Cynghorydd Tim Thomas i'r Aelod Cabinet - Addysg
A yw’r Aelod Cabinet dros Addysg yn fodlon bod digon yn cael ei wneud i sicrhau bod plant, staff ysgol ac aelodau’r cyhoedd yn ddiogel ar adegau pan fydd disgyblion yn cael eu gollwng yn a’u codi o’r ysgol. Os na, beth sydd angen ei wneud?
Cofnodion:
Y Cynghorydd Tim Thomas i'r Aelod Cabinet - Addysg
A yw’r Aelod Cabinet dros Addysg yn fodlon bod digon yn cael ei wneud i sicrhau bod plant, staff ysgol ac aelodau’r cyhoedd yn ddiogel ar adegau pan fydd disgyblion yn cael eu gollwng a’u codi o’r ysgol. Os nad ydynt, beth sydd angen ei wneud?
Ymateb
• Mae Canllawiau Gweithredu a Darpariaeth Statudol Teithio gan Ddysgwyr 2014 yn amlinellu cyfrifoldeb statudol rhieni fel a ganlyn:
o Mater i’r rhieni yw penderfynu ar ba oedran y byddai'n briodol i'w plentyn gerdded heb gwmni i'r ysgol.
o Os na fydd plentyn yn gymwys i dderbyn cludiant am ddim ac yn gorfod cerdded i'r ysgol, y rhieni fydd yn gwneud trefniadau teithio addas i'w plant i deithio rhwng y cartref a'r ysgol.
• Mae gan bob ysgol drefniadau rheoli traffig yn ei le.
• Mae'r awdurdod lleol yn parhau i weithio gyda'i ysgolion i sicrhau bod cynlluniau rheoli traffig unigol yn briodol a bod pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i sicrhau bod plant ac oedolion yn ddiogel wrth gael mynediad i safleoedd unigol.
• Mae'r Gr?p Cynghori ar Gludiant i’r Ysgol (STAG) yn cyfarfod yn rheolaidd i ystyried rheolaeth safleoedd ysgol. Mae STAG hefyd yn ystyried yr ardaloedd y tu allan ac yn yr ardaloedd hynny sy’n agos i’r ysgolion.
• Mae'r awdurdod lleol wedi penodi Cynghorydd Cludiant Ysgolion yn ddiweddar i sicrhau diogelwch mewn safleoedd ysgol ac i gefnogi prosiectau moderneiddio ysgolion yn y dyfodol.
• Mae’r defnydd o gar camera’r awdurdod lleol ‘Roly Patroly’ yn cael ei flaenoriaethu i ymweld â’r ardaloedd o amgylch ysgolion gan ddilyn rhaglen benodol i fynd i’r afael â pharcio peryglus ac anghyfreithlon y tu allan i ysgolion.
• Bydd gorfodi'r cyfyngiadau presennol y tu allan i'r ysgolion yn amodol ar adnoddau, a gall Roly Patroly, pan fo adnoddau'n caniatáu, orfodi cyfyngiadau parcio lle mae gorchmynion traffig mewn lle (lleoliadau fel arosfan bysiau, ardaloedd gyda marciau igam-ogam, ardaloedd ‘Ysgol - cadwch yn glir’ ('School Keep Clear') a llinellau melyn).
• Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod yr awdurdod lleol yn gyfyngedig o ran sut y gall orfodi gofynion priffyrdd statudol gan mai Heddlu De Cymru sy'n bennaf gyfrifol am hyn. Dim ond y cyfyngiadau parcio cyfyngedig fel y rhai a nodir yn y pwynt bwled uchod y gall swyddogion awdurdodau lleol eu gorfodi.
• Mae llawer o ysgolion yn gweithio’n agos gyda’u cymunedau ysgol i ddatblygu atebion arloesol i sicrhau diogelwch disgyblion ar y daith i’r ysgol, er enghraifft, y ‘bws cerdded’ (walking bus) a ddatblygwyd gan Ysgol Gynradd Pencoed.
• Ar hyn o bryd mae 14 o hebryngwyr croesi gweithredol yng nghyffiniau ein hysgolion ar adegau prysur.
• Mae'r Tîm Diogelwch Ffyrdd hefyd yn cynnig hyfforddiant Kerbcraft a hyfforddiant beicio i ysgolion.
• Mae'r awdurdod lleol yn parhau i fuddsoddi mewn trefniadau diogelwch ar gyfer cerddwyr (fel croesfannau penodol i gerddwyr).
• Mae'r awdurdod lleol wedi buddsoddi'n sylweddol mewn trefniadau teithio llesol ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. Dros y blynyddoedd, mae’r awdurdod lleol wedi bod yn creu llwybrau sy’n galluogi ac yn annog plant ysgol i gerdded neu feicio i’r ysgol. Ariennir hyn o dan raglenni ‘Llwybrau Diogel i’r Ysgol’ a ‘Llwybrau Diogel mewn Cymunedau’ gan Lywodraeth Cymru.
• Mae cynlluniau ‘Llwybrau Diogel i’r Ysgol’ yn wahanol i lwybrau teithio llesol. Mae’r ddau gategori o gynllun yn gwasanaethu gwahanol ddibenion taith, er mewn rhai ardaloedd, mae llwybrau teithio llesol yn gwasanaethu teithiau i’r ysgol hefyd.
• Wrth baratoi cynlluniau ar gyfer llwybrau diogel, rhoddir sylw arbennig i sicrhau eu bod yn ategu at lwybrau teithio llesol. Mae llwybrau teithio llesol yn gwasanaethu pob taith ac nid yw’n angenrheidiol iddyn nhw fod yn agos at ysgolion o reidrwydd. Lle bo pellter yn caniatáu, gellir darparu i greu cysylltiadau.
• Er mwyn hyrwyddo cerdded a beicio ymhlith ysgolion, mae'r awdurdod lleol yn cysylltu ag ysgolion i baratoi cynlluniau teithio i'r ysgol lle mae llwybrau ar gael. Prif ddiben y broses hon yw creu ymwybyddiaeth a diddordeb mewn cerdded a beicio.
• Mae rhai cynlluniau teithio ysgol, fodd bynnag, yn cael eu paratoi fel rhan o'r broses gynllunio ar gyfer ysgolion newydd neu ar gyfer ysgolion sy’n ehangu o ran niferoedd y disgyblion.
• Mae gan yr ysgolion canlynol gynlluniau teithio i'r ysgol:
o Ysgol Gynradd Maes yr Haul
o Ysgol Iau Llangewydd
o Ysgol Gynradd Cwm Ogwr
o Ysgol Gynradd Trelales
o Ysgol Gynradd Cwmfelin
o Ysgol Gynradd Llangrallo
o Ysgol Gynradd Brynmenyn
o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen-y-fai
o Ysgol Gynradd Gatholig Sant Robert
o Ysgol Gynradd Cefn Cribwr
o Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath
o Ysgol Maesteg
o Ysgol Brynteg
• Mae yna ysgolion sydd heb gynlluniau teithio ysgol ond sydd wedi elwa o lwybrau diogel i'r ysgol yn seiliedig ar Gynllun Mynediad Cymunedol. Mae Ysgol Gynradd Coety ac Ysgol Gynradd Litchard yn enghreifftiau o ysgolion o'r fath.
• Mae'r awdurdod lleol yn gweithio mewn partneriaeth â Sustrans i addysgu ac i gysylltu â phlant ysgol o ran teithiau llesol. Cysylltodd Sustrans ag ysgolion yn ddiweddar i gymryd rhan yn y rhaglen Teithiau Llesol. Mae Sustrans yn awyddus i weithio gyda chlystyrau o ysgolion, yn enwedig lle mae seilwaith teithio llesol mewn lle, neu lle bwriedir paratoi seilwaith o’r fath.
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Thomas
Os na all yr Aelod Cabinet roi canlyniad cadarnhaol neu ddiweddariad pendant ar hyn, a allai ymrwymo i ddod â’r holl randdeiliaid perthnasol at ei gilydd er mwyn datrys pryder o’r fath ac i chwilio am ateb cyfannol, o ystyried ei bod yn ymddangos bod problemau aml-amrywedd fel yr un a roddwyd mewn nifer o ysgolion ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â rhanddeiliaid gan gynnwys y Gr?p Seren a’r Heddlu ynghylch ar math hyn o faterion, ond rwy’n hapus i estyn unrhyw wahoddiad, boed hwnnw i Aelodau neu unigolion neu grwpiau allweddol eraill, i gymryd rhan yn hyn, gyda’r bwriad o ddod o hyd i ateb ymarferol i'r problemau hyn.
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, fod gan bob ysgol yn y Fwrdeistref Sirol bellach Gynlluniau Rheoli yn eu lle. Byddai hyn yn cynorthwyo'r uchod ynghyd â materion eraill yn ogystal a staff ysgolion yn gweithio er mwyn sicrhau bod y rhain mor effeithiol â phosibl.
Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Melanie Evans
A allech egluro’r hyn y mae ysgolion yn gwneud yn si?r bod plant yn cyrraedd ac yn gadael yr ysgol yn ddiogel, er enghraifft, drwy ddefnyddio bws cerdded fel sy’n cael ei ddefnyddio yn Ysgol Gynradd Pencoed?
Ymateb
Mae'r bws cerdded i Ysgol Gynradd Pencoed wedi bod yn effeithiol iawn ac fe'i croesawyd gan y gymuned. Rydym yn gweithio’n agos gyda phob ysgol, ynghyd â chydweithwyr yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau, er mwyn gwneud mannau codi/gollwng plant ar gyfer teithio i’r ysgol i fod mor ddiogel ag y gallan nhw fod. Rydym hefyd yn cysylltu a rhieni/gofalwyr a rhanddeiliaid eraill. Rydym hefyd yn gweithio gyda Rheolwyr Safle Ysgolion a Gofalwyr, fel y gallan nhw hefyd fonitro safleoedd o amgylch ysgolion yn effeithiol a sicrhau eu bod mor glir a bo modd ar gyfer darparu mynediad cyflym a pharod i rieni a dysgwyr ar adegau allweddol o’r dydd. Mae traffig ar safle’r ysgol hefyd yn cael ei fonitro ar adegau prysur fel yn ystod y Clwb Brecwast a Chlwb Ar Ôl Ysgol lle bydd staff sy’n gwisgo dillad llachar sy’n hawdd i’w gweld.