Agenda item

Asesiad Risg Corfforaethol 2023-24

Cofnodion:

 

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad er mwyn cyflwyno Asesiad Risg Corfforaethol wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2023-24 i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a Pholisi Rheoli Risg Corfforaethol wedi'i ddiweddaru.

 

 

Roedd yr Asesiad Risg Corfforaethol, ynghlwm yn Atodiad A yr adroddiad, wedi cael ei adolygu mewn ymgynghoriad â'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol. Mae'n nodi'r prif risgiau o flaen y Cyngor, eu cysylltiad â'r amcanion llesiant corfforaethol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, effaith debygol y risgiau hyn ar wasanaethau'r Cyngor a'r Fwrdeistref Sirol ehangach, ac yn nodi pa gamau sy'n cael eu cymryd i liniaru'r risgiau a phwy sy'n gyfrifol am ymateb y Cyngor. Mae'r asesiad risg wedi'i alinio â'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Dywedodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod 11 o risgiau ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol ar hyn o bryd. Roedd pob risg wedi'i adolygu gan y Bwrdd Rheoli Corfforaethol.

 

Roedd y Polisi Rheoli Risg hefyd wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu'r ffaith bod meddalwedd newydd i dracio ac adrodd am risg wedi cael ei chyflwyno yn ystod 2023.

 

Roedd llinell amser y Polisi Rheoli Risg Corfforaethol, a oedd wedi'i chynnwys yn Atodiad B yr adroddiad, wedi'i diwygio ar gyfer 2023-24.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant nad oedd y problemau'n gysylltiedig â phwysau ar y system iechyd a gofal cymdeithasol yn newydd, ond y rheswm dros uwchgyfeirio hyn i'r gofrestr risg gorfforaethol nawr oedd lefel y risg o fewn y maes gwasanaeth cyfnewidiol hwn.

 

 

Dywedodd fod cynlluniau gweithredu ar waith i ganolbwyntio ar y ddau faes a oedd wedi'u pennu'n goch yn yr adroddiad, lle roedd lefel y risg yn uchel.

 

Roedd Adolygiad o Waith Cymdeithasol yn cael ei gynnal gan y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion a fyddai'n edrych ar gyfluniad timau ac adnoddau ar draws y gwasanaethau oedolion, gyda'r bwriad o wella'r maes gwasanaeth o hyn allan.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn ei flaen wedyn i sôn am yr heriau yn y farchnad recriwtio o fewn Gofal Cymdeithasol, lle roedd hi'n anodd recriwtio a chadw staff. Nid oedd hon yn sefyllfa neilltuol o fewn CBSPO, ond yn broblem ledled Cymru.

 

Eglurodd fod y Cyngor felly'n cymryd camau i fynd i'r afael â hyn, drwy 'dyfu' ei weithwyr ei hun, a chreu cysylltiadau â Phrifysgolion a Choleg Penybont, er mwyn hyrwyddo Pen-y-bont ar Ogwr yn well o safbwynt marchnata. Y gobaith yw y bydd hyn yn denu pobl iau i ddilyn gyrfa ym maes Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion, yn enwedig gan fod gweithlu Pen-y-bont ar Ogwr yn heneiddio yn y maes gwaith hwn.

 

Ffocws gwirioneddol i'r Gwasanaeth oedd ailadeiladu capasiti a'r gwasanaethau ailalluogi. Gwelwyd gostyngiad ar ôl COVID neu yn ystod COVID, i'r graddau lle’r oedd y gwasanaeth yn darparu tua 1,000 yn llai o oriau o wasanaeth ailalluogi bob blwyddyn nag a ddarparwyd cyn y pandemig. Pe na bai unigolion yn dilyn y llwybrau ailalluogi hynny, byddent yn debygol o fod angen mwy o ofal a chymorth parhaus.

 

Mewn perthynas â gwaith strategol yn gysylltiedig â gweithlu, roedd ffocws mawr ar farchnata a chreu cysylltiadau â myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol Coleg Penybont. Am y rhesymau a roddwyd uchod, roedd angen cael mwy o bobl ifanc i lenwi swyddi gwag yn gysylltiedig â gofal.

 

I'r perwyl hwn, roedd swydd-ddisgrifiadau wedi cael eu hadolygu, a byddai cais am daliad atodol ar sail y farchnad yn cael ei gyflwyno'r mis hwn, er mwyn mynd i'r afael â natur heriol iawn y farchnad a oedd yn gysylltiedig â'r gweithlu gofal.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y byddai'n ystyried yn strategol, ac yn rhanbarthol, y posibilrwydd o symud adnoddau i'r meysydd hynny lle'r oedd bylchau yn y gwasanaethau a gynigir yn lleol. Ychwanegodd fod angen ystyried archebu lleoliadau dros dro mewn bloc, lle gellid gweld bod ar bobl angen y lefel honno o gymorth.

 

Er nad oedd asesiad llawn wedi'i gynnal o leoliadau hirdymor, y nod oedd ceisio gwella’r sefyllfa a’r llif i unigolion drwy’r system gyfan, a gwneud hynny mewn modd sy’n diwallu anghenion unigolion orau, ond hefyd yn lleihau unrhyw amhariaeth gyffredinol ar y system gyfan.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant at brosiect a oedd yn cael ei oruchwylio gan Lywodraeth Cymru o dan y teitl 'cyfwerth â 1000 o welyau'. Cadarnhaodd nad oedd a wnelo'r prosiect â gwelyau'n benodol, ond niferoedd a oedd gyfwerth â gwelyau. I gloi, dywedodd y gwelwyd gwelliant drwy drefniadau rheoli yn y rhan hon o'r gwasanaeth.

Aeth yn ei blaen i ddweud bod 3 lefel uwchgyfeirio wedi'u cyflwyno i sicrhau bod dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni mewn modd amserol, sef:

Efydd – gweithredol – lefel gwasanaeth – dan gadeiryddiaeth pennaeth neu ddirprwy bennaeth gwasanaeth

Arian - tactegol - lefel cyfarwyddiaeth - dan gadeiryddiaeth y cyfarwyddwr corfforaethol

Aur – strategol – corfforaethol – dan gadeiryddiaeth y prif weithredwr

Cyn gynted ag y byddai dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni mewn modd amserol ar draws yr holl wasanaethau gofal cymdeithasol, byddai'r strwythur gorchymyn yn cael ei lacio.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd fod hyn yn gysylltiedig ag adolygiad Archwilio Cymru o ofal heb ei drefnu, er mwyn sicrhau bod y Gwasanaeth yn rheoli materion sy'n ymwneud â pharhad busnes mewn modd systematig. Dywedodd fod camau wedi'u rhoi ar waith ac y byddai'n barod i rannu'r rhain â'r Pwyllgor ar gais. Roedd cynlluniau gweithredu perthnasol yn cynnwys ymdriniaeth fanylach â'r rhain.

 

Awgrymodd aelod y dylid defnyddio siart liwiau i ddangos y tri chategori risg, gan gynnwys statws CAG, er rhwyddineb wrth ddarllen a deall y cynnydd yn gysylltiedig â chategorïau risg. Holodd yr aelod hefyd ynghylch y risgiau a grybwyllwyd yn gysylltiedig a recriwtio i'r gweithlu a methiant cyflenwyr.

 

Atebodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid drwy ddweud y byddai'r rheolwyr yn ystyried awgrymiadau ynghylch y cyflwyniad er mwyn gwneud yr wybodaeth yn haws ei deall ac ati.

 

Tynnodd aelod sylw at bwysau chwyddiant, dibyniaeth ar arian grant, costau chwyddiant yn gysylltiedig â deunyddiau mewn gwaith a oedd wedi'i roi allan ar dendr, heriau costau byw ac achosion o beidio talu'r dreth gyngor. Teimlai fod y rhain yn risgiau arbennig o uchel yr oedd angen eu monitro'n ofalus.

 

Atebodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid, fod y risgiau hyn yn datblygu i fod yn fwy sylweddol, ac yn yr adolygiad nesaf byddai'n ystyried sut orau i ymdrin â'r rhain, efallai drwy rannu risgiau i gategorïau mwy diffiniedig yn y dyfodol.

 

Bu trafodaeth rhwng aelod lleyg a'r Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid ynghylch sut mae'r Cyngor yn ymdrin â'r risgiau amrywiol, y camau allweddol a oedd wedi'u sefydlu, sut y gellir gwneud cynnydd gyda'r rhain a sut mae gwahaniaethu rhwng risgiau a busnes fel arfer. Soniodd am weithredu dyddiadau targed er mwyn gallu canolbwyntio ar ganlyniadau. Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid, er bod ganddynt system lywodraethu ariannol gref iawn ar waith sy’n lleihau risgiau i’r eithaf, awgrymodd y gallent wahanu'r busnes fel arfer ac unrhyw gamau newydd penodol a gyflwynir gan fod y risgiau'n symud ac y bydd angen newid y dull o weithredu yn eu cylch.

 

 

Holodd aelod lleyg am y Polisi a'r newidiadau a gafwyd. Gofynnodd a oedd y polisi yn newydd a sut y byddai'r newidiadau i'r Polisi yn cael eu cofnodi.  Cadarnhaodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid nad polisi newydd ydoedd, ond polisi presennol a oedd yn cael ei adolygu'n flynyddol. Cadarnhaodd na fu unrhyw newid yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Nodwyd y byddai unrhyw newidiadau i'r polisi yn y dyfodol yn cael eu hamlygu.

 

PENDERFYNWYD :       Bod y Pwyllgor wedi ystyried adroddiad Asesiad Risg Corfforaethol 2023-24 ynghyd â'r diweddariad o Bolisi Rheoli Risg 2020-2023.

Dogfennau ategol: