Agenda item

Traciwr Rheoleiddio

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad uchod gan y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus a'i bwrpas oedd rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (LlacA) am y traciwr rheoleiddio.

 

Ar ôl derbyn adborth ar y Traciwr Rheoleiddio, dywedodd fod ffocws ar y cyswllt â'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i sicrhau manylion digonol am yr arolygiadau a'r camau gweithredu i ymateb i'r argymhellion. Gan hynny, byddai'n trefnu cyfarfod â chydweithwyr Craffu i drafod a sicrhau bod gwybodaeth reoleiddio'n cael ei chasglu maen blaengynlluniau gwaith yn y dyfodol a gyflwynir gerbron y Pwyllgorau hynny.

 

Fel enghraifft, pe bai teimlad bod tystiolaeth o gynnydd yn brin, dywedodd fod angen cael mecanwaith clir i ymdrin â hynny neu gyfeirio hynny i sylw Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus hefyd fod angen cynnal trafodaeth, er mwyn deall a oedd edrych yn ôl dros ddwy flynedd yn ddigonol yn gysylltiedig â'r uchod, ac o ganlyniad i hynny, roedd arolygiad Estyn o 2019 wedi'i gynnwys yn rhan o'r camau dilynol.

 

Gofynnodd i'r pwyllgor drin yr adroddiad a gyflwynwyd fel yr adroddiad cynnydd cyntaf, gan ddweud bod yr adroddiad cryno'n nodi'r arolygiadau a'r argymhellion a ychwanegwyd ers yr adroddiad diwethaf hwnnw ym mis Tachwedd, fel y cyfeiriwyd ato yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac fel yr amlygwyd ym mharagraff 4.1.

 

Dywedwyd bod adroddiad newydd gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar y Bwrdd Rhaglen Cynnydd Arweinyddiaeth Drawsnewidiol, a phosibilrwydd o 2 adroddiad arall ar ddau o gartrefi gofal CBSPO.

 

Roedd paragraff 4.2 yr adroddiad yn cadarnhau bod 18 o argymhellion wedi'u cau, gan gynnwys 8 a oedd yn argymhellion o archwiliadau newydd.

 

Roedd y corff rheoleiddio wedi cyflwyno nifer sylweddol o argymhellion i'r Cyngor, ac roedd 18 o'r rheiny bellach wedi'u cau. Roedd statws CAG wedi'i bennu ar gyfer y rhain. Ychwanegodd fod angen rhoi blaenoriaeth i gwblhau rhai o'r rhain ar frys.

 

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus mai'r gobaith oedd y byddai'r Pwyllgor yn cael sicrwydd o wybod bod y traciwr rheoleiddio wedi cael ei ychwanegu at y trefniadau rheoli perfformiad corfforaethol chwarterol ac y byddai felly'n cael ei fonitro drwy'r broses hon. Daeth â’i chyflwyniad i ben drwy nodi bod y traciwr rheoleiddio wedi cael ei ystyried gan y Bwrdd Rheoli Corfforaethol ar 16 Ionawr 2023.

 

Holodd aelod sut a ble y gallai gael hyd i wybodaeth am adroddiad penodol a oedd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraff perthnasol o fewn y traciwr rheoleiddio.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus, er nad oedd mecanwaith o'r fath yn weithredol ar adeg y cyfarfod, y byddai hynny'n rhywbeth y gallai holi Swyddogion yn ei gylch i geisio ei weithredu yn y dyfodol.

 

Holodd aelod pwy fyddai'r swyddogion arweiniol ar y categorïau Ambr a Choch a sut y byddai modd adnabod swyddogion sy'n gyfrifol am y cynlluniau unioni ac am gymeradwyo argymhellion, gan gynnwys y graddfeydd amser cysylltiedig. Ategwyd hyn gan y Cadeirydd a ddywedodd fod angen cael llinellau amser manwl yn gysylltiedig â chwblhau'r categorïau Ambr a Choch.

 

Llongyfarchodd aelod lleyg y swyddog arweiniol am y gwaith yr oedd wedi'i wneud ar y Traciwr Rheoleiddio, a dywedodd ei fod yn teimlo y byddai'n fuddiol cyflwyno ffordd well i'r pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gyflawni neu gymryd cyfrifoldeb dros ei swyddogaethau o hyn allan. Holodd a oedd diffiniad swyddogol rhwng Coch ac Ambr. Awgrymodd y dylid atodi'r diffiniadau. Dywedodd hefyd y gallai fod yn ddefnyddiol cael llinellau amser penodol ar gyfer camau gweithredu ac argymhellion, yn hytrach na chadw'r peth yn benagored, oherwydd byddai hynny o gymorth i'r pwyllgor i ddibenion tracio.

 

Roedd y Cadeirydd yn dymuno nodi ei fod yn ategu'r sylwadau uchod. Ychwanegodd hefyd y byddai'n ddefnyddiol gwybod enwau'r swyddogion a fyddai'n gyfrifol am gyflawni'r argymhellion a llinell amser ar gyfer cwblhau'r argymhellion, gan gynnwys dyddiadau targed ar gyfer cwblhau.

 

Ymatebodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus drwy ddweud y byddai'n ystyried cynnwys y manylion hyn yn y traciwr ar ôl cynnal trafodaeth â chydweithwyr craffu ynghylch y cysylltiadau â'r broses Trosolwg a Chraffu.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cytuno â'r pwyntiau cryno a'r traciwr rheoleiddio manwl, ac yn codi'r materion uchod er trafodaeth ddilynol.

Dogfennau ategol: