Agenda item

Adfywio Porthcawl

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet Cymunedau

Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet Adfywio

 

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr CorfforaetholCymunedau

Jacob Lawrence – Prif Swyddog Adfywio

 

Ceri Evans – Cyfarwyddwr Datblygu Busnes, Awen

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau yr adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi trosolwg ar Raglen Adfywio Porthcawl.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:

 

·         Cafwydcadarnhad gan Aelodau lleol Porthcawl eu bod wedi cael gwybod yn rheolaidd a’u bod yn ymwybodol o bob cam o ddatblygiad adfywio Porthcawl.

·         Nodwydmanylion a lleoliad ardal Bae Sandy i ddefnydd addysgol ar y cynllun, boed hynny ar gyfer ysgol newydd neu estyniad i'r ysgol bresennol.

·         Mewnachosion eithafol yn unig, pan na ellid dod o hyd i berchennog y tir neu lle roedd rhyw anghysondeb, y cyhoeddid gorchmynion prynu gorfodol (GPG). Roedd perchnogion Parc yr Anghenfilod wedi gofyn am iddo fynd i GPG a chael prisiad annibynnol o'r tir. Byddai gwerth y tir hwnnw’n cael ei dalu i’r perchnogion hynny ac roedd wedi ei gynnwys yng nghyllideb y rhaglen adfywio.

·         Y weledigaeth ar gyfer Porthcawl fel tref wyliau a thref arfordirol; gyda chyfle ar gyfer cyflogaeth a thai fforddiadwy.

·         Roedd y cysyniad oedd wedi cael ei ymgorffori yn y safleoedd strategol ac yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd ynghylch mynediad at hanfodion o fewn taith gerdded gyflym neu feicio 20 munud o'r cartref i gael ei ystyried a'i ymgorffori mewn datblygiadau.

·         Pa fath o gyfleuster hamdden fyddai'n cael ei roi yn ei le; mae dewisiadau'n cael eu hystyried gan gynnwys o bosibl ffair haf dymhorol a byd o ryfeddodau’r gaeaf ac o fewn cytundeb y tirfeddiannwr byddai Bae Sandy a Thraeth Coney ar gyfer datblygiad defnydd cymysg. Yr angen am Dai Lleol ym Mhorthcawl, y strategaeth dai gynhwysfawr a baratowyd o ganlyniad i’r CDLl, yr angen a nodwyd am 1100 o gartrefi newydd ym Mhorthcawl o fewn y 15 mlynedd nesaf i ddarparu ar gyfer twf yn yr ardal, gan gynnwys cymysgedd o gartrefi: cartrefi ar rent, cartrefi fforddiadwy, tai cymdeithasol a gofal ychwanegol.

·         ArolygonParcio i bennu'r angen am le i barcio ym Mhorthcawl a'r astudiaeth ddichonoldeb sy'n cael ei chynnal i gael lleoedd parcio newydd o ganlyniad i Ddatblygiad Salt Lake a'r dewisiadau parcio ceir.

 

·         FfocwsBuddsoddi Cyrchfan Porthcawl a Cosy Corner oedd y cynllun olaf i gael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac arian Croeso Cymru.

·         Y broses a'r meini prawf cymhwyso ar gyfer cais llwyddiannus y siop fanwerthu bwyd, gyda chynllun datblygu manwl yn cael ei lunio a'i gytuno gan y Pwyllgor Rheoli Datblygu ar gyfer gwerthu'r safle. Cynigwyd y cyfle i fanwerthwyr posibl gwrdd â Swyddogion Cynllunio a thrafod eu syniadau ar gyfer dyluniad y safle cyn i dendr y safle ddechrau. O'r pum tendr a dderbyniwyd, nid oedd tri yn cyd-fynd â'r briff dylunio a chawsant eu diystyru, ac un o’r rhain oedd y cynigydd uchaf. Yr ail rownd oedd yr ystyriaeth orau, a derbyniwyd y cais gan Aldi oherwydd iddo basio'r bar dylunio a'r ystyriaeth orau.

·         Sut y byddai Terminws Metrolink yn rhedeg yn effeithiol a sut y byddai'n cael ei gynnal, amseroedd gweithredu bysiau, cost refeniw rhedeg y cyfleuster, a ellid cynhyrchu unrhyw incwm refeniw, yn ogystal â’r refeniw sy'n dod i mewn o unedau manwerthu Cosy Corner.

·         Byddai'rcynnig i ddarparu cyswllt uniongyrchol rhwng Gorsaf y Pîl a Phorthcawl fel yr orsaf agosaf a'r cynnig i adleoli gorsaf y Pîl yn darparu cyfleusterau parcio a theithio ychwanegol.

·         Aoedd dymuniadau pellach ar gyfer Terminws Bysiau Metrolink ac a fyddai’r awdurdod yn cyfrannu lle bo modd at astudiaethau gan Sefydliad Cenedlaethol Trafnidiaeth Cymru ynghylch: Rheilffordd ysgafn; Cynigion posibl i symud yr orsaf reilffordd yn y Pîl i'w lleoliad blaenorol, ac; yn amodol ar adleoli Gorsaf y Pîl, y posibilrwydd o osod cyswllt o'r safle hwnnw'n uniongyrchol i Borthcawl gyda’r dewis o dram rheilffordd.

·         Gwasanaethau a llwybrau Gweithredwyr Bysiau a thrafodaethau gyda'r Awdurdod.

·         Er y bu llai o fysiau/coetsys yn teithio i Borthcawl ar gyfer teithiau dydd ac, a ellid edrych i mewn i'r angen posibl am leoedd parcio i fysiau yn y dyfodol.

·         Aellid dysgu gwersi o ailddatblygu Neuadd Tref Maesteg ar gyfer prosiect Pafiliwn Porthcawl o ystyried peth tebygrwydd a statws rhestredig yr adeiladau. Lle’r Pafiliwn yn y dref fel lleoliad ar gyfer: cynadledda, sioeau, ac adloniant, a gobeithion am lyfrgell newydd.

·         RheolauCaffael Corfforaethol ar gyfer y broses dendro, gwaith yn cael ei dendro oddi ar fframweithiau gyda chyfraddau y cytunwyd arnynt yn cael eu gweinyddu ar gyfer y rhanbarth drwy Gyngor Dinas Caerdydd, a diwydrwydd ariannol dyladwy, profiad blaenorol a gwybodaeth gan y contractwyr yn cael ei harchwilio i sicrhau bod ganddynt hylifedd.

·         Eglurder y câi’r arian a gynhyrchir o werthu’r tir ei roi yn y rhaglen gyfalaf i’w ddefnyddio ar gyfer Rhaglen Adfywio Porthcawl, ac fel rhaglen adfywio gwerth miliynau o bunnoedd cymerai 5-8 mlynedd i’w chyflawni, ac felly byddai’r swm yn y Rhaglen Gyfalaf yn amrywio. 

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r gwahoddedigion,  diolchodd i'r gwahoddedigion am ddod a dywedodd eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gyda’r

                                Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor

                                yr argymhellion canlynol:

 

1.    Bod y Pwyllgor yn derbyn y cynnig gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau i fynd ar ymweliad â’r safle/cerdded o amgylch ardal Adfywio Porthcawl.

2.    Wrthgeisio cael gwared ar safleoedd, bod yr awdurdod yn defnyddio’r un ymarferiad caffael ag a ddefnyddiwyd i werthu safle Salt Lake a ddisgrifiwyd i’r Pwyllgor fel dull dau gam:

1)    Dylunio; ac

2)    Ystyriaethorau.

 

3.    O ystyried y cynnydd a ragwelir mewn twristiaeth i Borthcawl oherwydd yr adfywio a ac mai cynlluniau i ddisodli'r lleoedd parcio presennol yn unig oedd yna ac nid i sicrhau bod lleoedd parcio ychwanegol ar gael, y dylid ystyried y posibilrwydd o gynnydd yn nifer y teithiau diwrnod ar fws i Borthcawl a’r angen posibl am ychwanegu mannau parcio bysus yn y dref neu'r ardaloedd cyfagos a bod hyn yn cael ei gynnwys yn y strategaeth.

4.    Mynegwydpryderon ynghylch y gwasanaethau trên cyfyngedig ac anfynych iawn yng ngorsaf drenau’r Pîl a thynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith fod gan orsaf drenau Pen-y-bont ar Ogwr nid yn unig wasanaethau amlach ond hefyd mai dyma’r fan i newid ar gyfer llawer o wasanaethau rheilffordd y cymoedd. Nododd y Pwyllgor hefyd nad oedd y cyfleuster parcio a theithio arfaethedig yng ngorsaf drenau’r Pîl yn mynd rhagddo bellach ac na fyddai’r orsaf yn cael ei huwchraddio yn y dyfodol agos ac felly, argymhellodd y byddai’n fwy buddiol i’r Metrolink gysylltu â gorsaf drenau Pen-y-bont ar Ogwr yn hytrach na’r Pîl hyd nes y caiff Gorsaf y Pîl ei huwchraddio.                          

 

A gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:

 

5.    Sleidiau’rcyflwyniad PowerPoint a gyflwynwyd yn y cyfarfod.

6.    Gofyni berchnogion ffair Traeth Coney Beach a fyddent yn fodlon darparu ffigurau gwariant defnyddwyr, nifer yr ymwelwyr a nifer y bobl yn ymweld â'r ffair yn dymhorol ar gyfartaledd.

 

7.    Faint o refeniw fyddai’n cael ei wario yn y dref o ganlyniad i’r ffair a faint fyddai’n cael ei golli, a’r effaith economaidd a gâi colli’r ffair ar y dref.

 

8.    Oherwyddpryderon ynghylch diffyg amddiffynfeydd morol yn Newton, ymateb ysgrifenedig mewn perthynas â Chynllun Rheoli Traethlin Newton yn cynnwys gwybodaeth a oedd Swyddogion yn chwilio am arian grant a beth yw'r blaengynllun.

 

9.    Ymatebysgrifenedig ynghylch y cynlluniau oedd yn rhan o Ffocws Buddsoddi mewn Adfywio Porthcawl yn wreiddiol, beth yw eu statws presennol ac, os oes elfennau sydd heb gael eu hadeiladu eto, beth yw’r cynlluniau ar gyfer y rhain.

10. Ymatebysgrifenedig i grynhoi ffynhonnell pob un o’r ffrydiau cyllido unigol sy’n ariannu’r gwahanol agweddau ar Adfywio Porthcawl i gynnwys manylion pa gyllid a ddaw o’r sector preifat a pha gyllid a ddaw o fannau eraill (gan gynnwys unrhyw grantiau).

11.   Briffcyfrinachol er mwyn deall hanes Cosy Corner yn well a pham y cafodd Swyddogion eu hatal rhag ymateb i rai cwestiynau yn y cyfarfod.

Dogfennau ategol: