Gwahoddwyr:
Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Jacqueline Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Mark Wilkinson - Rheolwr Grwp - Anabledd Dysgu, Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau
Adam Kurowski Wakeford – Rheolwr Gweithredol – Pobl Yn Gyntaf Pen-y-Bont
Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr adroddiad, a'i ddiben oedd disgrifio'r gwasanaethau anabledd dysgu oedd yn gweithredu yn y Fwrdeistref Sirol ac adrodd am ddatblygiadau yn y ffordd y darperid gwasanaethau anabledd dysgu a'r ffactorau allweddol oedd yn effeithio arnynt.
Dywedodd Rheolwr Gweithredol Pobl yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr fod Pobl yn Gyntaf yn elusen sy'n rhoi llais i bobl ag anableddau dysgu ac yn eu cynorthwyo i gael mwy o ddewis drwy hunan-eiriolaeth ac eiriolaeth annibynnol. Tynnodd sylw hefyd at nifer o feysydd eraill y mae'r elusen yn cynorthwyo pobl gan gynnwys darparu hyfforddiant a chyfieithu dogfennau i fformatau hawdd eu darllen.
Dywedodd y Defnyddwyr Gwasanaeth a wahoddwyd i'r cyfarfod eu bod yn gwerthfawrogi’r ffordd yr oedd yr oedd eiriolaeth wedi gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu trin â pharch ac roeddent yn sôn am y ffordd yr oedd Pobl yn Gyntaf wedi eu helpu gyda sgiliau bywyd pwysig megis delio â'r heddlu, y gwasanaeth tân a staff meddygol a rheoli eu materion ariannol eu hunain.
Diolchodd y Cadeirydd i Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a’r Gwahoddedigion a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
· Bod y Defnyddwyr Gwasanaeth yn hapus ar y cyfan gyda'r gwasanaethau y maent yn eu derbyn megis cymorth gyda thasgau, cyllidebu a theithio ond yn tynnu sylw at broblemau gyda phrydlondeb staff a chael eu hysbysu'n hwyr am salwch staff.
· Nifer y bobl ag anableddau dysgu sy'n hysbys i Dîm Anableddau Dysgu Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr, canfod yn fuan y bobl ag anableddau dysgu sydd angen cymorth, pwysigrwydd gwasanaethau atal a lles ac ehangu cydgysylltu cymunedol lleol.
· Adolygiad arbenigol allanol o fodel gweithgareddau dydd gan gynnwys effaith y pandemig.
· Ariannu’r gwasanaeth a buddsoddiad i weithredu'r ailfodelu a chreadigrwydd ac ymroddiad staff i ddarparu gwasanaethau.
· Cludiant ar gyfer Gwasanaethau Dydd ac ymdrechion i'w wneud yn fwy cydgysylltiedig a chost-effeithlon, gan gynnwys datblygu ap newydd a'r heriau a'r rhwystrau i ddefnyddio cludiant cyhoeddus.
· Mwy o waith oherwydd gweithredu'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.
· Y ffyrdd yr effeithiodd y pandemig ar y Defnyddwyr Gwasanaeth, yn enwedig eu bywydau cymdeithasol ac, wrth i wasanaethau ddychwelyd, maent yn teimlo'n fwy cadarnhaol.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaethau manwl gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:
1. Ystyried sut y gellir rheoli achosion o staff yn cyrraedd yn hwyr ac ychydig o rybudd o salwch staff er mwyn osgoi oedi neu ohirio diwrnod allan y dywedodd Defnyddwyr Gwasanaeth ei fod yn cael effaith aflonyddgar ac ansefydlog arnynt.
Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch yr effaith y gallai newid dull teithio Polisi Llywodraeth Cymru o ddefnyddio ceir i gludiant cyhoeddus ei chael, drwy amddifadu pobl ag anableddau dysgu a chyflyrau niwroamrywiol, a all wynebu ofn a thrallod wrth ddefnyddio cludiant cyhoeddus, ac argymhellodd bod y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i dynnu sylw at hwn fel maes pryder posibl.
Dogfennau ategol: