ar y gyllideb yn cael ei wneud i fynd i'r afael â phroblemau adnoddau o fewn yr awdurdod lleol ac, yn arbennig, ym maes Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, y byddai cynllun gweithredu a fyddai'n rhoi mwy o adlewyrchiad o fewn y traciwr rheoleiddio, yn ogystal â gweithio tuag at symud ymlaen â manyleb genedlaethol ynghylch sut roedd angen mynd ati i siapio gwasanaethau Cymunedol integredig yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD :    Bod yr Aelodau’n nodi adroddiadau Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Archwilio Cymru gan gynnwys adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ac Atodiadau A, B ac C.

 

Dogfennau ategol: