Agenda item

Metrolink Porthcawl

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad. Pwrpas yr adroddiad oedd ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i gyfuno’r balans ar gyllidebau cyfalaf ar gyfer Cynllun Metro Plus Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn y rhaglen gyfalaf yn erbyn cynllun Metrolink Porthcawl a chyllid trosglwyddadwy o Gynllun Adfywio Porthcawl i gwrdd â’r costau ychwanegol sy’n deillio o’r broses dendro ar gyfer y Cynllun Metrolink. Roedd hyn yn amodol ar argymhelliad y Cabinet ar y mater hwn dyddiedig 7 Chwefror 2023.

 

Eglurodd mai nod prosiect Metrolink Porthcawl ydy darparu cyfleusterau modern ar gyfer gwasanaethau yng nghanol ardal Adfywio Porthcawl Byddai’r prosiect yn cynnig adeilad cwbl gaeedig gyda sawl rhes o fysiau ynghyd a lle ar gyfer sawl lle consesiynol.

 

Mae Dinas-ranbarth Caerdydd (CCR) drwy ei raglen Metro, ynghyd â Llywodraeth Cymru (LlC), yn darparu’r prif drefniadau o ran y trefniadau ariannol ar gyfer prosiectau trafnidiaeth strategol mawr o fewn y rhanbarth. Bydd hyn yn cynnwys cyfleuster bws Metrolink Porthcawl sydd, yn ogystal â bod yn gyfleuster trafnidiaeth strategol rhanbarthol pwysig ar rwydwaith Metro De Cymru, mae hefyd yn ran allweddol o’r seilwaith o fewn safle Adfywio Porthcawl. Heb ddarpariaeth Metrolink fydd y rhaglen adfywio ddim yn gallu symud yn ei blaen yn unol â'r strategaeth gymeradwy trwy hwyluso dulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy.

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y Cyngor fod dau gynllun Metro wedi'u cynnwys o fewn Rhaglen Capita ar hyn o bryd, fel y manylwyd ym mharagraff 3.4 yr adroddiad.

 

Roedd cytundeb anffurfiol fel yr helaethwyd arno yn yr adroddiad, yn ei gwneud yn ofynnol i’r contract ar gyfer y Metrolink gael ei osod cyn diwedd mis Mawrth 2023 a bod cynnydd amlwg yn cael ei wneud, er mwyn cadw’r cyllid i’w wario yn ystod 2023-24 hyd nes bod y prosiect wedi’i gwblhau. Byddai’r contract ddim yn cael ei ddyfarnu os na fyddai hynny’n cymryd lle erbyn diwedd mis Mawrth 2023. Mae risg sylweddol felly y bydd y cyfan o’r cyllid rhanbarthol o £2,707,000 sydd heb ei wario yn cael ei golli.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, y byddai'n rhaid i'r arian Metro sy'n weddill a ddyrannir i brosiect Penprysg hefyd gael ei wario erbyn 31 Mawrth 2023. Os na fyddai hynny’n digwydd yna byddai  rhaid dychwelyd y cyllid hwnnw i CCR hefyd. Roedd y prosiect hwn yn destun cais aflwyddiannus i’r Gronfa Ffyniant Bro (LUF) yn 2022. Mae cynnydd pellach ar y cynllun hwn wedi’i gyfyngu hyd nes y byddwn wedi chwilio os oes cyfleoedd ar gyfer ariannu pellach. Fodd bynnag, bwriedir cyflwyno’r cynllun ar gyfer cyllid rhaglen Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn y dyfodol yn 2023-24.

 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr fod y broses dendro a gynhaliwyd fod yr un a dderbyniodd y sgôr uchaf wedi cyflwyno pris ar gyfer y tendr sy'n sylweddol uwch na'r costau gwreiddiol a amcangyfrifwyd. Roedd y ffactorau sy'n ymwneud â'r bid uwch na'r disgwyl yn cynnwys cynnydd sylweddol yng nghost deunyddiau a llafur ers cyfrifo'r gost a amcangyfrifwyd yn wreiddiol.

 

Y cyngor a dderbyniwyd gan yr adran caffael yn nodi nad oedd yn bosibl ailedrych ar y gwerthusiad tendr na dyfarnu’r contract i gynigydd cost is ar y sail nad oes cyllid ychwanegol ar gael gan y byddai gwneud hynny’n torri’r gofyniad tryloywder a thriniaeth gyfartal. Byddai’n anghyfreithlon i ddyfarnu’r contract i unrhyw un heblaw y cynigydd a aseswyd i gynnig y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd fel y’i gwerthuswyd yn erbyn meini prawf dyfarnu cyhoeddedig y tendr hwn. Yr unig ddewis arall fyddai rhoi’r gorau i’r tendr hwn ac ail-dendro gyda meini prawf dyfarnu amgen a / neu fanyleb ddiwygiedig pe na bai cyllid ychwanegol ar gael, ac os felly, bydd y tendr presennol yn cael ei gau, gan ei wneud yn annilys, a dechrau’r broses eto gyda thendr newydd lawn. Am resymau a rannwyd yn yr adroddiad ac a eglurwyd i'r Aelodau yn y cyfarfod, ni ystyriwyd bod hwn yn opsiwn ymarferol i'r Cyngor i’w ddilyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, fod costau ychwanegol eraill yn gysylltiedig â'r cynllun yn ychwanegol at y rhai a oedd yn gysylltiedig â'r tendr yn unig. Roedd hyn yn cynnwys cronfa wrth gefn o £500,000 a chostau rheoli prosiect o £75,350. Mae'r costau hyn yn arferol ar gyfer prosiect o'r natur hwn a bydd yn rhaid eu talu hefyd o'r gyllideb Gyfalaf. Cyfanswm cost y cynllun yw £3,836,834. Rhoddwyd cyfrif am y rhan fwyaf o'r gost hon yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

I grynhoi, felly, roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i drosglwyddo'r holl arian sy'n weddill ar gyfer y rhaglen Metro (£961,613 o Benprysg) i brosiect byw Metrolink Porthcawl, er mwyn gwneud y mwyaf o'r gwariant CCR sydd ar gael, ac i drosglwyddo £571,221 o gyfalaf Adfywio Porthcawl a hefyd i brosiect Metrolink Porthcawl, ar gyfer ariannu'r prosiect seilwaith hanfodol hwn.

 

Cymeradwyodd yr Aelodau Cabinet dros Gymunedau a Chenedlaethau’r Dyfodol yr adroddiad a’r argymhellion ynddo.

 

Nododd un Aelod ei bod yn ymddangos nad oedd gan y Cyngor unrhyw ddewis heblaw cefnogi'r cynigion y manylwyd arnyn nhw yn yr adroddiad, gan mai'r dewis arall oedd colli swm sylweddol o arian sydd gennym ar hyn o bryd, i gefnogi adfywio Porthcawl. Gofynnodd o ran amseriad, os nad yw'r Cyngor wedi dysgu y dylid caniatáu digon o amser ar gyfer adolygu'r cynnydd posibl mewn prosesu tendrau a chaniatáu i benderfyniad gael ei wneud, i chwilio am dendrwyr eraill cyn i unrhyw amserlen bennu penderfyniad ar y cynllun, drwy’r broses gaffael. Ychwanegodd, pa wersi y gellir eu dysgu bod y Cyngor yn cael gwerth am arian ar gyfer y cynllun hwn a chynlluniau eraill yn y dyfodol.

 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau sicrwydd i'r Cyngor fod y bid dan sylw yn fid o ansawdd uchel yr oedd y Cabinet a'r Rheolwyr yn ei ystyried yn werth am arian ac na fyddai wedi cael ei roi gerbron yr Aelodau heddiw, oni bai bod hynny'n wir. Fodd bynnag, dywedodd fod pob cynllun sy'n cael ei roi allan i dendr yn wynebu risg na welwyd ei debyg o'r blaen o ran cynnydd mewn prisiau/chwyddiant mewn costau. Fe nododd y Cyfarwyddwr fod pob awdurdod lleol yn wynebu hyn ac nid yn unig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hyn oherwydd nifer o resymau, gan gynnwys yr argyfwng costau byw, cynnydd mewn costau deunyddiau a chynnydd mewn biliau ynni, ymhlith rhesymau eraill.

 

Sicrhaodd yr Aelodau hefyd fod y broses dendro wedi bod yn gadarn gyda'r tendrwr llwyddiannus yn gontractwr o safon uchel ac uchel ei barch.

 

Roedd yn rhaid felly ymrwymo cyllid a ddyrannwyd i Metrolink Porthcawl i’r prosiect hwn erbyn diwedd mis Mawrth 2023, neu byddai hwn yn cael ei golli.

 

Felly, i grynhoi, roedd hwn yn fid a oedd yn cydymffurfio'n llawn a ystyriwyd fel gwerth am arian, ac felly nid oedd gofyniad i ail-dendro am y gwaith. Pe bai'r Cyngor wedi ail-dendro'r gwaith, roedd posibilrwydd sylweddol y byddai swm y tendr wedi cynyddu ymhellach. O ran y gwersi a ddysgwyd, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y gallai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a chyllidwyr grant edrych ar unrhyw ddull o wella’r drefn o ran dyrannu cyllid ynghyd a'r gofynion ynghylch terfynau amser ar gyfer gwario’r arian yn y dyfodol.

 

Teimlai un Aelod y byddai'r prosiect y manylwyd arno yn yr adroddiad nid yn unig o fudd i Porthcawl, ond hefyd yn welliant rhanbarthol o ran cyfleusterau gwe. Gwelliannau y byddai eraill sy'n ymweld â'r ardal yn eu mwynhau hefyd. Nododd fod y prosiect yn bodloni'r meini prawf Di-Garbon Net a bod angen dilyn y cynllun yn ei rinwedd ei hun ac er mwyn peidio â cholli'n agos at £3 miliwn. Gofynnodd a oedd unrhyw gyfleoedd masnachol yn gysylltiedig â’r cyfleuster newydd, er enghraifft, hawliau enwi a nawdd a/neu hysbysfyrddau ac ati.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y gellid ystyried materion fel y rhain fel rhan o'r gwaith.

 

Gofynnodd un Aelod am sicrwydd y byddai'r oedi i waith arfaethedig ar Groesfan Lefel Penprysg, Pencoed, oherwydd diffyg yn Y Gronfa Ffyniant Bro, yn cael ei ddilyn cyn gynted â phosibl.

 

Sicrhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod y prosiect hwn yn un o flaenoriaethau'r Cyngor ac felly y byddai gwaith yn cael ei wneud mewn perthynas â'r cynllun (fel y crybwyllwyd yn yr adroddiad), pan fyddai hynny'n bosibl.

 

 

 

Mae manylion pellach am y drafodaeth a gafwyd o ran cwestiynau Aelodau eraill ynghyd ag ymatebion y Cabinet a'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol i'w gweld yma

 

Yn dilyn y cynnig a’i eilio, cytunodd yr Aelodau i gynnal pleidlais ar argymhelliad yr adroddiad, a’r canlyniad oedd:-

 

O blaid (yr argymhelliad)        Yn erbyn                Ymatal

 

                   38                              0                           6

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor wedi cytuno i drosglwyddo cyllid o fewn y Rhaglen Gyfalaf, fel yr amlinellwyd ym mharagraff 8.4 o'r adroddiad, i alluogi'r cynllun Metrolink i symud ymlaen.

Dogfennau ategol: