Agenda item

I dderbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Roeddem yn drist iawn o glywed am farwolaeth sydyn Clare Drakeford, gwraig Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ar 28 Ionawr 2023.

 

Mae meddyliau pawb yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda'r Prif Weinidog a'r teulu ar yr adeg arbennig yma.

 

Gyda thristwch hefyd yr wyf yn cyhoeddi ar ôl salwch byr am farwolaeth trist ac annisgwyl Mr Jeff Baker oedd yn aelod annibynnol o Bwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Roedd Mr. Baker yn aelod o'r Pwyllgor ers 2016 ac yn sicr fe wnaeth gyfraniad sylweddol i lywodraethu'r Cyngor hwn.

 

Rwy’n si?r y bydd pawb o’r aelodau heddiw am gydymdeimlo’n gynnes â gwraig Jeff sef Janet yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

Roedd yn bleser croesawu'r Flwyddyn Newydd gyda rhai enghreifftiau gwych o dalent ifanc anhygoel sydd gennym yma yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Bum yn bresennol yng nghyfarfod Gwobrau Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ar gyfer Morgannwg Ganol ar gyfer Cymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru ym Mhontypridd.

 

Roedd yn foment arbennig iawn i weld tri o bobl ifanc o'n Bwrdeistref yn cael eu cydnabod:

 

Leading Cadet David Morgan ac Able Cadet Anna Marie Petter o Gorfflu Cadetiaid Môr Porthcawl.

 

Y Cadet Flight Sergent Scott Jones o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid Awyr RAF. Llongyfarchiadau i bawb ar eu llwyddiant.

 

Ynghyd â Maer Tref Porthcawl, derbyniais wahoddiad i ymweld â Phafiliwn y Grand ym Mhorthcawl lle cyflwynodd Ysgol Gyfun Porthcawl y ddrama gerdd 'Footloose the Musical'.

 

Diolchodd i bawb a gymerodd ran yn y sioe.

 

Mae proses enwebu Gwobr y Maer wedi’i chwblhau, gyda’r holl geisiadau o safon uchel iawn ac yn deilwng o gydnabyddiaeth.

 

Rydym ar hyn o bryd yn y broses o gysylltu â'r rhai a gymerodd ran yn y broses i’w hysbysu ar eu ceisiadau unigol.

 

Hoffwn eich cyflwyno i gyd i'r Ddraig Goch fach hon sy'n eistedd yn falch o'm blaen, draig heb enw ar hyn o bryd. A gaf i estyn gwahoddiad i chi gyd i enwebu enw ar gyfer y Ddraig Goch hon. Y gost yw £1 y tro. Bydd yr holl elw yn mynd tuag at Elusen y Maer. Hoffwn feddwl y bydd y rhestr yn llawn o holl enwau'r Cynghorydd ac enwau Uwch Swyddogion yr Awdurdod.

 

A gaf fi ddiolch i’r Cynghorydd Paula Ford am ddod o hyd i’r creadur tlawd hwn? Bydd cyflwyniad personol gennyf fi i’r unigolyn sy’n dewis yr enw cywir.

 

Mae’n bleser gennyf groesawu dau o gynrychiolwyr y Cyngor Ieuenctid (YC) gyda ni yn y Siambr heddiw sef Aspen a Tyler. Rhoddodd pob cynrychiolydd araith fer, yn ei dro, ar eu gwaith a'u cyfrifoldebau ar y Cyngor Ieuenctid.

 

Yn olaf, nodyn atgoffa amserol i'r rhai nad oedden nhw’n anffodus ddim yn gallu rheoli eu ffonau symudol yn ystod gwaith busnes y cyngor. Mae eich cosb o £10 i Elusen y Maer yn parhau i fod heb ei thalu. Bydd llog yn ddyledus ar unrhyw symiau sy'n weddill ynghyd ag enw cyhoeddus a rhestr cywilydd.

 

Aelod Cabinet - Adfywio

 

Yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor llawn, dywedodd ein Prif Weithredwr wrth yr aelodau fod disgwyl cyhoeddiad ar ein cais i gronfa Lefelu i Fyny Llywodraeth y DU.

 

Ers hynny, rydym wedi dysgu bod £18m wedi'i ddyfarnu tuag at waith ailddatblygu mawr ar Bafiliwn y Grand ym Mhorthcawl.

 

Fel y gwyddoch, mae’r Gronfa Ffyniant Bro yn gynllun cenedlaethol sydd wedi’i sefydlu a’i gweinyddu gan Lywodraeth y DU fel cyfrwng o alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau ar gyfer ariannu seilwaith newydd o fewn cymunedau lleol.

 

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â chyflwr strwythur yr adeilad a bydd yn sicrhau y gellir cadw ei dreftadaeth unigryw.

 

Ar yr un pryd, bydd yn galluogi'r adeilad i elwa ar wasanaeth celfyddydau, diwylliant a threftadaeth estynedig a gwell.

 

Ymhlith y cyfleusterau modern a fydd yn cael eu cyflwyno mae mannau i gynnal digwyddiadau ar y llawr cyntaf newydd, creu ardal newydd ar y to a fydd yn addas i gynnal digwyddiadau a chaffi. Bydd yno hefyd theatr stiwdio newydd, gofod i fusnesau newydd, swyddfeydd newydd yn ogystal â lleoliad ‘llefydd newid’ a llawer mwy.

 

Mae’r cyllid hwn yn benllanw blynyddoedd lawer o gynllunio a gweithio mewn partneriaeth ochr yn ochr â’n cydweithwyr yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, ac rwy’n si?r y bydd yr aelodau’n cytuno ei fod yn newyddion rhagorol.

 

Yn anffodus, roedd y newyddion yn chwerw felys hefyd wrth i ni ddeall bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod ein hail gynnig i’r gronfa Ffyniant Bro.

 

Byddai hyn wedi cefnogi ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer creu Pont Ffordd newydd yn Penprysg, Dwi’n si?r y bydd y siom enbyd hon i’w theimlo hefyd gan bobl Pencoed.

 

Rydym ar hyn o bryd yn aros i glywed a fydd rowndiau pellach o’r gronfa Ffyniant Bro yn cael eu cyhoeddi. Fe fyddaf yn trosglwyddo’r newyddion yma i chi am hyn cyn gynted â bo modd.

 

Aelod Cabinet – Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Yr wyf yn si?r y bydd yr aelodau’n rhannu fy mhryderon ynghylch ymchwil diweddar sydd wedi cadarnhau bod yr argyfwng costau byw yn ysgogi mwy o bobl yng Nghymru i fenthyca arian gan fenthycwyr didrwydded anghyfreithlon sy’n benthyg arian.

 

Fe wnaeth yr ymchwil, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a Stop Loan Sharks Wales, ddarganfod mai pobl rhwng 18 a 34 oed oedd y mwyaf agored i niwed, a bod hanner yr holl ymatebwyr oedd wedi benthyca arian wedi gwneud hynny i dalu costau byw arferol bob dydd.

 

Dywedodd 66% o’r ymatebwyr eu bod yn gwneud hynny i brynu bwyd, a 53% i dalu biliau ynni.

 

Dywedodd 38% hefyd y bydden nhw’n debygol o fenthyg mwy o arian yn ystod eleni oedd yn achos pryder.

 

Mae hyn yn amlygu’r realiti difrifol a wynebir gan gymunedau Cymru yn yr hinsawdd ariannol presennol ac mae’n cadarnhau’r gofid bod yr argyfwng costau byw yn annog benthycwyr anghyfreithlon i dargedu benthycwyr sydd mewn sefyllfa argyfyngus.

 

Yn ffodus, mae sefydliadau fel Stop Loan Sharks Wales yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau fel ein Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir i amddiffyn, addysgu a chefnogi dioddefwyr sy’n dioddef o wyngalchu arian yn anghyfreithlon, ac sy’n cydweithio a’i gilydd i ymchwilio ac erlyn benthycwyr arian didrwydded ledled Cymru.

 

Gall aelodau gefnogi’r frwydr yn erbyn gweithgarwch anghyfreithlon o’r fath drwy sicrhau bod eu hetholwyr yn gwybod bod cymorth a chyngor cyfrinachol ar gael drwy ffonio 0300 123 3311 neu ymweld â’r wefan sef stoploansharkwales.co.uk

 

Mae eu gwaith eisoes wedi gweld dioddefwyr sydd wedi dioddef o wyngalchu arian anghyfreithlon yn derbyn mwy na £66,000 mewn iawndal, a byddwn yn annog yn gryf unrhyw un a allai fod yn ystyried benthyca arian i siarad â’r sefydliad yn gyntaf.

 

Fel y mae’r aelodau yn gwybod, mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir yn gweithio ochr yn ochr ag ystod eang o bartneriaid ac yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn y cyhoedd rhag masnachwyr diegwyddor drwy ofalu am hawliau’r defnyddwyr, diogelwch bwyd, lles anifeiliaid a llawer mwy.

 

Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion, ac am helpu i amddiffyn cymunedau lleol rhag cael eu dal gan y rhai sy’n gwyngalchu arian yn anghyfreithlon.

 

Aelod Cabinet – Cymunedau

 

Hoffwn dynnu sylw’r aelodau at ymgynghoriad pwysig sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru.

 

Fel y gwyddoch, yn 2017 gosododd Llywodraeth Cymru gyfres o dargedau cenedlaethol ar gynhyrchu a defnyddio ynni adnewyddadwy fel rhan o’n hymrwymiad cyffredinol i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i Gymru.

 

Mae’r data cenedlaethol diweddaraf yn dangos bod ffynonellau adnewyddadwy yn 2021 wedi cynhyrchu’r hyn sy’n cyfateb i 55% o’n defnydd o drydan yn erbyn targed o 70% erbyn 2030.

 

Rydym wedi cyflawni bron i 90% o’n targed ar gyfer o leiaf un gigawat o gapasiti ynni adnewyddadwy i fod mewn perchnogaeth leol erbyn 2030. Ond, er bod ein capasiti trydan sy’n seiliedig ar ynni adnewyddadwy yn parhau i gynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn, ni fydd y gyfradd twf bresennol yn ddigonol i ateb y galw.

 

O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar dargedau ynni adnewyddadwy newydd arfaethedig, sy’n cynnwys sicrhau bod 100% holl ddefnydd trydan cenedlaethol yn dod o drydan adnewyddol erbyn 2035.

 

Mae hwn yn darged uchelgeisiol, un sy’n debygol o fod yn ddibynnol i raddau helaeth ar gymorth cynyddol gan Lywodraeth y DU a gostyngiadau mewn costau. Mae cyfoeth o ymchwil a gwybodaeth ategol ar gael i sicrhau bod pobl yn gallu darparu ymateb ar sail gwybodaeth fel rhan o’u hadborth.

 

Dwi’n annog pob aelod i edrych ar y cynigion, ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cenedlaethol pwysig hwn. Mae’r manylion i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Prif Weithredwr

 

Efallai bod yr Aelodau’n ymwybodol ein bod ar hyn o bryd yn cynnal Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn y cyngor. Fe ymunais â’r Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd ac aelodau’r Cabinet yn ddiweddar mewn digwyddiad lle cawsom gyfle i gwrdd â rhai o brentisiaid presennol yr awdurdod a derbyn adborth mwy am eu profiadau.

 

Ar hyn o bryd, mae gan y cyngor 24 o brentisiaid yn gweithio ar draws deg adran wahanol gan gynnwys Cymorth Busnes, TGCh, Gofal Cymdeithasol, Priffyrdd a Mannau Gwyrdd.

 

Ers lansio’r rhaglen brentisiaethau yn 2013, rydym wedi cefnogi 116 o brentisiaid yn llwyddiannus, ac ers hynny mae llawer ohonyn nhw wedi mynd ymlaen i weithio yn y cyngor mewn swyddi llawn amser a pharhaol.

 

Mae hyn yn arbennig o addas eleni gan mai’r thema yw datblygu ‘Sgiliau Bywyd’.

 

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi pobl i ddysgu a datblygu sgiliau i’w paratoi ar gyfer y dyfodol. Cefnogaeth a fydd yn eu helpu i sicrhau cyflogaeth a'u gosod ar lwybr ar gyfer gyrfa werth chweil.

 

 

 

 

Mae manteision y dull o ‘feithrin eich talentau eich hunain’ yn amlwg iawn, yn enwedig pan fyddwch yn ystyried rhai o’r materion o ran y gweithlu a’r her o ran recriwtio y mae’r cyngor yn eu hwynebu.

 

Mae'r deng mlynedd diwethaf wedi dangos heb amheuaeth bod hon yn bartneriaeth hynod effeithiol a buddiol i'r ddwy ochr.

 

Fel sefydliad a chyflogwr, rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i gefnogi pobl ifanc drwy greu cyfleoedd prentisiaeth. Gobeithio y bydd hyn yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod.

 

Efallai yr hoffai aelodau hysbysu eu hetholwyr bod prentisiaethau o fewn y cyngor yn cael eu hysbysebu trwy dudalennau swyddi’r wefan gorfforaethol, a bod rhagor o wybodaeth a chyngor ar brentisiaethau ar gael gan Gyrfa Cymru.