Cofnodion:
Arweiniodd y gweithredu diwydiannol diweddar gan yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) at gau 23 o ysgolion cynradd, wyth ysgol uwchradd a dwy ysgol arbennig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Dim ond yn rhannol yr agorwyd 16 ysgol gynradd arall ac un ysgol arbennig o ganlyniad i'r gweithredu diwydiannol. Roedd naw ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd ar agor fel arfer.
Roedd y streic yn nodi’r cyntaf o bedwar diwrnod arfaethedig o weithredu diwydiannol, gydag amhariad pellach i wasanaethau’n debygol o effeithio ar ysgolion ar ddydd Mawrth 14 Chwefror, a dydd Mercher 15 a dydd Iau 16 Mawrth.
Ar bob diwrnod streic, bydd ysgolion yn penderfynu a allan nhw aros ar agor ai peidio. Mae hynny’n seiliedig ar ffactorau fel lefelau goruchwylio gan y staff, asesiadau risg a diogelwch ymysg rhesymau eraill.
Er y bydd pob ysgol yn ceisio hysbysu rhieni am y posibilrwydd o gau o leiaf dri diwrnod gwaith cyn i unrhyw weithredu diwydiannol ddigwydd, efallai y bydd rhai ysgolion yn penderfynu aros ar agor neu gau ar ddiwrnod y streic arfaethedig.
Os yw ysgol wedi penderfynu cau ymlaen llaw, mae disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael pecyn bwyd y diwrnod cyn y streic arfaethedig.
Os bydd pennaeth yn penderfynu cau ysgol cyn amser cinio ar ddiwrnod y streic, bydd disgyblion cymwys yn derbyn pecyn bwyd i fynd adref gyda nhw.
Oni bai bod ysgol wedi penderfynu cau cyn y diwrnod gweithredu diwydiannol arfaethedig, bydd cludiant ysgol ar gyfer disgyblion cymwys yn parhau i redeg fel arfer.
Fodd bynnag, os bydd ysgol neu gr?p blwyddyn yn cael ei orfodi i gau oherwydd lefelau goruchwylio staff, dylai oedolyn cyfrifol fel rhiant neu ofalwr gasglu plant o ysgolion cynradd neu ysgolion anghenion ychwanegol.
Bydd disgyblion, rhieni a gofalwyr yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf ynghylch gweithredu diwydiannol, ac mae ysgolion yn cydweithio’n agos â nhw i wneud yn si?r bod pawb yn derbyn gwybodaeth.
Tra bod y gweithredu diwydiannol yn weithredol bydd lles ein plant yn brif flaenoriaeth gennym.
Er gwybodaeth, a fyddai modd i’r aelodau i roi gwybod i’w hetholwyr y bydd Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal diwrnod agored ar ddydd Sadwrn, 18 Chwefror.
Ers i’r swyddfa symud i safle newydd yma yn y Swyddfeydd Dinesig ym mis Gorffennaf 2020, mae’r Swyddfa Gofrestru wedi cynnal mwy na 500 o seremonïau yn amrywio o briodasau, partneriaethau sifil ac adnewyddu addunedau i ddigwyddiadau enwi ac ymrwymo.
Mae hefyd wedi cynnal seremonïau dinasyddiaeth gan gynnwys seremonïau ar gyfer Uchel Siryf Morgannwg Ganol, cynrychiolwyr yr Arglwydd Raglaw a Maer Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r swyddfa gofrestru bellach yn cynnig ystafell seremonïau o’r radd flaenaf. Mae Ystafell Pen-y-Bont yn gallu dal hyd at 50 o westeion, yn ogystal â chynnig gardd bwrpasol lle gall pobl dynnu lluniau i gofio yr achlysur hapus.
Yn ystod y diwrnod agored, bydd staff ar gael i dywys pobl o amgylch y cyfleusterau newydd ac ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw am y swyddfa gofrestru a’i gwaith, beth yw’r broses archebu ac yn y blaen.
Cynhelir y digwyddiad rhwng 10am ac 1pm, ac mae'r cyfleusterau'n gwbl hygyrch i bobl ag anableddau.
Gobeithiaf y bydd yr aelodau yn rhoi gwybod i’w hetholwyr am y diwrnod agored gan dwi’n si?r y bydden nhw’n falch o dderbyn gwybodaeth.
Yn olaf, hoffwn wneud yr aelodau’n ymwybodol o’r gwasanaethau a gynigir drwy Repair Cafe Wales.
Mae Repair Cafe Wales yn atgyweirio eitemau cartref rhag iddyn nhw gael eu taflu neu fynd i safle tirlenwi. Mae'r gwasanaeth hwn yn galluogi pobl i drwsio ac atgyweirio eitemau sydd wedi torri neu wedi'u difrodi – a hynny i gyd am ddim.
Mae’r gwasanaeth atgyweirio yn cynnwys eitemau sy’n amrywio o ddillad, nwyddau trydanol cartref a nwyddau technolegol i deganau plant, beiciau, dodrefn a gwaith coed.
Mae'n cynnig hyfforddiant a chyngor i gymunedau lleol a'i nod yw annog pobl i atgyweirio ac ailgylchu.
Gyda rhwydwaith o tua 50 o weithdai wedi’u gwasgaru ledled Cymru, mae’r sefydliad yn hysbysebu cyfres o ddigwyddiadau atgyweirio ‘pop-up’ yn rheolaidd. Mae’n bleser o’r mwyaf gennyf ddweud bod gennym gangen leol wedi’i lleoli yma o fewn y fwrdeistref sirol.
Sefydlwyd Caffi Trwsio Maesteg gan aelodau o brosiect Menshed gyda chefnogaeth gan BAVO a Repair Cafe Wales ym mis Ionawr y llynedd.
Wedi’u lleoli yn yr Hen Lys, nhw oedd y cyntaf o’u math i’w sefydlu yn y fwrdeistref sirol ac maen nhw wedi mynd o nerth i nerth. Cafwyd sylwadau hynod gadarnhaol a theimladwy gan y bobl fu’n defnyddio eu gwasanaethau.
Yr wyf yn si?r y bydd yr aelodau’n cytuno, gyda’r argyfwng costau byw yn parhau, fod gwasanaeth fel hwn yn fwy gwerthfawr nag erioed.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Repair Cafe Wales a hefyd gan BAVO.