Cynghorydd Huw David - Arweinydd y Cyngor
Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Cynghorydd Hywel Williams – Aelod Cabinet – Adnoddau
Mark Shephard - Prif Weithredwr
Kelly Watson - Prif Swyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol
Debra Beeke - Rheolwr Gr?p – Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadaethol
Paul Miles - Rheolwr Canolfan Gwasanaeth AD
John Hughes – Cynrychiolydd Undeb Llafur - UNISON
Neil Birkin - Cynrychiolydd Undeb Llafur - GMB
Stephen Maclaren - Cynrychiolydd Undeb Llafur - Unite
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p – Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yr adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor ynghylch recriwtio a chadw gweithlu’r Cyngor.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Gr?p – Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol a bu’r Aelodau yn trafod y canlynol:
· Beth arall ellid ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r heriau a wynebir gan y Cyngor o ran y gweithlu a rheoli disgwyliadau, oherwydd diffyg adnoddau i gyflawni'r ansawdd a'r safonau a ddymunir.
· Datblygu Cynllun Gweithlu Strategol a Chynllun Cyflawni.
· Yr amser sy’n mynd heibio rhwng gwneud cais a dechrau mewn swydd.
· Oedi a briodolir i wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a thystlythyrau sy’n hanfodol ar gyfer diogelu, adnewyddu a throsglwyddadwyedd y DBS.
· Capasiti Adnoddau Dynol (AD) a phwysigrwydd swyddogaethau’r swyddfa gefn i sicrhau bod y Cyngor yn rhedeg yn esmwyth, y model gweithredu yn AD a meincnodi blynyddol.
· Y berthynas waith rhwng Rheolwyr Gr?p Cyfarwyddiaeth ac AD i sicrhau prosesau effeithlon.
· Pryder ynghylch proffil oedran gweithwyr ac a oedd gweithwyr oedd wedi ymddeol yn dychwelyd drwy asiantaethau, y posibilrwydd o raglen atgyfeirio gweithwyr ac arolygon ynghylch y broses recriwtio.
· Y Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer Personél y Lluoedd Arfog, ymgysylltu â chyn-filwyr a hyrwyddo’r Cyngor fel cyflogwr da, ei bolisi cyfeillgar i’r teulu, ei drefniadau pensiwn da a’i ragolygon datblygu gyrfa.
· Heriau recriwtio i rolau penodol gan gynnwys athrawon sy'n siarad Cymraeg ac a allai Polisi Tâl Atodol ar sail y Farchnad gynorthwyo gyda recriwtio.
· Pwysigrwydd defnydd cyson o gyfweliadau ymadael yn yr Awdurdod a dadansoddiad ystyrlon o'r wybodaeth a gasglwyd.
· Y trefniadau ariannu a nifer y graddedigion sy'n cael eu recriwtio drwy'r cynlluniau graddedigion a chynlluniau i ddatblygu recriwtio drwy brentisiaethau.
· Gweithio gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion i ddenu pobl i ofal cymdeithasol a gyrfaoedd eraill yn y Cyngor, y gobaith o ddenu ffoaduriaid o'r Wcráin i swyddi a swyddi anodd eu llenwi megis contractau oriau cyfyngedig mewn arlwyo ysgolion.
· Cadw, recriwtio mewnol ac allanol, cynllunio olyniaeth a datblygiad a dilyniant gyrfa.
· Hysbysebu swyddi gwag ar wefan y Cyngor, recriwtio wedi'i dargedu a ffyrdd mwy dyfeisgar o hysbysebu.
· Y broses ymgeisio a’r defnydd o Bolisi Tâl Atodol y Farchnad a thrafodaeth ynghylch gwerthusiad cyflog Cymru gyfan ac adolygiad o ddisgrifiadau swydd.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am fod yn bresennol a dywedodd, os nad oedd eu hangen ar gyfer yr eitem nesaf, eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaethau manwl gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:
1. I gydnabod y gwerth y gall cyn-filwyr ei gynnig i rolau’r Cyngor a Chynllun Gwarantu Cyfweliad y Cyngor ar gyfer Cyn-filwyr sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer rôl, y dylid ystyried y ffordd orau o dargedu cyn-filwyr i’w hannog i wneud cais am swyddi gwag.
2. Cynnal adolygiad i ystyried yr amser sy’n mynd heibio rhwng ceisiadau i hysbysebion am swyddi a'r amser i'r gweithwyr newydd hynny ddechrau yn eu swyddi newydd.
a gofynnodd y Pwyllgor:
3. Am ymateb ysgrifenedig yn cadarnhau:
a. A yw unrhyw rai o raddedigion y Cyngor yn cael eu hariannu o Gynllun Graddedigion Dinas-ranbarth Caerdydd (CCR); ac
b. Os na, a fyddai unrhyw gyllid yn dod o Gynllun Graddedigion CCR i ariannu swyddi graddedigion yn y dyfodol; a
c. Faint o raddedigion sy'n cael eu hariannu drwy Gynllun Graddedigion CCR sy'n gweithio mewn awdurdodau lleol.
4.
Dadansoddiad o'r cyfnodau amser pan gynhaliwyd y 144
o brentisiaethau.
Dadansoddiad o faint o weithwyr newydd a gwblhaodd eu cyfnod prawf o gyflogaeth a faint o weithwyr newydd a adawodd yr awdurdod yn ystod 12 mis cyntaf eu cyflogaeth.
Dogfennau ategol: