Agenda item

Cynllun Eiddo Gwag Cenedlaethol

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad i gadarnhau cyfranogiad yng Nghynllun Eiddo Gwag Cenedlaethol Llywodraeth Cymru a cheisio cymeradwyaeth gan y Cabinet i ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn awdurdod arweiniol i'r Cynllun Eiddo Gwag Cenedlaethol.

 

Esboniodd ar 17 Tachwedd 2022 fod y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol i'w hysbysu bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymeradwyaeth i gynllun cenedlaethol ar gyfer cartrefi gwag newydd, gan adeiladu ar y cynllun tai gwag blaenorol a ddarperir fel rhan o dasglu'r Cymoedd. Cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo £50miliwn i'r cynllun sy’n cael ei rannu'n gyfartal dros 2 flynedd, 2023-24 a 2024- 25. Darparwyd rhagor o fanylion yn adran 3 yr adroddiad

 

Esboniodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y bydd y cynllun hwnnw'n gweithredu'n llawn o 1 Ebrill 2023, ond mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lansio'r cynllun ar 30 Ionawr 2023 er mwyn gallu dechrau prosesu ceisiadau yn arwain at 2023-24. Nodwyd prif delerau'r cynllun yn adran 3.6 yr adroddiad.

 

Gofynnodd i'r Aelodau gadarnhau cyfranogiad yn y cynllun a chytuno i ymrwymo i'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Rhondda Cynon Taf i gymryd rhan yn y cynllun a sicrhau cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau Llywodraeth Cymru. Gofynnwyd i'r aelodau ddirprwyo pwerau i'r Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid a'r Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio i gwblhau trafodaethau ac arwyddo'r gwaith papur angenrheidiol.

 

Croesawodd Aelod Cabinet Cenedlaethau'r Dyfodol yr adroddiad gan ddweud ei fod yn mynd law yn llaw gydag adroddiad oedd i'w gyflwyno i’r Cyngor ar 8 Chwefror 2023 ar y premiymau Eiddo Gwag Hirdymor ar dasg y Cyngor. Braf oedd gweld bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd annog perchnogion eiddo i fuddsoddi yn eu heiddo er mwyn sicrhau eu defnydd priodol.

 

Ategodd y Dirprwy Arweinydd y sylwadau hyn, ac yn credu y byddai'r dreth cyngor ychwanegol y gellid ei chael o'r tai yma o fudd i gymunedau lleol ac roedd yn gam cadarnhaol ymlaen o ran sicrhau bod mwy o dai ar gael i'w defnyddio ym Mhen-y-bont.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod nifer o grantiau a chynlluniau wedi bod dros y blynyddoedd yn ymwneud â dod â thai gwag ac eiddo yn ôl i ddefnydd. Gofynnodd a fyddai'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth hwn yn disodli'r rhain.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod nifer o wahanol fentrau a ffrydiau cyllido a fydd yn aros ar waith pan fydd hyn yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill, er enghraifft, mae gan Lywodraeth Cymru gynllun Cartrefi i'r Cartref sy'n darparu benthyciadau i gefnogi preswylwyr yn ogystal â grantiau eiddo gwag a all helpu pobl i addasu eiddo os oes angen. Byddai'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn ychwanegol at y rhai presennol.

 

Awgrymodd yr Arweinydd fod gwybodaeth o'r grantiau hyn ar gael ar wefan y Cynghorau er lles y preswylwyr.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid a'r Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio i:

 

  • 9.1.1 trafod a ffurfio cytundeb lefel gwasanaeth gyda Rhondda Cynon Taf fel awdurdod arweiniol i'r Cynllun Eiddo Gwag Cenedlaethol;

 

  • 9.1.2 cymeradwyo unrhyw estyniad neu welliant i'r cytundeb lefel gwasanaeth ac i ymrwymo i unrhyw weithredoedd a dogfennau pellach sy'n ategol i'r cytundeb lefel gwasanaeth.

 

 

Dogfennau ategol: